Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r canllaw hwn ar gyfer busnesau bach a chanolig sy’n gweithredu o eiddo ffisegol a’r rhai sydd â phresenoldeb ar-lein yn unig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dylid darllen y canllaw hwn ar y cyd â Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu:  Cod Ymarfer Cymru. Mae’r canllaw hwn yn darparu cyngor ategol ar gyfer sectorau unigol ac ni ddylid ei ddarllen fel canllaw ar ei ben ei hun. 

Mae gweithleoedd sydd â hyd at 249 o weithwyr cyfatebol â llawn-amser yn SME. 

Mae’n cynnwys gweithleoedd ar draws amrywiaeth o sectorau, fel swyddfeydd, manwerthu a lletygarwch. Mae canllawiau ar wahân ar gael ar gyfer y sectorau canlynol a allai hefyd gael eu dosbarthu fel SME a allai fod yn ddefnyddiol i chi:

  • Lletygarwch a gwasanaethau bwyd;
  • Manwerthu;
  • Lleoliadau preswyl (yn cynnwys cartrefi gofal);
  • Digwyddiadau awyr agored (er enghraifft, gwyliau) a
  • Cyfleusterau adloniant a hamdden (yn cynnwys gwersylloedd, chalets, cabanau, gwestai, carafanau).

Pam mae angen ichi ailgylchu

O 6 Ebrill 2024, bydd y gyfraith newydd yn golygu bydd yn rhaid i holl weithleoedd gyflwyno’r deunyddiau canlynol ar wahân i’w hailgylchu a threfnu i’r gwastraff gael ei gasglu ar wahân i wastraff arall. 

Beth i’w ailgylchu

  • Papur a cherdyn;
  • Gwydr; 
  • Metel, plastig, a chartonau a deunyddiau pacio eraill tebyg (er enghraifft, cwpanau coffi);
  • Bwyd – unrhyw safle sy’n cynhyrchu 5kg neu fwy o wastraff bwyd mewn saith diwrnod yn olynol;
  • Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach (sWEEE) heb eu gwerthu a 
  • Tecstilau heb eu gwerthu.

Mae’r cyfyngiad 5kg o wastraff bwyd yn berthnasol i unrhyw gyfnod o saith diwrnod.  Os ydych yn cynhyrchu mwy na 5kg o wastraff bwyd mewn unrhyw gyfnod o saith niwrnod, yna mae’n rhaid iddo gael ei gyflwyno ar wahân i’w gasglu.  Os nad ydych yn cynhyrchu mwy na 5kg yr wythnos yna dylid monitro hyn i gyfrif am unrhyw newidiadau ar y safle, er enghraifft cynnydd mewn lefelau staffio neu ymwelwyr. 

Dim ond ar gyfer gwastraff tebyg i wastraff o’r cartref a gynhyrchir gan weithleoedd y mae’r gyfraith hon yn berthnasol, hynny yw, gwastraff a geir mewn cartrefi fel arfer ac a gaiff ei gasglu’n arferol o ymyl y ffordd. 

Mae rhestr lawn o ddeunyddiau ailgylchadwy y dylid eu cyflwyno ar wahân i’w hailgylchu ar gael yma: Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu:  Cod Ymarfer

Fel cynhyrchydd gwastraff, mae’n ofynnol ichi gynhyrchu nodyn trosglwyddo gwastraff. Yn y rhan fwyaf o achosion, fodd bynnag, bydd eich casglwr gwastraff yn gwneud hyn i chi. Dylech ei wirio’n ofalus i sicrhau bod y disgrifiad o’r gwastraff sy’n cael ei gasglu’n gywir. Ni chaiff eich casglwr gwastraff anfon unrhyw un o’r deunyddiau wedi’u gwahanu i dirlenwi neu losgi. Dylech ystyried gofyn i'ch casglwr gwastraff am dystiolaeth reolaidd o gyrchfannau prosesu terfynol eich deunyddiau a wahanwyd.

