Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r canllaw hwn ar gyfer y sector manwerthu. Mae’n berthnasol i fusnesau manwerthu o bob maint sy’n gweithredu allan o siopau ffisegol, yn ogystal â’r rhai sy’n gweithredu ar-lein.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dylid darllen y canllaw hwn ar y cyd â  Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu:  Cod Ymarfer Cymru. Mae’r canllaw hwn yn darparu cyngor ategol ar gyfer sectorau unigol ac ni ddylid ei ddarllen fel canllaw ar ei ben ei hun. 

Pam mae angen ichi ailgylchu

O 6 Ebrill 2024, bydd y gyfraith newydd yn golygu bydd yn rhaid i holl weithleoedd gyflwyno’r deunyddiau canlynol ar wahân i’w hailgylchu a threfnu i’r gwastraff gael ei gasglu ar wahân i wastraff arall. 

Beth i’w ailgylchu

  • Papur a cherdyn; 
  • Gwydr; 
  • Metel, plastig, a chartonau (a deunyddiau eraill tebyg, er enghraifft, cwpanau coffi); 
  • Bwyd – unrhyw safle sy’n cynhyrchu 5kg neu fwy o wastraff bwyd mewn saith diwrnod yn olynol;
  • Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach (sWEEE) heb eu gwerthu a 
  • Tecstilau heb eu gwerthu.

Mae’r cyfyngiad 5kg o wastraff bwyd yn berthnasol i unrhyw gyfnod o saith diwrnod. Os ydych yn cynhyrchu mwy na 5kg o wastraff bwyd mewn unrhyw gyfnod o saith niwrnod, yna mae’n rhaid iddo gael ei gyflwyno ar wahân i’w gasglu.  Os nad ydych yn cynhyrchu mwy na 5kg yr wythnos yna dylid monitro hyn i gyfrif am unrhyw newidiadau ar y safle, er enghraifft cynnydd mewn lefelau staffio neu ymwelwyr. 

Dim ond ar gyfer gwastraff tebyg i wastraff o’r cartref a gynhyrchir gan weithleoedd y mae’r gyfraith hon yn berthnasol, hynny yw, gwastraff a geir mewn cartrefi fel arfer ac a gaiff ei gasglu’n arferol o ymyl y ffordd.   

Mae rhestr lawn o ddeunyddiau ailgylchadwy y dylid eu cyflwyno ar wahân i’w hailgylchu ar gael yma: Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu:  Cod Ymarfer

Fel cynhyrchydd gwastraff, mae’n ofynnol ichi gynhyrchu nodyn trosglwyddo gwastraff. Yn y rhan fwyaf o achosion, fodd bynnag, bydd eich casglwr gwastraff yn gwneud hyn i chi. Dylech ei wirio’n ofalus i sicrhau bod y disgrifiad o’r gwastraff sy’n cael ei gasglu’n gywir. Ni chaiff eich casglwr gwastraff anfon unrhyw un o’r deunyddiau wedi’u gwahanu i dirlenwi neu losgi. Gallech ystyried gofyn i'ch casglwr gwastraff am dystiolaeth reolaidd o gyrchfannau prosesu terfynol eich deunyddiau a wahanwyd.

Mae’r gyfraith newydd yn gwahardd gwaredu unrhyw symiau o wastraff bwyd i lawr y sinc neu’r draen i garthffosydd. Mae’n golygu na chewch ddefnyddio unedau mwydo mewn sinciau sy’n torri neu’n malu gwastraff bwyd a’i anfon i lawr y draen.

Er na fydd yn anghyfreithlon ichi gael uned mwydo, peiriant dad-ddyfrio, neu dechnoleg gwaredu gwastraff bwyd arall tebyg, bydd yn anghyfreithlon ichi eu defnyddio i anfon gwastraff bwyd i garthffosydd. 

Bydd yn rhaid i holl ddeiliaid gweithleoedd gyflwyno deunyddiau ailgylchadwy ar wahân yn gywir i’w casglu gan eu dewis o gasglwr gwastraff. Mae hyn yn wir p’un a ydych yn berchennog, yn rhentu, neu’n prydlesu eich eiddo. 

Os ydych yn rhannu gofod, e.e. canolfan siopa, neu barc manwerthu, bydd angen ichi wirio a fydd trefn ailgylchu ganolog sy’n bodloni gofynion y gyfraith newydd yn cael ei darparu gan landlordiaid. Os felly, eich cyfrifoldeb chi fydd sicrhau eich bod chi a’ch staff yn defnyddio’r systemau a ddarperir yn gywir. Fel arall, eich cyfrifoldeb chi fydd eich gwastraff ailgylchadwy.

