Neidio i'r prif gynnwy

Amcanion polisi

Y cynnig yw cyflwyno rheoliadau i ddod ag ysgolion arbennig preswyl o fewn cwmpas rheoleiddio o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”), a gosod gofynion ar ddarparwyr ac unigolion cyfrifol gwasanaethau o’r fath.

Mae Deddf 2016 yn pennu’r fframwaith statudol ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol a rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae Atodlen 1 o Ddeddf 2016 yn diffinio ‘gwasanaeth cartref gofal’ fel ‘[y] ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio neu ofal mewn man yng Nghymru, i bersonau oherwydd eu hyglwyfedd neu eu hangen’. Mae Deddf 2016 yn nodi nad yw’r diffiniad hwn yn berthnasol i ysgolion oni bai eu bod yn darparu llety ynghyd â nyrsio neu ofal am fwy na 295 diwrnod y flwyddyn. Mae ysgolion sy’n dod o fewn y diffiniad hwn yn cael eu rheoleiddio a’u harolygu gan AGC fel gwasanaeth cartref gofal i blant, a rhaid iddynt fodloni gofynion Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 (fel y’u diwygiwyd) a chanllawiau statudol cysylltiedig. Mae’r trothwy 295 diwrnod yn deillio o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ac nid yw Deddf 2016 na’r Ddeddf Safonau Gofal yn darparu rhesymeg ar gyfer y trothwy 295 diwrnod. Yr effaith yw gwahaniaethu rhwng ysgolion sy’n lletya disgyblion yn ystod y tymor yn unig ac ysgolion sy’n lletya disgyblion yn ystod y gwyliau hefyd.

Ar hyn o bryd, mae AGC yn dibynnu ar bwerau yn Neddf Plant 1989 (Deddf 1989) wrth oruchwylio ysgolion arbennig preswyl sy’n dod o dan y trothwy 295 diwrnod neu lai, ac sydd felly y tu hwnt i gwmpas rheoleiddio fel gwasanaeth cartref gofal o dan Ddeddf 2016. O dan Ddeddf 1989, gall AGC gynnal gweithgarwch arolygu ond nid oes ganddi bwerau gorfodi uniongyrchol ac ni all ei gwneud yn ofynnol i’r ysgolion gofrestru. Mae AGC yn arolygu’r ysgolion hyn yn erbyn Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Ysgolion Arbennig Preswyl a gyhoeddwyd yn 2003 o dan adran 87 o Ddeddf 1989. Nid oes modd gorfodi Safonau Gofynnol Cenedlaethol, ac maen nhw’n canolbwyntio ar sicrhau safon ofynnol nad yw’n gyson â’r cyfeiriad polisi ehangach ar reoleiddio ac arolygu a sefydlwyd o dan Ddeddf 2016. Nid yw’r term ‘ysgol arbennig breswyl’ wedi’i ddiffinio’n benodol mewn deddfwriaeth bresennol, ond fe’i defnyddir gan AGC i wahaniaethu rhwng yr ysgolion hyn ac ysgolion arbennig nad ydynt yn darparu llety.

Y dull arfaethedig yw diffinio’r ysgolion arbennig preswyl fel gwasanaeth newydd wedi’i reoleiddio yn ei rinwedd ei hun – gwasanaeth preswyl ysgolion arbennig – a’r bwriad yw cipio’r ysgolion arbennig preswyl presennol sy’n cael eu darparu gan awdurdodau lleol ac unrhyw ddarpar newydd-ddyfodiaid i’r farchnad, waeth a ydynt yn cael eu cynnal gan awdurdod lleol ai peidio.

Mae ysgolion arbennig preswyl yn darparu addysg a llety rhwng un a phedair noson ysgol yr wythnos, yn ystod y tymor yn unig, i rai o blant mwyaf agored i niwed Cymru. Mae’r plant hyd at 19 oed gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) cymhleth, a niferus mewn sawl achos, megis Anhwylderau Ymddygiad Emosiynol (EBD), Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth, anableddau dysgu ac anableddau corfforol. Yn gyffredinol, mae ysgolion arbennig preswyl yn darparu cwricwlwm 24 awr i gefnogi a hyrwyddo byw’n annibynnol trwy ddatblygu sgiliau cymdeithasol, annibyniaeth, hunangymorth a sgiliau bywyd priodol.

