Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Rhestr o Sefydliadau Ôl-16 Arbennig Annibynnol) (Cymru) 2020: asesiad effaith integredig
Asesiad o effaith y rheoliadau Sefydliadau Ôl-16 Arbennig Annibynnol ar nifer o feysydd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru’n eu hystyried a pham?
Cefndir
Mae’r asesiad effaith hwn yn ymwneud â’r Rhestr o Sefydliadau Ôl-16 Arbennig Annibynnol drafft (‘y rheoliadau ISPI drafft’) a gyhoeddwyd ar gyfer ymgynghori yn eu cylch ar 10 Ebrill 2020; daeth yr ymgynghoriad i ben ar 30 Mehefin 2020.
Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (‘Deddf 2018’) yn gwneud darpariaethau ar gyfer fframwaith statudol newydd i gefnogi plant a phobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Bydd yn disodli deddfwriaeth gyfredol sy’n ymwneud ag anghenion addysg arbennig (AAA) ac asesiadau plant a phobl ifanc gydag anghenion a/neu anableddau dysgu (AAD) ym maes addysg a hyfforddiant ôl- 16.
Ymhlith pethau eraill, mae Deddf 2018 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sefydlu, cynnal a chyhoeddi rhestr o sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru a Lloegr (‘y rhestr’).
Ystyr ISPI yw sefydliad sy’n darparu addysg a hyfforddiant i bobl dros oedran ysgol gorfodol ac sy’n cael ei drefnu yn arbennig i ddarparu addysg neu hyfforddiant o’r fath i bobl ag anghenion dysgu ychwanegol ac nad yw’n:
- sefydliad o fewn y sector addysg bellach
- ysgol annibynnol wedi’i chynnwys yng nghofrestr ysgolion annibynnol Cymru (a gedwir o dan adran 158 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32))
- sefydliad addysg annibynnol (o fewn ystyr Pennod 1 o Ran 4 Deddf Addysg a Sgiliau 2008 (p. 25)), sydd wedi’i gynnwys yng nghofrestr sefydliadau addysg annibynnol Lloegr (a gedwir o dan adran 95 o’r Ddeddf)
- Academi 16 - 19
Mae Deddf 2018 yn rhoi i Weinidogion Cymru y pwerau i wneud rheoliadau ar gyfer cynnwys y rhestr a gyhoeddir; y gofynion sy’n rhaid eu dilyn fel amod o gael eu cynnwys ar y rhestr; a gofynion i’w dilyn tra bo’r sefydliad wedi’i restru (yn cynnwys gofynion i Weinidogion Cymru gymeradwyo trefniadau yn y sefydliad ac unrhyw newid i’r cyfryw drefniadau). Mae hefyd yn rhoi i Weinidogion Cymru y pwerau i dynnu sefydliad o’r rhestr a hawliau apêl i berchnogion sefydliadau apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn penderfyniadau.
Y bwriad yw cyflwyno’r rheoliadau ISPI drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystod 2020, gan obeithio cychwyn prif ddarpariaethau Deddf 2018 a rheoliadau yn ystod hydref 2021. Mae hyn er mwyn caniatáu digon o amser i’r ISPIs ymgeisio am gael eu rhoi ar y rhestr a chael penderfyniad ar hynny cyn i’r Ddeddf gael ei rhoi ar waith fesul cam gan ddechrau ym mis Medi 2021.
Datblygu polisi
Datblygwyd y rheoliadau ISPI drafft yng ngoleuni’r pum ffordd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).
Maent wedi’u bwriadu i ddarparu sail hirdymor i drefn statudol newydd ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc gydag ADY trwy sicrhau bod awdurdodau lleol yn gosod pobl ifanc mewn sefydliadau sy’n hyfyw o ran ansawdd y ddarpariaeth maen nhw’n ei darparu.
Mae gofynion y rheoliadau ISPI drafft yn canolbwyntio ar atal plant a phobl ifanc rhag colli cyfleoedd addysgiadol a’r cyfle i gyflawni eu potensial trwy sicrhau eu bod yn derbyn y ddarpariaeth sy’n ofynnol iddynt yn unol â’u ADY yn brydlon ac effeithlon gan eu galluogi i gymryd rhan a chael budd o’u haddysg.
