Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r canllaw hwn ar gyfer lleoliadau preswyl yn cynnwys Cartrefi Nyrsio, Cartrefi Gofal Preswyl a Charchardai.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dylid darllen y canllaw hwn ar y cyd â Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu:  Cod Ymarfer Cymru. Mae’r canllaw hwn yn darparu cyngor ategol ar gyfer sectorau unigol ac ni ddylid ei ddarllen fel canllaw ar ei ben ei hun. 

Pam mae angen ichi ailgylchu

O 6 Ebrill 2024, bydd y gyfraith newydd yn golygu bydd yn rhaid i holl weithleoedd gyflwyno’r deunyddiau canlynol ar wahân i’w hailgylchu a threfnu i’r gwastraff gael ei gasglu ar wahân i wastraff arall. 

Beth i’w ailgylchu

  • Papur a cherdyn;
  • Gwydr;
  • Metel, plastig, a chartonau (a deunyddiau eraill tebyg, er enghraifft, cwpanau coffi);
  • Bwyd – unrhyw safle sy’n cynhyrchu 5kg neu fwy o wastraff bwyd mewn saith diwrnod yn olynol;
  • Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach (sWEEE) heb eu gwerthu a 
  • Tecstilau heb eu gwerthu.

Mae’r cyfyngiad 5kg o wastraff bwyd yn berthnasol i unrhyw gyfnod o saith diwrnod.  Os ydych yn cynhyrchu mwy na 5kg o wastraff bwyd mewn unrhyw gyfnod o saith niwrnod, yna mae’n rhaid iddo gael ei gyflwyno ar wahân i’w gasglu.  Os nad ydych yn cynhyrchu mwy na 5kg yr wythnos yna dylid monitro hyn i gyfrif am unrhyw newidiadau ar y safle, er enghraifft cynnydd mewn lefelau staffio neu ymwelwyr.  

Dim ond ar gyfer gwastraff tebyg i wastraff o’r cartref a gynhyrchir gan weithleoedd y mae’r gyfraith hon yn berthnasol, hynny yw, gwastraff a geir mewn cartrefi fel arfer ac a gaiff ei gasglu’n arferol o ymyl y ffordd.   

Mae rhestr lawn o ddeunyddiau ailgylchadwy y dylid eu cyflwyno ar wahân i’w hailgylchu ar gael yma:  Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu:  Cod Ymarfer

Fel cynhyrchydd gwastraff, mae’n ofynnol ichi gynhyrchu nodyn trosglwyddo gwastraff. Yn y rhan fwyaf o achosion, fodd bynnag, bydd eich casglwr gwastraff yn gwneud hyn i chi. Dylech ei wirio’n ofalus i sicrhau bod y disgrifiad o’r gwastraff sy’n cael ei gasglu’n gywir. Ni chaiff eich casglwr gwastraff anfon unrhyw un o’r deunyddiau wedi’u gwahanu i dirlenwi neu losgi. Gallech ystyried gofyn i'ch casglwr gwastraff am dystiolaeth reolaidd o gyrchfannau prosesu terfynol eich deunyddiau a wahanwyd.

Mae’r gyfraith newydd yn gwahardd gwaredu unrhyw symiau o wastraff bwyd i lawr y sinc neu’r draen i garthffosydd. Mae’n golygu na chewch ddefnyddio unedau mwydo mewn sinciau sy’n torri neu’n malu gwastraff bwyd a’i anfon i lawr y draen.

Er na fydd yn anghyfreithlon ichi gael uned mwydo, peiriant dad-ddyfrio, neu dechnoleg gwaredu gwastraff bwyd arall tebyg, bydd yn anghyfreithlon ichi eu defnyddio i anfon gwastraff bwyd i garthffosydd. 

Bydd yn rhaid i holl ddeiliaid gweithleoedd gyflwyno deunyddiau ailgylchadwy ar wahân yn gywir i’w casglu gan eu dewis o gasglwr gwastraff. Mae hyn yn wir p’un a ydych yn berchennog, yn rhentu, neu’n prydlesu eich eiddo. 

