Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1. Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ("Deddf 2016") yn darparu'r fframwaith statudol ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol a rheoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae Atodlen 1 o Ddeddf 2016 yn diffinio'r gwasanaethau sy'n dod o fewn cwmpas rheoleiddio.

Mae'r asesiad effaith hwn yn ymwneud â'r cynnig i gyflwyno Rheoliadau i ddod ag ysgolion arbennig preswyl o fewn cwmpas rheoleiddio Deddf 2016. Bydd y Rheoliadau drafft yn nodi bod gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig yn wasanaeth rheoleiddiedig ac yn gosod gofynion ar ddarparwyr ac unigolion cyfrifol gwasanaethau o'r fath.

Ym mis Mawrth 2022, cyhoeddodd yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol adroddiad yr ymchwiliad The residential schools investigation Phase 1: Music schools, residential special schools 2: Safeguarding and boarding schools. Ystyriodd yr Ymchwiliad gwestiynau ynghylch cam-drin plant yn rhywiol mewn ysgolion arbennig preswyl yng Nghymru a Lloegr. Cyflwynwyd tystiolaeth i'r Ymchwiliad gan Brif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru, ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Ymhlith argymhellion yr Ymchwiliad y mae gofyniad bod pob ysgol arbennig breswyl yn cael ei harchwilio yn erbyn y safonau ansawdd a ddefnyddir i reoleiddio cartrefi gofal yng Nghymru.

Mae Atodlen 1 o Ddeddf 2016 yn diffinio 'gwasanaeth cartref gofal' fel '[y] ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio neu ofal mewn man yng Nghymru, i bersonau oherwydd eu hyglwyfedd neu eu hangen’. Mae Deddf 2016 yn nodi nad yw'r diffiniad hwn yn berthnasol i ysgolion oni bai eu bod yn darparu llety ynghyd â nyrsio neu ofal am fwy na 295 diwrnod y flwyddyn. Mae ysgolion sy'n dod o fewn y diffiniad hwn yn cael eu rheoleiddio a'u harolygu gan AGC fel gwasanaeth cartref gofal i blant, a rhaid iddynt fodloni gofynion Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 (fel y'u diwygiwyd) a chanllawiau statudol cysylltiedig. Mae'r trothwy 295 diwrnod yn deillio o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ac nid yw Deddf 2016 na'r Ddeddf Safonau Gofal yn darparu rhesymeg ar gyfer y trothwy 295 diwrnod. Yr effaith yw gwahaniaethu rhwng ysgolion sy'n lletya disgyblion yn ystod y tymor yn unig ac ysgolion sy'n lletya disgyblion yn ystod y gwyliau hefyd.

Mae ysgolion arbennig preswyl yn darparu addysg a llety i blant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), megis Anhwylderau Ymddygiad Emosiynol (EBD), Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD), neu anableddau dysgu a chorfforol. Yn gyffredinol, mae ysgolion arbennig preswyl yn darparu cwricwlwm 24 awr i gefnogi a hyrwyddo byw'n annibynnol trwy ddatblygu sgiliau cymdeithasol, annibyniaeth, hunangymorth a sgiliau bywyd priodol. Mae plant yn aros yn yr ysgol rhwng un a phedair noson ysgol yr wythnos, yn ystod y tymor yn unig. Nid yw'r term 'ysgol arbennig breswyl' wedi'i ddiffinio'n benodol mewn deddfwriaeth bresennol, ond fe'i defnyddir gan AGC i wahaniaethu rhwng yr ysgolion hyn ac ysgolion arbennig nad ydynt yn darparu llety.

Mae AGC yn dibynnu ar bwerau yn Neddf Plant 1989 wrth oruchwylio ysgolion arbennig preswyl sy'n dod o dan y trothwy 295 diwrnod neu lai, ac sydd felly y tu hwnt i gwmpas rheoleiddio fel gwasanaeth cartref gofal o dan Ddeddf 2016. O dan Ddeddf 1989, gall AGC gynnal gweithgarwch arolygu ond nid oes ganddi bwerau gorfodi uniongyrchol ac ni all ei gwneud yn ofynnol i'r ysgolion gofrestru. Mae AGC yn arolygu'r ysgolion hyn yn erbyn Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Arbennig Preswyl a gyhoeddwyd yn 2002 o dan adran 23(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000. Nid oes modd gorfodi Safonau Gofynnol Cenedlaethol, ac maen nhw'n canolbwyntio ar sicrhau safon ofynnol nad yw'n gyson â'r cyfeiriad polisi ehangach ar reoleiddio ac arolygu a sefydlwyd o dan Ddeddf 2016.

Mae holl ysgolion Cymru, gan gynnwys ysgolion arbennig preswyl, yn cael eu harolygu gan Estyn hefyd o dan Ddeddf Addysg 2005 a rheoliadau cysylltiedig. Mae arolygiadau Estyn yn ystyried llesiant disgyblion (gan gynnwys trefniadau diogelu) ac amwynderau'r ysgol o safbwynt y ddarpariaeth addysgol, ond nid ydynt yn cynnwys agweddau gofal a chymorth preswyl yr ysgol.

