Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r cynllun newydd hwn wedi’i greu ar y cyd â’r adrannau llifogydd a materion gwledig i gefnogi economi cefn gwlad a’r newid i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Mae’r Rhaglen Lywodraethu’n nodi’n hymrwymiad i barhau i helpu ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy ac i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a helpu i wrthdroi’r dirywiad yn ein bioamrywiaeth.

Bydd ffermwyr, rheolwyr tir a’r sectorau gwledig cysylltiedig yn cael eu cymorth ariannol dros y 2 flynedd nesaf trwy fframwaith cymorth hyblyg, gyda chynlluniau’n gwireddu’r themâu canlynol:

  • Rheoli tir ar raddfa fferm
  • Gwelliannau amgylcheddol ar y fferm
  • Effeithiolrwydd ac arallgyfeirio ar y fferm
  • Rheoli tir ar raddfa’r dirwedd
  • Coetiroedd a choedwigaeth
  • Cadwyni cyflenwi bwyd a ffermio

Un o raglenni’r fframwaith yw’r Rhaglen Sbarduno Rheoli Llifogydd yn Naturiol, sydd ar gael i awdurdodau rheoli risg ymgeisio iddi ac sy’n cefnogi llawer o’r themâu hyn.

Bwriad y fframwaith yw cefnogi’r ymateb i’r heriau a’r cyfleoedd a ddaw dros y 2 flynedd nesaf a’n helpu i barhau i ddatblygu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy fydd yn gwobrwyo ffermwyr am y gwaith y maen nhw’n ei wneud nawr i leihau eu hôl troed carbon, i wella’r amgylchedd ac i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy.

Ceir rhagor o wybodaeth am y themâu a’r cynlluniau sy’n cael eu datblygu yn busnescymru.llyw.cymru/rhwydwaithgwledigcymru

Cyflwyniad: Rhaglen Sbarduno Rheoli Llifogydd yn Naturiol

Mae Llywodraeth Cymru’n annog Awdurdodau Rheoli Risg (RMAs) i Reoli Llifogydd yn Naturiol. I’r perwyl hwnnw, mae’r Canllaw Achos Busnes ar gyfer Rheoli Peryglon Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn ei gwneud yn orfodol iddynt ystyried dulliau Rheoli Llifogydd yn Naturiol (NFM) wrth baratoi pob cynllun.

Yn eu Rhaglen Lywodraethu ar gyfer y tymor hwn, mae Gweinidogion wedi ymrwymo i:

  • Rheoli llifogydd mewn modd sy’n seiliedig ar natur ym mhob dalgylch afon mawr i ehangu cynefinoedd gwlyptiroedd a choetiroedd.

I gefnogi’r ymrwymiad hwn ac yn dilyn Rhaglen NFM lwyddiannus 2020-2023, rydym am barhau i ddysgu am Reoli Llifogydd yn Naturiol ac rydym wedi cael cyfle i weithio â Chynlluniau Buddsoddi Gwledig i gefnogi’r gwaith hwn am 2 flynedd arall. Nod y rhaglen newydd hon yw sbarduno prosiectau sy’n defnyddio dulliau naturiol i leihau’r peryglon sy’n gysylltiedig â llifogydd neu erydu arfordirol. Bydd y canlyniadau a ddaw o’r rhaglen hon yn cael eu defnyddio hefyd i ddatblygu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Wrth i ni barhau i werthuso’r rhaglen NFM gynharach ac aros am ganlyniadau’r ymchwil sy’n cael ei chynnal gan JBA Consulting y mae llawer o awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod ynghlwm â hi, rydym am barhau i gefnogi cynlluniau.

Byddwn yn sbarduno Rheoli Llifogydd yn Naturiol ymhellach trwy barhau i gynnig cyllid llawn ar gyfer cynlluniau sy’n rhan o’r rhaglen NFM hon a fydd yn cynnwys arfarnu, dylunio, adeiladu ac offer monitro. Nid yw’r cymorth ariannol yn cynnwys help â chostau cynnal a chadw na monitro. Ni fydd gofyn i RMAs gyfrannu at gostau cynnal cynlluniau NFM na rhannau NFM mewn cynlluniau “hybrid”.  Ond maen nhw’n cael neilltuo arian ychwanegol i sicrhau manteision ychwanegol neu ofyn i drydydd partïon sydd am gyfrannu am gymorth ychwanegol.