Sut i ddeall eich gwastraff ac ailgylchu’n well

Er mwyn deall y gwahanol fathau o wastraff y mae eich gweithle yn ei gynhyrchu, gwnewch archwiliad gwastraff trwy gerdded trwy'r gwahanol fannau yn eich eiddo, e.e., swyddfeydd, ceginau, mannau paratoi bwyd, storfeydd, ardaloedd y mae gan eich preswylwyr a’u hymwelwyr fynediad iddynt, a mannau dosbarthu, i archwilio cynnwys biniau gwastraff cyffredinol, ac i amlygu unrhyw ymdrechion lleihau gwastraff neu ailgylchu sydd eisoes ar waith. Meddyliwch hefyd am y bobl a fydd yn defnyddio eich cyfleusterau a'r mathau o wastraff y gallent ei gynhyrchu.

Gallai’r meysydd yr ydych yn fwyaf tebygol o gynhyrchu gwastraff gynnwys: 

  • Ffreuturau a cheginau – gwastraff bwyd (e.e. gwastraff paratoi) a deunyddiau pacio; 
  • Golchfa a storfeydd – gwastraff deunydd pacio,
  • Ystafelloedd staff ac ystafelloedd egwyl – gwastraff papur a deunyddiau pacio; 
  • Swyddfeydd cyffredinol – papur;
  • Ystafelloedd dydd, ystafelloedd gwely ac ystafelloedd ymolchi – gwastraff papur, deunydd pacio a gwastraff bwyd,
  • Mannau gweithgareddau a gweithdai – gwastraff papur a deunydd pacio, gwastraff trydanol heb ei werthu a thecstilau heb eu gwerthu a 
  • Tir allanol fel gerddi a mannau eistedd yn yr awyr agored – gwastraff bwyd a deunyddiau pacio.

Efallai y bydd sefydliadau preswyl hefyd yn cynhyrchu mathau o wastraff peryglus, fel paent, olewau neu gemegau sy’n galw am wasanaeth casglu gwastraff arbenigol.

Atal gwastraff yn y lle cyntaf

Bydd lleihau neu atal faint o wastraff yr ydych yn ei gynhyrchu’n helpu i arbed arian a lleihau maint y biniau y bydd eu hangen arnoch. 

Dyma rai awgrymiadau i’ch helpu i leihau eich gwastraff:

  • Rhoddi stoc ormodol neu stoc heb ei werthu – gallwch roi gwarged bwyd i elusen neu gael oergell ar gyfer staff i ddal cynnyrch y gallant ei fwyta neu ei gludo adref am ddim. Mae Canllaw ar gael ar GOV.UK sut mae’n rhaid i fusnesau bwyd gael gwared ar fwyd a chyn ddeunyddiau bwyd.
  • Defnyddiwch ddulliau marchnata di-bapur;
  • Prynwch nwyddau eilgylch, nwyddau y gellir eu hail-lenwi neu eu hailddefnyddio pan bynnag fo’n bosibl a
  • Darparwch ffynhonnau dŵr i staff a phreswylwyr eu defnyddio a defnyddiwch gwpanau, llestri a chyllyll a ffyrc ailddefnyddiadwy.

Efallai y bydd rhai costau cychwynnol ynghlwm â gwneud y newidiadau hyn ond gallai cynyddu faint rydych yn ei ailgylchu leihau eich costau gwaredu gwastraff yn y tymor canolig i’r tymor hir. 

Sut i gydymffurfio â’r gyfraith ailgylchu newydd

Os ydych eisoes yn casglu ac ailgylchu’r holl ddeunyddiau fel sy’n angenrheidiol dan y gyfraith newydd, efallai na fydd rhaid ichi wneud unrhyw beth arall. Argymhellwn ichi ddarllen Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu:  Cod Ymarfer i wneud yn hollol siŵr eich bod yn gwneud popeth y mae angen ichi ei wneud. Mae hyn yn cynnwys rhestr o’r holl fathau penodol o bethau y mae’n rhaid eu hailgylchu. 