Bydd y dull gweithredu arfaethedig yn dod ag elfen breswyl ysgolion arbennig preswyl i gwmpas rheoleiddio o dan Ddeddf 2016. Bydd hyn yn golygu y bydd yn ofynnol i wasanaethau presennol a gwasanaethau newydd gofrestru gydag AGC. Bydd yn ofynnol iddynt fodloni'r gofynion a amlinellir mewn rheoliadau mewn perthynas ag ansawdd a diogelwch y gofal a'r cymorth a ddarperir. Mae'r gofynion hyn yn cynnwys addasrwydd y gwasanaeth, yr amgylchedd, staffio, hyfforddiant staff a diogelu. Bydd y gwasanaethau yn cael eu harolygu gan AGC. Mae gan y rheoleiddiwr bwerau gorfodi o dan y fframwaith rheoleiddio.

Mae'r dull gweithredu arfaethedig yn cydnabod y gwahaniaethau rhwng ysgolion arbennig preswyl lle mae plant yn aros yn yr ysgol dros nos am rhwng un a phedair noson yr wythnos ond eu bod yn byw gyda'u rhieni, a gwasanaethau cartrefi gofal lle mae oedolion neu blant yn preswylio'n llawn amser. Y bwriad, felly, yw rheoleiddio ysgolion arbennig preswyl fel gwasanaeth rheoleiddiedig newydd ar wahân - gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig. Cyn belled ag y bo'n briodol, mae'r Rheoliadau yn gydnaws â'r gofynion rheoleiddio sydd wedi'u gosod ar wasanaethau cartrefi gofal o dan Ddeddf 2016. Fodd bynnag, nid yw pob un o’r gofynion a osodir ar ddarparwyr gwasanaethau cartrefi gofal yn berthnasol i wasanaethau preswyl ysgolion arbennig oherwydd natur a phwrpas y gwasanaeth. Gan nad yw'r term "ysgol arbennig breswyl" wedi cael ei ddiffinio yn gyfreithiol, rydym wedi ceisio diffinio'r gwasanaeth rheoleiddiedig newydd er mwyn darparu mwy o eglurder a sicrwydd.

Sefydlwyd grŵp rhanddeiliaid ym mis Medi 2022, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o'r pedair ysgol arbennig breswyl bresennol yng Nghymru a fydd yn cael eu rheoleiddio fel gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig, ac adrannau awdurdodau lleol perthnasol gan gynnwys addysg a gwasanaethau plant. Cyfarfu'r grŵp bedair gwaith i drafod y dull rheoleiddio arfaethedig ar sail y gyfres o reoliadau a'r canllawiau statudol sy'n ffurfio'r fframwaith rheoleiddio o dan Ddeddf 2016, ac unwaith yn ystod y cyfnod ymgynghori. Cyflwynodd y rhanddeiliaid wybodaeth bwysig am sut mae ysgolion arbennig preswyl yn gweithredu, ac mae'r wybodaeth hon wedi llywio datblygiad rheoliadau a chanllawiau statudol drafft ar gyfer gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig.

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos rhwng 15 Mai 2023 a 6 Awst 2023 ar y gyfres o reoliadau drafft sy'n ffurfio'r fframwaith rheoleiddio a’r canllawiau statudol cysylltiedig ar gyfer gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig. Cafodd rhanddeiliaid allweddol wybod am yr ymgynghoriad, gan gynnwys yr ysgolion arbennig preswyl presennol, awdurdodau lleol, Comisiynydd Plant Cymru, AGC, Estyn, a Gofal Cymdeithasol Cymru. Cynhaliwyd cyfarfod o'r grŵp rhanddeiliaid yn ystod y cyfnod ymgynghori, a chytunwyd ar ddull o gefnogi unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth a'u rhieni i gyfrannu at yr ymgynghoriad.

Mae'r cynnig i gynnwys gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig yng nghwmpas rheoleiddio Deddf 2016 a sefydlu'r fframwaith rheoleiddio yn cynnwys rheoliadau annibynnol a diwygiadau newydd i'r rheoliadau presennol.

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig) (Cymru) 2023 drafft

Mae adran 2 o Ddeddf 2016 yn rhestru'r gwasanaethau rheoleiddiedig o dan y Ddeddf, ac mae Atodlen 1 yn darparu rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau sy'n dod o fewn cwmpas rheoleiddio. Mae adran 2(1)(i) yn bŵer gwneud rheoliadau sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i ragnodi gwasanaethau eraill sy'n cynnwys darparu gofal a chymorth yng Nghymru fel gwasanaeth rheoleiddiedig. Mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu defnyddio'r pŵer hwn i ragnodi gwasanaeth preswyl ysgol arbennig fel gwasanaeth rheoleiddiedig newydd.

Bydd rheoliadau a wneir o dan adran 2(1)(i) yn dod â gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig i gwmpas rheoleiddio fel gwasanaeth rheoleiddiedig ac yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy'n darparu gwasanaethau o'r fath gofrestru o dan Ddeddf 2016. Mae’r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig) (Cymru) 2023 drafft yn diffinio'r gwasanaeth preswyl ysgolion arbennig newydd fel "[y] ddarpariaeth o lety ynghyd â gofal neu nyrsio mewn ysgol arbennig yng Nghymru ar gyfer disgyblion yr ysgol".