Mae’r gyfraith newydd yn gwahardd gwaredu unrhyw symiau o wastraff bwyd i lawr y sinc neu’r draen i garthffosydd. Mae’n golygu na chewch ddefnyddio unedau mwydo mewn sinciau sy’n torri neu’n malu gwastraff bwyd a’i anfon i lawr y draen.

Er na fydd yn anghyfreithlon ichi gael uned mwydo, peiriant dad-ddyfrio, neu dechnoleg gwaredu gwastraff bwyd arall tebyg, bydd yn anghyfreithlon ichi eu defnyddio i anfon gwastraff bwyd i garthffosydd. 

Bydd yn rhaid i holl ddeiliaid gweithleoedd gyflwyno deunyddiau ailgylchadwy ar wahân yn gywir i’w casglu gan eu dewis o gasglwr gwastraff. Mae hyn yn wir p’un a ydych yn berchennog, yn rhentu, neu’n prydlesu eich eiddo. 

Os ydych yn rhannu gofod, e.e. canolfan siopa, neuadd fwyd neu neuadd marchnad, efallai y bydd angen ichi wirio a fydd system ailgylchu ganolog sy’n bodloni gofynion y gyfraith newydd yn cael ei darparu gan landlordiaid. Os felly, eich cyfrifoldeb chi fydd sicrhau eich bod chi a’ch staff yn defnyddio’r systemau a ddarperir yn gywir. Fel arall, eich cyfrifoldeb chi fydd eich gwastraff ailgylchadwy.

Os mai presenoldeb ar-lein yn bennaf sydd gennych, bydd angen ichi gydymffurfio â’r newidiadau ar gyfer unrhyw eiddo yr ydych yn ei ddefnyddio serch hynny.

Sut i ddeall eich gwastraff ac ailgylchu’n well

I gael gwybod am y gwahanol fathau o wastraff yr ydych yn ei gynhyrchu, gallech gynnal archwiliad gwastraff trwy archwilio cynnwys biniau gwastraff cyffredinol a nodwch unrhyw ymdrechion lleihau gwastraff neu ailgylchu sydd eisoes ar waith i helpu i nodi cyfleoedd pellach ar gyfer atal gwastraff ac ailgylchu.

Ymhlith y meysydd o fewn gweithle sydd fwyaf tebygol o gynhyrchu gwastraff mae:

  • ystafell staff/ystafell fwyta – papur, bwyd, a deunyddiau pacio;
  • swyddfa – papur, bwyd, a deunydd pacio ac
  • warysau/ystafelloedd stoc – deunydd pacio fel cardbord, ffilmiau plastig a deunydd lapio.

Gan ddibynnu ar eich busnes, efallai y bydd mathau o wastraff y byddwch yn eu cynhyrchu, er enghraifft stoc wedi'i ddifrodi, a allai fod yn beryglus ac a allai fod angen gwasanaeth casglu gwastraff arbenigol.

Ystyriwch a ydych chi’n cynhyrchu gwahanol fathau neu symiau o wastraff gydol y flwyddyn. Bydd hyn yn fwy tebygol os yw’r tywydd neu’r tymhorau’n effeithio ar eich busnes e.e. y Nadolig neu wyliau eraill neu’r rhai sy’n gysylltiedig â thwristiaeth.

Atal gwastraff yn y lle cyntaf

Bydd lleihau neu atal faint o wastraff yr ydych yn ei gynhyrchu’n helpu i arbed arian a lleihau maint y biniau y bydd eu hangen arnoch.

Dyma rai awgrymiadau i’ch helpu i leihau eich gwastraff:

  • Rhoddi stoc ormodol neu stoc heb ei werthu – gallwch roi gwarged bwyd i elusen neu gael oergell ar gyfer staff i ddal cynnyrch y gallant ei fwyta neu ei gludo adref am ddim.  Rhowch eitemau eraill dros ben (er enghraifft deunydd ysgrifennu) i ysgolion neu ‘siop sgrap’ leol. Mae Canllaw ar gael ar GOV.UK sut mae’n rhaid i fusnesau bwyd gael gwared ar fwyd a chyn ddeunyddiau bwyd.
  • Prynwch nwyddau eilgylch, nwyddau y gellir eu hail-lenwi neu eu hailddefnyddio pan bynnag fo’n bosibl;
  • Darparwch ffynhonnau dŵr i staff eu defnyddio a stocio cyfleusterau cegin (os darperir hwy) gyda chwpanau, llestri ac offer y gellir eu hailddefnyddio yn hytrach na dewisiadau tafladwy untro
  • Gofynnwch i'ch cyflenwyr ddefnyddio'r deunydd pacio cludo dychweladwy y maent yn ei gasglu gennych y tro nesaf y byddant yn danfon nwyddau i chi a
  • Ystyriwch ffyrdd o fynd yn ddi-bapur:
    • Gosod gosodiadau argraffu a llungopïo diofyn i ‘ddwy ochr’,
    • Ebostio dogfennau yn hytrach nag argraffu,
    • Monitro meintiau argraffu a llungopïo, gan osod targedau lleihau ar gyfer aelodau staff, neu
    • Defnyddio dulliau marchnata di-bapur. 

Efallai y bydd cost ynghlwm â gwneud y newidiadau hyn i rai gweithleoedd, ond gallai cynyddu faint rydych yn ei ailgylchu leihau eich costau gwaredu gwastraff yn y tymor canolig i’r tymor hir. Gan fod y gyfraith hon yn berthnasol i holl weithleoedd, bydd yn cael ei ystyried fel rhan o fodelau busnes a rheoli. 

Os ydych eisoes yn casglu ac ailgylchu’r holl ddeunyddiau fel sy’n angenrheidiol dan y gyfraith newydd, efallai na fydd rhaid ichi wneud unrhyw beth arall. Argymhellwn ichi ddarllen Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu: Cod Ymarfer i wneud yn hollol siŵr eich bod yn gwneud popeth y mae angen ichi ei wneud. Mae hyn yn cynnwys rhestr o’r holl fathau penodol o bethau y mae’n rhaid eu hailgylchu. 

Sefydlu ailgylchu ar draws eich sefydliad

I fusnesau bach a chanolig, yr her fwyaf yn aml yw dod o hyd i'r amser i wneud newidiadau angenrheidiol pan gyflwynir rheolau neu reoliadau newydd. Mae'r Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle yn ofyniad cyfreithiol ac felly perchennog y busnes fydd yn gyfrifol am gydymffurfio. Gallai peidio â chydymffurfio arwain at roi dirwyon. 

Busnesau annibynnol

Os ydych yn gweithredu eich busnes yn annibynnol, eich cyfrifoldeb chi fydd rhoi gwasanaeth ailgylchu ar waith a sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r gyfraith newydd.

Canolfannau siopa neu leoliadau a reolir

Os ydych o fewn lleoliad a reolir, fel canolfan siopa, neuadd fwyd neu farchnad, yna mae’n bosibl y bydd gwasanaethau rheoli gwastraff yn cael eu caffael gan gwmni rheoli cyfleusterau. Dylech gysylltu â nhw i gael gwybod am unrhyw newidiadau y byddant yn eu gwneud.

Sut i drefnu gwasanaeth ailgylchu newydd

Os bydd angen ichi drefnu gwasanaeth ailgylchu newydd, mae’n werth ystyried y canlynol:

  • Beth yw swm neu fath y gwastraff rydych yn ei gynhyrchu’n rheolaidd?  A yw hynny’n newid yn ystod y flwyddyn?  Er enghraifft, cynnydd dros gyfnod y Nadolig neu wyliau ysgol. Efallai bydd angen i’ch gwasanaeth casglu, yn cynnwys y nifer o finiau a pha mor aml y bydd angen eu gwagio, fod yn hyblyg. A yw'n well talu yn ôl maint bin, amlder casglu a/neu yn ôl pwysau gwirioneddol y gwastraff a gynhyrchwch? Chwiliwch o gwmpas i gael y gwasanaeth gorau sy'n cydymffurfio â'r gyfraith; 
  • Ystyriwch a fydd cael casgliadau ar ddyddiau penodol yn yr wythnos, e.e., ar ôl penwythnosau prysur, yn helpu i atal gwastraff a deunyddiau i’w hailgylchu rhag pentyrru;
  • Efallai mai ychydig yn aml fydd yn gweithio’n well i chi. Mae’r rhan fwyaf o gasglwyr gwastraff yn cynnig cynwysyddion o wahanol feintiau, yn cynnwys sachau ar gyfer rhai mathau o wastraff. Unwaith y byddwch yn dechrau ailgylchu, efallai y byddwch yn gallu lleihau maint eich bin gwastraff cyffredinol;
  • Os nad oes gennych lawer o le ar gyfer cynwysyddion y tu allan, a allech rannu biniau gyda busnesau eraill i helpu lleihau costau a lle? Cofiwch, ni ellir storio cynwysyddion gwastraff ar briffyrdd cyhoeddus rhwng casgliadau; 
  • Siaradwch gyda’ch casglwr gwastraff presennol am eich anghenion ailgylchu newydd. Bydd angen iddyn nhw fod yn ymwybodol o’r gyfraith newydd a sicrhau bod y gwasanaethau y maen nhw’n eu cynnig yn cydymffurfio a
  • Gallech hefyd gael dyfynbrisiau gan amrywiaeth o gasglwyr er mwyn cael y pris gorau a’r gwasanaeth sy’n fwyaf addas i chi. 

Os gwneir cais, mae’n rhaid i gynghorau drefnu gwasanaethau casglu gwastraff ac ailgylchu i chi. Mae cost am y gwasanaethau hyn. Mewn ardaloedd gwledig, efallai y gwelwch fod yr opsiynau ar gyfer gwastraff ac ailgylchu’n fwy cyfyngedig, ac mai dim ond cynghorau sir fydd yn darparu gwasanaeth casglu i chi, yn enwedig os nad ydych yn cynhyrchu llawer o wastraff. 

Os ydych chi wedi’ch lleoli yn un o’r 14 Ardal Gwella Busnes (AGB) yng Nghymru, efallai y gwelwch fod gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu y gallwch eu defnyddio yn bodoli eisoes.

Lle ar gyfer eich biniau

Mae’n bwysig ichi ystyried ble a sut byddwch yn storio eich gwastraff ac ailgylchu. 

Sicrhewch fod cynwysyddion a mannau storio gwastraff:

  • yn ddiogel a hygyrch i bobl, yn cynnwys defnyddwyr sydd ag anableddau, a’ch casglwr gwastraff;
  • ddim mewn lleoliadau sy’n peri rhwystr, perygl tân neu’n rhwystro llwybrau dihangfa;
  • yn darparu digon o gapasiti i ymdopi â’r mathau a’r symiau o wastraff a deunyddiau ailgylchadwy’r ydych yn eu cynhyrchu a’u storio rhwng casgliadau;
  • ddim wedi’u lleoli wrth ymyl ardaloedd paratoi neu storio bwyd am resymau diogelwch a hylendid
  • yn agos i ble caiff y gwastraff ac ailgylchu ei greu;
  • yn daclus, yn lân, a heb lanast neu wastraff rhydd ac 
  • yn ddiogel ac nad ydynt yn caniatáu i wastraff neu ailgylchu ddianc.

Mae’n bwysig:

Bydd dilyn y canllaw a’r cyngor hwn hefyd yn helpu osgoi problemau rheoli plâu. 

Ar gyfer eiddo llai gyda lle cyfyngedig ar gyfer biniau, un opsiwn yw cael biniau tŵr sy’n cymryd llai o le ychwanegol, os o gwbl, gweler llun 1 isod.

Image
Llun 1 : biniau tŵr sy’n cymryd llai o le ychwanegol, os o gwbl.