Mae’r dull gweithredu arfaethedig yn cydnabod y gwahaniaethau rhwng ysgolion arbennig preswyl lle mae plant yn aros yn yr ysgol dros nos am rhwng un a phedair noson yr wythnos ond yn byw gyda’u rhieni, a gwasanaethau cartrefi gofal lle mae oedolion a phlant yn preswylio’n llawn amser. Cyn belled ag y bo’n briodol, mae’r Rheoliadau yn gydnaws â’r gofynion rheoleiddio sydd wedi’u gosod ar wasanaethau cartrefi gofal o dan Ddeddf 2016. Fodd bynnag, nid yw pob gofyniad sy’n cael ei roi ar ddarparwyr gwasanaethau cartrefi gofal yn berthnasol i wasanaethau preswyl ysgolion arbennig oherwydd natur a diben y gwasanaeth.

Bydd y dull gweithredu arfaethedig yn dod ag elfen breswyl ysgolion arbennig preswyl i gwmpas rheoleiddio o dan Ddeddf 2016. Bydd hyn yn golygu y bydd yn ofynnol i wasanaethau presennol a gwasanaethau newydd gofrestru gydag AGC. Bydd yn ofynnol iddynt fodloni’r gofynion a amlinellir mewn rheoliadau mewn perthynas ag ansawdd a diogelwch y gofal a’r cymorth a ddarperir. Mae’r gofynion hyn yn cynnwys addasrwydd y gwasanaeth, yr amgylchedd, staffio, hyfforddiant staff a diogelu. Bydd y gwasanaethau yn cael eu harolygu gan AGC. Mae gan y rheoleiddiwr bwerau gorfodi o dan y fframwaith rheoleiddio.

Casglu tystiolaeth ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc

Ym mis Mawrth 2022, cyhoeddodd yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol adroddiad yr ymchwiliad Yr ymchwiliad i ysgolion preswyl Cyfnod 1: Ysgolion cerdd, ysgolion arbennig preswyl Cyfnod 2: Diogelu ysgolion dydd ac ysgolion preswyl. Ystyriodd yr Ymchwiliad gwestiynau ynghylch cam-drin plant yn rhywiol mewn ysgolion arbennig preswyl yng Nghymru a Lloegr. Cyflwynwyd tystiolaeth i’r Ymchwiliad gan Brif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru, ac AGC. Ymhlith argymhellion yr Ymchwiliad y mae gofyniad bod pob ysgol arbennig breswyl yn cael ei harchwilio yn erbyn y safonau ansawdd a ddefnyddir i reoleiddio cartrefi gofal yng Nghymru.

Fel rhan o’r Ymchwiliad, ystyriwyd pa mor agored i niwed oedd y plant ochr yn ochr â’r ffordd orau o sicrhau eu bod yn cael eu diogelu rhag cam-drin, niwed ac esgeulustod o dan y rheoliadau presennol. Ar dudalen 68, tynnwyd sylw at y ffaith fod:

plant anabl bron deirgwaith yn fwy tebygol o brofi trais rhywiol na phlant nad ydynt yn anabl, a fod y cyfuniad o namau a phellter wedi eu gwneud yn arbennig o agored i niwed.