Bwriad y diffiniad arfaethedig yw cwmpasu’r ysgolion arbennig preswyl presennol sy'n cael eu darparu gan awdurdodau lleol, yn ogystal â newydd-ddyfodiaid newydd posibl i'r farchnad, waeth beth yw natur y darparwr. Mae'r Rheoliadau yn darparu eglurder ynglŷn ag ystyr gwasanaeth preswyl ysgol arbennig, a'r nod yw sicrhau nad yw ysgolion preswyl, gwasanaethau cartrefi gofal ac ysgolion arbennig nad ydynt yn darparu llety yn cael eu cynnwys yn anfwriadol yn y diffiniad neu yn y cwmpas rheoleiddio.

Effaith

Bydd y gwasanaeth preswyl ysgol arbennig yn cael ei gynnwys yn y cwmpas rheoleiddio o dan Ddeddf 2016 fel gwasanaeth rheoleiddiedig. Bydd hyn yn sefydlu dull mwy cyson o gofrestru, rheoleiddio, arolygu a gorfodaeth ar wasanaethau preswyl sy'n gofalu am blant sy'n agored i niwed am gyfnodau byr neu estynedig. Bydd y darparwyr gwasanaeth yn gorfod cofrestru o dan Ddeddf 2016. Mae'r drefn reoleiddiol yn canolbwyntio ar ansawdd a diogelwch gofal a chymorth, a llesiant a chanlyniadau'r unigolyn a bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar blant sy'n aros yn y gwasanaeth, ac ar ansawdd cyffredinol y gwasanaeth a ddarperir. Bydd y dull gweithredu hwn yn sicrhau bod y pwerau angenrheidiol gan AGC i orfodi gwelliannau a nodwyd yn ystod arolygiadau, a rhoi camau gorfodi ar waith os yw gwasanaethau'n parhau i fethu â bodloni'r gofynion rheoleiddio disgwyliedig.

Costau ac arbedion

Nid oes unrhyw gostau nac arbedion wedi'u nodi i’r rheoleiddiwr na'r sector o ganlyniad i’r Rheoliadau drafft sy'n diffinio'r gwasanaeth preswyl ysgol arbennig.

Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024 drafft

Dyma'r pwerau sy'n galluogi'r broses o wneud y Rheoliadau hyn:

  • Mae Adran 21(5) yn ymwneud â dynodi unigolyn cyfrifol er nad yw'r gofynion cymhwystra wedi'u bodloni.
  • Mae Adran 27 yn golygu bod modd gosod gofynion ar ddarparwr gwasanaeth sydd wedi'i reoleiddio.
  • Mae Adran 28 yn golygu bod modd gosod gofynion ar unigolyn cyfrifol gwasanaeth sydd wedi'i reoleiddio.
  • Mae Adran 30 yn ymwneud â darparwyr gwasanaethau sydd wedi'u datod.
  • Mae Adran 31 yn ymdrin â darparwyr gwasanaethau sydd wedi marw.
  • Mae Adran 45 yn ymdrin â throseddau sy'n ymwneud â methiant darparwr gwasanaeth i gydymffurfio â gofynion mewn rheoliadau.
  • Mae Adran 46 yn ymdrin â throseddau sy'n ymwneud â methiant unigolyn cyfrifol i gydymffurfio â gofynion mewn rheoliadau.

Mae Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024 ("Rheoliadau 2024") yn rheoliadau annibynnol sydd wedi'u haddasu o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 (fel y'u diwygiwyd) sy'n gosod gofynion ar ddarparwyr ac unigolion cyfrifol gwasanaethau rheoleiddiedig, gan gynnwys gwasanaethau cartrefi gofal. Mae Rheoliadau drafft 2024 yn gosod gofynion ar ddarparwyr ac unigolion cyfrifol gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig, gan gynnwys gofynion yn ymwneud â safon y gofal a'r cymorth sydd i'w darparu.

Bydd Rheoliadau 2024 yn disodli'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Arbennig Preswyl a gafodd eu gwneud o dan adran 23(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000. Nid oes modd gorfodi Safonau Gofynnol Cenedlaethol ac maent yn canolbwyntio ar sicrhau safon ofynnol nad yw'n gyson â'r cyfeiriad polisi ehangach ar reoleiddio ac arolygu a sefydlwyd o dan Ddeddf 2016.

Y prif agweddau ar Reoliadau 2024 yw:

Unigolion cyfrifol

Mae adran 21(5) o Ddeddf 2016 yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu'r amgylchiadau lle maen nhw, neu AGC yn ymarferol, sef y rheoleiddiwr gwasanaethau (yn hytrach na'r darparwr gwasanaeth) yn gallu dynodi unigolyn i fod yn unigolyn cyfrifol er nad yw gofynion cymhwystra Deddf 2016 wedi'u bodloni. Y diben yw sicrhau bod gwasanaeth sy'n cael ei gynnal yn fedrus fel arall yn gallu parhau heb ganslo ei gofrestriad yn gyfan gwbl os nad oes neb yn gallu cael ei ddynodi'n unigolyn cyfrifol. Yn ogystal, gall Gweinidogion Cymru addasu gofynion Deddf 2016 o ran sut maent yn ymwneud ag unigolyn cyfrifol sydd wedi'i ddynodi gan Weinidogion Cymru.

Rheoliadau ynghylch gwasanaethau rheoleiddiedig

Mae adran 27 o Ddeddf 2016 yn caniatáu i Weinidogion Cymru osod gofynion ar ddarparwr gwasanaeth mewn perthynas â gwasanaeth rheoleiddiedig, gan gynnwys y gofynion yn ymwneud â safon y gofal a'r cymorth sydd i'w darparu gan ddarparwr gwasanaeth.

