Neidio i'r prif gynnwy

Cylchlythyr rheoliadau adeiladu

Rhif y cylchlythyr: WGC 003/2026

Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2026

Statws: Er gwybodaeth

Teitl: Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Cymru) 2026

Cyhoeddwyd gan: Paul Keepins - Rheolwr Technegol Safonau Adeiladu

Wedi'i gyfeirio at: 

Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 
Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol
Cymdeithas y Cymeradwywyr Rheolaeth Adeiladu
Cyngor y Diwydiant Adeiladu
Fforwm Personau Cymwys

I'w anfon ymlaen at:

Swyddogion Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol
Aelodau o'r Senedd

Crynodeb: 

Diben y cylchlythyr hwn yw tynnu sylw at reoliadau sy'n cyflwyno diwygiadau newydd 2026 i'r Rheoliadau Adeiladu, sy'n ymwneud â effeithlonrwydd ynni, yn ogystal â diwygiadau i ddeddfwriaeth bresennol sy'n cyd-fynd â'r diwygiadau i brosesau rheolaeth adeiladu ac er mwyn cywiro gwallau mewn deddfwriaeth ddiweddar. 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Rheoliadau Adeiladu
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ  

Llinell uniongyrchol: 0300 060 4400
E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Gwefan: adeiladu a chynllunio 

Cyflwyniad

  1. Mae Gweinidogion Cymru wedi gofyn imi dynnu eich sylw at y newidiadau a gyflwynir gan Reoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Cymru) 2026.
     
  2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau mewn perthynas â Rhan L o Atodlen 1 i Reoliadau Adeiladu 2010 a'r broses o weithredu Deddf Diogelwch Adeiladau 2022.

Cwmpas

  1. Mae'r Rheoliadau yn gymwys i adeiladau a gwaith adeiladu yng Nghymru.

Diwygiadau mewn perthynas â Rheoliadau Adeiladu 2010

  1. Daw diwygiadau mewn perthynas â Rhan L o Atodlen 1 i Reoliadau Adeiladu 2010 (rheoliad 3 a darpariaethau trosiannol cysylltiedig) i rym ar 4 Mawrth 2027.
     
  2. Mae rheoliad 3 yn gwneud newidiadau i Reoliadau Adeiladu 2010 er mwyn gwneud y canlynol:
  • diwygio'r diffiniad o “wasanaethau adeilad sefydlog” i gynnwys lifftiau, grisiau symudol neu rodfeydd symudol sefydlog mewn adeiladau newydd (ond nid mewn anheddau unigol), 
  • dirymu dau reoliad sy'n ymwneud ag adeiladau sydd bron yn ddi-ynni ac ystyried systemau effeithlon iawn yr ystyrir bellach eu bod yn ddiangen yn sgil codi safonau effeithlonrwydd ynni, 
  • darparu ar gyfer ffordd newydd o fesur effeithlonrwydd ynni, gan ddefnyddio metrig perfformiad newydd, 
  • diwygio teitl Rhan L (arbed tanwydd a phŵer) er mwyn cydnabod bod y gofynion hefyd yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, 
  • darparu gofyniad newydd yn Rhan L sy'n nodi, pan godir annedd neu adeilad sy'n cynnwys annedd, fod yn rhaid i system ar gyfer cynhyrchu trydan adnewyddadwy gael ei gosod ar y safle.

Diwygiadau i Ddogfennau Cymeradwy L1, L2 ac F1

  1. Mae Dogfennau Cymeradwy yn rhoi canllawiau ymarferol ar ffyrdd o gydymffurfio â gofynion technegol y Rheoliadau Adeiladu.
     
