Neidio i'r prif gynnwy

Cylchlythyr rheoliadau adeiladu

Rhif y Cylchlythyr: WGC 004/2025

Dyddiad cyhoeddi: 19/06/2025

Statws: Er gwybodaeth

Teitl: Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2025

Cyhoeddwyd gan: Paul Keepins, Rheolwr Technegol Safonau Adeiladu

 Wedi'i gyfeirio at:

Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 
Cyngor y Diwydiant Adeiladu
Fforwm Personau Cymwys

I'w anfon ymlaen at:

Swyddogion Rheolaeth Adeiladu yr Awdurdodau Lleol
Aelodau Senedd Cymru

Crynodeb:

Dyma gylchlythyr i gyhoeddi diwygiadau i Reoliadau Adeiladu 2010 (fel y'u diwygiwyd) a chyhoeddi slip diwygio i Ddogfen Gymeradwy B (Diogelwch Tân) Cyfrolau 1 a 2  a Dogfen Gymeradwy 7 newydd. 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r:

Tîm Rheoliadau Adeiladu
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Rhyd-y-car
Merthyr Tudful
CF48 1UZ  

Llinell uniongyrchol: 0300 060 4400
E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Gwefan: adeiladu a chynllunio

Deddf Adeiladu 1984

Rheoliadau Adeiladu 2010

Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2025

Cyflwyniad

  1. Cefais gyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru i dynnu'ch sylw at Reoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2025 (O.S 2025 No. 704 (W. 119)) ("y Rheoliadau Diwygio") a wnaed ar 17 Mehefin 2025, a osodwyd ar 19 Mehefin 2025 ac a ddaw i rym ar 20 Rhagfyr 2025, a chyhoeddi  slip diwygio i Ddogfen Gymeradwy B (Diogelwch Tân) Cyfrolau 1 a 2, a Dogfen Gymeradwy 7 newydd.
     
  2. Yn unol ag adran 14(7) o Ddeddf Adeiladu 1984, gwnaed y rheoliadau diwygio ar ôl ymgynghori â Phwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu. 
     
  3. Diben y Cylchlythyr hwn yw gwneud y canlynol:
  • cyhoeddi'r Rheoliadau Diwygio ac esbonio'r newidiadau y maent yn eu gwneud i Reoliadau Adeiladu 2010 a;
  • cyhoeddi  slip diwygio i Ddogfen Gymeradwy B (Diogelwch Tân) Cyfrolau 1 a 2.
  • cyhoeddi rhifyn newydd o Ddogfen Gymeradwy 7 (Deunyddiau a Chrefftwaith) 2013 gyda diwygiadau 2020 a 2025.
  • tynnu'r Ddogfen Gymeradwy 7 bresennol yn ôl.
  1. Mae Atodiad A i'r Cylchlythyr hwn yn nodi'r newidiadau a wneir gan y Rheoliadau Diwygio i Reoliadau Adeiladu 2010.
     
  2. Nid yw'r cylchlythyr hwn yn rhoi cyngor ar ofynion technegol Rheoliadau Adeiladu 2010 gan fod Dogfennau Cymeradwy yn mynd i'r afael â'r materion hyn.

Cwmpas

  1. Mae'r Rheoliadau Diwygio a'r newidiadau i'r Ddogfen Gymeradwy yn ymwneud yn unig ag adeiladau a gwaith adeiladu yng Nghymru.

Diwygiadau i'r Rheoliad

  1. Mae'r Rheoliadau Diwygio yn rhoi newidiadau i Reoliadau Adeiladu 2010 (fel y'u diwygiwyd)("y Rheoliadau Adeiladu") ar waith. Mae'r diwygiadau yn cynnwys newidiadau i reoliad 2(6) (dehongli), rheoliad 6 (gofynion sy'n ymwneud â newid sylweddol i ddefnydd) a rheoliad 7 (deunyddiau a chrefftwaith).  
     