Mae Rheoliadau 2024 yn gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau mewn perthynas â llywodraethu, addasrwydd y gwasanaeth, gwybodaeth am y gwasanaeth, yr amgylchedd, staffio, hyfforddiant staff a diogelu. Wrth wneud rheoliadau o dan yr adran hon, rhaid ystyried llesiant unrhyw unigolion a fydd yn derbyn gofal a chymorth.

Rheoliadau ynghylch unigolion cyfrifol

Mae adran 28 o Ddeddf 2016 yn caniatáu i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, osod gofynion ar unigolion cyfrifol dynodedig. Rhaid i unigolion cyfrifol fodloni'r meini prawf cymhwystra ac addasrwydd a nodir yn Adran 21 o Ddeddf 2016. 
Mae Rheoliadau 2024 yn gosod gofynion ar unigolion cyfrifol mewn perthynas â chydymffurfiaeth, ansawdd a goruchwyliaeth y gwasanaeth, a sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli'n effeithiol (gan gynnwys penodi rheolwr sydd wedi'i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru). Rhaid i'r unigolyn cyfrifol ymweld â'r gwasanaeth yn bersonol o leiaf unwaith bob 3 mis. Mae hyn yn ailadrodd y gofynion sy'n cael eu gosod ar wasanaethau rheoledig eraill o dan Ddeddf 2016.

Rheoliadau ynghylch darparwyr gwasanaethau sydd wedi'u diddymu

Mae adran 30 o Ddeddf 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i "berson a benodir" hysbysu Gweinidogion Cymru, hynny yw AGC yn ymarferol, am ei benodiad os yw darparwr gwasanaeth yn cael ei ddiddymu. Yn ôl Deddf 2016, mae "person a benodir":

  • yn dderbynnydd neu'n dderbynnydd gweinyddol o eiddo darparwr gwasanaeth sy’n gorff corfforaethol neu’n bartneriaeth
  • yn ddiddymwr, yn ddiddymwr dros dro neu’n weinyddwr i ddarparwr gwasanaeth sy’n gorff corfforaethol neu’n bartneriaeth
  • yn ymddiriedolwr mewn methdaliad i ddarparwr gwasanaeth sy’n unigolyn neu’n bartneriaeth.

Mae Rheoliadau 2024 yn ei gwneud yn ofynnol i berson a benodir hysbysu'r rheoleiddiwr gwasanaethau, AGC, yn ddi-oed o'i benodiad, ac o fewn 28 diwrnod i’w benodi, hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau am ei fwriadau ynghylch gweithrediad y gwasanaeth yn y dyfodol.

Er bod ysgolion arbennig preswyl presennol sy'n gweithredu yng Nghymru ar hyn o bryd yn cael eu darparu gan awdurdodau lleol, y bwriad yw diogelu'r rheoliadau at y dyfodol os bydd newydd-ddyfodiaid yn dod i'r farchnad.

Rheoliadau ynghylch darparwyr gwasanaethau sydd wedi marw

Mae adran 31 o Ddeddf 2016 yn ymdrin â gofynion hysbysu ac addasiadau i gymhwyso Rhan 1 o Ddeddf 2016 pan fo darparwr gwasanaeth sy’n unigolyn wedi marw.

Mae Rheoliadau 2024 yn ei gwneud yn ofynnol i gynrychiolwyr personol darparwr unigol sydd wedi marw hysbysu Gweinidogion Cymru, hynny yw AGC yn ymarferol, am y farwolaeth. Mae'r Rheoliadau yn galluogi cynrychiolwyr personol yr unigolyn i weithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth am gyfnod penodol. Mae hyn yn ailadrodd y gofynion sy'n cael eu gosod ar wasanaethau rheoleiddiedig eraill o dan Ddeddf 2016.

Er bod ysgolion arbennig preswyl presennol sy'n gweithredu yng Nghymru ar hyn o bryd yn cael eu darparu gan awdurdodau lleol, y bwriad yw diogelu'r rheoliadau at y dyfodol rhag ofn y bydd newydd-ddyfodiaid yn dod i'r farchnad.

Troseddau: Methiant darparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol i gydymffurfio â gofynion mewn rheoliadau

Mae adran 45 o Ddeddf 2016 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddarparu ei bod yn drosedd i ddarparwr gwasanaeth fethu â chydymffurfio â rhai o ofynion penodol y rheoliadau a wneir o dan adran 27. Mae adran 46 o Ddeddf 2016 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddarparu ei bod yn drosedd i ddarparwr gwasanaeth fethu â chydymffurfio â rhai o ofynion penodol y rheoliadau a wneir o dan adran 28. Maent yn darparu bod methiant, gan y darparwr gwasanaeth a'r unigolyn cyfrifol yn y drefn honno, i gydymffurfio â gofynion penodedig yn Rheoliadau 2024 yn drosedd. Mae yna amod arall sy'n berthnasol i achos o fethu â chydymffurfio â gofynion penodol. Yn yr achosion hyn, mae'r rheoliad yn darparu bod hyn ond yn drosedd os yw'r methiant i gydymffurfio yn arwain at unigolyn yn wynebu niwed y gellir ei osgoi, unigolyn yn cael ei wneud yn agored i risg sylweddol o niwed o’r fath, neu unigolyn yn colli arian neu eiddo o ganlyniad i ddwyn, camddefnyddio neu gam-berchnogi.