Sefydlwyd grŵp rhanddeiliaid ym mis Medi 2022, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r pedair ysgol arbennig breswyl bresennol yng Nghymru a fydd yn cael eu rheoleiddio fel gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig, ac adrannau awdurdodau lleol perthnasol gan gynnwys addysg a gwasanaethau plant. Cyfarfu’r grŵp bedair gwaith i drafod y dull rheoleiddio arfaethedig ar sail y gyfres o reoliadau a’r canllawiau statudol sy’n ffurfio’r fframwaith rheoleiddio o dan Ddeddf 2016, ac unwaith yn ystod y cyfnod ymgynghori i gytuno ar ddull o gefnogi unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaethau a’u rhieni i gyfrannu at yr ymgynghoriad. Cyflwynodd y rhanddeiliaid wybodaeth bwysig am sut mae ysgolion arbennig preswyl yn gweithredu, ac mae’r wybodaeth hon wedi llywio datblygiad rheoliadau a chanllawiau statudol drafft ar gyfer gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig.

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos rhwng 15 Mai 2023 a 6 Awst 2023 ar y gyfres o reoliadau drafft sy’n ffurfio’r fframwaith rheoleiddio a’r canllawiau statudol cysylltiedig ar gyfer gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig. Cafodd rhanddeiliaid allweddol wybod am yr ymgynghoriad, gan gynnwys yr ysgolion arbennig preswyl presennol, awdurdodau lleol, Comisiynydd Plant Cymru, AGC, Estyn, a Gofal Cymdeithasol Cymru.

Dadansoddi’r dystiolaeth ac asesu’r effaith

Mae’r adroddiad ymateb i’r ymgynghoriad a’r ymatebion wedi llywio ein hystyriaeth o’r rheoliadau terfynol a’r canllawiau statudol. Fel rhan o ddadansoddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad, mae effaith y polisi ar y plant a’r bobl ifanc sy’n defnyddio’r gwasanaeth wedi cael ei hystyried yn ofalus.

Erthygl 3 (lles pennaf y plentyn)

Erthygl 3 yn dweud mae’n rhaid i les pennaf y plentyn fod yn brif flaenoriaeth ym mhob penderfyniad neu weithred sy’n effeithio ar blant.

Cynyddu neu herio

Cynyddu

Esboniad

Mae’r rheoliadau arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau gynnal asesiad a pharatoi cynllun personol ar gyfer yr unigolyn sy’n nodi ei anghenion gofal a chymorth a sut y bydd yn cael ei gefnogi i gyflawni ei ddeilliannau personol.

Erthygl 2 (dim gwahaniaethu) a Erthygl 23 (plant ag anabledd)

Erthygl 2 yn dweud ni ddylid trin unrhyw blentyn yn annheg, beth bynnag fo’i hil, ei rywedd, ei grefydd, ei iaith, ei alluoedd, beth bynnag y mae’n ei feddwl neu’n ei ddweud, pa fath bynnag o deulu y daw ohono, beth bynnag ei amgylchiadau.

Erthygl 23 yn dweud mae gan blentyn ag anabledd yr hawl i fyw bywyd llawn a gweddus gydag urddas a, cyn belled ag y bo modd, annibyniaeth a chwarae rhan weithredol yn y gymuned. Rhaid i lywodraethau wneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi plant anabl a’u teuluoedd.

Cynyddu neu herio

Cynyddu

Esboniad

Mae ethos y model cymdeithasol o anabledd wedi’i ymgorffori yn y rheoliadau arfaethedig a’r canllawiau statudol. Mae’r rheoliadau arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i ofal a chymorth gael eu darparu mewn ffordd sy’n amddiffyn, hyrwyddo a chynnal diogelwch a lles unigolion. Mae’r canllawiau statudol arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau sicrhau bod gofal a chymorth yn cael eu darparu yn unol ag unrhyw asesiad a chynllun personol, yn diwallu anghenion yr unigolyn ac yn ei gefnogi i gyflawni ei ddeilliannau personol mewn perthynas â’i hawliau a’i hawlogaethau.

Erthygl 14 (rhyddid meddwl, cred a chrefydd)

Erthygl 14 yn dweud mae gan bob plentyn yr hawl i feddwl a chredu’r hyn mae’n ei ddewis a hefyd i ymarfer ei grefydd, cyn belled nad yw’n atal pobl eraill rhag mwynhau eu hawliau. Rhaid i lywodraethau barchu hawliau a chyfrifoldebau rhieni i arwain eu plentyn wrth iddo dyfu.