Llun 1:  Biniau tŵr

Ar safleoedd mwy, efallai y byddwch am hurio neu brynu peiriant bwndelu i lapio deunyddiau fel deunydd pacio cardbord. Bydd angen ichi wirio bod eich casglwr yn fodlon â hyn ac a oes unrhyw gyfyngiadau ar bwysau’r bwndeli y gallech eu cynhyrchu. Efallai bydd eich contractwr yn gallu darparu peiriant bwndelu a hyfforddiant. Os ydych yn defnyddio peiriant bwndelu, efallai y bydd angen ichi gofrestru “esemptiad gwastraff” gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Gwastraff bwyd a hylendid

Mae canllawiau ar Gyfoeth Naturiol Cymru ar wastraff bwyd i'ch helpu i waredu gwastraff yn iawn i fodloni'r gyfraith Dyletswydd Gofal gwastraff presennol.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd hefyd yn darparu arweiniad sy’n golygu bod angen ichi:

  • storio bwyd mewn cynwysyddion y gellir eu selio sydd yn:
    • soled, a digon cryf i ddal gwastraff bwyd; 
    • mewn cyflwr da – h.y. heb ddifrod neu holltau a allai alluogi plâu i gyrraedd y gwastraff neu achosi gollyngiadau ac
    • yn hawdd eu glanhau a’u diheintio.
  • symud gwastraff bwyd a sbwriel arall o ardaloedd cyn gynted â phosibl a
  • bod â digon o gyfleusterau storio gwastraff i storio a gwaredu gwastraff bwyd a sbwriel arall i’w cadw’n lân.

Os yw eich casglwr gwastraff bwyd yn caniatáu ichi ddefnyddio bagiau leinio compostadwy, sicrhewch fod eich bagiau leinio yn cydymffurfio â BS EN 13432. Mae’r safon hwn yn golygu bod yr holl wastraff bwyd a gaiff ei anfon i’w brosesu’n fasnachol yn gorfod bodloni’r safonau iawn. 

Syniadau ar hyfforddi staff

  • Gofynnwch am syniadau ar sut y gallai cynllun weithio, oherwydd efallai eu bod wedi sylwi ar gyfleoedd neu faterion nad ydych wedi'u hystyried;
  • Penodi hyrwyddwr ailgylchu i annog pawb i wneud y peth iawn.  Rheolwyr sydd â’r cyfrifoldeb terfynol i sicrhau bod yr holl aelodau staff yn deall beth a ddisgwylir ganddynt.
  • Darparwch gyfarwyddiadau clir ar yr hyn y dylent ei wneud gyda gwahanol ffrydiau gwastraff neu ddeunyddiau ailgylchadwy i'ch helpu i gwrdd â'ch rhwymedigaethau ailgylchu newydd; 
  • Darparwch hyfforddiant i weithwyr parhaol, tymhorol a dros dro. Defnyddiwch hyfforddiant sefydlu i sicrhau bod dechreuwyr newydd yn gallu ailgylchu o'r diwrnod cyntaf, gyda hyfforddiant rheolaidd a nodiadau atgoffa ar gyfer yr holl weithwyr;
  • Rhannwch wybodaeth am ailgylchu trwy ddiweddariadau rheolaidd mewn cyfarfodydd tîm ac ar hysbysfyrddau staff fel bod gweithwyr yn clywed am y gwahaniaethau y mae eu gweithredoedd yn eu gwneud a 
  • Gofynnwch am adborth os nad yw systemau ailgylchu'n gweithio'n dda, sicrhewch fod gweithwyr yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt a bod materion yn cael eu nodi'n brydlon cyn iddynt achosi mwy o broblemau.

Defnyddiwch adnoddau y Busnes o Ailgylchu wrth ymgysylltu â'ch gweithwyr, cleientiaid, ymwelwyr, cyflenwyr a gwerthwyr trydydd parti. 

Adnoddau a gwybodaeth ychwanegol

Mae gwaharddiad ar Blastigion Untro yn cynnwys cyllyll a ffyrc plastig, ffyn troi diodydd, nwyddau polystyren a gwellt yfed.

Mae Busnes Cymru yn darparu arweiniad a chymorth i fusnesau ar gynaliadwyedd a diogelu’r amgylchedd.

Mae arweiniad pellach ar gael (y Busnes o Ailgylchu) ar gyfer y sector manwerthu, gwasanaethau lletygarwch a bwyd, cyfleusterau adloniant a hamdden, sefydliadau addysgol a digwyddiadau awyr agored.