  2. Gwneir diwygiadau i'r Dogfennau Cymeradwy canlynol, a fydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yng ngwanwyn/haf 2026: 
  • Dogfen Gymeradwy L: cyfrol 1 (Arbed tanwydd ac ynni, a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr) 
  • Dogfen Gymeradwy L: cyfrol 2 (Arbed tanwydd ac ynni, a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr) 
  • Dogfen Gymeradwy F: cyfrol 1 (Awyru)
  1. Bydd y diwygiadau i'r Dogfennau Cymeradwy uchod yn destun cylchlythyr ar wahân pan gânt eu cyhoeddi.

Diwygiadau mewn perthynas â gweithredu Deddf Diogelwch Adeiladau 2022

  1. Daw diwygiadau mewn perthynas â gweithredu Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (rheoliadau 4, 5, 6 a 7, a darpariaethau trosiannol cysylltiedig) i rym ar 1 Gorffennaf 2026.
     
  2. Mae Rheoliadau 4 a 5(3) yn diwygio Rheoliadau Adeiladu 2010 a Rheoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024 er mwyn sicrhau bod hysbysiadau ar gyfer gwaith sydd wedi dychwelyd i awdurdod lleol yn cael eu cwmpasu yn yr un ffordd â hysbysiadau ar gyfer gwaith safonol. 
     
  3. Mae rheoliad 5(2) yn mewnosod diffiniadau ar gyfer termau sy'n ymwneud â deiliaid dyletswydd yn Rheoliadau Adeilad (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024 i sicrhau eu bod yn cael yr un ystyr â Rheoliadau Adeiladu 2010.
     
  4. Mae rheoliad 5(4) yn gwneud diwygiadau er mwyn ei gwneud yn ofynnol i berson sy'n cyflwyno Hysbysiad Cychwynnol roi gwybod i'r awdurdod lleol ei fod wedi cael hysbysiad tramgwyddo yn flaenorol mewn perthynas â'r gwaith na chafodd ei unioni, a rhoi manylion y tramgwyddo, fel rhan o'r ffurflen ragnodedig. 
     
  5. Mae rheoliad 5(5) hefyd yn cyflwyno darpariaethau cyfatebol i roi seiliau ychwanegol i awdurdodau lleol wrthod Hysbysiad Cychwynnol os bydd y ceisydd wedi cael hysbysiad tramgwyddo yn flaenorol ac na roddodd sylw iddo. 
     
  6. Bwriedir i'r diwygiadau hyn atal unigolion rhag osgoi camau gorfodi drwy newid Cymeradwywr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu ar ôl cael hysbysiad tramgwyddo.
     
  7. Mae rheoliad 6 yn diwygio Rheoliadau Adeiladu (Gweithgareddau a Swyddogaethau Cyfyngedig) (Cymru) 2024 er mwyn sicrhau bod gwirio planiau ar gyfer adeiladau risg uwch yn parhau i fod yn weithgaredd cyfyngedig pan ddaw'r gyfundrefn newydd ar gyfer adeiladau risg uwch i rym ar 1 Gorffennaf 2026.
     
  8. Mae rheoliad 7 yn diwygio rheoliad 20 o Reoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2025 er mwyn sicrhau bod y trefniadau trosiannol mewn perthynas â newidiadau i brosesau rheolaeth adeiladu o 1 Gorffennaf 2026 yn gweithio yn ôl y bwriad ar gyfer gwaith a oruchwylir gan Gymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu.
     
  9. Ein bwriad ar gyfer darpariaethau trosiannol ar gyfer Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2025 a'r gyfundrefn newydd ar gyfer gwaith adeiladu risg uwch a gyflwynwyd gan Reoliadau Adeiladu (Gweithdrefnau Adeiladau Risg Uwch) (Cymru) 2025 yw na fydd y newidiadau yn gymwys i waith os gwnaed cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu cyn 1 Gorffennaf 2026. 
     
  10. Felly, os bydd planiau ar gyfer gwaith adeiladu wedi'u hadneuo cyn 1 Gorffennaf 2026, neu os bydd hysbysiad cychwynnol neu hysbysiad adeiladu wedi'i roi ar gyfer gwaith adeiladu cyn 1 Gorffennaf 2026, bydd y gwaith adeiladu hwnnw'n parhau o dan y rheoliadau adeiladu presennol. Mae hyn yn golygu na fydd gofynion newydd gan gynnwys y gyfundrefn newydd ar gyfer gwaith adeiladu risg uwch, gofynion deiliad dyletswydd a hysbysiadau newydd i Gymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu ac Awdurdodau Lleol yn gymwys i'r gwaith hwnnw.

Darpariaethau trosiannol

  1. Nid yw'r diwygiadau a wneir yn rheoliad 3 mewn perthynas â gofynion effeithlonrwydd ynni’r Rheoliadau Adeiladu 2010, yn gymwys i waith adeiladu sydd wedi dechrau neu os bydd hysbysiadau penodol wedi'u gwneud mewn perthynas â'r gwaith, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cwblhau gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo heb darfu sylweddol.  Nid yw'r Rheoliadau hyn na'r Dogfennau Cymeradwy newydd yn gymwys mewn perthynas â gwaith adeiladu ar adeilad penodol pan fo'r gwaith adeiladu wedi dechrau yn unol â darpariaeth berthnasol hysbysiad, ar yr amod bod y gwaith adeiladu ar yr adeilad hwnnw eisoes wedi dechrau neu y caiff ei ddechrau o fewn 12 mis i'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
     
  2. Mewn rhai achosion, bydd ceisiadau yn ymwneud â nifer o adeiladau ar safle, er enghraifft nifer o dai. Mewn achosion o'r fath, dim ond yr adeiladau unigol hynny y caiff gwaith ei ddechrau ar eu cyfer a all fanteisio ar y darpariaethau trosiannol.
     
  3. Ni fydd diwygiadau a wneir yn rheoliad 5, mewn perthynas â hysbysiadau cwblhau ar gyfer gwaith sydd wedi dychwelyd i awdurdod lleol, diffiniadau deiliaid dyletswydd a hysbysiadau tramgwyddo, yn gymwys i hysbysiadau cychwynnol a gaiff eu canslo cyn i'r rheoliadau ddod i rym. Diben hyn yw osgoi amgylchiadau lle na fydd person, o bosibl, yn cydymffurfio â'r darpariaethau hyn oherwydd amseriad canslo Hysbysiad Cychwynnol, a hynny'n anfwriadol
     
  4. Mae Atodiad A i'r cylchlythyr hwn yn nodi ar ffurf tabl yr holl newidiadau i'r Rheoliadau Adeiladu.

Rhagor o wybodaeth

  1. Anogir rhanddeiliaid i ymgyfarwyddo â'r newidiadau sy'n cael eu cyflwyno.
     
  2. Gellir gwelid y rheoliadau drwy ddilyn y ddolen we ganlynol: The Building etc. (Amendment) (Wales) Regulations 2026
     
  3. Mae'r Memorandwm Esboniadol llawn ar gael ar Wefan y Senedd: SL(6)790 - Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Cymru) 2026

Ymholiadau

Dylid anfon unrhyw ymholiadau mewn perthynas â'r Cylchlythyr hwn i'r cyfeiriad canlynol:

Mark Tambini
Rheoliadau Adeiladu
Llywodraeth Cymru
Rhyd-y-car
Merthyr Tudful
CF48 1UZ

E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru

Yn gywir,
Mark Tambini 
Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu

Atodiad A

Mae'r tabl canlynol yn rhestru'r holl newidiadau a wneir gan O.S. 2026 No. 60 mewn perthynas â Rhan L o Atodlen 1 i Reoliadau Adeiladu 2010 (rheoliad 3 a darpariaethau trosiannol cysylltiedig): 