Cynyddu neu herio

Cynyddu

Esboniad

Mae’r rheoliadau arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau ystyried barn, dymuniadau a theimladau’r unigolyn, gan gynnwys ei gredoau crefyddol, wrth gynnal asesiad a pharatoi’r cynllun personol.

Erthygl 6 (bywyd, goroesiad a datblygiad)

Erthygl 6 yn dweud mae gan bob plentyn hawl i fyw. Rhaid i lywodraethau wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod plant yn goroesi ac yn datblygu i’w llawn botensial.

Cynyddu neu herio

Cynyddu

Esboniad

Mae’r rheoliadau arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau sicrhau bod y gofal a’r cymorth yn amddiffyn, hyrwyddo a chynnal diogelwch a lles unigolion heb gyfaddawdu ar eu hawliau, eu preifatrwydd a’u hurddas.

Erthygl 16 (hawl i breifatrwydd)

Erthygl 16 yn dweud mae gan blant yr hawl i breifatrwydd. Dylai’r gyfraith ddiogelu bywyd preifat, teuluol a chartref y plentyn, gan gynnwys amddiffyn plant rhag ymosodiadau anghyfreithlon sy’n niweidio eu henw da.

Cynyddu neu herio

Cynyddu

Esboniad

Mae’r rheoliadau arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau sicrhau bod unigolion yn cael eu trin â pharch ac urddas, gan barchu preifatrwydd unigolion, eu hawl i gyfrinachedd, a hyrwyddo hunanreolaeth ac annibyniaeth.

Erthygl 19 (amddiffyn rhag trais, cam-drin ac esgeulustod)

Erthygl 19 yn dweud rhaid i lywodraethau wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn rhag pob math o drais, cam-drin, esgeulustod a thriniaeth wael gan eu rhieni neu unrhyw un arall sy’n gofalu amdanynt.

Cynyddu neu herio

Cynyddu

Esboniad

Mae’r rheoliadau arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau ddarparu’r gwasanaeth mewn ffordd sy’n sicrhau bod unigolion yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn rhag cam-drin, esgeulustod a thriniaeth amhriodol. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth fod â’r polisïau a’r gweithdrefnau diogelu diweddaraf ar waith ar gyfer atal cam-drin, esgeulustod a thriniaeth amhriodol a darparu’r gwasanaeth yn unol â’r polisïau a’r gweithdrefnau hynny. Mae hyn yn cynnwys ymateb i unrhyw honiad neu dystiolaeth o gam-drin, esgeulustod, neu driniaeth amhriodol.

Erthygl 33 (cam-drin cyffuriau)

Erthygl 33 yn dweud rhaid i lywodraethau amddiffyn plant rhag defnyddio cyffuriau yn anghyfreithlon a rhag bod yn rhan o gynhyrchu neu ddosbarthu cyffuriau.

Cynyddu neu herio

Cynyddu

Esboniad

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth fod â threfniadau ar waith i sicrhau bod meddyginiaethau’n cael eu storio a’u gweini’n ddiogel. Rhaid iddynt fod â pholisi a gweithdrefnau ar waith mewn perthynas â storio a rhoi meddyginiaethau yn ddiogel a sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’r polisi a’r gweithdrefnau.

Erthygl 34 (camfanteisio rhywiol)

Erthygl 34 yn dweud rhaid i lywodraethau amddiffyn plant rhag pob math o gam-drin a chamfanteisio rhywiol.

Cynyddu neu herio

Cynyddu

Esboniad

Mae’r rheoliadau arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaeth am unrhyw gam-drin neu honiad o gam-drin mewn perthynas ag unigolyn sy’n ymwneud â’r darparwr gwasanaeth a/neu aelod o staff a/neu wirfoddolwr. Yn ogystal, mae’r rheoliadau arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaeth am unrhyw achos o gamfanteisio rhywiol neu droseddol ar unigolyn neu amheuaeth o gamfanteisio rhywiol neu droseddol ar unigolyn.