Busnesau annibynnol

Os ydych yn gweithredu eich busnes yn annibynnol, eich cyfrifoldeb chi fydd rhoi gwasanaeth ar waith a sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r gyfraith newydd.

Safleoedd masnachfraint neu sefydliadau mwy

Os ydych yn rhan o sefydliad mwy, yna efallai bod gwasanaethau rheoli gwastraff yn cael eu trefnu’n genedlaethol neu’n rhanbarthol, a’r brif swyddfa neu swyddfa ranbarthol yn darparu gwybodaeth a chanllawiau. Dylech gysylltu â nhw i gael gwybod am unrhyw newidiadau y byddant yn eu gwneud.

Sut i drefnu gwasanaeth ailgylchu newydd

Os bydd angen ichi drefnu gwasanaeth ailgylchu newydd, mae’n werth ystyried y canlynol:

  • A fydd angen ichi gael casgliadau ar adegau penodol o’r diwrnod neu’r wythnos er mwyn cyfrif am newidiadau yn symiau gwastraff a sicrhau diogelwch y safle. Cofiwch y gall cerbydau casglu gwastraff fod yn beryglus i breswylwyr sy’n agored i niwed os bydd angen iddynt deithio ar draws ardaloedd sydd â llawer o draffig cerddwyr;
  • Beth yw swm neu fath y gwastraff rydych yn ei gynhyrchu’n rheolaidd?  A yw hynny’n newid yn ystod y flwyddyn?  Er enghraifft, cynnydd ar adegau pan fyddwch o bosibl yn lletya cleientiaid neu breswylwyr ychwanegol. Efallai bydd angen i’ch gwasanaeth casglu, yn cynnwys y nifer o finiau a pha mor aml y bydd angen eu gwagio, fod yn hyblyg;
  • Efallai mai ychydig yn aml fydd yn gweithio’n well i chi. Mae’r rhan fwyaf o gasglwyr gwastraff yn cynnig cynwysyddion o wahanol feintiau, yn cynnwys sachau ar gyfer rhai mathau o wastraff. Unwaith y byddwch yn dechrau ailgylchu, efallai y byddwch yn gallu lleihau maint eich bin gwastraff cyffredinol;
  • Os nad oes gennych lawer o le ar gyfer cynwysyddion y tu allan, a allech rannu biniau gyda busnesau eraill i helpu lleihau costau a lle? Cofiwch, ni ellir storio cynwysyddion gwastraff ar briffyrdd cyhoeddus rhwng casgliadau;
  • Siaradwch gyda’ch casglwr gwastraff presennol am eich anghenion ailgylchu newydd. Bydd angen iddyn nhw fod yn ymwybodol o’r gyfraith newydd a sicrhau bod y gwasanaethau y maen nhw’n eu cynnig yn cydymffurfio a
  • Gallech hefyd gael dyfynbrisiau gan amrywiaeth o gasglwyr er mwyn cael y pris gorau a’r gwasanaeth sy’n fwyaf addas i chi. 

Os mai cartref dan reolaeth awdurdod lleol ydych chi, mae’n bosibl y bydd trefniadau ar y cyd yn cael eu gwneud ar gyfer yr holl sefydliadau tebyg yn eich ardal awdurdod lleol.  Mae’r Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle yn berthnasol i holl eiddo awdurdodau lleol, felly mae’n bosibl y bydd caffael ar lefel corfforaethol yn digwydd i leihau’r amser ac ymdrech mae’n ei gymryd ar draws amrywiol adrannau neu adeiladau.