O.S. 2010/2214
Rhif y Rheoliad
O.S. 2026 No. 60 
Rhif y Rheoliad
Cam gweithredu
2(1)3(1)Mae rheoliad 3(1) yn diwygio'r diffiniad o “wasanaethau adeilad sefydlog” i gynnwys lifftiau, grisiau symudol neu rodfeydd symudol sefydlog mewn adeiladau newydd (ond nid mewn anheddau unigol). 
25A3(2)Mae rheoliad 3(2) yn dirymu rheoliad 25A (ystyried systemau tra effeithlon amgen ar gyfer adeiladau newydd).
25B3(2)Mae rheoliad 3(2) yn dirymu rheoliad 25B (gofynion bron yn ddi-ynni ar gyfer adeiladau newydd).
25D3(3)Mae rheoliad 3(3) yn diwygio rheoliadau er mwyn cymhwyso metrig perfformiad wedi'i ddiweddaru i fesur anheddau yn ei erbyn. Mae cyfeiriadau at “radd effeithlonrwydd ynni” wedi'u disodli gan “radd dwysedd defnydd ynni”.
26C3(4)Mae rheoliad 3(4) yn diwygio rheoliadau er mwyn cymhwyso metrig perfformiad wedi'i ddiweddaru i fesur anheddau yn ei erbyn. Mae cyfeiriadau at “radd effeithlonrwydd ynni” wedi'u disodli gan “radd dwysedd defnydd ynni”.
27C3(5)Mae rheoliad 3(5) yn diwygio rheoliadau er mwyn cymhwyso metrig perfformiad wedi'i ddiweddaru i fesur anheddau yn ei erbyn. Mae cyfeiriadau at “radd effeithlonrwydd ynni” wedi'u disodli gan “radd dwysedd defnydd ynni”.
Atodlen 1 i Ran L (Gofynion) 3(6)Mae rheoliad 3(6) yn diwygio Atodlen 1 er mwyn ychwanegu darpariaeth ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac yn mewnosod gofyniad newydd bod yn rhaid i system cynhyrchu trydan adnewyddadwy gael ei gosod ar y safle, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau penodol, pan gaiff adeilad sy'n cynnwys annedd ei godi.
dd/b8(1) a (2)Mae rheoliadau 8(1) a (2) yn nodi'r darpariaethau trosiannol ar gyfer y Rheoliadau mewn perthynas â'r newidiadau uchod.

Mae'r tabl canlynol yn rhestru'r holl newidiadau a wneir gan O.S. 2026 No. 60 i Reoliadau Adeiladu 2010 mewn perthynas â gweithredu Deddf Diogelwch Adeiladau 2022:

O.S. 2010/2214
Rhif y Rheoliad
O.S. 2026 No. 60 
Rhif y Rheoliad
Cam gweithredu
17(2)4(1)Mae rheoliad 4(1) yn mewnosod cyfeiriad at y gofyniad newydd o ran hysbysiadau cwblhau ar gyfer gwaith sydd wedi dychwelyd i awdurdod lleol a fewnosodir gan reoliad 5 o'r Rheoliadau hyn.
41(3)(b)(ii)4(2)Mae rheoliad 4(2) yn mewnosod cyfeiriad at y gofyniad newydd o ran hysbysiadau cwblhau ar gyfer gwaith sydd wedi dychwelyd i awdurdod lleol a fewnosodir gan reoliad 5 o'r Rheoliadau hyn. Noder bod rheoliad 41(3)(b)(ii) o Reoliadau Adeiladu 2010 yn cael ei fewnosod gan Reoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2025.
44(4)(b)4(3)Mae rheoliad 4(3) yn mewnosod cyfeiriad at y gofyniad newydd o ran hysbysiadau cwblhau ar gyfer gwaith sydd wedi dychwelyd i awdurdod lleol a fewnosodir gan reoliad 5 o'r Rheoliadau hyn. Noder bod rheoliad 44(4)(b) o Reoliadau Adeiladu 2010 hefyd yn cael ei ddiwygio gan Reoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2025.
44ZA(3)(b)4(4)Mae rheoliad 4(4) yn mewnosod cyfeiriad at y gofyniad newydd o ran hysbysiadau cwblhau ar gyfer gwaith sydd wedi dychwelyd i awdurdod lleol a fewnosodir gan reoliad 5 o'r Rheoliadau hyn. Noder bod rheoliad 44ZA(3)(b) o Reoliadau Adeiladu 2010 hefyd yn cael ei ddiwygio gan Reoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2025.

