Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r canllaw hwn ar gyfer llety gwyliau, parciau/cyrchfannau gwyliau, gwersyllfaoedd, parciau carafanau, gwely a brecwast, a gwestai.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dylid darllen y canllaw hwn ar y cyd â Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu: Cod Ymarfer Cymru. Mae’r canllaw hwn yn darparu cyngor ategol ar gyfer sectorau unigol ac ni ddylid ei ddarllen fel canllaw ar ei ben ei hun. 

Mae’r canllaw hwn hefyd yn cynnwys canolfannau cymunedol a neuaddau pentref, lleoliadau adloniant, a chwaraeon (yn cynnwys canolfannau hamdden), meysydd a stadia chwaraeon, meysydd sioe, adeiladau treftadaeth, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd. 

Mae’r canllaw yn berthnasol i sefydliadau sy’n gweithredu naill ai gydol y flwyddyn neu’n dymhorol, a boed hwy’n gweithredu o fewn y sector preifat, y sector cyhoeddus neu’r trydydd sector.

Pam mae angen ichi ailgylchu

O 6 Ebrill 2024, bydd y gyfraith newydd yn golygu bydd yn rhaid i holl weithleoedd gyflwyno’r deunyddiau canlynol ar wahân i’w hailgylchu a threfnu i’r gwastraff gael ei gasglu ar wahân i wastraff arall. 

Beth i’w ailgylchu

  • Papur a cherdyn; 
  • Gwydr;
  • Metel, plastig, a chartonau (a deunyddiau eraill tebyg, er enghraifft, cwpanau coffi); 
  • Bwyd – unrhyw safle sy’n cynhyrchu 5kg neu fwy o wastraff bwyd mewn saith diwrnod yn olynol;
  • Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach (sWEEE) heb eu gwerthu; a 
  • Tecstilau heb eu gwerthu.

Mae’r cyfyngiad 5kg o wastraff bwyd yn berthnasol i unrhyw gyfnod o saith diwrnod. Os ydych yn cynhyrchu mwy na 5kg o wastraff bwyd mewn unrhyw gyfnod o saith niwrnod, yna mae’n rhaid iddo gael ei gyflwyno ar wahân i’w gasglu.Os nad ydych yn cynhyrchu mwy na 5kg yr wythnos yna dylid monitro hyn i gyfrif am unrhyw newidiadau ar y safle, er enghraifft cynnydd mewn lefelau staffio neu ymwelwyr. 

Dim ond ar gyfer gwastraff tebyg i wastraff o’r cartref a gynhyrchir gan weithleoedd y mae’r gyfraith hon yn berthnasol, hynny yw, gwastraff a geir mewn cartrefi fel arfer ac a gaiff ei gasglu’n arferol o ymyl y ffordd.

Mae rhestr lawn o ddeunyddiau ailgylchadwy y dylid eu cyflwyno ar wahân i’w hailgylchu ar gael yma: Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu:  Cod Ymarfer

Fel cynhyrchydd gwastraff, mae’n ofynnol ichi gynhyrchu nodyn trosglwyddo gwastraff. Yn y rhan fwyaf o achosion, fodd bynnag, bydd eich casglwr gwastraff yn gwneud hyn i chi. Dylech ei wirio’n ofalus i sicrhau bod y disgrifiad o’r gwastraff sy’n cael ei gasglu’n gywir. Ni chaiff eich casglwr gwastraff anfon unrhyw un o’r deunyddiau wedi’u gwahanu i dirlenwi neu losgi. Dylech ystyried gofyn i'ch casglwr gwastraff am dystiolaeth reolaidd o gyrchfannau prosesu terfynol eich deunyddiau a wahanwyd. 

Mae’r gyfraith newydd yn gwahardd gwaredu unrhyw symiau o wastraff bwyd i lawr y sinc neu’r draen i garthffosydd. Mae’n golygu na chewch ddefnyddio unedau mwydo mewn sinciau sy’n torri neu’n malu gwastraff bwyd a’i anfon i lawr y draen.