Mae’r rheoliadau ISPI drafft a Deddf 2018 a ategir ganddynt yn rhan integredig o thema allweddol ‘Uchelgeisiol ac yn Dysgu’ Ffyniant i Bawb ac yn meddu ar amcanion llesiant y thema allweddol honno ac eraill.
Fe’u datblygwyd mewn cydweithrediad â’n partneriaid a fydd yn ddarostyngedig i’r rheoliadau wrth gyflawni’r gofynion arfaethedig ar gyfer ISPI er mwyn ymgeisio am le ar ‘y rhestr’. Datblygir hyn ymhellach mewn ymgynghoriad â sefydliadau annibynnol, arolygiaethau addysg (Estyn ac Ofsted) a’r Tribiwnlys Haen Gyntaf.
O ystyried mai nhw yw buddiolwyr arfaethedig y drefn gymorth newydd, rydym hefyd wedi mynd ati i gynnwys plant, pobl ifanc a’u teuluoedd wrth ddatblygu’r system ADY yn gyffredinol trwy gynnal digwyddiadau ymgysylltu sydd wedi’u targedu. Nid yw’r rheoliadau penodol hyn yn effeithio’n uniongyrchol ar blant a phobl ifanc gan mai rheoliadau technegol ydynt i bob pwrpas sy’n ymwneud â’r broses ymgeisio y bydd perchennog ISPI yn ei defnyddio i ymgeisio i fod ar restr Llywodraeth Cymru.
Fodd bynnag, o ganlyniad i hyn, bydd ISPIs sydd wedi’u rhestru yn gymwys i dderbyn dysgwyr a ariennir gan awdurdodau lleol a all gael mynediad at ddarpariaeth addysgol arbennig sydd wedi’i theilwra i’w hanghenion dynodedig. Felly ceisiwyd gweithio gyda’r partïon hynny sydd â diddordeb ac a effeithir yn uniongyrchol o ganlyniad i’r rheoliadau hyn yn ystod yr ymgynghoriad. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus i gael adborth gan blant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Ategir y rheoliadau gan ganllawiau anstatudol er mwyn helpu partïon â diddordeb ac eraill gyda’u cais.
Effaith
Mae darpariaethau Deddf 2018 a’r rheoliadau ISPI drafft dilynol yn ei gwneud yn ofynnol i ISPIs ymgeisio i Weinidogion Cymru er mwyn cael eu cynnwys ar y rhestr, os ydynt yn dymuno bod yn gymwys i dderbyn arian cyhoeddus ar gyfer lleoliadau arbenigol. Felly bydd y rheoliadau yn gwahardd Awdurdodau Lleol Cymru rhag gosod pobl ifanc mewn ISPIs os nad ydynt ar y rhestr. Mewn geiriau eraill, rhaid i ISPI fod ar y rhestr er mwyn cynnig lle i bobl ifanc sy’n cael eu hariannu gan ALl yng Nghymru.
Y sail resymegol ar gyfer cael rhestr a gynhelir gan Weinidogion Cymru yw er mwyn rhoi sicrwydd i awdurdodau lleol ac i bobl ifanc a’u teuluoedd ynghylch ansawdd y ddarpariaeth mae ISPIs yn cynnig. Bydd y rheoliadau ISPI drafft yn nodi’r amodau a’r gofynion y bydd yn rhaid i ISPIs eu cynnal er mwyn cael lle a pharhau ar y rhestr hon. Fel y bydd ISPI yn bodloni’r meini prawf a bennir, caiff hyn effaith gadarnhaol ar y bobl ifanc bregus a fydd yn mynychu’r ISPI.
Gofynion ariannol
O ganlyniad i Ddeddf 2018, bydd y cyfrifoldeb cyfredol am asesu anghenion dysgu unigolyn er mwyn sicrhau darpariaeth ôl-16 arbenigol yn trosglwyddo o Weinidogion Cymru i Awdurdodau Lleol. Trosglwyddir y gyllideb gyfredol a ddefnyddir gan Weinidogion Cymru i gynllunio a sicrhau darpariaeth ôl-16 i ALlau i’w cefnogi nhw yn y gwaith o ysgwyddo’r cyfrifoldebau newydd hyn. Felly ni fydd ALlau yn ysgwyddo costau ychwanegol.
Nodwyd goblygiadau ariannol y drefn newydd a gyflwynwyd gan Ddeddf 2018 ac is- ddeddfwriaeth ddilynol yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol a oedd yn cyd-fynd â Deddf 20181. Cynhyrchwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y rheoliadau ISPI i’w cyflwyno wrth ochr y rheoliadau i’w cymeradwyo gan y Senedd.
Mecanweithiau ar gyfer cyflawni
Bydd y Cod ADY yn darparu’r canllawiau cynhwysfawr angenrheidiol i gyrff cyhoeddus ar eu swyddogaethau statudol mewn perthynas ag ADY, yn cynnwys y rhai a nodwyd yn Neddf 2018 a’r rheoliadau cysylltiedig a wnaed. Ategir y gwaith o ddarparu’r Rheoliadau
ISPI gan ganllawiau anstatudol a fydd yn nodi’r cyngor ar sut y gall ISPIs wneud cais i gael eu cynnwys ar restr ISPI Llywodraeth Cymru a swyddogaethau eraill yn ymwneud â darpariaethau yn y rheoliadau.
Adran 7: Casgliad
Sut mae’r sawl sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y cynnig wedi cael eu cynnwys yn y gwaith o ddatblygu’r cynnig?
Mae’r rheoliadau hyn yn dechnegol eu natur, a dim ond cyfres gyfyngedig o randdeiliaid allweddol y maen nhw’n effeithio arnynt yn uniongyrchol. Wrth ddatblygu’r cynigion hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â sefydliadau addysg bellach arbenigol ac Estyn.
Yn fwy cyffredinol, mae’r drefn ADY newydd wedi bod yn destun ymgynghori eang gyda nifer o randdeiliaid yn cynnwys plant, pobl ifanc a’u teuluoedd, Cydlynwyr Addysg Anghenion Arbennig (SENCO) ac ymarferwyr eraill o ysgolion, Sefydliadau Addysg Bellach ac awdurdodau lleol, yn ogystal â chynrychiolwyr o Estyn, y Comisiynydd Plant.
Comisiynydd y Gymraeg, y trydydd sector ac eraill. Mae iteriadau blaenorol o’r Cod ADY drafft wedi’u cyhoeddi fel rhan o ddatblygiad Deddf 2018 ac maent wedi bod yn destun sylwadau a chraffu cyhoeddus. Mae hyn wedi cynnwys digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus ar raddfa fawr a nifer o weithdai ymgysylltu wedi’u targedu gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd.
Beth yw’r effeithiau cadarnhaol neu negyddol mwyaf sylweddol
Yn sgil y drefn ADY newydd, bydd penderfyniadau yn ymwneud â darpariaeth addysg addas i bobl ifanc ag anghenion cymhleth yn cael eu gwneud yn lleol gan bobl sydd wedi bod yn rhan o drefn cymorth y person ifanc dros gyfnod cyfan ei addysg. Bydd awdurdodau lleol yn gyfarwydd ag anghenion y bobl ifanc yn y system, a bydd modd iddynt flaengynllunio ar gyfer y cyfnod pontio i addysg ôl-16. Hefyd bydd yn annog ac yn galluogi awdurdodau lleol a darparwyr ôl-16 (prif ffrwd ac annibynnol) i gydweithio er mwyn cynllunio a datblygu ar gyfer y ddarpariaeth a fydd ei hangen ar gyfer y dyfodol er mwyn diwallu anghenion lleol.
Effaith fwyaf sylweddol y rheoliadau arfaethedig fydd y sicrwydd y byddant yn ei roi i awdurdodau lleol a phobl ifanc a’u teuluoedd o ran ansawdd y ddarpariaeth y bydd IPSIs yn ei darparu. Yn sgil y gofynion a nodir yn y rheoliadau bydd yr ISPIs a restrir ac a fydd felly’n gymwys i dderbyn pobl ifanc a ariennir gan awdurdodau lleol yng Nghymru yn bodloni safon foddhaol.
