Neidio i'r prif gynnwy

Os byddwch yn gwneud gwaith trydanol ac yn gosod goleuadau ar du allan eich cartref yng Nghymru a Lloegr, bydd yn rhaid ichi ddilyn rheolau rheoliadau adeiladu newydd.

Dylech ddefnyddio peiriannydd sydd wedi cofrestru â chynllun personau cymwys, neu dylech wneud cais i Adran Rheoli Adeiladu eich awdurdod lleol neu arolygwyr cymeradwy.

Erbyn hyn mae sicrhau bod ein hadeiladau'n defnyddio ynni mor effeithlon ag sy'n bosibl yn nod cyffredinol. Mewn amgylchiadau penodol, bydd yn ofynnol ichi osod goleuadau sy'n defnyddio trydan yn effeithlon yn eich tŷ, gan gynnwys pryd bynnag:

  • y bydd eich annedd yn cael ei ymestyn 
  • y bydd system oleuadau newydd yn cael ei rhoi yn lle un sy'n bodoli eisoes, yn rhan o waith ailweirio.

Enghraifft o achos o'r fath yw sefyllfa lle dylid cynnig darpariaeth resymol er mwyn gallu rheoli a/neu ddefnyddio'n effeithiol unrhyw lampau sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, fel bod modd sicrhau:

  • naill ai nad yw capasiti lampau'n fwy na 150 wat am bob ffitiad golau, a bod y golau'n diffodd yn awtomatig pan fydd digon o olau dydd a phan na fydd ei angen yn y nos
  • neu fod gan y ffitiadau golau socedi sy'n gallu defnyddio dim ond lampau y mae eu heffeithiolrwydd goleuo yn fwy na 40 lwmina fesul wat cylched.

Gellir cael mwy o gyfarwyddyd trwy droi at ddogfen gymeradwy L-1B yn y brif adran am Reoliadau Adeiladu ar y wefan hon.

Goleuadau allanol

Os byddwch yn gosod golau allanol sy'n cael trydan o'ch system chi ar wyneb allanol eich tŷ, dylech sicrhau y cynigir darpariaeth resymol er mwyn gallu rheoli a/neu ddefnyddio'n effeithiol unrhyw lampau sy'n defnyddio ynni'n effeithlon. Gellir cyflawni hynny mewn dwy ffordd:

  • Gosod lamp â chapasiti nad yw dros 150 wat am bob ffitiad golau, a sicrhau bod y golau'n diffodd yn awtomatig pan fydd digon o olau dydd a phan na fydd ei angen yn y nos

Sicrhau bod gan y ffitiadau golau a ddefnyddiwch socedi sy'n gallu defnyddio dim ond lampau y mae eu heffeithiolrwydd o ran ynni'n fwy na 40 lwmina fesul wat cylched.