Mae'r tabl canlynol yn rhestru'r holl newidiadau a wneir gan O.S. 2026 No. 60 i Reoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024 mewn perthynas â gweithredu Deddf Diogelwch Adeiladau 2022:

O.S. 2024/1268
Rhif y Rheoliad
O.S. 2026 No. 60
Rhif y Rheoliad
Cam gweithredu

2

 

 

5(2)Mae rheoliad 5(2) yn mewnosod diffiniadau ar gyfer termau sy'n ymwneud â gofynion deiliaid dyletswydd i sicrhau eu bod yn cael yr un ystyr â Rheoliadau Adeiladu 2010.
17A5(3)Mae rheoliad 5(3) yn mewnosod rheoliad 17A newydd yn Rheoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024. Mae hyn yn darparu ar gyfer rhoi hysbysiad pan gwblheir gwaith sydd wedi dychwelyd i awdurdod lleol.
Atodiad 1 Ffurflen 10(W)5(4)Mae rheoliad 5(4) yn mewnosod gofyniad i berson sy'n gwneud gwaith sy'n canslo hysbysiad cychwynnol ddatgan, a rhoi manylion, os cafodd hysbysiad tramgwyddo mewn perthynas â'r gwaith ac nad yw wedi'i unioni.
Atodlen 2 (sail dros wrthod hysbysiad cychwynnol, hysbysiad diwygio neu dystysgrif planiau wedi'i chyfuno â hysbysiad cychwynnol)5(5)Mae rheoliad 5(5) yn darparu sail newydd dros wrthod hysbysiad cychwynnol y caiff awdurdod lleol wrthod hysbysiad cychwynnol oddi tano pan oedd y gwaith hwnnw o dan hysbysiad cychwynnol blaenorol, yn destun hysbysiad tramgwyddo ac na chafodd y tramgwydd ei unioni.
dd/b8(3)Mae rheoliad 8(3) yn nodi'r darpariaethau trosiannol ar gyfer y Rheoliadau mewn perthynas â'r newidiadau uchod.

Mae'r tabl canlynol yn rhestru'r holl newidiadau a wneir gan O.S. 2026 No. 60 i Reoliadau Adeiladu (Gweithgareddau a Swyddogaethau Cyfyngedig) (Cymru) 2024 mewn perthynas â gweithredu Deddf Diogelwch Adeiladau 2022:

O.S. 2024/238
Rhif y Rheoliad
O.S. 2026 No. 60 
Rhif y Rheoliad
Cam gweithredu
36(2)Mae rheoliad 6(2) yn mewnosod cyfeiriad at Reoliadau Adeiladu (Gweithdrefnau Adeiladau Risg Uwch) (Cymru) 2025 mewn darpariaethau sy'n ymwneud â gwirio planiau i gadarnhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion y rheoliadau adeiladu.

Mae'r tabl canlynol yn rhestru'r holl newidiadau a wneir gan O.S. 2026 No. 60 i Reoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Rhif 2 (Cymru) 2025 mewn perthynas â gweithredu Deddf Diogelwch Adeiladau 2022:

O.S. 2025/1320
Rhif y Rheoliad
O.S. 2026 No. 60 
Rhif y Rheoliad
Cam gweithredu
207(2)Mae rheoliad 7(2) yn amnewid darpariaethau trosiannol mewn perthynas â newidiadau a wneir i Reoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024 gan Reoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2025.