Mae’r Canllawiau hyn yn esbonio’r Rhaglen Sbarduno Rheoli Llifogydd yn Naturiol a’r mathau o brosiectau y gallwn dalu grantiau iddynt. Darllenwch nhw’n ofalus. Bydd y rhaglen yn para 2 flynedd o Ebrill 2023 i Fawrth 2025.

Pwy sy’n gymwys

Fel gyda grant craidd Rheoli Peryglon Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCERM) Llywodraeth Cymru, dim ond Awdurdodau Rheoli Risgiau sy’n gweithredu yng Nghymru sy’n gymwys am help y Rhaglen Sbarduno NFM.  Ond byddem yn annog RMAs i weithio gyda phartneriaid eraill a meysydd ariannu traws-bolisi er mwyn cael arian ychwanegol i gefnogi prosiectau ac i sicrhau mwy o fuddion mewn dalgylchoedd. Gallai’r rheini gynnwys Awdurdodau Lleol neu CNC i ariannu trydydd partïon i wneud gwaith ar eu rhan, gyda’r RMA yn ymgeisio am a hawlio grant oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Yn unol â'n polisi cyllido a ddisgrifir yn y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol, rhaid i bob prosiect NFM leihau'r risg i bobl ac eiddo neu gynnal y lefelau amddiffyn presennol. Mae hynny’n gyson â grant craidd FCERM. Mae angen i waith ddod â budd economaidd a bodloni'r holl ofynion statudol angenrheidiol.

Er mwyn gallu arfarnu cynlluniau NFM yn barhaus, rhaid i bob prosiect gynnwys elfen fonitro ar ôl adeiladu’r cynllun i’w hariannu trwy'r grantiau refeniw presennol.

Rydym yn cydnabod nad ar chwarae bach y mae mesur y manteision a ddaw o gynnal cynlluniau NFM ac rydym wrthi'n chwilio am ffyrdd arloesol o fonitro a chofnodi allbynnau a manteision. Rydym yn derbyn y gallai peth monitro fod yn seiliedig ar dystiolaeth anecdotaidd, o bosibl gyda chefnogaeth cymunedau neu'r byd academaidd, a dylech nodi hynny yn eich cais. Mae Llywodraeth Cymru'n cadw'r hawl i wrthod cynlluniau y mae’n teimlo nad ydynt yn rhoi gwerth am arian. Dylech nodi yn eich cais y manteision ehangach rydych yn eu disgwyl, er mwyn iddynt gael eu hystyried a chefnogi'r cais. Gan fod y rhaglen hon yn cael ei rhedeg ar y cyd â'r RIS, bydd disgwyl i RMAs adrodd cynnydd ar sail y manteision ehangach hyn wrth i gynlluniau fynd yn eu blaen.

Gwahoddir RMAs i wneud cais ar gyfer cynlluniau sy’n werth hyd at £300,000 ar y ceisiadau NFM newydd ar RPW Ar-lein. Mae cynlluniau uwch eu gwerth yn gymwys ond dylid eu trafod yn gyntaf â’r tîm FCERM i weld a fyddai Cyfiawnhad Busnes neu Achos Busnes Llawn yn fwy priodol. 

Bydd y rhaglen yn cael ei threfnu fel y Grant Gwaith Graddfa Fach gydag awdurdodau lleol yn cael cynnal mwy nag un cynllun, ond rhaid cyflwyno cais gwahanol ar gyfer pob un. Rhaid cwblhau pob cynllun a chyflwyno’i hawliad olaf erbyn Mawrth 2025.

Gwaith nad yw’n gymwys am grant

Blaenoriaeth FCERM o hyd yw perygl i fywyd a dylai pob cynllun hefyd leihau'r risg i eiddo. Ond gallai lleihau’r risg i wasanaethau neu gyfleustodau eraill, er enghraifft, ffyrdd, rheilffyrdd neu amaethyddiaeth fod yn fantais ychwanegol. Ni fydd cynlluniau sy'n lleihau’r risg i dir amaethyddol, ffyrdd neu isadeiledd arall yn unig yn gymwys.

Y broses ymgeisio

Dylech gyflwyno ceisiadau i raglen sbarduno NFM gan ddefnyddio'r ffurflen newydd ar RPW ar-lein ar gyfer cynlluniau gwerth hyd at £300,000. Gall cynllun sy’n werth mwy na £300,000 fod yn gymwys os gall ddod â manteision mwy, ond trafodwch â FCERM Llywodraeth Cymru yn gyntaf i weld a ellid ei ystyried yn eithriad.