Os mai presenoldeb ar-lein yn bennaf sydd gennych, bydd angen ichi gydymffurfio â’r newidiadau ar gyfer unrhyw eiddo yr ydych yn ei ddefnyddio serch hynny.

Mae’r sector manwerthu yn un o gynhyrchwyr gwastraff mwyaf y DU, gan gynhyrchu ffrydiau gwastraff sy’n hawdd eu hailgylchu ar y cyfan. Gall cynyddu gweithgarwch ailgylchu o fewn eich busnes leihau costau rheoli gwastraff. 

Sut i ddeall eich gwastraff ac ailgylchu’n well

Er mwyn deall y gwahanol fathau o wastraff y mae eich siop yn ei gynhyrchu, gwnewch archwiliad gwastraff trwy gerdded trwy'r gwahanol fannau yn eich eiddo, h.y., blaen a chefn y siop, yn cynnwys mannau warws a danfon, i archwilio cynnwys biniau gwastraff cyffredinol, ac i amlygu unrhyw ymdrechion lleihau gwastraff neu ailgylchu sydd eisoes ar waith. 

Mewn siop, mae’r mannau sy’n fwyaf tebygol o gynhyrchu gwastraff yn cynnwys: 

  • warysau/cefn y siop – deunydd pacio fel cardbord, ffilmiau plastig a deunydd lapio; 
  • ystafell staff/ystafell fwyta/swyddfa – yn creu papur, bwyd, a deunyddiau pacio a 
  • blaen y siop – peth gwastraff deunyddiau pacio, deunyddiau hyrwyddo, stoc wedi'i ddifrodi a chynhyrchion heb eu gwerthu.

Gan ddibynnu ar natur eich busnes a'r eitemau rydych yn eu gwerthu, efallai y bydd mathau o wastraff y byddwch yn eu cynhyrchu, er enghraifft stoc wedi'i ddifrodi, a allai fod yn beryglus ac a allai fod angen gwasanaeth casglu gwastraff arbenigol.

Atal gwastraff yn y lle cyntaf

Bydd lleihau neu atal faint o wastraff yr ydych yn ei gynhyrchu’n helpu i arbed arian a lleihau maint y biniau y bydd eu hangen arnoch. 

Dyma rai awgrymiadau i’ch helpu i leihau eich gwastraff:

  • Rhoddi stoc ormodol neu stoc heb ei werthu – gallwch roi gwarged bwyd i elusen neu gael oergell ar gyfer staff i ddal cynnyrch y gallant ei fwyta neu ei gludo adref am ddim. Mae Canllaw ar gael ar GOV.UK sut mae’n rhaid i fusnesau bwyd gael gwared ar fwyd a chyn ddeunyddiau bwyd.
  • Defnyddiwch ddulliau marchnata di-bapur a chynhigiwch dderbynebau di-bapur drwy eu hanfon i gwsmeriaid drwy ebost;
  • Prynwch nwyddau eilgylch, nwyddau y gellir eu hail-lenwi neu eu hailddefnyddio pan bynnag fo’n bosibl a
  • Darparu ffynhonnau dŵr i staff.

Efallai y bydd cost ynghlwm â gwneud y newidiadau hyn i rai gweithleoedd, ond gallai cynyddu faint rydych yn ei ailgylchu leihau eich costau gwaredu gwastraff yn y tymor canolig i’r tymor hir. Gan fod y gyfraith hon yn berthnasol i holl safleoedd manwerthu, bydd yn cael ei ystyried fel rhan o fodelau busnes a rheoli.

Sut i gydymffurfio â’r gyfraith ailgylchu newydd

Os ydych eisoes yn casglu ac ailgylchu’r holl ddeunyddiau fel sy’n angenrheidiol dan y gyfraith newydd, efallai na fydd rhaid ichi wneud unrhyw beth arall. Argymhellwn ichi ddarllen Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu:  Cod Ymarfer i wneud yn siŵr eich bod yn gwneud popeth y mae angen ichi ei wneud. Mae hyn yn cynnwys rhestr o’r holl fathau penodol o bethau y mae’n rhaid eu hailgylchu;

Busnesau annibynnol

Os ydych yn gweithredu eich busnes yn annibynnol, eich cyfrifoldeb chi fydd rhoi gwasanaeth ar waith a sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r gyfraith newydd.

Canolfannau siopa neu leoliadau a reolir

Os ydych o fewn lleoliad a reolir, fel canolfan siopa, neuadd fwyd neu farchnad, yna mae’n bosibl y bydd gwasanaethau rheoli gwastraff yn cael eu caffael gan gwmni rheoli cyfleusterau. Dylech gysylltu â nhw i gael gwybod am unrhyw newidiadau y byddant yn eu gwneud.

