Neidio i'r prif gynnwy

Bydd rheoliadau adeiladu'n berthnasol fel rheol os ydych am osod panel solar ar eich to.

Bydd angen cadarnhau a phrofi a yw'r to presennol yn ddigonol i gario llwyth y panel (ei bwysau). Efallai y bydd angen gwneud rhywfaint o waith i gryfhau'r to.

Bydd rheoliadau adeiladu hefyd yn berthnasol i agweddau eraill ar y gwaith, megis y gwaith gosod trydan. Byddai'n ddoeth cysylltu â pheiriannydd a all ddarparu'r cyngor angenrheidiol.