Mae’r cynigion hyn a’r gwelliannau maen nhw’n eu cynnig i’r cymorth a roddir i blant a phobl ifanc ag ADY yn ymwneud yn uniongyrchol â thema allweddol ‘Uchelgeisiol ac yn Dysgu’ Ffyniant i Bawb ac ag amcanion lles o fewn y thema allweddol honno ac eraill. Maen nhw hefyd yn ymwneud â nifer o’r amcanion lles a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn enwedig yn y modd maen nhw’n cyfrannu at Gymru lewyrchus (trwy alluogi pob dysgwr gydag ADY i gyflawni ei botensial addysgol a bod mewn gwell sefyllfa i allu cyfrannu yn economaidd); a Chymru sy’n fwy cyfartal (trwy sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu elwa ar addysg ar sail fwy cyfartal).
Yn wyneb yr effeithiau a nodwyd, sut bydd y cynnig:
• yn cyfrannu i’r eithaf at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant,
• yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Fel y nodwyd uchod, bydd y rheoliadau eu hunain yn cyfrannu at amcanion llesiant Llywodraeth Cymru a’r saith nod llesiant, yn enwedig Cymru lewyrchus a mwy cyfartal.
Bydd newid y system ADY a gweithredu’r system yn gofyn am waith paratoi sylweddol gan ysgolion a Sefydliadau Addysg Bellach yn arbennig. Er mwyn galluogi’r gwaith paratoi hwn, manteisio i’r eithaf ar effeithiau cadarnhaol y gofynion rheoleiddio arfaethedig, a lliniaru unrhyw effeithiau niweidiol y gellid eu hachosi, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Rhaglen Drawsnewid gynhwysfawr sy’n cynnwys pecyn buddsoddi gwerth £20 miliwn.
Mewn perthynas â’r rheoliadau hyn, byddai angen i sefydliadau AB arbenigol cyfredol ac unrhyw sefydliadau newydd sy’n dymuno cael lle ar y rhestr ISPIs baratoi yn unol â hynny ar gyfer ymgeisio i Weinidogion Cymru. Fodd bynnag, nid ystyrir bod y gofynion mor llafurus neu wahanol i’r gofynion a nodir yn y cytundebau ariannu cyfredol sydd gan Weinidogion Cymru gyda sefydliadau AB. Trwy osod ein gofynion clir mewn rheoliadau a chanllawiau ategol byddwn yn helpu ISPIs i gyflawni’r safonau angenrheidiol er mwyn cynorthwyo pobl ifanc ag ADY.
Sut bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a’i gwerthuso wrth fwrw ymlaen a phan ddaw i ben?
Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi pum Arweinydd Trawsnewid ADY i fonitro ac adolygu trefniadau gweithredu yn ystod y cyfnod pontio ac ar ôl cyflwyno’r system ADY newydd.
Bydd adolygiad ôl-weithredu yn rhan o fodel gwerthuso a monitro trosfwaol Llywodraeth Cymru, a fydd yn ystyried y camau gweithredu, yn benodol:
- parodrwydd: i asesu’r graddau mae asiantau cyflawni yn barod at y newidiadau
- cydymffurfio: monitro pa mor effeithiol mae sefydliadau yn glynu wrth y gofynion deddfwriaethol newydd ar ôl iddyn nhw ddod i rym
- effaith: gwerthuso’r graddau y mae’r newidiadau polisi ehangach a deddfwriaethol yn cael eu sefydlu ac yn cael effaith ar ddeilliannau dysgwyr
Ategir yr ymagwedd hon at gydymffurfio, monitro effaith a gwerthuso ymhellach trwy arolygon parhaus a threfniadau adolygu dan arweiniad Estyn. Mae hyn yn cynnwys arolygu a monitro ISPIs.
Mae’n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i gynnal rhestr o ISPIs yng Nghymru a Lloegr. Felly bydd proses weinyddol fechan barhaus ar y gweill a fydd yn monitro’r rhestr o ISPIs mewn perthynas â gofynion a nodir yn y rheoliadau ISPI.
Adran 8: Datganiad
Datganiad
Rwy’n fodlon fod effaith y cam gweithredu arfaethedig wedi’i asesu a’i gofnodi’n ddigonol.
Enw’r Is Gyfarwyddwr: Chris Jones
Adran: Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
Dyddiad: 22 Hydref 2020