Er na fydd yn anghyfreithlon ichi gael uned mwydo, peiriant dad-ddyfrio, neu dechnoleg gwaredu gwastraff bwyd arall tebyg, bydd yn anghyfreithlon ichi eu defnyddio i anfon gwastraff bwyd i garthffosydd. 

Bydd yn rhaid i holl ddeiliaid gweithleoedd gyflwyno deunyddiau ailgylchadwy ar wahân yn gywir i’w casglu gan eu dewis o gasglwr gwastraff. Mae hyn yn wir p’un a ydych yn berchennog, yn rhentu, neu’n prydlesu eich eiddo.

Sut i ddeall eich gwastraff ac ailgylchu’n well

Er mwyn deall y gwahanol fathau o wastraff y mae eich gweithle yn ei gynhyrchu, gwnewch archwiliad gwastraff trwy gerdded trwy'r gwahanol fannau yn eich eiddo, e.e., swyddfeydd, ceginau, caffis ar y safle, ystafelloedd clwb a lolfeydd, mannau paratoi bwyd, storfeydd, a mannau dosbarthu, i archwilio cynnwys biniau gwastraff cyffredinol, ac i amlygu unrhyw ymdrechion lleihau gwastraff neu ailgylchu sydd eisoes ar waith. Meddyliwch hefyd am y bobl a fydd yn defnyddio eich cyfleusterau a'r mathau o wastraff y gallent ei gynhyrchu.

Ar eich eiddo, mae’r mannau sy’n fwyaf tebygol o gynhyrchu gwastraff yn cynnwys: 

  • Ceginau, caffis ar y safle, a stondinau bwyd:
    • Mannau paratoi bwyd – bwyd (difetha a gwastraff paratoi), deunyddiau pacio fel metel, gwydr, cardbord, ffilmiau plastig a deunydd lapio.
    • Mannau bwyta bwyd – bwyd (gwastraff plât), gwastraff pecynnu fel caniau diodydd, poteli plastig a gwydr, cartonau diod, cardbord, a phapur;
  • Ystafell staff/ystafell fwyta/swyddfa – papur, bwyd, a deunydd pacio;
  • Mannau cyhoeddus fel cynteddau, neuaddau a siopau anrhegion – bwyd heb ei fwyta, gwastraff pecynnu fel caniau diod, poteli plastig a gwydr, cartonau diod, cardbord a phapur; 
  • Siopau anrhegion – papur a deunyddiau pecynnu fel cardbord, ffilmiau plastig a lapio; a thecstilau heb eu gwerthu a nwyddau trydanol bach heb eu gwerthu; a
  • Lletyai gwesteion a gwyliau – bwyd (gwastraff plât, paratoi a bwyd wedi difetha), gwastraff pecynnu fel caniau diodydd, poteli plastig a gwydr, cartonau diod, cardbord a phapur.

Yn dibynnu ar natur benodol eich busnes a'r gwasanaethau a ddarperir gennych, efallai eich bod yn cynhyrchu gwahanol fathau o wastraff, er enghraifft, olewau coginio a brasterau, silindrau nwy gwersylla tafladwy neu fatris a fydd yn galw am wasanaeth casglu gwastraff arbenigol.

Os ydych wedi llogi eich safle o’r blaen, dylech wybod y mathau o wastraff a faint ohono sy’n debygol o gael ei gynhyrchu gan weithgareddau eich cleientiaid. Bydd hyn yn eich helpu i ganfod faint o gynwysyddion y bydd angen i chi eu cyflenwi ar gyfer deunyddiau ailgylchadwy a gwastraff arall er mwyn sicrhau eich bod yn cydymffurfio â'r Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle newydd.

Atal gwastraff yn y lle cyntaf

Bydd lleihau neu atal faint o wastraff yr ydych yn ei gynhyrchu’n helpu i arbed arian a lleihau maint y biniau y bydd eu hangen arnoch. 