Safleoedd masnachfraint neu sefydliadau mwy

Os ydych yn rhan o sefydliad mwy, cadwyn neu fenter masnachfraint, yna efallai bod gwasanaethau rheoli gwastraff yn cael eu trefnu’n genedlaethol neu’n rhanbarthol, a’r brif swyddfa neu swyddfa ranbarthol yn darparu gwybodaeth a chanllawiau. Dylech gysylltu â nhw i gael gwybod am unrhyw newidiadau y byddant yn eu gwneud.

Sut i drefnu gwasanaeth ailgylchu newydd

Os bydd angen ichi drefnu gwasanaeth ailgylchu newydd, mae’n werth ystyried y canlynol:

  • Beth yw swm neu fath y gwastraff rydych yn ei gynhyrchu’n rheolaidd?  A yw hynny’n newid yn ystod y flwyddyn?  Er enghraifft, cynnydd dros gyfnod y Nadolig neu wyliau ysgol. Efallai bydd angen i’ch gwasanaeth casglu, yn cynnwys y nifer o finiau a pha mor aml y bydd angen eu gwagio, fod yn hyblyg;
  • Ystyriwch a fydd cael casgliadau ar ddyddiau penodol yn yr wythnos, e.e. ar ôl penwythnosau prysur, yn helpu i atal gwastraff a deunyddiau i’w hailgylchu rhag pentyrru;
  • Efallai mai ychydig yn aml fydd yn gweithio’n well i chi. Mae’r rhan fwyaf o gasglwyr gwastraff yn cynnig cynwysyddion o wahanol feintiau, yn cynnwys sachau ar gyfer rhai mathau o wastraff. Unwaith y byddwch yn dechrau ailgylchu, efallai y byddwch yn gallu lleihau maint eich bin gwastraff cyffredinol;
  • Os nad oes gennych lawer o le ar gyfer cynwysyddion y tu allan, a allech rannu biniau gyda busnesau eraill i helpu lleihau costau a lle? Cofiwch, ni ellir storio cynwysyddion gwastraff ar briffyrdd cyhoeddus rhwng casgliadau;
  • Siaradwch gyda’ch casglwr gwastraff presennol am eich anghenion ailgylchu newydd. Bydd angen iddyn nhw fod yn ymwybodol o’r gyfraith newydd a sicrhau bod y gwasanaethau y maen nhw’n eu cynnig yn cydymffurfio a
  • Gallech hefyd gael dyfynbrisiau gan amrywiaeth o gasglwyr er mwyn cael y pris gorau a’r gwasanaeth sy’n fwyaf addas i chi. 

Os gwneir cais, mae’n rhaid i gynghorau drefnu gwasanaethau casglu gwastraff ac ailgylchu i chi. Mae cost am y gwasanaethau hyn. Mewn ardaloedd gwledig, efallai y gwelwch fod yr opsiynau ar gyfer gwastraff ac ailgylchu’n fwy cyfyngedig, ac mai dim ond cynghorau sir fydd yn darparu gwasanaeth casglu i chi, yn enwedig os nad ydych yn cynhyrchu llawer o wastraff. 

Os ydych chi wedi’ch lleoli yn un o’r 14 Ardal Gwella Busnes (AGB) yng Nghymru, efallai y gwelwch fod gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu y gallwch eu defnyddio yn bodoli eisoes.

Lle ar gyfer eich biniau

Mae’n bwysig ichi ystyried ble a sut byddwch yn storio eich gwastraff ac ailgylchu. 

Sicrhewch fod cynwysyddion a mannau storio gwastraff:

  • yn ddiogel a hygyrch i bobl, yn cynnwys defnyddwyr sydd ag anableddau, a’ch casglwr gwastraff,
  • ddim mewn lleoliadau sy’n peri rhwystr, perygl tân neu’n rhwystro llwybrau dihangfa,
  • yn darparu digon o gapasiti i ymdopi â’r mathau a’r symiau o wastraff a deunyddiau ailgylchadwy’r ydych yn eu cynhyrchu a’u storio rhwng casgliadau,
  • ddim wedi’u lleoli wrth ymyl ardaloedd paratoi neu storio bwyd am resymau diogelwch a hylendid,
  • yn agos i ble caiff y gwastraff ac ailgylchu ei greu,
  • yn daclus, yn lân, a heb lanast neu wastraff rhydd, ac 

yn cael eu diogelu gyda chaeadau sy’n cau’n sownd, ac nad ydynt yn caniatáu i wastraff neu ailgylchu ddianc.