Gall sefydliadau yn y sector cyhoeddus ddefnyddio cytundebau contractau fframwaith a gaiff eu caffael gan sefydliadau prynu proffesiynol fel GwerthwchiGymru gaffael nwyddau a gwasanaethau, gan arbed amser ac ymdrech i chi, ynghyd ag arian o bosibl. Mae’r Eastern Shires Purchasing Organisation (ESPO) yn darparu fframwaith ar gyfer caffael gwasanaethau casglu gwastraff, ailgylchu sych a gwastraff bwyd drwy gyfrwng Fframwaith 379_21; ac mae’r YPO (Yorkshire Purchasing Organisation) yn darparu amrywiaeth o fframweithiau dan ei adran Rheoli Cyfleusterau ar gyfer caffael nwyddau a gwasanaethau fel leinin y gellir eu compostio, cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu dan do ac awyr agored, biniau olwynion a gwasanaethau ailgylchu.

Lle ar gyfer eich biniau

Mae’n bwysig ichi ystyried ble a sut byddwch yn storio eich gwastraff ac ailgylchu. 

Sicrhewch fod cynwysyddion a mannau storio gwastraff:

  • yn ddiogel a hygyrch i bobl, yn cynnwys defnyddwyr sydd ag anableddau, a’ch casglwr gwastraff;
  • ddim mewn lleoliadau sy’n peri rhwystr, perygl tân neu’n rhwystro llwybrau dihangfa;
  • yn darparu digon o gapasiti i ymdopi â’r mathau a’r symiau o wastraff a deunyddiau ailgylchadwy’r ydych yn eu cynhyrchu a’u storio rhwng casgliadau;
  • ddim wedi’u lleoli wrth ymyl ardaloedd paratoi neu storio bwyd am resymau diogelwch a hylendid;
  • yn agos i ble caiff y gwastraff ac ailgylchu ei greu;
  • yn daclus, yn lân, a heb lanast neu wastraff rhydd ac 
  • yn cael eu diogelu gyda chaeadau sy’n cau’n sownd, ac nad ydynt yn caniatáu i wastraff neu ailgylchu ddianc.

Mae’n bwysig:

Bydd dilyn y canllaw a’r cyngor hwn hefyd yn helpu osgoi problemau rheoli plâu. 

Ar safleoedd mwy, efallai y byddwch am hurio neu brynu peiriant bwndelu i gywasgu deunyddiau fel deunydd pacio cardbord. Bydd angen ichi wirio bod eich casglwr yn fodlon â hyn ac a oes unrhyw gyfyngiadau ar bwysau’r bwndeli y gallech eu cynhyrchu. Efallai bydd eich contractwr yn gallu darparu peiriant bwndelu a hyfforddiant.  Os ydych yn defnyddio peiriant bwndelu, efallai y bydd angen ichi gofrestru “esemptiad gwastraff” gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Gwastraff bwyd a hylendid

Yn anorfod, bydd sefydliadau sydd â ffreuturau neu geginau yn creu gwastraff bwyd mewn symiau mwy na’r sefydliadau hynny nad ydynt yn paratoi a choginio bwyd ar y safle. 

Mae canllawiau ar Gyfoeth Naturiol Cymru ar wastraff bwyd i'ch helpu i waredu gwastraff yn iawn i fodloni'r gyfraith Dyletswydd Gofal gwastraff presennol.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd hefyd yn darparu canllaw sy’n golygu bod angen ichi:

  • storio bwyd mewn cynwysyddion y gellir eu selio sydd yn:
    • soled, a digon cryf i ddal gwastraff bwyd,
    • mewn cyflwr da – h.y. heb ddifrod neu holltau a allai alluogi plâu i gyrraedd y gwastraff neu achosi gollyngiadau; ac
    • yn hawdd eu glanhau a’u diheintio;
  • symud gwastraff bwyd a sbwriel arall o ardaloedd cyn gynted â phosibl a
  • bod â digon o gyfleusterau storio gwastraff i storio a gwaredu gwastraff bwyd a sbwriel arall i’w cadw’n lân.

