Neidio i'r prif gynnwy

Ers 1 Ebrill 2002, mae rheoliadau adeiladu wedi bod yn berthnasol i unrhyw wydr newydd a osodir yn lle hen wydr. Mae'r rheoliadau yn berthnasol i berfformiad thermol ac agweddau eraill megis diogelwch, cyflenwad aer, llwybr dianc a systemau awyru.

Mae drws neu ffenest allanol yn ffitiad a reolir dan y Rheoliadau Adeiladu, ac o ganlyniad i'r dosbarthiad hwnnw mae'r Rheoliadau yn egluro rhai safonau y dylid eu bodloni pan osodir drws neu ffenest newydd o'r fath yn lle hen un.

Gallech ddefnyddio crefftwr sydd wedi cofrestru â chynllun personau cymwys. Bydd crefftwr cofrestredig wedi'i gymeradwyo i wneud y gwaith fel ei fod yn cydymffurfio â rheoliadau adeiladu, heb gynnwys Adran Rheoli Adeiladu'r Awdurdod Lleol. Pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau, byddwch yn cael tystysgrif sy'n dangos bod y gwaith wedi'i wneud gan grefftwr cofrestredig. Gallech ffeindio mwy o wybodaeth ynglŷn â Chynlluniau Personau Cymwys ar wefan.

Fel arall, gallech ddefnyddio crefftwr nad yw wedi'i gofrestru neu gallech wneud y gwaith eich hun. Os felly, gellir gofyn am gymeradwyaeth gan y Corff Rheoli Adeiladu perthnasol – gan eich Awdurdod Lleol neu Arolygydd Cymeradwy. Byddant yn edrych i weld a yw'r drws (drysau) neu'r ffenest (ffenestri) newydd yn cydymffurfio â'r safonau, ac os ydynt yn fodlon eu bod, byddant yn cyflwyno tystysgrif cydymffurfio.

Colli gwres thermol

Mae gofyn i anheddau ddefnyddio ynni'n effeithlon. Un dull o ddefnyddio ynni'n fwy effeithlon yw cymryd camau i leihau'r gwres a gollir drwy'r gwydr mewn drysau a ffenestri. 

Os ydych yn bwriadu gosod drysau a ffenestri, dylech fod yn ymwybodol bod angen iddynt gydymffurfio â gofynion y Rheoliadau Adeiladu o ran y gwres a all dreiddio drwy'r gwydr a'r fframiau, a fesurir ar ffurf gwerth 'U'.  Ni ddylai'r gwres a gollir fod yn fwy na'r gwerth 'U' hwn. I gael gwybodaeth am y gwerth 'U' uchaf a ganiateir, trowch at ddogfen gymeradwy L-1B, Tabl 1.

Gwydr diogelwch

Dylid defnyddio gwydr diogelwch mewn unrhyw ardal allweddol. Isod ceir rhestr sy'n rhoi barn gyffredinol ynghylch pryd y mae angen gwydr diogelwch:

  • Unrhyw ardal o wydr mewn ffenest sy'n llai na 800mm o lefel y llawr
  • Unrhyw ardal o wydr mewn ffenest sydd 300mm neu lai i ffwrdd o ddrws a hyd at 1500mm o lefel y llawr
  • Unrhyw ardal o wydr mewn unrhyw ddrws â gwydr, sydd hyd at 1500mm o lefel y llawr.

Gweler diagram 1 yn Nogfen Gymeradwy N am fwy o wybodaeth.

Awyru

Bydd drysau a ffenestri'n awyru ystafelloedd mewn annedd, ac mae rheolau'n berthnasol i lefel yr awyru. Bydd y math o system awyru a'r graddau y caiff ystafell ei hawyru yn dibynnu ar ddefnydd a maint yr ystafell. Er enghraifft, dylid sicrhau bod lefelau awyru (â chymorth ffenestri a ffaniau mecanyddol fel rheol) yn uwch mewn ystafelloedd lle bydd stêm yn cael ei gynhyrchu (ceginau, ystafelloedd ymolchi, ystafelloedd amlbwrpas ac ati) nag mewn ystafelloedd eraill lle gallai ffenestri o faint addas a fentiau cefndir ("awyru araf") fod yn ddigon.

Diogelwch tân

Dylid ystyried dwy agwedd:

  • Y perygl y gallai tân ledaenu rhwng eiddo cyfagos drwy "ardaloedd na warchodir"
  • Dulliau o ddianc pe bai tân.

Ardaloedd na warchodir

Efallai y bydd angen i ddrysau a ffenestri allanol allu gwrthsefyll tân, ac efallai y bydd angen i ddrysau allu cau ar eu pen eu hunain ac i ffenestri fod yn rhai na ellir eu hagor, er mwyn cyfyngu'r perygl y gallai tân ledaenu rhwng eiddo cyfagos. Bydd arwynebedd y waliau, y drysau a'r ffenestri y caniateir iddynt allu gwrthsefyll tân i raddau llai neu i raddau na wyddys (a elwir yn “ardaloedd na warchodir”) yn dibynnu ar ba mor agos yw'r elfennau hynny i'r ffin.

Dulliau o ddianc

Wrth roi unrhyw ffenest newydd yn lle hen un, dylai'r agorfa fod o faint sy'n cynnig o leiaf yr un potensial â'r hen ffenest i ddianc. Os oedd agorfa'r hen ffenest wreiddiol yn fwy na'r hyn y mae ei angen i allu dianc, gellid lleihau agorfa'r ffenest newydd i'r maint lleiaf posibl a nodir yn y meini prawf isod.

Dylid ystyried y dull o ddianc wrth osod unrhyw ffenest newydd mewn estyniad neu annedd sy'n bodoli eisoes. Os oes angen ffenest ddianc, dylid dilyn y meini prawf a nodir isod. Yn ogystal, os oes ffenest newydd yn cael ei gosod ar y llawr cyntaf yn lle hen un nad yw'n ffenest ddianc, mae'n arfer da yn gyffredinol sicrhau bod y ffenest newydd yn ffenest ddianc.

Mae'r meini prawf cyffredinol ar gyfer ffenestri dianc wedi'u nodi isod:

  • Lled ac uchder – ni ddylai'r naill na'r llall fod yn llai na 450mm
  • Ardal glir er mwyn gallu eu hagor – o leiaf 0.33m²
  • Uchder y sil – Gwaelod yr ardal er mwyn gallu eu hagor dim mwy na 1100mm o lefel y llawr.

Fel rheol, dim ond un ffenest y bydd ei hangen ym mhob ystafell.

Mynediad i adeiladau

Wrth roi drysau newydd yn lle hen rai ym mhrif fynedfa annedd a adeiladwyd ers 1999, mae'n bwysig sicrhau bod y trothwy'n dal yn wastad. Fel arall ni fydd y gwaith yn cydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu, oherwydd byddai'n gwneud y trothwy'n waeth nag yr oedd pan gafodd ei adeiladu.  Diben y gofyniad hwn yw galluogi'r sawl sy'n defnyddio cadair olwyn i barhau i allu cael mynediad i'r annedd.