Dyma rai awgrymiadau i’ch helpu i leihau eich gwastraff:

  • Darparwch e-docynnau, arweinlyfrau electronig, gwybodaeth i dwristiaid a mapiau i ymwelwyr sydd ar gael ar ffonau clyfar;
  • Rhoddi stoc ormodol neu stoc heb ei werthu – gallwch roi gwarged bwyd i elusen neu gael oergell ar gyfer staff i ddal cynnyrch y gallant ei fwyta neu ei gludo adref am ddim. Mae canllaw ar gael ar GOV.UK sut mae’n rhaid i fusnesau bwyd gael gwared ar fwyd a chyn ddeunyddiau bwyd.
  • Defnyddiwch ddulliau marchnata di-bapur a chynhigiwch dderbynebau di-bapur drwy eu hanfon i gwsmeriaid drwy ebost;
  • Sicrhewch cyn lleied â phosibl o ddeunydd pacio ar eich bwyd a diod tecawê a bod y deunydd pacio a gaiff ei ddefnyddio yn ailgylchadwy neu’n ailddefnyddiadwy.
  • Prynwch nwyddau eilgylch, nwyddau y gellir eu hail-lenwi neu eu hailddefnyddio pan bynnag fo’n bosibl;
  • Darparwch ffynhonnau dŵr i staff a chwsmeriaid eu defnyddio a defnyddiwch gwpanau, llestri a chyllyll a ffyrc ailddefnyddiadwy;
  • Ar gyfer diodydd tecawê, anogwch eich cwsmeriaid i ddod â’u cwpan ailddefnyddiadwy eu hunain drwy godi tâl am gwpanau untro a

Efallai y bydd cost ynghlwm â gwneud y newidiadau hyn i rai gweithleoedd, ond gallai cynyddu faint rydych yn ei ailgylchu leihau eich costau gwaredu gwastraff yn y tymor canolig i’r tymor hir. Gan fod y gyfraith hon yn berthnasol i holl arlwywyr bwyd a diod, bydd yn cael ei ystyried fel rhan o fodelau busnes a rheoli.

Sut i gydymffurfio â’r gyfraith ailgylchu newydd

Os ydych eisoes yn casglu ac ailgylchu’r holl ddeunyddiau fel sy’n angenrheidiol dan y gyfraith newydd, efallai na fydd rhaid ichi wneud unrhyw beth arall. Argymhellwn ichi ddarllen Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu: Cod Ymarfer i wneud yn hollol siŵr eich bod yn gwneud popeth y mae angen ichi ei wneud. Mae hyn yn cynnwys rhestr o’r holl fathau penodol o bethau y mae’n rhaid eu hailgylchu.

Busnesau annibynnol

Os ydych yn gweithredu eich busnes yn annibynnol, eich cyfrifoldeb chi fydd rhoi gwasanaeth ar waith a sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r gyfraith newydd.

Safleoedd masnachfraint neu sefydliadau mwy

Os ydych yn rhan o sefydliad mwy, cadwyn neu fenter masnachfraint, yna efallai bod gwasanaethau rheoli gwastraff yn cael eu trefnu’n genedlaethol neu’n rhanbarthol, a’r brif swyddfa neu swyddfa ranbarthol yn darparu gwybodaeth a chanllawiau. Dylech gysylltu â nhw i gael gwybod am unrhyw newidiadau y byddant yn eu gwneud.

