Y Gyfarwyddiaeth Rheoleiddio Cemegion sy’n rheoleiddio plaladdwyr a bioladdwyr yng Nghymru a Lloegr.
Ei nod yw diogelu pobl a’r amgylchedd drwy gefnogi defnydd diogel o:
- fioladdwyr
- cemegion diwydiannol
- plaladdwyr
- glanedyddion
Rydym yn cydweithio â swyddogion y Gyfarwyddiaeth i lunio’r polisïau a’r canllawiau sydd eu hangen i wireddu’r nodau hyn.
Am ragor o wybodaeth am ei gwaith, ewch i’r Gyfarwyddiaeth Rheoleiddio Cemegion.