Efallai na fydd methu â chydymffurfio â gofyniad penodol yn Rheoliadau 2024 yn drosedd, ond gallai methu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r gofynion sydd wedi'u cynnwys yn Rhannau 2 i 12 o'r Rheoliadau fod yn rheswm dros ganslo cofrestriad y darparwr gwasanaeth o dan adran 15 o Ddeddf 2016; a gallai methiant unigolyn cyfrifol i gydymffurfio ag unrhyw un o'r gofynion sydd wedi'u cynnwys yn Rhannau 13 i 17 o'r Rheoliadau fod yn rheswm dros ganslo dynodiad yr unigolyn cyfrifol o dan adran 22 o Ddeddf 2016. Mae Rheoliadau 2024 yn ailadrodd y gofynion sydd wedi'u gosod ar wasanaethau rheoleiddiedig eraill mewn rheoliadau.

Effaith

Rhagwelir y bydd cynnwys gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig mewn rheoliadau yn arwain at wella ansawdd cyffredinol y gofal a'r cymorth sy'n cael eu darparu. Bydd y dull gweithredu arfaethedig yn dod ag elfen breswyl ysgolion arbennig preswyl i gwmpas rheoleiddio o dan Ddeddf 2016. Bydd hyn yn golygu y bydd yn ofynnol i wasanaethau presennol a gwasanaethau newydd gofrestru gydag AGC. Bydd yn ofynnol iddynt fodloni'r gofynion a amlinellir yn Rheoliadau 2024 mewn perthynas ag ansawdd a diogelwch y gofal a'r cymorth a ddarperir. Mae'r gofynion hyn yn cynnwys addasrwydd y gwasanaeth, yr amgylchedd, staffio, hyfforddiant staff a diogelu. Bydd y gwasanaethau yn cael eu harolygu gan AGC. Mae gan y rheoleiddiwr bwerau gorfodi o dan y fframwaith rheoleiddio.

Trwy ymgysylltu â rhanddeiliaid fe gawsom wybodaeth ddefnyddiol am sut mae'r gwasanaethau yn gweithredu yn ymarferol. Maent eisoes wedi mabwysiadu llawer o'r gofynion arfaethedig, ond mae hyn yn amrywio rhwng gwasanaethau unigol. Effaith y rheoliadau a'r canllawiau statudol fydd darparu eglurder a chysondeb yn ymwneud â'r gofynion sy'n cael eu gosod ar wasanaethau preswyl ysgolion arbennig.

Mae pob un o'r pedwar gwasanaeth preswyl ysgol arbennig presennol yn cael eu darparu gan awdurdodau lleol. Mae'r awdurdodau lleol eisoes wedi'u cofrestru fel darparwyr gwasanaethau rheoleiddiedig a byddant yn gyfarwydd â'r gofynion a osodir ar ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol. Mae Rheoliadau 2024 yn ailadrodd y gofynion a osodir ar wasanaethau rheoleiddiedig eraill o dan Ddeddf 2016 ac maent yn cynnwys gofynion penodol ar gyfer yr unigolyn cyfrifol wrth oruchwylio'r gwasanaeth gan gynnwys ymweld â'r gwasanaeth.

Ni fydd y darparwyr gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig presennol yn cael eu heffeithio gan reoliadau sy'n ymwneud â darparwr gwasanaeth yn cael ei ddiddymu, neu os yw darparwr gwasanaeth sy'n unigolyn yn marw. Fodd bynnag, bydd y rheoliadau hyn yn diogelu'r fframwaith rheoleiddio at y dyfodol ar gyfer newydd-ddyfodiaid annibynnol i'r farchnad.

Costau ac arbedion

Bydd ychwanegu'r pedwar gwasanaeth preswyl ysgol arbennig presennol fel gwasanaethau rheoleiddiedig yn cynyddu nifer yr arolygiadau y bydd AGC yn eu cynnal. Yr amcangyfrif o'r gost flynyddol ar sail ffigurau 2023-24 yw £15,000, sy'n cyfateb i arolygydd 0.25 ychwanegol. Bydd hon yn gost gylchol.

Fe fydd costau ariannol ac amser i’r sector. Bydd hyn yn cynnwys cost cofrestru'r rheolwr a'r staff gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a sicrhau bod yr holl staff yn bodloni'r gofynion cymwysterau, neu'n gweithio tuag atynt. Mae'n rhaid i'r unigolyn cyfrifol dynodedig oruchwylio'r gwaith o reoli'r gwasanaeth er mwyn sicrhau bod gwasanaeth effeithiol yn cael ei ddarparu sy'n cydymffurfio â'r gofynion. Fel rhan o'r gwaith goruchwylio, rhaid i'r unigolyn cyfrifol ymweld â'r gwasanaeth o leiaf unwaith bob 3 mis i gyfarfod â staff a phlant sy'n mynychu'r gwasanaeth.

Bydd yn ofynnol i'r gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig presennol adolygu polisïau a gweithdrefnau cyfredol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r gofynion yn y rheoliadau. Hefyd, bydd angen iddynt sicrhau bod prosesau a gweithdrefnau ar waith i gydymffurfio â'r gofynion hysbysu a chadw cofnodion. Nid oes modd meintioli'r costau ariannol nac amser gan fod sefyllfa pob gwasanaeth preswyl ysgol arbennig yn wahanol.

Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023

Cofrestru gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig

Mae adrannau 6 ac 11 o Ddeddf 2016 yn amlinellu'r gofynion cyffredinol ar gyfer cofrestru er mwyn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig, a'r sefyllfaoedd lle mae'n rhaid i ddarparwr gwasanaeth wneud cais am amrywio ei gofrestriad. Er mwyn cofrestru neu amrywio cofrestriad, rhaid darparu gwybodaeth a dogfennaeth allweddol gwasanaeth rheoleiddiedig, gan gynnwys y datganiad o ddiben sy'n amlinellu nodau ac amcanion y gwasanaeth a sut y bydd y darparwr yn cyflawni'r nodau hyn ac yn diwallu anghenion pobl dan ei ofal. Mae'n ofynnol i ymgeiswyr ddynodi unigolyn cyfrifol fel rhan o'u cofrestriad. Rydym yn cynnig diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017 i'w gwneud yn berthnasol i wasanaethau preswyl ysgolion arbennig.

Effaith

Bydd diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017 yn sicrhau bod cydraddoldeb rhwng darparwyr gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig a darparwyr gwasanaethau cartrefi gofal a gwasanaethau rheoleiddiedig eraill yn ymwneud â'r broses (gan gynnwys y gofynion gwirio, gwybodaeth a dogfennau) ar gyfer cofrestru gydag AGC. Mae'r datganiad o ddiben sydd ei angen o dan y rheoliadau hyn yn rhan annatod o'r system gofrestru, arolygu a gorfodi, a bydd yn berthnasol i ddarparwyr gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig. Bydd y gofynion yn y rheoliadau hyn yn galluogi AGC i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth am addasrwydd y gwasanaeth ac addasrwydd y darparwr gwasanaeth a'r unigolyn cyfrifol dynodedig. Bydd y gwelliant hwn o fudd i ddefnyddwyr gwasanaethau trwy sicrhau bod system cofrestru gwasanaethau sydd llawn mor gadarn yn berthnasol i'r holl wasanaethau rheoleiddiedig.

Os yw'r darparwr gwasanaeth yn awdurdod lleol, bydd yr unigolyn cyfrifol yn un o swyddogion yr awdurdod lleol a ddynodwyd gan y cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol. Gan fod y pedwar awdurdod lleol sydd ag ysgolion arbennig preswyl ar hyn o bryd hefyd yn ddarparwyr gwasanaethau cofrestredig, byddant yn gyfarwydd â'r broses gofrestru a dynodi unigolyn cyfrifol.

Costau ac arbedion

Bydd cost i Lywodraeth Cymru, yn benodol ar gyfer AGC fel y rheoleiddiwr gwasanaethau, wrth ymestyn y system gofrestru ar-lein er mwyn cynnwys gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig a phrosesu'r cofrestriadau a'r amrywiadau cofrestru sy'n ofynnol o dan yr opsiwn hwn. Amcangyfrifir y bydd y gost untro yn £46,000 yn 2023-24. Bydd angen i AGC ddatblygu’r fframwaith arolygu a’r canllawiau perthnasol, ac amcangyfrifir y bydd y costau staffio i ymgymryd â’r gwaith hwn oddeutu £4,600 yn 2023-24.

Mae pedwar gwasanaeth preswyl ysgol arbennig yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae pob un yn cael ei ddarparu gan awdurdodau lleol sydd eisoes wedi'u cofrestru fel darparwyr gwasanaethau. Bydd darparwyr gwasanaethau presennol yn gwneud cais am amrywio eu cofrestriad er mwyn ychwanegu'r gwasanaeth newydd at eu cofrestriad. Amcangyfrifir y bydd angen 33 awr o amser staff er mwyn i AGC brosesu, asesu a chymeradwyo cais syml i gofrestru gwasanaeth newydd. Ar y sail hon, amcangyfrifir y bydd yn costio £1,200 i AGC gofrestru darparwr gwasanaeth, cyfanswm o £4.800. Mae'n bosibl y bydd y gost yn is ar gyfer ceisiadau gan ddarparwyr gwasanaethau presennol i amrywio cofrestriad trwy ychwanegu gwasanaeth newydd.

Bydd ychwanegu'r pedwar gwasanaeth preswyl ysgol arbennig presennol fel gwasanaethau rheoleiddiedig yn cynyddu nifer yr arolygiadau y bydd AGC yn eu cynnal. Yr amcangyfrif o'r gost flynyddol ar sail ffigurau 2023-24 yw £15,000, sy'n cyfateb i arolygydd 0.25 ychwanegol. Bydd hon yn gost gylchol.

Datganiadau blynyddol

Mae adran 10 o Ddeddf 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau pob gwasanaeth rheoleiddiedig gyflwyno datganiad blynyddol i Weinidogion Cymru, sef AGC yn ymarferol, y rheoleiddiwr gwasanaeth. Rhaid i'r datganiad blynyddol gynnwys gwybodaeth allweddol am weithrediad y gwasanaeth, yn ogystal â datganiad cydymffurfio. Mae Deddf 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, AGC, gyhoeddi pob datganiad. Rydym yn cynnig diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017 i ymestyn y gofyniad i lunio datganiad blynyddol fel ei fod yn berthnasol i wasanaethau preswyl ysgolion arbennig. Ymdrinnir â’r diwygiad amrywiol ochr yn ochr â’r Rheoliadau Gwasanaeth Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaeth ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024.