Sut i drefnu gwasanaeth ailgylchu newydd

Os bydd angen ichi drefnu gwasanaeth ailgylchu newydd, mae’n werth ystyried y canlynol:

  • Beth yw swm neu fath y gwastraff rydych yn ei gynhyrchu’n rheolaidd?  A yw hynny’n newid yn ystod y flwyddyn?  Er enghraifft, cynnydd dros gyfnod y Nadolig neu wyliau ysgol. Efallai bydd angen i’ch gwasanaeth casglu, yn cynnwys y nifer o finiau a pha mor aml y bydd angen eu gwagio, fod yn hyblyg;
  • Ystyriwch a fydd cael casgliadau ar ddyddiau penodol yn yr wythnos, e.e. ar ôl penwythnosau prysur neu ‘ddiwrnodiau newid gwesteion’, yn helpu i atal gwastraff a deunyddiau i’w hailgylchu rhag pentyrru;
  • Efallai mai ychydig yn aml fydd yn gweithio’n well i chi. Mae’r rhan fwyaf o gasglwyr gwastraff yn cynnig cynwysyddion o wahanol feintiau, yn cynnwys sachau ar gyfer rhai mathau o wastraff. Unwaith y byddwch yn dechrau ailgylchu, efallai y byddwch yn gallu lleihau maint eich bin gwastraff cyffredinol;
  • Os nad oes gennych lawer o le ar gyfer cynwysyddion y tu allan, a allech rannu biniau gyda busnesau eraill cyfagos i helpu lleihau costau a lle? Cofiwch, ni ellir storio cynwysyddion gwastraff ar briffyrdd cyhoeddus rhwng casgliadau; 
  • Siaradwch gyda’ch casglwr gwastraff presennol am eich anghenion ailgylchu newydd. Bydd angen iddyn nhw fod yn ymwybodol o’r gyfraith newydd a sicrhau bod y gwasanaethau y maen nhw’n eu cynnig yn cydymffurfio;
  • A fydd angen casgliadau ar adegau penodol o’r diwrnod neu’r wythnos arnoch, h.y. ar ddiwedd bob dydd neu pan fo huriad/digwyddiad wedi dod i ben, er mwyn cyfrif am newidiadau yn symiau gwastraff a sicrhau diogelwch y safle. Cofiwch y gall cerbydau casglu gwastraff fod yn beryglus i ymwelwyr os bydd angen iddynt deithio ar draws ardaloedd sydd â llawer o draffig cerddwyr a 
  • Gallech hefyd gael dyfynbrisiau gan amrywiaeth o gasglwyr er mwyn cael y pris gorau a’r gwasanaeth sy’n fwyaf addas i chi. 

Os gwneir cais, mae’n rhaid i gynghorau drefnu gwasanaethau casglu gwastraff ac ailgylchu i chi. Mae cost am y gwasanaethau hyn. Mewn ardaloedd gwledig, efallai y gwelwch fod yr opsiynau ar gyfer gwastraff ac ailgylchu’n fwy cyfyngedig, ac mai dim ond cynghorau sir fydd yn darparu gwasanaeth casglu i chi, yn enwedig os nad ydych yn cynhyrchu llawer o wastraff. 

Os ydych chi wedi’ch lleoli yn un o’r 14 Ardal Gwella Busnes (AGB) yng Nghymru, efallai y gwelwch fod gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu y gallwch eu defnyddio yn bodoli eisoes.

Lle ar gyfer eich biniau

Mae’n bwysig ichi ystyried ble a sut byddwch yn storio eich gwastraff ac ailgylchu. 

Sicrhewch fod cynwysyddion a mannau storio gwastraff:

  • yn ddiogel a hygyrch i bobl, yn cynnwys defnyddwyr sydd ag anableddau, a’ch casglwr gwastraff;
  • ddim mewn lleoliadau sy’n peri rhwystr, perygl tân neu’n rhwystro llwybrau dihangfa;
  • yn darparu digon o gapasiti i ymdopi â’r mathau a’r symiau o wastraff a deunyddiau ailgylchadwy’r ydych yn eu cynhyrchu a’u storio rhwng casgliadau;
  • ddim wedi’u lleoli wrth ymyl ardaloedd paratoi neu storio bwyd am resymau diogelwch a hylendid;
  • yn agos i'r man lle mae'r gwastraff a'r ailgylchu'n cael ei gynhyrchu, h.y., mewn ardaloedd lle mae nifer fawr o bobl yn ymweld â'r mynedfeydd neu'r allanfeydd, mannau cymunedol, cynteddau, wrth ymyl consesiynau, mannau paratoi bwyd, wrth ymyl y cyfleusterau mewn gwersylloedd;
  • yn daclus, yn lân, a heb lanast neu wastraff rhydd ac 
  • yn cael eu diogelu gyda chaeadau sy’n cau’n sownd, ac nad ydynt yn caniatáu i wastraff neu ailgylchu ddianc.