Erthygl 24 (iechyd a gwasanaethau iechyd)

Erthygl 24 yn dweud mae hawl gan bob plentyn i’r iechyd gorau posibl. Rhaid i lywodraethau ddarparu gofal iechyd o ansawdd da, dŵr glân, bwyd maethlon, amgylchedd glân ac addysg yn ymwneud ag iechyd a llesiant er mwyn sicrhau bod plant yn gallu cadw’n iach. Rhaid i wledydd cyfoethocach helpu gwledydd tlotach i gyflawni hyn.

Cynyddu neu herio

Cynyddu

Esboniad

Mae’r rheoliadau arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau gael polisi a gweithdrefn ar waith ar gyfer derbyniadau a chychwyn y gwasanaeth, rhai i hynny ystyried unrhyw asesiadau iechyd neu asesiadau perthnasol eraill. Rhaid ystyried yr asesiadau hyn wrth baratoi’r cynllun personol. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau ar waith i unigolion allu cael gafael ar driniaeth, cyngor a gwasanaethau eraill gan unrhyw weithiwr gofal iechyd proffesiynol, a’u cefnogi i gael gafael ar wasanaethau o’r fath.

Erthygl 27 (safon byw digonol)

Erthygl 27 yn dweud mae gan bob plentyn yr hawl i safon byw sy’n ddigon da i ddiwallu ei anghenion corfforol a chymdeithasol a chynnal ei ddatblygiad. Rhaid i lywodraethau helpu teuluoedd na allant fforddio darparu hyn.

Cynyddu neu herio

Cynyddu

Esboniad

Mae’r rheoliadau arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau sicrhau bod y safle, y cyfleusterau a’r cyfarpar yn addas ar gyfer y gwasanaeth, gan ystyried y datganiad o ddiben  ar gyfer y gwasanaeth, a’u bod yn cefnogi unigolion i gyflawni eu deilliannau personol.

Erthygl 15 (rhyddid i gydgyfarfod) a Erthygl 31 (hamdden, chwarae a diwylliant)

Erthygl 15 yn dweud mae gan bob plentyn yr hawl i gyfarfod â phlant eraill ac ymaelodi â grwpiau a sefydliadau, ar yr amod nad yw hyn yn atal pobl eraill rhag mwynhau eu hawliau.

Erthygl 31 yn dweud mae gan bob plentyn yr hawl i ymlacio, chwarae a chymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau diwylliannol a chelfyddydol.

Cynyddu neu herio

Cynyddu

Esboniad

Mae’r canllawiau statudol arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i unigolion gael annibyniaeth, dewis a rheolaeth yn eu bywyd o ddydd i ddydd a gyda’u datblygiad personol. Mae hynny’n gallu cynnwys dewis y gweithgareddau maen nhw’n rhan ohonynt, datblygu a chynnal hobïau, ymuno â gweithgareddau cymunedol a gwirfoddoli.

Mae’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth ddarparu datganiad o ddiben ar adeg cofrestru’r gwasanaeth sy’n cael ei reoleiddio. Dylai ddangos bod y darparwr gwasanaeth yn deall anghenion gofal a chymorth yr unigolyn yn llawn a dangos sut, yn enwedig trwy lefelau a hyfforddiant staff, y trefniadau gofal, yr amgylchedd a chysylltiadau ag asiantaethau eraill, i hyrwyddo’r deilliannau gorau posibl i’r bobl sy’n derbyn gofal.

Erthygl 12 (parch at farn y plentyn)

Erthygl 12 yn dweud mae gan bob plentyn yr hawl i fynegi ei farn, ei deimladau a’i ddymuniadau ym mhob mater sy’n effeithio arno, a bod ei farn yn cael ei hystyried a’i chymryd o ddifri. Mae’r hawl hon yn berthnasol bob amser, er enghraifft yn ystod achosion mewnfudo, penderfyniadau tai neu fywyd cartref y plentyn o ddydd i ddydd.

