Perchenogion a deiliaid tir sy’n gyfrifol am atal 5 chwyn niweidiol rhag ymledu fel nad ydynt yn achosi anaf:
- llysiau’r gingroen
- tafolen grech
- dail tafol
- marchysgallen
- ysgallen y maes
Y rheini yw’r chwyn a nodir yn Neddf Chwyn 1959.
Os nad yw perchenogion a deiliaid tir yn rheoli chwyn niweidiol, efallai y byddwn yn cymryd camau sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt atal y chwyn rhag ymledu. Os ydych chi'n poeni am pla o unrhyw un o'r chwyn hyn efallai y byddwch yn gwneud cwyn gan ddefnyddio'r Chwyn niweidiol: ffurflen gwyno.
Rhoddir gwybod amlaf am lysiau’r gingroen. Mae’r cod ymarfer ar lysiau’r gingroen yn cynnwys cyngor i berchenogion a deiliaid tir er mwyn helpu i atal llysiau’r gingroen rhag ymledu.