Sicrhewch fod unrhyw newidiadau a wnewch yn cael eu cynnwys yn eich Systemau Rheoli Diogelwch Bwyd.

Os yw eich casglwr gwastraff bwyd yn caniatáu ichi ddefnyddio bagiau leinio compostadwy, sicrhewch fod eich bagiau leinio yn cydymffurfio â BS EN 13432. Mae’r safon hwn yn golygu bod yr holl wastraff bwyd a gaiff ei anfon i’w brosesu’n fasnachol yn gorfod bodloni’r safonau iawn. 

Cyfeiriwch at ein canllaw ar gyfer y sector Lletygarwch a Gwasanaethau Bwyd a fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am gasglu gwastraff bwyd i’w ailgylchu.

Ymgysylltu â gweithwyr, cleientiaid a phreswylwyr

Wrth sefydlu cynllun ailgylchu gallai fod o fudd ymgysylltu a chysylltu â: 

  • rheolwyr sy’n caffael nwyddau a gwasanaethau;
  • gofalwyr, gweithwyr neu bobl sy’n gyfrifol am wagio biniau mewnol i gynwysyddion allanol, neu sy’n cysylltu â chasglwyr gwastraff neu ailgylchu;
  • staff glanhau i sicrhau bod gwastraff yn cael ei sortio’n gywir a gofyn iddyn nhw roi gwybod i’r gofalwr neu’r tîm rheoli am faterion fel biniau’n gorlifo neu halogiad. Gallant hefyd ddweud a oes gennych chi’r capasiti gwastraff cywir neu os oes angen mwy arnoch;
  • Staff arlwyo mewn ceginau ar y safle i leihau gwastraff bwyd drwy reoli dognau a chynhyrchu gormod o wastraff bwyd a gwastraff anochel;
  • eich darparwyr Rheoli Cyfleusterau (os oes rhai) i sicrhau bod gwasanaethau ailgylchu’n cael eu darparu; 
  • Mae staff tir neu stadau angen gwybod am newidiadau i gasgliadau, ynghyd â lleoliadau biniau y byddant yn eu defnyddio wrth gyflawni eu dyletswyddau, h.y. codi sbwriel neu wagio biniau sbwriel allanol; 
  • gall cydlynwyr gweithgareddau gysylltu sesiynau gweithgaredd â'r gweithgareddau ailgylchu hynny y gall cleientiaid neu breswylwyr gymryd rhan ynddynt a 
  • Mae swyddogion cynaliadwyedd (sy'n gyffredin mewn sefydliadau mwy neu sefydliadau sydd â mwy nag un safle) fel arfer yn adrodd ac yn ymgysylltu ar faterion amgylcheddol a chynaliadwyedd megis rheoli gwastraff.

Syniadau ar hyfforddi staff

  • Gofynnwch am syniadau ar sut y gallai cynllun weithio, oherwydd efallai eu bod wedi sylwi ar gyfleoedd neu faterion nad ydych wedi'u hystyried;
  • Darparwch gyfarwyddiadau clir ar yr hyn y dylent ei wneud gyda gwahanol ffrydiau gwastraff neu ddeunyddiau ailgylchadwy i'ch helpu i gwrdd â'ch rhwymedigaethau ailgylchu newydd; 
  • Darparwch hyfforddiant i weithwyr parhaol, tymhorol a dros dro. Defnyddiwch hyfforddiant sefydlu i sicrhau bod dechreuwyr newydd yn gallu ailgylchu o'r diwrnod cyntaf, gyda hyfforddiant rheolaidd a nodiadau atgoffa ar gyfer yr holl weithwyr;
  • Rhannwch wybodaeth am ailgylchu trwy ddiweddariadau rheolaidd mewn cyfarfodydd tîm ac ar hysbysfyrddau staff fel bod gweithwyr yn clywed am y gwahaniaethau y mae eu gweithredoedd yn eu gwneud a 
  • Gofynnwch am adborth os nad yw systemau ailgylchu'n gweithio'n dda, sicrhewch fod gweithwyr yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt a bod materion yn cael eu nodi'n brydlon cyn iddynt achosi mwy o broblemau.

