Neidio i'r prif gynnwy

Nid oes angen cymeradwyaeth y rheoliadau adeiladu i godi ffensys, waliau a gatiau.

Er nad oes yn rhaid cadw at y rheoliadau adeiladu, mae angen i'r adeileddau fod o adeiladwaith cadarn a bydd angen eu cynnal a'u cadw. 

Waliau gerddi

Os ydy wal yr ardd yn 'wal gydrannol' a chan ddibynnu ar y math o waith adeiladu rydych yn bwriadu ei wneud, yna rhaid ichi roi gwybod i berchennog y tir sy'n ffinio â chi am y gwaith rydych am ei wneud yn unol â Deddf Waliau Cydrannol 1996. Nid oes angen gwneud hyn yn achos ffensys pren.

Dylid archwilio waliau gerddi a therfyn o dro i dro i weld a oes angen eu trwsio neu eu hailadeiladu. Waliau o'r fath yw'r gwaith maen sydd fwyaf tebygol o ddymchwel a gwaetha'r modd, cerrig sy'n cwympo oddi ar waliau yw un o'r achosion mwyaf cyffredin o farwolaeth gan waith maen. Efallai na fydd eich yswiriant yn eich diogelu os ydych wedi esgeuluso'ch wal.

Yn ogystal â dirywiad cyffredinol oherwydd oed a thraul y blynyddoedd, gallai'r canlynol wanhau wal gerrig:

  • Effaith glaw a gwynt os caiff wal gerllaw ei dymchwel. 
  • Torri coed aeddfed gerllaw neu blannu coed newydd wrth y wal. 
  • Newidiadau sy'n cynyddu'r perygl o ddifrod gan draffig. 
  • Newidiadau i'r wal, fel ychwanegiadau ati neu ddymchwel rhan ohoni e.e. i greu bwlch gât.

Uchder diogel i walydd yn ôl eu trwch

Rydyn ni'n eich cynghori i ofyn i arbenigwyr ynghylch unrhyw wal sy'n uwch na'r terfyn a roddir isod ar gyfer eich ardal. 
Mewn mannau cysgodol iawn a lle defnyddir colofnau, mae waliau uwch yn dderbyniol.

 
Map gwynt ar y wal

Parth 1

Trwch y wal

Uchder uchaf  (mm)

½ Bricsen¹

525

1 Bricsen²

1450

1½ Bricsen³

2400

Bloc 100mm

450

Bloc 200mm

1050

Bloc 300mm

2000

1 = 100mm; 2 = 215mm; 3 = 325mm

Parth 2

Trwch y wals

Uchder uchaf  (mm)

½ Bricsen¹

450

1 Bricsen²

1300

1½ Bricsen³

2175

Bloc 100mm

400

Bloc 200mm

925

Bloc 300mm

1825

1 = 100mm; 2 = 215mm; 3 = 325mm

Parth 3

Trwch y wal

Uchder uchaf  (mm)

½ Bricsen¹

400

1 Bricsen²

1175

1½ Bricsen³

2000

Bloc 100mm

350

Bloc 200mm

850

Bloc 300mm

1650

1 = 100mm; 2 = 215mm; 3 = 325mm

Parth 4

Trwch y wal

Uchder uchaf  (mm)

½ Bricsen¹

375

1 Bricsen²

1075

1½ Bricsen³

1825

Bloc 100mm

325

Bloc 200mm

775

Bloc 300mm

1525

1 = 100mm; 2 = 215mm; 3 = 325mm

Pethau i'w harchwilio

  1. A yw wyneb y gwaith brics yn malu? - Os mai dim ond ychydig o frics sydd i'w gweld yn dioddef, efallai nad yw'n broblem ond gall olion malu ar y naill wyneb neu'r llall olygu bod y wal yn gwanhau. 
  2. Ydy'r morter mewn cyflwr da? - Os oes modd tynnu'r haenen galed o'r cymal neu os yw'n hawdd crafu'r morter gydag allwedd (er enghraifft), yna mae hynny'n arwydd bod angen ailbwyntio'r wal. 
  3. A oes coeden wrth y wal? - Wrth i goed aeddfedu, mae perygl i'r gwreiddiau ddifrodi wal a gallai'r gwynt chwythu coeden ar ben y wal. Efallai y bydd angen ailgodi'r rhannau sydd wedi'u difrodi, efallai gyda phontydd i gario'r wal dros y gwreiddiau. Gallai torri coed mawr greu problemau gan fod y pridd yn cronni mwy o ddŵr ac yn chwyddo. 
  4. A yw'r wal yn unionsyth? - Mae walydd yn camu am resymau gwahanol, er enghraifft oherwydd effaith gwreiddiau coed ar y pridd, draen wedi hollti, difrod gan rew i'r sylfeini neu dim digon o sylfeini. Os yw'ch wal yn pwyso gymaint fel y gall fod yn beryglus e.e. mwy na 30mm (wal hanner bricsen o drwch), 70mm (wal 1 fricsen o drwch) neu 100mm (wal bricsen a hanner o drwch), rydyn ni'n eich cynghori i holi arbenigwr. Gallai hynny olygu edrych ar sylfeini'r wal. 
  5. A oes digon o drwch o wal o'i gymharu â'i huchder? - Mae'r map a'r tabl isod yn eich cynghori ynghylch pa mor uchel y dylai walydd fod yn rhannau gwahanol o'r DU yn ôl eu trwch. Holwch arbenigwr am ei farn os yw'ch wal yn uwch na'r uchder a argymhellir neu pan na fydd y cyngor hwn yn berthnasol e.e. wal sy'n cael ei chynnal gan golofnau neu walydd sy'n cynnal gatiau trwm neu bridd. 
  6. Gall rhai planhigion dringo fel iorwg/eiddew ddifrodi walydd. - Ystyriwch eu torri nhw yn ôl a chynnal yr aildyfiant fel nad yw'n pwyso ar y wal. 
  7. A yw top y wal yn sownd? Gallai'r brics neu'r meini copa fod yn rhydd neu efallai bod craciau llorweddol (difrod gan rew) yn y gwaith brics rai cyrsiau i lawr. Bydd angen ailadeiladu gwaith maen neu frics rhydd neu sydd wedi torri ar frig wal. 
  8. A yw'r traffig yn difrodi'r wal? - Gall crafiadau neu rychau mân ar y wyneb guddio craciau mwy. Gallai colofnau wrth fynedfeydd gael eu difrodi yn sgil eu tolcio gan eu gwneud yn beryglus; dylech eu hailadeiladu. 
  9. A oes yna graciau yn y wal? Mae craciau tenau (0-2mm ar draws) yn gyffredin mewn walydd ac nid ydynt o reidrwydd yn arwydd o broblem. Os oes gennych graciau lletach, holwch arbenigwr.  Efallai y bydd gofyn ailadeiladu'r wal yn llwyr neu'n rhannol. Holwch yr arbenigwr os oes craciau llorweddol sy'n rhedeg trwy'r wal neu graciau ger colofnau neu gatiau. Gall ailbwyntio craciau arwain at broblemau. Peidiwch â'i ailbwyntio nes eich bod yn gwybod beth achosodd y cracio.