Cynyddu neu herio

Cynyddu

Esboniad

Mae’r rheoliadau arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau baratoi cynllun personol ar gyfer yr unigolyn sy’n nodi ei anghenion gofal a chymorth a sut y cânt eu cefnogi er mwyn iddo gyflawni ei ddeilliannau personol. Wrth baratoi’r cynllun personol, mae’n rhaid i’r darparwr gwasanaeth ystyried barn, dymuniadau a theimladau’r unigolyn.

Erthygl 13 (rhyddid mynegiant)

Erthygl 13 yn dweud rhaid i bob plentyn fod yn rhydd i fynegi ei feddyliau a’i farn ac i gael gafael ar bob math o wybodaeth, ar yr amod nad yw’n anghyfreithlon.

Cynyddu neu herio

Cynyddu

Esboniad

Mae’r rheoliadau arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau sicrhau bod unigolion yn meddu ar yr wybodaeth angenrheidiol i wneud neu gyfranogi mewn asesiadau, cynlluniau, penderfyniadau dyddiol am y gofal a’r cymorth sy’n cael ei ddarparu, a sut maen nhw’n cael eu cefnogi i gyflawni eu deilliannau personol. Mae hyn yn cynnwys argaeledd yn yr iaith, arddull, cyflwyniad a fformat priodol.

Erthygl 42 (gwybodaeth am hawliau plant)

Erthygl 42 yn dweud rhaid i lywodraethau sicrhau bod oedolion a phlant yn gwybod am egwyddorion a darpariaeth CCUHP.

Cynyddu neu herio

Cynyddu

Esboniad

Mae’r canllawiau statudol arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau sicrhau bod gofal a chymorth yn cael eu darparu yn unol ag unrhyw asesiad a chynllun personol, yn diwallu anghenion yr unigolyn ac yn ei gefnogi i gyflawni ei ddeilliannau personol mewn perthynas â’i hawliau a’i hawlogaethau, o ran Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Cyngor i’r gweinidog a’i benderfyniad

Mae’r dadansoddiad o effeithiau’r polisi wedi cael ei ddylanwadu gan yr ymatebion i’r ymgynghoriad, yn enwedig effaith y polisi ar y plant a’r bobl ifanc sy’n defnyddio’r gwasanaeth, ac mae crynodeb wedi ei ddarparu fel rhan o’r cyngor i’r gweinidog. Mae ymateb i’r ymgynghoriad wedi’i gyhoeddi ac mae ar gael yma. Ystyriwyd yr angen am unrhyw newidiadau cyn gosod y Rheoliadau terfynol. Mae’r Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant wedi’i gynnwys fel rhan o’r cyngor i'r gweinidog.

Cyhoeddi’r asesiad o’r effaith ar hawliau plant

Cyhoeddir yr asesiad o’r effaith ar hawliau plant ar 24 Tachwedd 2023 ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cyfathrebu â phlant a phobl ifanc

Yn ystod y cyfnod ymgynghori, cynhaliwyd cyfarfod gyda’r darparwyr ysgolion arbennig preswyl presennol i gytuno ar ddull gweithredu ar sut i gefnogi’r unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth a’u rhieni i gyfrannu at yr ymgynghoriad. Cytunwyd mai’r darparwyr ysgolion arbennig preswyl presennol oedd yn y sefyllfa orau i gysylltu i alluogi’r rhieni a'r plant i gyflwyno eu hymatebion, gan ddefnyddio'r dogfennau fersiwn hawdd eu deall lle bo angen. Mae'r holl ymatebion i'r ymgynghoriad wedi llywio ein hystyriaeth o'r rheoliadau terfynol a'r canllawiau statudol.

Monitro ac adolygu

Bydd effaith y cynnig yn cael ei fonitro ar y cyd â rheolyddion y gwasanaeth a’r gweithlu.