Neidio i'r prif gynnwy

Amaethyddiaeth a chefn gwlad

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC): Yn gyfrifol am reoleiddio rhai effeithiau gweithgareddau amaethyddol ar amgylcheddau aer, tir a dŵr a rheoleiddio ffermio dwys moch a dofednod.

Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru

Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru: Yn ymdrin ag anghydfodau yn ymwneud â thenantiaethau amaethyddol, draenio tir, hwsmonaeth wael, offer sefydlog, gerddi marchnad, gwelliannau hirdymor, a llosgi grug neu laswellt.

Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion

Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion: Yn gyfrifol am ddiogelu iechyd anifeiliaid a phlanhigion er budd pobl, yr economi a’r amgylchedd.

Cadw

Cadw: Yn gyfrifol am ddarparu cyfeiriad ar gyfer diogelu a rheoli’n gynaliadwy amgylchedd hanesyddol Cymru; yn dynodi asedau hanesyddol o bwysigrwydd cenedlaethol ac yn penderfynu ar ganiatadau henebion cofrestredig. Caiff caniatadau adeilad rhestredig a cheisiadau cynllunio sy’n effeithio ar asedau hanesyddol a’u lleoliadau eu rheoli gan awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru.

Llywodraeth Cymru

Llywodraeth Cymru: Yn chwarae rhan mewn amddiffyn tir llednaturiol rhag gweithgareddau amaethyddol andwyol drwy Reoliadau Asesu’r Effaith Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2017. Gweinidogion Cymru sy’n gyfrifol am reoleiddio’r broses o ryddhau organeddau a addaswyd yn enetig (GMOs) i’r amgylchedd yn fwriadol. Maent hefyd yn gyfrifol am awdurdodi a thrwyddedu treialon maes o GMOs arbrofol a thyfu a marchnata GMOs yn fasnachol yng Nghymru.

Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch: Yn gyfrifol am reoleiddio plaleiddiaid er mwyn sicrhau nad yw eu defnydd yn effeithio’n andwyol ar iechyd pobl na’r amgylchedd, trwy awdurdodi cynhyrchion a’r sylweddau gweithredol ynddynt a thrwy fonitro a gorfodi eu marchnata a’u defnydd. Hefyd yn gyfrifol am reoleiddio gwaith gydag organebau a addaswyd yn enetig (GMO) mewn cyfleusterau defnydd amgaeedig (e.e. labordai ymchwil neu gynhyrchu biotechnoleg).

Awdurdodau Parciau Cenedlaethol – Bannau Brycheiniog, Arfordir Penfro ac Eryri

Awdurdodau Parciau Cenedlaethol – Bannau Brycheiniog, Arfordir Penfro ac Eryri: Mae gan y cyrff hyn rôl reoleiddiol oddi mewn i ffiniau’r parciau gan gynnwys yn eu rôl Awdurdod Cynllunio Lleol.

Yr Heddlu

Yr Heddlu: Atal ac ymchwilio i droseddau bywyd gwyllt dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a Deddf Gwarchod Moch Daear 1992.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Corff annibynnol sy’n ystyried cwynion gan unigolion sydd wedi dioddef anghyfiawnder personol oherwydd camweinyddu mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Aer, sŵn, arogl a dirgryniant, diwydiant

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC): Yn gyfrifol am reoleiddio cyfleusterau diwydiannol (er enghraifft, dur, gweithgynhyrchu cemegau, bwyd a diod,sment a hylosgi) er mwyn lleihau eu heffaith ar aer, dŵr a thir trwy sicrhau eu bod yn cydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol perthnasol.

Awdurdodau Lleol

Yn gyfrifol am ddeddfwriaeth iechyd yr amgylchedd, gan gynnwys rheoli llygredd, sŵn a mathau eraill o niwsans statudol i ddiogelu a gwella iechyd y cyhoedd a’r amgylchedd.

Swyddfa Diogelwch Cynnyrch a Safonau

Swyddfa Diogelwch Cynnyrch a Safonau: Yn gorfodi rheoliadau sy’n ymwneud â metelau trwm, gofynion marcio ar gyfer cydrannau rwber a phlastig, offer lleihau sŵn ac ati.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Corff annibynnol sy’n ystyried cwynion gan unigolion sydd wedi dioddef anghyfiawnder personol oherwydd camweinyddu mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Bioamrywiaeth a rhywogaethau

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC): Yn gyfrifol am ystod o gyfundrefnau rheoleiddio mewn perthynas â bioamrywiaeth a rhywogaethau, gan gynnwys o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981; Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017; Gorchymyn Rhywogaethau Estron Goresgynnol (Gorfodi a Thrwyddedu) 2020; a rheoliadau penodol ar gyfer rhywogaethau unigol (er enghraifft, moch daear, ceirw, morloi, ac ati).

Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion

Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion: Yn rheoli a monitro clefydau endemig ac egsotig mewn anifeiliaid a phlanhigion; yn rheoleiddio’r fasnach ryngwladol mewn cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid a phlanhigion; ac yn diogelu rhywogaethau sydd mewn perygl trwy drwyddedu a chofrestru.

Awdurdodau Parciau Cenedlaethol – Bannau Brycheiniog, Arfordir Penfro ac Eryri

Awdurdodau Parciau Cenedlaethol – Bannau Brycheiniog, Arfordir Penfro ac Eryri: Mae gan y cyrff hyn rôl reoleiddiol oddi mewn i ffiniau’r parciau gan gynnwys yn eu rôl Awdurdod Cynllunio Lleol.

Yr Heddlu

Yr Heddlu: Yn chwarae rhan arweiniol wrth atal ac ymchwilio i droseddau bywyd gwyllt. Er enghraifft, Deddf Mamaliaid Gwyllt (Amddiffyn) 1996, a’r Confensiwn ar y Fasnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau Mewn Perygl (CITES).

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Corff annibynnol sy’n ystyried cwynion gan unigolion sydd wedi dioddef anghyfiawnder personol oherwydd camweinyddu mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Pysgodfeydd

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)

Pysgodfeydd

Mae gan CNC ddyletswydd dan adran 6(6) Deddf yr Amgylchedd 1995 i “gynnal, gwella a datblygu pysgodfeydd eogiaid, brithyllod, llysywod, lampreiod, smelt a physgod dŵr croyw”. Mae hyn yn cynnwys gosod is-ddeddfau i reoleiddio genweirio (pysgota â gwialen) a gwerthu trwyddedau pysgota â gwialen, rheoleiddio a thrwyddedu pysgota â rhwydi, hwyluso a rheoleiddio symudiad rhydd pysgod mudol a llyswennod a rheoli symudiad a chyflwyno pysgod i ddyfroedd mewndirol.

Cocos

Mae CNC yn grantî 2 Orchymyn Rheoleiddio Cocos sy’n cwmpasu Cilfach Tywyn (yn gyfan gwbl yng Nghymru) ac Aber Afon Dyfrdwy (sy’n croesi’r ffin â Lloegr lle mae CNC yn grantïon ar y cyd ag Asiantaeth yr Amgylchedd ond lle mae CNC yn arwain). Mae’r rhain yn cyfyngu ar gasglu cocos ac yn caniatáu mesurau rheoli ychwanegol. Mae cyfyngiad amser ar y Gorchmynion hyn gyda Gorchymyn Rheoleiddio Cocos Cilfach Tywyn yn dod i ben yn 2025 a Gorchymyn Rheoleiddio Cocos Aber Afon Dyfrdwy yn dod i ben yn 2028.

Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion

Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion: Yn chwarae rhan mewn sicrhau bod gan bobl ymddiriedaeth yn y ffordd y mae eu bwyd yn cael ei gynhyrchu.

Arolygiaeth Iechyd Pysgod

Arolygiaeth Iechyd Pysgod: Yn gyfrifol am atal cyflwyno a lledaenu clefydau difrifol mewn pysgod, pysgod cregyn a chramenogion.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Corff annibynnol sy’n ystyried cwynion gan unigolion sydd wedi dioddef anghyfiawnder personol oherwydd camweinyddu mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Coetir a choed

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC): Cyhoeddi trwyddedau ar gyfer plannu a thorri coed a chaniatâd mewn perthynas ag Asesiad Effaith Amgylcheddol ar gyfer gweithgarwch coedwigaeth.

Awdurdodau Lleol

Meddu ar y pŵer i ddiogelu coed trwy orchmynion cadw coed, yn ogystal â gorfodi deddfwriaeth gwrychoedd uchel. Hefyd yn gyfrifol am rai coetiroedd lleol.

Awdurdodau Parciau Cenedlaethol – Bannau Brycheiniog,Arfordir Penfro ac Eryri

Awdurdodau Parciau Cenedlaethol – Bannau Brycheiniog, Arfordir Penfro ac Eryri: Mae gan y cyrff hyn rôl reoleiddiol oddi mewn i ffiniau’r parciau gan gynnwys yn eu rôl Awdurdod Cynllunio Lleol.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Corff annibynnol sy’n ystyried cwynion gan unigolion sydd wedi dioddef anghyfiawnder personol oherwydd camweinyddu mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Niwclear

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC): Yn gyfrifol am reoleiddio’r diwydiant niwclear ar faterion amgylcheddol megis gwaredu a gollwng gwastraff ymbelydrol, gollwng dŵr oeri a gweithredu generaduron wrth gefn.