Rydym yn annog cydweithio â phartneriaid ac ar draws yr RMA. Gall cynllun dalgylch gynnwys sawl prosiect syn dod â budd i fwy nag un RMA a/neu nifer o drydydd partïon.  Bryd hynny, dylai'r cais gael ei wneud gan un o'r RMAs hynny a fydd yn gweithredu fel y sawl sy’n derbyn y grant.

Dim ond am 2 flwyddyn ariannol y cytunir ar y cyllid hwn drwy'r RIS, felly dylid bwrw ymlaen yn gyflym â'r cynllun i’w gwblhau erbyn mis Mawrth 2025. Dylid ystyried hyn wrth lenwi ceisiadau, yn enwedig ar gyfer cynigion sy'n ymwneud â gwaith o fewn cyrsiau dŵr.  Os bydd oedi ac na fydd modd cwblhau cynllun mewn pryd, gallech golli’r cyllid, ac nid oes sicrwydd y bydd cyllid ar gael ar gyfer eich cynllun mewn blynyddoedd i ddod.

Mae cyllid RIS yn gyllid blynyddol ac efallai na fydd modd trosglwyddo cyllid rhwng blynyddoedd. Gofynnir i’r RMA ragweld ei wariant blynyddol fel rhan o'r cais a cheisio cadw ato. Dylid trafod newidiadau yn y rhagolwg sy’n arwain at symud arian rhwng blynyddoedd â Changen Llifogydd Llywodraeth Cymru cyn gynted â phosib er mwyn gallu rheoli cyllidebau.

Mae cyfyngiadau cyllidebol llym yn golygu na chewch newid contract o dan y rhaglen hon. 

Gall gwaith a ariennir gan y grant sicrhau manteision eraill yn ogystal â rheoli perygl llifogydd, a dylid eu hystyried yn rhan o'r broses ymgeisio.  Er bod y manteision ecolegol ehangach a ddaw trwy brosiectau NFM wedi'u hen amlygu, dylai ceisiadau gynnwys crynodeb byr o'r manteision penodol sy'n gysylltiedig â'r cynllun dan sylw. Gall manteision ehangach gynnwys:

  • Ansawdd dŵr
  • Cydweithio â grwpiau cymunedol lleol a’r trydydd sector;
  • Codi ymwybyddiaeth/addysg trwy gydweithio â thrigolion ac ysgolion;
  • Cefnogi busnesau lleol;
  • Gwella bioamrywiaeth;
  • Gwella’r amwynderau sy’n gysylltiedig â’r prosiect NFM;
  • Defnyddio contractwyr lleol i wneud y gwaith a datblygu sgiliau.

Gofynnir i dimau prosiectau adrodd yn benodol ar Amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy Llywodraeth Cymru, pan fydd gofyn.  Dylid eu cynnwys yn y ceisiadau ac maent wedi’u rhestru yn y bil amaeth drafft ac isod:

  • Cynhyrchu bwyd a nwyddau eraill mewn ffordd gynaliadwy;
  • Lliniaru’r newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo;
  • Cynnal ecosystemau a’u gwneud yn fwy cydnerth, a chynnal a gwella’u buddion;
  • Diogelu a gwella adnoddau gwledig a diwylliannol a hyrwyddo cyfleoedd y cyhoedd i’w defnyddio ac ymwneud â nhw, a chynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso’r defnydd ohoni.

Mae'n rhaid i bob corff cyhoeddus gydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.  Mae'n hanfodol felly bod awdurdodau lleol yn ystyried sut mae'r gwaith arfaethedig yn cyfrannu at y nodau llesiant a'r egwyddorion datblygu cynaliadwy a rhoi tystiolaeth o hynny yn eu ceisiadau. Disgrifiwch enghreifftiau penodol ar y ffurflen gais sut y bydd y gwaith arfaethedig yn cyfrannu at y nodau llesiant yn hytrach na’u rhestru yn unig. 

Dewis a blaenoriaethu’r cynlluniau

Bydd y gwaith o flaenoriaethu prosiectau ar gyfer eu cyllido yn seiliedig ar y manteision y byddan nhw’n eu darparu, a chyllidir cymaint o gynlluniau ag y bydd y gyllideb yn ei ganiatáu. Mae cyllideb ddangosol o £5 miliwn ar gael dros y rhaglen 2 flynedd.