Effaith

Bydd diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017 yn sicrhau cydraddoldeb rhwng darparwyr gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig a darparwyr gwasanaethau cartrefi gofal a gwasanaethau rheoleiddiedig eraill mewn perthynas â’r gofyniad i gyflwyno datganiad blynyddol, fformat y datganiad blynyddol, amseriad y datganiad blynyddol a'r wybodaeth sydd i'w darparu yn y datganiad blynyddol. Yn ogystal â'r wybodaeth sydd ei hangen ar wyneb Deddf 2016, mae angen gwybodaeth bellach mewn perthynas â staffio, hyfforddiant, darparu'r gwasanaeth a llety.

Costau ac arbedion

Bydd cost i Lywodraeth Cymru, yn benodol i AGC fel rheoleiddiwr gwasanaethau, wrth ymestyn y system ar-lein er mwyn i ddarparwyr gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig gyflwyno datganiadau blynyddol. Amcangyfrifir mai £3,000 fydd y gost untro yn 2023-24 i addasu'r system bresennol i gynnwys gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig. Bydd y gallu i bennu'r terfyn amser i ddarparwyr gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig ddychwelyd ffurflen y datganiad blynyddol i Weinidogion Cymru yn cynorthwyo AGC i flaengynllunio rhaglenni gwaith pwrpasol.

Bydd y broses o gwblhau'r datganiad blynyddol sydd ei angen o dan yr opsiwn hwn yn golygu cost i ddarparwyr gwasanaethau. Fodd bynnag, drwy ymestyn y system ar-lein bresennol, bydd y rhan fwyaf o'r ffurflen eisoes yn cynnwys y wybodaeth gofrestru, ac fe'i cwblheir trwy borth ar-lein. Mae pennu'r wybodaeth sydd i'w darparu a'r ffurflen sydd i'w chwblhau yn sefydlu system effeithlon ac effeithiol, gan leihau goddrychedd ac amwysedd. Amcangyfrifir y bydd angen tua 11 awr o amser staff y darparwr i gwblhau'r ffurflen ar-lein.

Hysbysiadau Cosb

Mae adran 52 o Ddeddf 2016 yn galluogi Gweinidogion Cymru i sefydlu system o hysbysiadau cosb a rhagnodi troseddau y gellir rhoi hysbysiad cosb amdanynt. Diben yr hysbysiad cosb yw cynnig cyfle i dderbynnydd yr hysbysiad glirio unrhyw atebolrwydd am y drosedd trwy dalu'r swm a bennir yn yr hysbysiad. Rydym yn cynnig diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019 sy'n berthnasol i wasanaethau rheoleiddiedig presennol fel eu bod yn berthnasol i wasanaethau preswyl ysgolion arbennig. Ymdrinnir â’r diwygiad amrywiol ochr yn ochr â’r Rheoliadau Gwasanaeth Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaeth ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024.

Effaith

Mae'r diwygiad hwn yn sicrhau bod gan AGC ystod lawn o bwerau i ymdrin ag achosion o dorri rheoliadau ym mhob gwasanaeth rheoleiddiedig. Mewn amgylchiadau priodol, gall AGC ddewis rhoi hysbysiad cosb sy'n anfon neges glir at ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol sy'n methu â chydymffurfio â'u dyletswyddau.

Costau ac arbedion

O dan yr opsiwn hwn, bydd costau i ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol sy'n derbyn hysbysiadau cosb. Mae'r symiau sy'n daladwy wedi'u nodi yn y rheoliadau presennol sy'n berthnasol i wasanaethau rheoleiddiedig eraill. Mae adran 52 o Ddeddf 2016 yn cyfyngu'r swm sy'n daladwy i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol. Ar hyn o bryd, swm lefel 4 ar y raddfa safonol yw £2,500.

Byddai AGC yn parhau i ddefnyddio ei dull cymesur presennol o fesurau gorfodi wrth roi cynllun hysbysiadau cosb ar waith. Byddai amlder cyhoeddi dirwyon o'r fath yn dibynnu ar nifer y toriadau cymwys. Gellir dadlau y bydd cyflwyno cynllun hysbysiadau cosb yn lleihau nifer yr erlyniadau gan AGC, gan helpu i arbed amser a chostau cyfreithiol o ganlyniad. Yn yr un modd, gall y darparwr gwasanaeth neu'r unigolyn cyfrifol ddewis talu'r gosb yn hytrach na mynd drwy'r broses hir o achos troseddol.

Cydweithio a chyfranogiad

Mae Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad ag AGC, wedi ymgysylltu â darparwyr ysgolion arbennig preswyl ynglŷn â dod â'r gwasanaethau o fewn cwmpas rheoleiddio fel gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 15 Mai 2023 a 6 Awst 2023 ar y gyfres o reoliadau drafft sy'n ffurfio'r fframwaith rheoleiddio a chanllawiau statudol cysylltiedig ar gyfer gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig.