Swyddfa dros Reoleiddio Niwclear

Swyddfa dros Reoleiddio Niwclear: Rheoleiddiwr niwclear annibynnol y DU ar gyfer diogelwch, diogeledd a mesurau diogelu. Ar hyn o bryd mae’n rheoleiddio 35 o safleoedd niwclear trwyddedig ar draws Prydain Fawr. Yng Nghymru, mae’r ONR yn gyfrifol am reoleiddio’r gweithgareddau datgomisiynu ar safleoedd Trawsfynydd ac Wylfa. Mae’r ONR hefyd yn gyfrifol am reoleiddio cludo deunyddiau niwclear.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Corff annibynnol sy’n ystyried cwynion gan unigolion sydd wedi dioddef anghyfiawnder personol oherwydd camweinyddu mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Rheoli gwastraff a chemegau

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)

Rheoli Gwastraff

Yn gyfrifol am reoleiddio storio, trin, adennill, ailgylchu a gwaredu gwastraff.

Cemegau

Awdurdod cymwys yng Nghymru ar gyfer y Rheoliadau Deuffenylau Polyclorinedig (PCB), Mercwri a Llygryddion Organig Parhaus (POPs) ac awdurdod gorfodi ar gyfer rhai agweddau ar y rheoliadau Cofrestru, Gwerthuso, Awdurdodi a Chyfyngu ar Gemegau (REACH).

Yr Awdurdod Glo

Yr Awdurdod Glo: Yn rheoli effeithiau gweithgareddau mwyngloddio glo yn y gorffennol, gan gynnwys materion diogelwch ac ymsuddiant a llygredd dŵr.

Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch: Asiantaeth cemegau a phlaladdwyr ar gyfer Prydain Fawr yn dilyn ymadael â’r UE (gan gynnwys Cofrestru, Gwerthuso, Awdurdodi a Chyfyngu Cemegau (REACH), Dosbarthu, Labelu a Phecynnu (CLP), Cynhyrchion Diogelu Planhigion (PPP) a Bioleiddiaid). Yn gyfrifol am Reoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr (COMAH) er mwyn sicrhau bod pob busnes yn cymryd camau i atal damweiniau sy’n cynnwys sylweddau peryglus.

Awdurdodau Lleol

Yn gyfrifol am gadw tir cyhoeddus yn glir o wastraff a sbwriel. Yn delio â thipio anghyfreithlon, yn ogystal â mân droseddau (baw cŵn, taflu sbwriel, ac ati).

Swyddfa Diogelwch Cynnyrch a Safonau

Swyddfa Diogelwch Cynnyrch a Safonau: Yn rheoleiddio batris cludadwy gwastraff a phrosesau cymryd Offer Trydanol ac Electronig Gwastraff (WEEE) yn ôl - gan sicrhau cydymffurfiaeth y dosbarthwyr. Gofynion cronfa ddata pecynnu Gwastraff Cenedlaethol ar gyfer cynhyrchwyr batris modurol a diwydiannol. Mae hefyd yn cynnwys rheoliadau ynghylch cerbydau diwedd oes (ELV).

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Corff annibynnol sy’n ystyried cwynion gan unigolion sydd wedi dioddef anghyfiawnder personol oherwydd camweinyddu mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Dŵr a morol

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)

Dŵr

Yn gyfrifol am gynllunio dŵr a gweithio gydag eraill i sicrhau bod ansawdd dŵr yn cael ei ddiogelu a’i wella; sicrhau defnydd priodol o adnoddau dŵr yng Nghymru a bod digon o ddŵr o ansawdd da ar gyfer pob angen; rheoleiddio gollyngiadau i ddŵr (dŵr wyneb a dŵr daear), yn ogystal â thynnu dŵr a chroniadau dŵr.

Morol

Yn gyfrifol am weinyddu trwyddedau morol ar ran Gweinidogion Cymru o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir a Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru.

Awdurdod Harbwr Caerdydd

Awdurdod Harbwr Caerdydd: Yn gyfrifol am reoli holl agweddau amgylcheddol Bae Caerdydd, gan gynnwys ansawdd dŵr a monitro dŵr daear mewn ardaloedd dynodedig.

Yr Awdurdod Glo

Yr Awdurdod Glo: Yn rheoli effeithiau gweithgareddau mwyngloddio glo yn y gorffennol, gan gynnwys materion diogelwch ac ymsuddiant a llygredd dŵr.

Arolygiaeth Dwr Yfed

Arolygiaeth Dwr Yfed: Rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer ansawdd dŵr yfed cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr.

Awdurdodau Parciau Cenedlaethol – Bannau Brycheiniog, Arfordir Penfro ac Eryri

Awdurdodau Parciau Cenedlaethol – Bannau Brycheiniog, Arfordir Penfro ac Eryri: Mae gan y cyrff hyn rôl reoleiddiol oddi mewn i ffiniau’r parciau gan gynnwys yn eu rôl Awdurdod Cynllunio Lleol.

Ofwat

Ofwat: Rheoleiddiwr economaidd sy’n gyfrifol am sicrhau bod cwmnïau dŵr yn ariannu ac yn cyflawni eu swyddogaethau statudol yn briodol. Fodd bynnag, yng Nghymru, CNC sy’n bennaf gyfrifol am reoleiddio amgylcheddol.