Gallwch ddefnyddio adnoddau y Busnes o Ailgylchu wrth ymgysylltu â'ch gweithwyr.

Canllawiau ychwanegol ar gyfer lleoliadau preswyl

Gallech ehangu ymgysylltiad a negeseuon ar ailgylchu i grwpiau gweithwyr, preswylwyr, cleientiaid ac ymwelwyr trwy:

  • roi mwy o finiau ailgylchu mewn mannau sydd â llawer o bobl yn mynd heibio ac ardaloedd sy’n cynhyrchu mwy o wastraff, fel ystafelloedd cyffredin, ystafelloedd dydd, swyddfeydd neu fannau gwaith, ceginau neu ffreuturau;
  • labelu biniau fel bod defnyddwyr yn gwybod beth ellir ac na ellir ei ailgylchu a sicrhau bod deunyddiau’n cael eu gwahanu’n gywir a’u bod yn wag (h.y. heb wastraff bwyd a diod ynddynt);
  • ar gyfer sefydliadau mawr, gallech ystyried darparu mapiau ar y safle i nodi mannau ailgylchu yn ogystal â’r hyn a gaiff ei dderbyn i’w ailgylchu ym mhob lleoliad; 
  • sicrhau bod gweithwyr, preswylwyr a chleientiaid newydd yn cael negeseuon ailgylchu addas, a phan fo'n briodol, hyfforddiant parhaus ac mewn amrywiaeth o fformatau. Darparu gwybodaeth am ailgylchu; mewn pecynnau ymgyfarwyddo, gosod posteri o amgylch y safle gyda gwybodaeth ailgylchu a 
  • lleihau anghysondebau rhwng y gwasanaethau ailgylchu sydd ar gael ar y campws ac oddi arno er mwyn lleihau dryswch i fyfyrwyr. Cysonwch eich labeli bin â'r hyn a ddefnyddir gan yr awdurdod lleol sef yr eiconograffeg Cymru yn Ailgylchu a ddefnyddir yn eang neu gallwch ddefnyddio adnoddau y Busnes o Ailgylchu. Bydd y dull cyson hwn yn helpu defnyddwyr i ymgysylltu â’r ddarpariaeth ailgylchu ar y safle mewn modd mwy cyson yn ogystal ag ymgorffori ymddygiadau ailgylchu defnyddiol y gall cleientiaid a phreswylwyr eu defnyddio ar ôl iddynt drosglwyddo i fyw’n annibynnol er enghraifft.

Adnoddau a gwybodaeth ychwanegol

Mae gwaharddiad ar Blastigion Untro yn cynnwys cyllyll a ffyrc plastig, ffyn troi diodydd, nwyddau polystyren a gwellt yfed.

Mae deunydd pacio plastig yn y diwydiant lletygarwch a gwasanaethau bwyd (WRAP) yn cynnig nifer o heriau a chyfleoedd, mae gan yr UK Plastic Pact bedwar targed sy’n gweithio tuag at fyd sy’n rhoi gwerth ar blastig. Mae camau y gallwch eu cymryd i gyflawni’r targedau hyn.

Mae’r Pecyn adnoddau map llwybr lleihau gwastraff bwyd (WRAP) yn cynnig camau i’ch helpu i leihau gwastraff bwyd. I weld beth mae eraill wedi’i wneud, ewch i Astudiaethau achos lletygarwch a gwasanaethau bwyd (WRAP).

Os ydych yn chwilio am syniadau ar gyfer beth i’w wneud gyda bwyd dros ben, gall y Surplus food hub (WRAP) helpu.