Mae’n bwysig:

  • labelu eich biniau ailgylchu i osgoi halogiad. Gallwch ddefnyddio labeli oddi ar wefan y Busnes o Ailgylchu (www.busnesoailgylchu.wrapcymru.org.uk) a 
  • atal dŵr rhag cael ei halogi gan wastraff wedi’i storio.

Bydd dilyn y canllaw a’r cyngor hwn hefyd yn helpu osgoi problemau rheoli plâu. 

Chi sy’n gyfrifol am asesu risgiau sy'n gysylltiedig â storio, trin neu ddefnyddio gwastraff, a rhoi mesurau rheoli effeithiol ar waith i osgoi a rheoli unrhyw risgiau a nodwyd. Gallai’r peryglon sy’n gysylltiedig â rheolaeth gwastraff gwael gynnwys: 

  • croniadau o wastraff sy’n rhwystro mynediad brys neu lwybrau dianc, sy’n achosi peryglon baglu neu dân ac yn denu fermin. Mae’r rhain oll yn peri risgiau iechyd a diogelwch – sicrhewch fod mannau storio gwastraff wedi’u lleoli i oddi wrth ffynonellau fflamadwy a bod deunyddiau fflamadwy fel cardbord yn cael eu storio mewn cynwysyddion wedi’u selio neu ddiogel;
  • cerbydau casglu gwastraff yn croesi ardaloedd neu lwybrau lle mae llawer o bobl yn ymweld.  Gall hyn fod yn beryglus – yn ddelfrydol sicrhewch fod casgliadau’n digwydd pan fo’r safle heb ymwelwyr arno. Os nad yw hynny’n bosibl, dylid casglu yn ystod cyfnodau tawelach a dylid defnyddio “bancwr” neu gynorthwyydd ar gyfer bacio’n ôl, ac 
  • anafiadau i weithwyr o ganlyniad i drin gwastraff, e.e., anafiadau gan nodwyddau, straeniau cefn a achosir gan ormod o symud â llaw a haint posibl gan bathogenau fel tetanws.

Ar safleoedd mwy, efallai y byddwch am hurio neu brynu peiriant bwndelu i gywasgu deunyddiau fel deunydd pacio cardbord. Bydd angen ichi wirio a yw eich casglwr yn fodlon â hyn ac a oes unrhyw gyfyngiadau ar bwysau’r bwndeli y gallech eu cynhyrchu. Efallai bydd eich contractwr yn gallu darparu peiriant bwndelu a hyfforddiant.  

Os ydych yn defnyddio peiriant bwndelu, efallai y bydd angen ichi gofrestru “esemptiad gwastraff” gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Er mwyn cadw biniau ailgylchu yn rhydd rhag halogiad, ystyriwch ddarparu gwybodaeth ychwanegol i gleientiaid ac ymwelwyr. Darparwch wybodaeth ar eich gwefan ac fel rhan o'r pecyn croeso a ddarperir i ymwelwyr.  Os ydych yn gweithredu lleoliad sy'n cael ei logi, fel neuadd bentref, gallech gynnwys y wybodaeth fel rhan o'ch telerau defnyddio. Gofynnwch i ddefnyddwyr leihau gwastraff, trwy beidio â defnyddio eitemau tafladwy fel platiau, cyllyll a ffyrc, cwpanau, ailgylchu poteli, tuniau, papur a phlastigau trwy ddefnyddio'r biniau a'r bagiau sydd ar gael yn y neuadd.