Mae’n bwysig:

Bydd dilyn y canllaw a’r cyngor hwn hefyd yn helpu osgoi problemau rheoli plâu.  Ar safleoedd mwy, efallai y byddwch am hurio neu brynu peiriant bwndelu i gywasgu deunyddiau fel deunydd pacio cardbord. Bydd angen ichi wirio a yw eich casglwr yn fodlon â hyn ac a oes unrhyw gyfyngiadau ar bwysau’r bwndeli y gallech eu cynhyrchu. Efallai bydd eich contractwr yn gallu darparu peiriant bwndelu a hyfforddiant.  Os ydych yn defnyddio peiriant bwndelu, efallai y bydd angen ichi gofrestru “esemptiad gwastraff” gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) – mae mwy o fanylion i’w gweld ar wefan CNC, chwiliwch am ‘cofrestru neu adnewyddu eich esemptiadau gwastraff’ (www.cyfoethnaturiol.cymru).

Syniadau ar hyfforddi staff

  • Gofynnwch am syniadau ar sut y gallai cynllun weithio, oherwydd efallai eu bod wedi sylwi ar gyfleoedd neu faterion nad ydych wedi'u hystyried;
  • Darparwch gyfarwyddiadau clir ar yr hyn y dylent ei wneud gyda gwahanol ffrydiau gwastraff neu ddeunyddiau ailgylchadwy i'ch helpu i gwrdd â'ch rhwymedigaethau ailgylchu newydd; 
  • Darparwch hyfforddiant i weithwyr parhaol, tymhorol a dros dro. Defnyddiwch hyfforddiant sefydlu i sicrhau bod dechreuwyr newydd yn gallu ailgylchu o'r diwrnod cyntaf, gyda hyfforddiant rheolaidd a nodiadau atgoffa ar gyfer yr holl weithwyr;
  • Rhannwch wybodaeth am ailgylchu trwy ddiweddariadau rheolaidd mewn cyfarfodydd tîm ac ar hysbysfyrddau staff fel bod gweithwyr yn clywed am y gwahaniaethau y mae eu gweithredoedd yn eu gwneud a 
  • Gofynnwch am adborth os nad yw systemau ailgylchu'n gweithio'n dda, sicrhewch fod gweithwyr yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt a bod materion yn cael eu nodi'n brydlon cyn iddynt achosi mwy o broblemau.

Gallwch ddefnyddio adnoddau y Busnes o Ailgylchu wrth ymgysylltu â'ch gweithwyr.

Adnoddau a gwybodaeth ychwanegol ar gyfer manwerthwyr

Mae gwaharddiad ar Blastigion Untro yn cynnwys cyllyll a ffyrc plastig, ffyn troi diodydd, nwyddau polystyren a gwellt yfed.

Os ydych yn gwerthu offer trydanol ac electronig (EEE) mae'r rheoliadau offer trydanol ac electronig gwastraff (WEEE) ei gwneud yn ofynnol i chi ddarparu ffordd i'ch cwsmeriaid gael gwared ar eu hen offer trydanol ac electronig cartref pan fyddwch yn gwerthu fersiwn newydd o'r un eitem iddynt, mae'r rheoliadau hyn yn berthnasol waeth sut rydych chi'n gwerthu'r cynhyrchion h.y., ar y rhyngrwyd neu drwy siop.

Mae’r Rheoliadau Batris hefyd yn ei gwneud yn ofynnol ichi gynnig gwasanaeth casglu neu ‘ddychwelyd’ ar gyfer gwastraff hen fatris os ydych chi’n gwerthu neu’n cyflenwi lefel gyfatebol i werthu un pecyn o 4 batri AA fesul diwrnod dros gyfnod o flwyddyn. Os ydych chi'n gwerthu mwy na hyn mae'n rhaid i chi gael man casglu yn eich eiddo. Mae'r rheolau hyn yn berthnasol p'un a ydych yn rhedeg siop, cadwyn o siopau neu'n gwerthu batris ar-lein, drwy'r post neu dros y ffôn.

Mae Green Street wedi cynhyrchu canllaw Cyfeillgar i’r Blaned i annog stryd fawr wyrddach a mwy cynaliadwy. 

I gael arweiniad i fanwerthwyr dillad ar sut i sefydlu cynllun cymryd yn ôl ar gyfer dillad nad oes eu heisiau arnynt, ewch i wefan WRAP a’r  Retailer clothing take back guide fel rhan o waith Textiles 2030.

Mae canllawiau pellach ar gael ar gyfer: Busnesau bach a chanolig, gwasanaethau lletygarwch a bwyd, cyfleusterau adloniant a hamdden, sefydliadau addysgol a digwyddiadau awyr agored ar wefan y Busnes o Ailgylchu.