Cafodd rhanddeiliaid allweddol wybod am yr ymgynghoriad, gan gynnwys darparwyr ysgolion arbennig preswyl presennol, awdurdodau lleol, Comisiynydd Plant Cymru, AGC, Estyn, a Gofal Cymdeithasol Cymru. Cynhaliwyd cyfarfod o'r grŵp rhanddeiliaid yn ystod y cyfnod ymgynghori, a chytunwyd ar ddull o ran sut i gynorthwyo unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth a'u rhieni i gyfrannu at yr ymgynghoriad.

Adran 8. Casgliad

8.1 Sut y mae pobl y mae’r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi’u cynnwys yn y gwaith o’i ddatblygu?

Y cynnig yw cyflwyno rheoliadau i ddod ag ysgolion arbennig preswyl i gwmpas rheoleiddio o dan Ddeddf 2016 a gosod gofynion ar ddarparwyr ac unigolion cyfrifol gwasanaethau o'r fath. Y bwriad, felly, yw rheoleiddio ysgolion arbennig preswyl yn wasanaeth rheoleiddiedig newydd ar wahân – gwasanaeth preswyl ysgol arbennig. Mae pedair ysgol arbennig breswyl yng Nghymru ar hyn o bryd a chaiff pob un ohonynt ei ddarparu gan awdurdodau lleol.

Ym mis Medi 2022, sefydlwyd grŵp rhanddeiliaid a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o bob un o'r gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig yng Nghymru ac adrannau awdurdodau lleol perthnasol gan gynnwys addysg a gwasanaethau plant. Cyfarfu'r grŵp bedair gwaith i drafod y dull rheoleiddio arfaethedig ar sail y gyfres o reoliadau a'r canllawiau statudol sy'n ffurfio'r fframwaith rheoleiddio o dan Ddeddf 2016. Cyfarfu'r grŵp unwaith hefyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Yn ystod y cyfarfod diwethaf, gwnaethom drafod dull ar gyfer cynorthwyo'r unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth, a'u rhieni, i gyfrannu at yr ymgynghoriad. Rhoddodd y rhanddeiliaid gipolwg gwerthfawr ar weithrediad gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig, ac ystyriwyd yr wybodaeth hon wrth baratoi'r rheoliadau a'r canllawiau statudol.

Tynnwyd sylw rhanddeiliaid allweddol hefyd at yr ymgynghoriad gan gynnwys Comisiynydd Plant Cymru, AGC, Gofal Cymdeithasol Cymru ac Estyn.

8.2 Beth yw’r effeithiau mwyaf arwyddocaol , y rhai cadarnhaol a'r rhai negyddol?

Yr effeithiau mwyaf arwyddocaol ar y pedair ysgol arbennig breswyl bresennol fydd dod ag elfen breswyl y gwasanaeth i'r cwmpas rheoleiddio o dan Ddeddf 2016. Bydd y dull gweithredu arfaethedig yn sicrhau bod cydraddoldeb rhwng darparwyr gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig a darparwyr gwasanaethau cartrefi gofal a gwasanaethau rheoleiddiedig eraill. Bydd y dull gweithredu yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau presennol a darparwyr gwasanaethau newydd gofrestru gydag AGC. Bydd yn ofynnol iddynt fodloni'r gofynion a amlinellir mewn rheoliadau mewn perthynas ag ansawdd a diogelwch y gofal a'r cymorth a ddarperir. Mae'r gofynion hyn yn cynnwys addasrwydd y gwasanaeth, yr amgylchedd, staffio, hyfforddiant staff a diogelu. Bydd y gwasanaethau yn cael eu harolygu gan AGC. Mae gan y rheoleiddiwr bwerau gorfodi o dan y fframwaith rheoleiddio. Gan fod y drefn reoleiddiol yn canolbwyntio ar ansawdd a diogelwch y gofal a'r cymorth a ddarperir, un o'r canlyniadau a fwriedir yw y bydd y gwasanaethau a ddarperir yn cael eu gwella'n barhaus. Bydd hyn o fudd i'r plant sy'n aros yn y gwasanaeth, a'u teuluoedd, yn ogystal â'r rhai sy'n gweithio i'r gwasanaeth.

Ni nodwyd unrhyw effeithiau negyddol sylweddol.

8.3 Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut bydd y cynnig yn sicrhau’r cyfraniad mwyaf at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant?

Bydd dod â gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig i gwmpas rheoleiddio yn cefnogi'r gwaith o gyflawni nodau llesiant y Rhaglen Lywodraethu o ran Cymru iachach a Chymru sy'n fwy cyfartal drwy sicrhau bod y fframwaith rheoleiddio yn sefydlu dull mwy cyson o reoleiddio gwasanaethau preswyl ar gyfer plant sy'n agored i niwed. Mae hefyd yn cefnogi'r nod: Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd) yn Nod Cenedlaethol "Cymru Iachach" yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy drefn reoleiddiol sy'n canolbwyntio ar ansawdd a diogelwch gofal a chymorth, a llesiant a chanlyniadau'r unigolyn a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar blant sy'n aros yn y gwasanaeth, ac ar ansawdd cyffredinol y gwasanaeth a ddarperir.

Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut bydd y cynnig yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Nid oes angen unrhyw gamau gweithredu i osgoi, gwella neu liniaru effaith negyddol gan nad oes unrhyw effeithiau negyddol wedi'u nodi.

8.4 Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac wedi iddo gael ei gwblhau?

Bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro ar y cyd â rheoleiddwyr y gwasanaeth a'r gweithlu.