Neidio i'r prif gynnwy

2. Llawr

Mae'n debygol y bydd llawr presennol y garej yn ddigon cryf ar gyfer defnydd domestig cyffredinol, ond efallai y bydd angen ei uwchraddio i sicrhau ei fod yn ddigonol o ran atal lleithder ac inswleiddio thermol.  Yn ogystal, efallai y byddai'n ddymunol newid lefel y llawr fel ei bod yn cyd-fynd â lefelau'r cartref sy'n bodoli eisoes.

Y ffordd symlaf o wneud hynny fyddai uwchraddio'r llawr concrit presennol.  Fel arall, os bydd lefelau'n caniatáu, gellid adeiladu llawr pren newydd dros y llawr concrit presennol.

Llawr solet

Gellir defnyddio'r llawr concrit presennol yn sylfaen, ond bydd angen ychwanegu croen atal lleithder newydd ato.  Gellir cael croen o'r fath ar ffurf solet neu ar ffurf hylif, a'r un ar ffurf hylif fyddai'r ateb ymarferol wrth addasu garej.  Bydd gwneuthurwyr yn gallu rhoi cyngor ichi.  Rhaid darparu croen atal lleithder o drwch addas ynghyd â deunydd inswleiddio thermol. Gellir gosod y rhain dros y tywod llenwi neu ar ben y concrit.

Efallai y bydd angen deunydd inswleiddio thermol, a gellir ei roi ar ben y croen (os defnyddir croen ar ffurf hylif, dylid cymryd camau i sicrhau nad yw'r ddau ddeunydd yn adweithio â'i gilydd – efallai y bydd angen haen wahanu rhyngddynt).  Bydd yr union fanylion yn amrywio'n dibynnu ar y cynnyrch a ddefnyddir.

Gellir gorffen y llawr â haen o forter llyfn neu orchudd pren nad yw'n sownd wrth y llawr oddi tano, a bydd ei union fanylion yn dibynnu ar y deunydd inswleiddio a ddefnyddir oddi tano.  Mae'n debygol y bydd angen i'r haen o forter llyfn fod yn oddeutu 75mm o drwch, a dylai gynnwys rhwyll atgyfnerthu i atal y morter rhag cracio.

Dylid cymryd camau i sicrhau na chaiff unrhyw frics tyllog presennol ar gyfer y prif dŷ eu blocio gan y gwaith hwn.  Os felly, dylid eu hymestyn drwy'r llawr newydd i gyrraedd aer allanol.

Llawr pren crog

Efallai y bydd llawr presennol y tŷ yn eithaf uchel uwchlaw lefel y ddaear, ac os felly, byddai'n fwy ymarferol defnyddio distiau pren gan adael gwagle danynt. Dylid gadael o leiaf 150mm o fwlch rhwng gwaelod y pren a'r gwaelod concrit sy'n bodoli eisoes. Rhaid i ddistiau'r llawr pren fod o'r maint cywir, a fydd yn dibynnu ar eu hyd. Yna, byddant yn cael eu gosod ar draws y rhychwant byrraf o wal i wal gan adael bwlch danynt.

Efallai y bydd angen wal yn y canol ac iddi sylfaen fach, er mwyn medru lleihau'r rhychwant a defnyddio distiau llawr sydd o'r trwch lleiaf posibl. Dylid gosod cwrs atal lleithder dan y pren. Yna, dylid gosod deunydd inswleiddio rhwng y distiau (bydd ei drwch yn dibynnu ar y cynnyrch a ddefnyddir). Dylid gosod fentiau oddi tanodd i awyru'r gwagle, a dylai fod modd i'r aer fynd o'r naill ochr i'r adeilad i'r llall.

Daear halogedig

Mewn rhai ardaloedd efallai y bydd y ddaear wedi'i halogi rywfaint lle mae nwyon yn ffurfio. Os felly, bydd angen awyru'r nwy dan sylw, a bydd gofyn gosod croen atal nwy er mwyn ei rwystro rhag mynd i mewn i'r adeilad.

  • Gellir dod o hyd i gyngor ynghylch y mater hwn yn adroddiad y Sefydliad Ymchwil Adeiladu / Asiantaeth yr Amgylchedd - BR414 'Protective measures for housing on gas-contaminated land. 2001''. 
  • Ceir cyfarwyddyd ynghylch nwy radon mewn adroddiad a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Ymchwil Adeiladu - BR211, 'Radon: Guidance on protective measures for new dwellings 1999'.