Neidio i'r prif gynnwy

Dylai gwaith gosod tanc tanwydd fodloni'r gofynion angenrheidiol o ran rheoliadau adeiladu.

Os caiff y tanc tanwydd ei osod uwchlaw lefel y ddaear, bydd y gofynion yn cael eu defnyddio er mwyn amddiffyn y tanc yn ddigonol rhag unrhyw dân cyfagos, ac yn achos tanc olew, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw olew a ollyngir yn halogi dŵr daear.

Os bwriedir gosod pibellau newydd i gysylltu â'r cyflenwad olew, bydd angen falf dân yn y man lle mae'r bibell yn mynd i mewn i'r adeilad.

Os ydych yn gosod tanc olew a/neu bibellau cysylltu ac yn cyflogi peiriannydd sydd wedi cofrestru ag un o'r cynlluniau personau cymwys cysylltiedig, ni fydd angen ichi ymwneud â Gwasanaeth Rheoli Adeiladu.

Darllen mwy am gynlluniau personau cymwys