  2. I grynhoi, mae'r Rheoliadau Diwygio:
  • Yn mewnosod diffiniad newydd o ‘relevant metal composite material’ ac yn cyflwyno gwaharddiad ar wneud deunydd cyfansawdd metel perthnasol yn rhan o wal allanol neu atodyn penodedig wrth wneud gwaith adeiladu ar unrhyw adeilad.
  • Yn mewnosod cyfeiriad at ddyfeisiau cysgodi rhag yr haul yn y diffiniad o ‘specified attachment’ a diffiniad o ‘solar shading device’. Nid yw'r diffiniad yn cynnwys dyfeisiau cysgodi rhag yr haul sydd wedi'u gosod yn is na 4.5m o lefel y ddaear. Mae cydrannau dyfeisiau cysgodi rhag yr haul, os mai eu prif swyddogaeth yw darparu cysgod, fel adlenni neu slatiau yn cael eu heithrio. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i len a/neu slatiau dyfeisiau cysgodi rhag yr haul mewn adeilad perthnasol (fel y'i diffinnir yn rheoliad 7(4)) o'r Rheoliadau Adeiladu fodloni'r safon ddosbarthu o ran adwaith i dân yn rheoliad 7.
  • Yn diwygio'r diffiniad o ‘relevant building’ fel bod y gwaharddiad ar ddefnyddio deunyddiau hylosg mewn waliau allanol yn rheoliadau 6(3) a 7(2) o'r Rheoliadau Adeiladu yn berthnasol nawr i hosteli, gwestai a thai preswyl.
  • Yn ychwanegu at y rhestr esemptiadau rhag y gofyniad i ddeunyddiau fodloni’r safon ddosbarthu o ran adwaith i dân yn rheoliad 7 (Deunyddiadau a chrefftwaith) o'r  Rheoliadau Adeiladu). Ychwanegir ceblau ffibr optig, deunyddiau inswleiddio a diddosi a ddefnyddir hyd at 300mm o lefel y ddaear a gall unrhyw ddeunyddiau sy'n ffurfio haen llawr llorweddol uchaf balconi fodloni'r dosbarthiad cyfatebol a brofwyd trwy brawf llorweddol cyn belled â bod swbstrad di-dwll oddi tano.
  • Yn diwygio rheoliad 6(1)(c) o'r Rheoliadau Adeiladu fel bod unrhyw waith sydd angen ei wneud wrth newid defnydd adeilad cyfan yn sicrhau bod y waliau allanol yn bodloni gofynion Rhan B4(1) o Atodlen 1 o'r Rheoliadau hynny yn achos adeilad sy'n fwy na 11m o uchder. Cyn hynny, roedd hyn ond yn angenrheidiol ar gyfer adeiladau oedd yn fwy na 15m o uchder.

Diwygiadau i'r Dogfennau Cymeradwy

  1. Mae Gweinidogion Cymru wedi cymeradwyo canllawiau statudol newydd i helpu pobl i gydymffurfio â'r Rheoliadau Diwygio a Rhan B yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau Adeiladu. Mae Atodiad B i'r Cylchlythyr hwn yn rhoi'r Hysbysiad o Gymeradwyaeth ar gyfer y slip diwygio newydd i Ddogfen B Gymeradwy, Cyfrolau 1 a 2, yn amodol ar y darpariaethau trosiannol. 
     
  2. Mae'r diwygiadau i Ddogfen Gymeradwy B , Cyfrolau 1 a 2, yn ymwneud â'r newidiadau a wnaed gan y Rheoliadau Diwygio a chanllawiau ynghylch meysydd lle nad oes unrhyw newidiadau i Reoliadau Adeiladu 2010. I grynhoi, y meysydd hynny yw:
  • gosod terfynau ar rai cynhyrchion hylosg ar gyfer adeiladau preswyl sydd â llawr rhwng 11-18m;
  • systemau larwm gwacáu adeilad;
  • gosod Blychau Gwybodaeth Diogel ym mhob bloc newydd o fflatiau sydd â llawr 11m uwchlaw lefel y ddaear neu'n uwch; a
  • arwyddion lloriau ac arwyddion tywys i fflatiau.
  1. Bydd rhifyn 2013 o Ddogfen Gymeradwy 7 (Deunyddiau a Chrefftwaith) gyda diwygiadau 2020 yn cael ei dynnu'n ôl ar 20 Rhagfyr 2025 (fel y nodir yn atodiad B isod). Bydd rhifyn 2013 o Ddogfen Gymeradwy 7 (Deunyddiau a Chrefftwaith) gyda diwygiadau 2020 a 2025 yn dod i rym ar 20 Rhagfyr 2025. Mae diwygiadau 2025 i Ddogfen Gymeradwy 7 yn ymwneud â'r newidiadau a wnaed i reoliad 7 o'r Rheoliadau Adeiladu gan reoliad 2(4) o'r Rheoliadau Diwygio.
     
  2. Gwnaeth ymgynghoriad Rhan B (Diogelwch Tân) o'r Rheoliadau Adeiladu (ac ymateb y Llywodraeth) gynnig hefydtynnu'r cyfeiriad at y dosbarthiadau cenedlaethol (dosbarthiadau profion tân BS 476) o brif gorff Dogfen Gymeradwy B (Diogelwch Tân) i'r Atodiad. Sylwch nad yw'r slip diwygio yn rhoi hyn ar waith ond caiff ei roi ar waith ar ôl yr adolygiad nesaf i Ddogfen Gymeradwy B Cyfrolau 1 a 2. 
     
  3. Mae'r slip diwygio ar gael yn: Rheoliadau adeiladu: dogfennau cymeradwy.

Trefniadau trosiannol

  1. Nid yw'r Rheoliadau Diwygio na'r Dogfennau Cymeradwy newydd yn gymwys mewn perthynas â gwaith adeiladu, pan fydd hysbysiad adeiladu neu hysbysiad cychwynnol wedi'i roi i awdurdod lleol, neu fod cynlluniau llawn wedi'u hadneuo mewn perthynas â'r gwaith hwnnw, cyn i'r rheoliadau diwygio hyn ddod i rym, ar yr amod bod y gwaith adeiladu eisoes wedi dechrau, neu yn dechrau o fewn 6 mis o'r dyddiad y daw'r Rheoliadau Diwygio hyn i rym.

Rhagor o wybodaeth

  1. Cliciwch ar y ddolen a ganlyn i weld Rheoliadau Adeiladu etc (Diwygio) (Cymru) 2025: https://www.legislation.gov.uk/cy

Ymholiadau

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y Cylchlythyr hwn, dylech eu hanfon at:

Mark Tambini
Rheoliadau Adeiladu
Llywodraeth Cymru
Rhydycar
Merthyr Tudful
CF48 1UZ

E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru 

Yn gywir,
Mark Tambini 
Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu

Atodiad A

Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) (O.S 2025 No. 704 (W. 119)) (y "Rheoliadau Diwygio"). Mae'r Rheoliadau Diwygio hyn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu 2010 (O.S. 2010/2214) fel y maent yn gymwys i Gymru fel y nodir yn y tabl isod.

O.S.2010/2214
Rhif y Rheoliad
 
O.S. 2025 No. 704 (W. 119)
Rhif y Rheoliad
 
Newid
2(6)2(2)(b)Dehongli. Mewnosod diffiniadau newydd o "relevant metal composite material", a "solar shading device" ac ychwanegu "solar shading device" at y diffiniad o "specified attachment".
6(1)(c)2(3)Gofynion sy'n gysylltiedig â newid defnydd sylweddol. Lleihau uchder adeiladau y mae rheoliad 6(1)(c) o Reoliadau 2010 yn gymwys iddynt, o 15m i 11m.
72(4)aDeunyddiau a chrefftwaith. Yn mewnosod darpariaeth yn rheoliad 7 sy'n gwahardd gwneud deunydd cyfansawdd metel perthnasol yn rhan o'r wal allanol neu atodyn penodedig pan fydd gwaith adeiladu yn cael ei wneud.
7(2)2(4)(b)Deunyddiau a chrefftwaith. ychwanegu at y rhestr o esemptiadau rhag y gofyniad i ddeunyddiau fodloni’r safon ddosbarthu o ran adwaith i dân yn rheoliad 7(2).
7(4)2(4)(c)Deunyddiau a chrefftwaith. diwygio’r diffiniad o “relevant building” yn rheoliad 7(4). Effaith hyn yw bod y gwaharddiad ar ddeunyddiau hylosg yn rheoliadau 6(3) a 7(2) yn gymwys nawr i hosteli, gwestai a thai preswyl.
 3Darpariaethau Trosiannol. Yn nodi'r darpariaethau trosiannol ar gyfer y rheoliadau diwygio.

Atodiad B: Deddf Adeiladu 1984

Hysbysiad cymeradwyo i newid dogfennau sy'n rhoi arweiniad ymarferol ar ofynion Rheoliadau Adeiladu 2010

Mae Gweinidogion Cymru drwy hyn yn rhoi hysbysiad o dan adran 6 o Ddeddf Adeiladu 1984 eu bod, wrth arfer y pwerau a nodir o dan adran 6, wedi cymeradwyo'r diwygiadau i'r Dogfennau Cymeradwy a restrir isod at ddibenion rhoi canllawiau ymarferol ar ofynion penodedig Rheoliadau Adeiladu 2010 (fel y'u diwygiwyd) yng Nghymru yn unig.

Daw'r gymeradwyaeth i rym ar 20 Rhagfyr 2025 ac eithrio mewn perthynas â gwaith y mae hysbysiad adeiladu neu hysbysiad cychwynnol wedi'i roi ar ei gyfer neu y mae cynlluniau llawn wedi'u hadneuo ar ei gyfer cyn y dyddiad hwnnw ac ar yr amod bod gwaith eisoes wedi dechrau neu'n dechrau o fewn 6 mis i'r dyddiad hwnnw.

DogfenGofynion
Rheoliadau Adeiladu 2010 y cymeradwyir y ddogfen hon mewn cysylltiad â hwy  
Y dyddiad y daw'r diwygiad i rym
Diwygiadau i Ddogfen Gymeradwy B (Diogelwch Tân) Cyfrol 1: Tai annedd (rhifyn 2006 sy'n ymgorffori diwygiadau 2010, 2016 a 2020)Rhan B, Atodlen 1; a Rheoliad 7.20 Rhagfyr 2025
Diwygiadau i Ddogfen Gymeradwy B (Diogelwch Tân) Cyfrol 2: Adeiladau ac eithrio anheddau (Rhifyn 2006 sy'n ymgorffori diwygiadau 2010, 2013, 2016, 2017 a 2020)Rhan B, Atodlen 1; a Rheoliadau 5, 6 a 7.20 Rhagfyr 2025
Dogfen Gymeradwy 7 (Rhifyn 2013 sy'n ymgorffori diwygiadau 2020 a 2025)Rheoliad 720 Rhagfyr 2025


 

Atodiad C: Deddf Adeiladu 1984

Hysbysiad ynghylch tynnu dogfrennau yn ôl sy'n rhoi canllawiau ymarferol ar ofynion Rheoliadau Adeiladu 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn hysbysu o dan adran 6 o Ddeddf Adeiladu1984 eu bod, wrth arfer y pwerau a enwyd o dan adran 6, wedi tynnu cymeradwyaeth yn ôl ar gyfer y dogfennau a restrir isod sy'n rhoi arweiniad ymarferol mewn perthynas â gofynion penodedig Rheoliadau Adeiladu 2010.

Daw'r cynnig i dynnu cymeradwyaeth yn ôl i rym ar 20 Rhagfyr 2025 ac eithrio mewn perthynas â gwaith y mae hysbysiad adeiladu neu hysbysiad cychwynnol wedi'i roi ar ei gyfer neu y mae cynlluniau llawn wedi'u hadneuo ar ei gyfer cyn y dyddiad hwnnw ac ar yr amod bod gwaith eisoes wedi dechrau neu'n dechrau o fewn 6 mis i'r dyddiad hwnnw. 
 

DogfenGofynion
Rheoliadau Adeiladu 2010 y cymeradwyir y ddogfen hon mewn cysylltiad â hwy  
Y dyddiad y daw'r diwygiad i rym
Dogfen Gymeradwy 7 (Rhifyn 2013 sy'n ymgorffori diwygiadau 2020)Rheoliad 720 Rhagfyr 2025