Os bydd gormod o arian wedi’i neilltuo, dewisir prosiectau ar sail cost fesul eiddo ac ystyrir hefyd y ffactorau canlynol:

  • Tystiolaeth o lifogydd go iawn neu lifogydd a fu bron â digwydd
  • Sawl eiddo fydd yn elwa
  • Amcangyfrif o’r gost fesul eiddo
  • Manteision ehangach
  • Cyfleoedd dysgu a monitro
  • Cydweithio â phartneriaid
  • Y gallu i ddarparu yn y cyfnod o 2 flynedd

Rhaid i gynlluniau ddangos gwerth da am arian cyhoeddus, felly os bydd cost cynllun yn fwy na £500,00 fesul eiddo neu os bydd llai na dau eiddo yn elwa, ni fydd yn debygol o gael ei flaenoriaethu.

Amserlen

  • Bydd y cais ar gael ar RPW Ar-lein o 11 Ebrill 2023 a rhaid ei gyflwyno erbyn 05 Mai 2023.
  • Caiff contractau eu rhoi trwy RPW Ar-lein cyn gynted â phosibl ar ôl y dyddiad cau.

Tystiolaeth i gefnogi’r cais

Bydd darparu tystiolaeth gyda’r cais yn helpu’r broses asesu. Rhaid cyflwyno’r dystiolaeth gyda’r ffurflenni cais (os yn gymwys):

  • Mapiau’n dangos lleoliad y gwaith sy’n cael ei gynnig
  • Mapiau llifogydd, yn dangos risgiau
  • Cyfeiriad at Strategaethau Perygl Llifogydd Lleol yn ôl y gofyn.

Hawlio

Bydd cyfle i hawlio bob 6 mis, yn ystod Chwarter 2 a Chwarter 4 o’r Rhaglen FCERM safonol. Rhaid cyflwyno hawliadau trwy RPA Ar-lein gan ddefnyddio’r Grant Rheoli Llifogydd yn Naturiol erbyn y dyddiadau canlynol:

Terfynau amser

 

Gweithgaredd o Gweithgaredd i Cyfnod Hawlio CAPIT

Hawliad interim 1 (Bl 1) ac adroddiad cynnydd

1 Ebrill 2023

31 Awst 2023

1-16 Medi 2023

Hawliad interim 2 (Bl1) ac adroddiad cynnydd

1 Medi 2023

31 Mawrth 2024

1-16 Mawrth 2024

Hawliad interim 3 (Bl 2) ac adroddiad cynnydd

1 Ebrill 2024

31 Awst 2023

1-16 Medi 2024

Hawliad terfynol, adroddiad ac anfonebau

1 Medi 2024

16 Mawrth 2025

1-16 Mawrth 2025

Mae cyllid RIS yn gyllid blynyddol ac efallai na fydd modd trosglwyddo cyllid rhwng blynyddoedd. Gofynnir i’r RMA ragweld ei wariant blynyddol fel rhan o'r cais a cheisio cadw ato. Dylid trafod newidiadau yn y rhagolwg sy’n arwain at symud arian rhwng blynyddoedd â Changen Llifogydd Llywodraeth Cymru cyn gynted â phosib er mwyn gallu rheoli cyllidebau.

Mae cyfyngiadau cyllidebol llym yn golygu na chewch newid contract o dan y rhaglen hon. 

Brandio

Lle bo’n gymwys, dylai unrhyw waith sy’n cael ei ariannu trwy grantiau Llywodraeth Cymru gael ei frandio a dangos logo Llywodraeth Cymru. Mae costau sy’n gysylltiedig â brandio yn gymwys am grant. Rydym yn eich annog i osod byrddau gwybodaeth a gwneud gwaith maes cymunedol yn ogystal â’r prosiectau, a bydd y broses flaenoriaethu’n eu hystyried.

Cewch ragor o wybodaeth gan Dîm Brandio Llywodraeth Cymru: BrandingQueries@gov.wales.

 

Arweiniad

Cewch gyngor ar Weithio gyda Phrosesau Naturiol a Mapiau Cyfle Rheoli Llifogydd yn Naturiol ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru: Cyfoeth Naturiol Cymru / Mapiau ar gyfer Rheoli Llifogydd yn Naturiol (naturalresourceswales.gov.uk)

Mae Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban hefyd wedi datblygu cyngor defnyddiol ar Reoli Llifogydd yn Naturiol: Llawlyfr Rheoli Llifogydd Naturiol

Cwestiynau

Am gwestiynau am unrhyw rai o grantiau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu’r Arfordir, cysylltwch â Changen Llifogydd Llywodraeth Cymru yn FloodCoastalRisk@gov.wales 

Hysbysiad Preifatrwydd: Grantiau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu’r Arfordir Llywodraeth Cymru

Cyflwyniad/Cefndir

Mae Llywodraeth Cymru’n darparu grantiau i awdurdodau rheoli perygl llifogydd i leihau’r risg o lifogydd a/neu erydu ar yr arfordir.  Er mwyn gallu rheoli, gweinyddu a dyfarnu’r grantiau hynny, bydd angen i ni brosesu data personol amdanoch chi a’ch sefydliad. Cyn rhoi grant i chi a thros dymor y grant, gallwn gynnal archwiliadau i atal twyll a gwyngalchu arian, ac i gadarnhau pwy ydych chi.

Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu?

Llywodraeth Cymru fydd Rheolydd y data personol y byddwch yn eu rhoi i ni wrth wneud cais am grant neu wrth ofyn am arian y grant. Rhaid i ni brosesu’ch data yn unol â’n tasg gyhoeddus ac â’r awdurdod swyddogol sydd wedi’i roi i ni i roi cymorth ariannol ar ffurf grant i gefnogi amcanion y gweinidogion, i atal twyll a gwyngalchu arian, ac i gadarnhau pwy ydych hi. Mae prosesu o’r fath yn ofyn hefyd pan fyddwch yn gofyn am arian y grant a bydd yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys am y grant.

Pa wybodaeth bersonol byddwn ni’n ei phrosesu?

Er mwyn i ni allu prosesu’ch grant, bydd angen yr wybodaeth bersonol ganlynol amdanoch:

  • enw
  • cyfeiriad eich swyddfa a hanes cyfeiriad eich swyddfa
  • manylion cysylltu â’ch sefydliad megis cyfeiriad e-bost a rhifau ffôn
  • manylion sefydliad trydydd parti

Pam mae angen prosesu’ch data personol?

Mae Llywodraeth Cymru’n defnyddio’r wybodaeth i’ch cadw fel pwynt cyswllt i weinyddu’ch cais am grant.  Hefyd, gallwn ni ac asiantaethau atal twyll, ddefnyddio’r wybodaeth hon, gan gynnwys eich data personol, i atal twyll a gwyngalchu arian, ac i gadarnhau pwy ydych chi. Gallwn ni ac asiantaethau atal twyll ganiatáu i asiantaethau gorfodi’r gyfraith weld a defnyddio’ch data personol i ymchwilio i drosedd, ei datrys a’i hatal.

Am faint y byddwn ni’n cadw’ch gwybodaeth bersonol?

Bydd Llywodraeth Cymru’n cadw’ch gwybodaeth bersonol am saith i ddeng mlynedd gan ddibynnu ar natur y grant ar ôl cwblhau’ch grant, hynny yn unol â’r polisi ar gadw data. Caiff asiantaethau atal twyll gadw’ch data personol am gyfnodau gwahanol o amser, gan ddibynnu ar sut y caiff y data eu defnyddio. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth. Os bernir eich bod yn risg o ran twyll neu wyngalchu arian, gallai asiantaethau atal twyll gadw’ch data am hyd at 6 mlynedd ar ôl eu derbyn.

A fyddwn yn rhannu’ch gwybodaeth bersonol?

Gallai Llywodraeth Cymru rannu’ch gwybodaeth ag asiantaethau atal twyll os bydd yn amau twyll neu’n darganfod twyll. Cawn ond rhannu gwybodaeth berthnasol at ddiben cyhoeddusrwydd neu i gynnal arfarniadau ar ôl cwblhau’r cynllun. Mae’n bosib y bydd gweinyddwyr RPW Ar-lein yn cael gweld eich gwybodaeth bersonol ar gyfer monitro a rheoli’r platfform.

Eich hawliau

O dan y gyfraith diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:

  • i weld copi o’ch data personol;
  • i fynnu ein bod yn cywiro unrhyw beth anghywir yn y data hyn;
  • i wrthwynebu (o dan amgylchiadau penodol) prosesu’ch data neu gyfyngu ar eu prosesu;
  • i ofyn (o dan amgylchiadau penodol) inni ddileu’ch data;
  • i gofrestru cwyn yn Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

Dyma fanylion Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Customer Contact
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 or 0303 123 1113

Gwefan: www.ico.org.uk

Os oes gennych gwestiynau am yr hysbysiad preifatrwydd hwn neu am sut mae Llywodraeth Cymru’n delio â gwybodaeth bersonol, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data,

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

E-bost: dataprotectionofficer@gov.wales