Ar gyfer eiddo sydd â mannau allanol mawr megis adeiladau hanesyddol gyda pharciau a gerddi cysylltiedig, meysydd sioe neu stadia chwaraeon, bydd angen codi sbwriel. Bydd lefel y casglu sbwriel, ei amlder a'i hyd yn dibynnu i raddau helaeth ar natur a lefel defnydd y gofod. Hyfforddwch ac arfogwch staff a rhoi offer amddiffynnol priodol iddynt os ydynt yn ymgymryd â dyletswyddau codi sbwriel neu wagio biniau. Yn dilyn asesiad risg, sicrhewch eu bod yn gwybod beth y gellir ac na ellir ei ailgylchu i leihau halogiad. Ystyriwch faint y cynwysyddion yn enwedig y rhai ar gyfer gwastraff bwyd, sy’n ddwys, er mwyn lleihau’r risgiau codi a chario i weithwyr sy’n gwagio cynwysyddion i finiau masnachol mwy.

Os ydych chi'n llogi eich eiddo yn rheolaidd ar gyfer digwyddiadau dan do neu awyr agored, ffeiriau, cyngherddau, marchnadoedd a gwyliau dylech ddarllen ein Canllaw ar gyfer trefnwyr digwyddiadau awyr agored a gwyliau.

Gwastraff bwyd a hylendid

Mae canllawiau ar Gyfoeth Naturiol Cymru ar wastraff bwyd i'ch helpu i waredu gwastraff yn iawn i fodloni'r gyfraith Dyletswydd Gofal gwastraff presennol.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd hefyd yn darparu arweiniad sy’n golygu bod angen ichi:

  • storio bwyd mewn cynwysyddion y gellir eu selio sydd yn:
    • soled, a digon cryf i ddal gwastraff bwyd,
    • mewn cyflwr da – h.y. heb ddifrod neu holltau a allai alluogi plâu i gyrraedd y gwastraff neu achosi gollyngiadau; ac
    • yn hawdd eu glanhau a’u diheintio,
  • symud gwastraff bwyd a sbwriel arall o ardaloedd cyn gynted â phosibl a
  • bod â digon o gyfleusterau storio gwastraff i storio a gwaredu gwastraff bwyd a sbwriel arall i’w cadw’n lân.

Sicrhewch fod unrhyw newidiadau a wnewch yn cael eu cynnwys yn eich Systemau Rheoli Diogelwch Bwyd.

Os yw eich casglwr gwastraff bwyd yn caniatáu ichi ddefnyddio bagiau leinio compostadwy, sicrhewch fod eich bagiau leinio yn cydymffurfio â BS EN 13432. Mae’r safon hwn yn golygu bod yr holl wastraff bwyd a gaiff ei anfon i’w brosesu’n fasnachol yn gorfod bodloni’r safonau iawn. 

Cyfeiriwch at ein canllaw ar gyfer y sector lletygarwch a fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am gasglu gwastraff bwyd i’w ailgylchu.

Ymgysylltu â chleientiaid, ymwelwyr, cyflenwyr a gwerthwyr trydydd parti

Wrth ymgysylltu â staff:

  • Gofynnwch am syniadau ar sut y gallai cynllun weithio, oherwydd efallai eu bod wedi sylwi ar gyfleoedd neu faterion nad ydych wedi'u hystyried;
  • Darparwch gyfarwyddiadau clir ar yr hyn y dylent ei wneud gyda gwahanol ffrydiau gwastraff neu ddeunyddiau ailgylchadwy i'ch helpu i gwrdd â'ch rhwymedigaethau ailgylchu newydd; 
  • Darparwch hyfforddiant i weithwyr parhaol, tymhorol a dros dro. Defnyddiwch hyfforddiant sefydlu i sicrhau bod dechreuwyr newydd yn gallu ailgylchu o'r diwrnod cyntaf, gyda hyfforddiant rheolaidd a nodiadau atgoffa ar gyfer yr holl weithwyr;
  • Rhannwch wybodaeth am ailgylchu trwy ddiweddariadau rheolaidd mewn cyfarfodydd tîm ac ar hysbysfyrddau staff fel bod gweithwyr yn clywed am y gwahaniaethau y mae eu gweithredoedd yn eu gwneud a 
  • Gofynnwch am adborth os nad yw systemau ailgylchu'n gweithio'n dda, sicrhewch fod gweithwyr yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt a bod materion yn cael eu nodi'n brydlon cyn iddynt achosi mwy o broblemau.

Wrth ymgysylltu â chleientiaid, ymwelwyr, cyflenwyr a gwerthwyr trydydd parti:

  • Sicrhewch fod yr holl randdeiliaid yn deall eu cyfrifoldebau o ran ailgylchu a rheoli gwastraff a darparu digon o gapasiti gwastraff i sicrhau y gallant ailgylchu fel sy’n ofynnol gan y gyfraith Ailgylchu yn y Gweithle newydd.
  •  Cynhwyswch leoliad biniau ailgylchu a gwastraff ar fapiau o’r lleoliad a thaflenni sy'n amlygu'r holl fannau ailgylchu a chasglu gwastraff pwrpasol gydag arwyddion clir;
  • Hyrwyddwch argaeledd gwasanaethau ailgylchu i ymwelwyr ym mhob llenyddiaeth hyrwyddo ac egluro pam y dylent eu defnyddio a
  • Sicrhewch fod pob bin wedi'i labelu'n glir fel bod defnyddwyr yn gwybod pa eitemau i'w rhoi ym mhob bin. Gwnewch finiau ailgylchu mor weladwy â phosibl gydag arwyddion clir arnynt i helpu pobl i ddefnyddio'r biniau cywir. Gall wardeniaid ailgylchu fonitro cynwysyddion i sicrhau nad yw ymwelwyr yn achosi halogiad.

Gofynnwch i'ch casglwr gwastraff ac ailgylchu am wybodaeth ar faint o wastraff rydych chi'n ei gynhyrchu a faint sydd wedi'i ailgylchu. Defnyddiwch y wybodaeth hon i adolygu sut y gallech gynyddu ailgylchu a gosod targedau i leihau gwastraff neu ailgylchu mwy. Gellir defnyddio'r wybodaeth hon hefyd i hyrwyddo eich llwyddiannau ailgylchu i'r gymuned leol, eich ymwelwyr, a chleientiaid i atgyfnerthu pam mae ailgylchu mor bwysig.

Defnyddiwch adnoddau y Busnes o Ailgylchu wrth ymgysylltu â'ch gweithwyr, cleientiaid, ymwelwyr, cyflenwyr a gwerthwyr trydydd parti.

Adnoddau a gwybodaeth ychwanegol

Mae gwaharddiad ar Blastigion Untro yn cynnwys cyllyll a ffyrc plastig, ffyn troi diodydd, nwyddau polystyren a gwellt yfed.

Os ydych chi’n rhedeg gwesty ac yr hoffech fesur eich gwastraff, mae’r Fethodoleg Mesur Gwastraff Gwestai (Sustainable Hospitality Alliance) yn cynnig dull cyffredin ar gyfer casglu data gwastraff, a mesur ac adrodd ar wastraff.

Mae’r Pecyn adnoddau map llwybr lleihau gwastraff bwyd (WRAP) yn cynnig camau i’ch helpu i leihau gwastraff bwyd. I weld beth mae eraill wedi’i wneud, ewch i Astudiaethau achos lletygarwch a gwasanaethau bwyd (WRAP).

Os ydych yn chwilio am syniadau ar gyfer beth i’w wneud gyda bwyd dros ben, gall y Surplus food hub (WRAP) helpu.