Neidio i'r prif gynnwy

Cylchlythyr rheoliadau adeiladu

Rhif y cylchlythyr: WGC 002/2026

Dyddiad cyhoeddi: 6 Ionawr 2026

Statws: Er gwybodaeth

Teitl: Rheoliadau Adeiladu (Gweithdrefnau Adeiladau Risg Uwch) (Cymru) 2025 a'r rheoliadau cysylltiedig

Cyhoeddwyd gan: Julia Ashford - Polisi Diogelwch Adeiladu/ Rheoliadau Adeiladu

Wedi'i gyfeirio at: 

Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 
Adrannau Rheolaeth Adeiladu'r Awdurdodau Lleol
Cymdeithas y Cymeradwywyr Rheolaeth Adeiladu

I'w anfon ymlaen at:

Swyddogion Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol
Aelodau'r Senedd

Crynodeb: 

Pwrpas y Cylchlythyr hwn yw tynnu sylw at wneud rheoliadau sy'n cyflwyno gofynion gweithdrefnol newydd ar gyfer gwaith adeiladu risg uwch yng Nghymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Tîm Rheoliadau Adeiladu               
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Merthyr Tudful
CF10 3NQ                                                                                                              
Llinell uniongyrchol: 0300 062 5223
E-bost: enquiries.brconstruction@gov.wales
Gwefan: adeiladu a chynllunio 

Cyflwyniad

  1. Fe'm cyfarwyddir gan Weinidogion Cymru i dynnu eich sylw at y newidiadau a gyflwynwyd gan y Rheoliadau canlynol a ddaw i rym ar 01 Gorffennaf 2026 : Rheoliadau Adeiladu(Gweithdrefnau Adeiladau Risg Uwch) (Cymru) 2025 a Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladu 2022 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2025.
     
  2. Pwrpas y Cylchlythyr hwn yw tynnu sylw at yr is-ddeddfwriaeth newydd ac esbonio'r newidiadau y mae'n eu cyflwyno.
     
  3. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhan hanfodol o weithredu Deddf Diogelwch Adeiladu 2022 yng Nghymru ac yn cyflwyno fframwaith gweithdrefnol newydd ar gyfer rheoli adeiladu mewn perthynas ag adeiladau risg uwch (HRBs).
     
  4. Nod y Rheoliadau yw gwella diogelwch, tryloywder ac atebolrwydd wrth ddylunio ac adeiladu Adeiladau Risg Uwch. Maent yn sefydlu proses gymeradwyo a goruchwylio gynhwysfawr ar gyfer gwaith adeiladu risg uwch, i wella diogelwch o'r dyluniad cychwynnol i gwblhau gwaith adeiladu.

Cwmpas y Cylchlythyr hwn

  1. Mae'r cylchlythyr hwn yn berthnasol i'r holl randdeiliaid sy'n ymwneud â gwaith adeiladu risg uwch yng Nghymru, gan gynnwys:
  • dylunwyr, contractwyr, a phobl sydd wedi gwneud gwaith adeiladu (cleientiaid)
  • awdurdodau lleol
  • awdurdodau gorfodi diogelwch tân
  • yr ymgymerwr carthffosiaeth
  1. Mae'n amlinellu'r darpariaethau allweddol a gyflwynwyd gan y Rheoliadau gan gynnwys trefniadau trosiannol.

Cyflwyno Darpariaethau Allweddol

  1. Proses Cymeradwyo Rheolaeth Adeiladu

Mae rheoliadau 3 i 17 yn cyflwyno gofyniad newydd ar gyfer cymeradwyaeth rheoli adeiladu ffurfiol cyn y gall unrhyw waith adeiladu risg uwch ddechrau. Mae hyn yn cynnwys:

  • cyflwyno ceisiadau manwl gyda chynlluniau, dogfennaeth benodol newydd, a datganiadau cymhwysedd.
  • ymgynghori statudol ag awdurdodau tân ac ymgymerwyr carthffosiaeth.
  • amserlenni diffiniedig ar gyfer dilysu a gwneud penderfyniadau (12 wythnos ar gyfer HRB newydd, 8 wythnos ar gyfer gwaith i HRB presennol), gan sicrhau goruchwyliaeth a thryloywder amserol.
  • bwriad y dogfennau rhagnodedig newydd yw gwella'r broses o wneud penderfyniadau a chadw cofnodion yn ystod dylunio ac adeiladu. Disgrifir y cynnwys gofynnol yn Atodlen 1 o'r rheoliadau.
  1. Mecanwaith Rheoli Newid

Mae rheoliadau 18 i 30 yn cyflwyno system strwythuredig ar gyfer rheoli newidiadau yn ystod y gwaith adeiladu. Mae newidiadau yn cael eu categoreiddio fel:

  • newidiadau cofnodadwy – mân addasiadau wedi'u cofnodi ar gyfer cadw cofnodion.
  • newidiadau hysbysadwy – newidiadau sy'n gofyn am ddiweddariadau hysbysu a dogfennaeth.
  • newidiadau mawr – newidiadau sylweddol sy'n gofyn am gymeradwyaeth ffurfiol. Mae hyn yn sicrhau bod penderfyniadau diogelwch yn cael eu hasesu a'u dogfennu'n briodol, gan gynnal uniondeb y dyluniad gwreiddiol.
  1. Edau Aur a Throsglwyddo Gwybodaeth

Mae rheoliadau 31, 37 a 38 yn sicrhau bod yn rhaid i ddeiliaid dyletswydd gynnal "edefyn aur" digidol o wybodaeth adeiladu. Rhaid i'r cofnod hwn fod yn:

  • gywir, diogel, ac yn gyfredol.
  • hygyrch a bod modd ei drosglwyddo mewn fformat darllenadwy. Mae'n cefnogi gwneud penderfyniadau gwybodus ac yn helpu i sicrhau parhad gwybodaeth am ddiogelwch trwy gydol oes yr adeilad.
  • rhaid trosglwyddo'r Edefyn Aur, a gwybodaeth arall, i'r person sy'n gyfrifol am ddiogelwch yr adeilad unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau.
  1. Adrodd Gorfodol am Ddigwyddiadau

Mae rheoliadau 32 i 36 yn caniatáu system newydd sy'n ofynnol ar gyfer adrodd am ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig â diogelwch yn ystod y gwaith adeiladu. Rhaid i brif ddeiliaid dyletswydd:

  • sefydlu a chynnal system adrodd.
  • sicrhau hysbysiad a dogfennaeth brydlon o ddigwyddiadau diogelwch. Mae hyn yn hyrwyddo diwylliant diogelwch rhagweithiol, yn galluogi ymyrraeth gynnar ac adnabod materion eang ar draws y sector.
  1. Tystysgrifau Cwblhau a Chwblhau Rhannol

Mae rheoliadau 39 i 44 yn nodi gweithdrefnau ar gyfer ardystio gwaith adeiladu risg uwch a gwblhawyd:

  • rhaid i geisiadau adlewyrchu cyflwr "fel y'i hadeiladwyd" yr adeilad.
  • rhaid i awdurdodau rheoli adeiladu archwilio gwaith ac ymgynghori â chyrff perthnasol cyn cyhoeddi tystysgrifau.
  • mae tystysgrifau cwblhau rhannol yn caniatáu i rannau o adeiladau gael eu hardystio a'u meddiannu cyn eu cwblhau'n llawn, yn amodol ar amodau penodol.
  1. Rheoleiddio ac Apeliadau
  • Mae rheoliad 46 yn creu dull ar gyfer cymeradwyo gwaith anawdurdodedig yn ôl-weithredol, gan sicrhau bod safonau diogelwch yn cael eu bodloni hyd yn oed ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau.
  • Mae rheoliadau 47 i 55 yn caniatáu i ymgeiswyr ofyn am benderfyniad gan Weinidogion Cymru o dan adran 30A o Ddeddf Adeiladu 1984 os yw awdurdod rheoli adeiladu yn methu â gwneud penderfyniad o fewn yr amserlen benodedig.
  1. Darpariaethau Trosiannol, diwygiadau ac eithriadau amrywiol
  • Mae Rhan 7 o'r Rheoliadau yn ymdrin â phynciau amrywiol megis gwaith sydd wedi'i eithrio o'r rheoliadau adeiladu gweithdrefnol, manylion pellach am ddarpariaethau gorfodi, diwygiadau canlyniadol i reoliadau eraill a darpariaethau trosiannol.
  • Mae'r Rheoliadau yn cynnwys trefniadau trosiannol o fewn Atodlen 3 ar gyfer prosiectau sydd eisoes ar y gweill cyn i'r drefn newydd ddechrau ar 1 Gorffennaf 2026. Bydd y rheoliadau adeiladu presennol yn parhau i fod yn berthnasol i brosiectau o'r fath, felly ni fyddant yn ddarostyngedig i'r gofynion newydd.

Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2025

  1. Er mwyn galluogi gweithredu Deddf Diogelwch Adeiladu 2022 yn barhaus, mae'r Rheoliadau hyn yn dod â darpariaethau penodol Rhan 3 (diwygiadau i Ddeddf Adeiladu 1984) ac Atodlen 5 o Ddeddf 2022 mewn perthynas â Chymru i rym.

Rhagor o wybodaeth

  1. Mae'r Memorandwm Esboniadol llawn a'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gael ar wefan y Senedd. Anogir rhanddeiliaid i ymgyfarwyddo â'r gofynion newydd a pharatoi i'w gweithredu.
     
  2. Rydym yn bwriadu cyhoeddi canllawiau pellach ar weithredu'r Rheoliadau maes o law.

Ymholiadau

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y Cylchlythyr hwn, dylech eu hanfon at:

Mark Tambini
Rheoliadau Adeiladu
Llywodraeth Cymru
Rhydycar 
Merthyr Tydfil                                                                                                            CF48 1UZ 

E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru