Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Cefndir

Nid yw'r system ar gyfer ardystio marwolaethau yng Nghymru a Lloegr wedi newid rhyw lawer ers dros 50 mlynedd. Mae'r trefniadau presennol yn ei gwneud yn ofynnol i’r meddyg a fu’n trin y claf yn ei salwch terfynol gwblhau tystysgrif feddygol achos marwolaeth ar gyfer pob marwolaeth.

Yn ei drydydd adroddiad, archwiliodd Ymchwiliad Shipman y broses o ardystio marwolaethau a'r system crwner. Daeth i'r casgliad bod y system bresennol yn ddryslyd ac nad yw’n darparu mesurau diogelu digonol, yn enwedig yn erbyn y posibilrwydd bod y meddyg a gwblhaodd y dystysgrif feddygol achos marwolaeth ei hun yn gyfrifol am farwolaeth y claf.

Gwnaed galwadau o'r newydd am archwilwyr meddygol gan Ymchwiliad Francis i Ganol Swydd Stafford ac Ymchwiliad Bill Kirkup i Fae Morecambe. Mae'r adroddiadau hyn yn awgrymu y bydd y diwygiadau yn helpu i nodi gofal gwael ac amddiffyn cleifion.

Mae Deddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009 yn sail i'r diwygiadau hyn.

Bydd rhannau perthnasol o Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009 yn cychwyn ym mis Ebrill 2024 ynghyd â diwygiadau canlyniadol a rheoliadau gofynnol ar gyfer y diwygiadau ehangach i ardystio marwolaethau a chyflwyno'r rôl archwilydd meddygol statudol.

Mae ardystio marwolaeth yn faes a gedwir yn ôl felly bydd y diwygiadau ehangach i ardystio marwolaeth yn cael eu cyflwyno trwy reoliadau sy'n cael eu gwneud gan Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol llywodraeth y DU sef:

  • Rheoliadau Tystysgrifau Meddygol Achos Marwolaeth 2024
  • Rheoliadau Archwilwyr Meddygol (Lloegr) 2024
  • Rheoliadau’r Archwilydd Meddygol Cenedlaethol (Swyddogaethau Ychwanegol) 2024

Bydd newidiadau rheoleiddiol pellach yn cael eu cyflwyno gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder a'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol.

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau i wneud Rheoliadau Archwilwyr Meddygol (Cymru) 2024 y mae'r asesiad effaith integredig hwn yn ymwneud â hwy. Mae'r rhain yn nodi telerau ac amodau cyflogaeth archwilwyr meddygol a rhai swyddogaethau ychwanegol. Mae'r asesiad effaith integredig hwn yn ystyried effaith Rheoliadau Archwilwyr Meddygol (Cymru) 2024 (nid yr holl reoliadau sy’n cael eu cyflwyno) ond mae'n cyffwrdd ag effaith y diwygiadau ehangach i ardystio marwolaethau lle bo hynny'n briodol.

Gellir dod o hyd i ystyriaeth fanwl lawn o nodweddion y problemau sylfaenol sydd i'w datrys yn asesiad effaith Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol llywodraeth y DU ar gyfer Cymru a Lloegr.

Nid yw'r system ardystio marwolaethau bresennol yn darparu digon o graffu annibynnol i sicrhau bod achos y farwolaeth a nodir gan feddygon ar dystysgrifau meddygol achos marwolaeth yn cael ei gwblhau'n gywir y tu hwnt i'r gwiriadau a gyflawnir gan gofrestryddion wrth gofrestru marwolaeth yn y gwasanaeth cofrestru lleol. Nid oes gan gofrestryddion gymwysterau meddygol.

Nodau'r polisi ar gyfer y diwygiadau ehangach i ardystio marwolaethau a chyflwyno rôl statudol archwilwyr meddygol drwy Reoliadau Archwilwyr Meddygol (Cymru) 2024 a'r ddeddfwriaeth gysylltiedig yw:

  • sicrhau bod y system ar gyfer ardystio pob marwolaeth nad oes angen ei chyfeirio at y crwner yn darparu craffu digonol i nodi ac atal gweithgarwch troseddol neu ymarfer gwael
  • rhesymoli'r system bresennol i sicrhau bod lefel y craffu yn gymesur ac nad yw'n creu oedi gormodol ar gyfer y rhai sydd wedi cael profedigaeth neu feichiau diangen ar ymarferwyr meddygol ac eraill sy'n ymwneud â'r broses
  • darparu gweithdrefn ardystio marwolaeth gyffredin sy'n sicrhau'r un lefel o graffu a sicrwydd, waeth beth yw'r dewis - claddu neu amlosgi

Hirdymor

Bydd y rheoliadau hyn yn sefydlu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer system graffu unedig a statudol gan archwilwyr meddygol annibynnol ar gyfer pob marwolaeth yng Nghymru a Lloegr nad yw’n cael ei harchwilio gan grwner.

Yn 2019, dechreuodd Llywodraethau'r DU a Chymru gyflwyno archwilwyr meddygol ar sail anstatudol. Yng Nghymru, mae archwilwyr meddygol a swyddogion archwilio meddygol yn cael eu cyflogi gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac mae ganddynt fynediad at achosion y neilltuir iddynt, sydd fel arfer yn farwolaethau y tu allan i sefydliad y GIG lle maent yn gweithio fel ymarferwyr meddygol. Mae'r archwilydd meddygol arweiniol yn darparu arweinyddiaeth broffesiynol, ac mae swyddog archwilio meddygol arweiniol Cymru yn darparu cymorth i swyddfeydd archwilwyr meddygol ledled Cymru. Mae'r archwilydd meddygol cenedlaethol ar gyfer Cymru a Lloegr yn darparu arweinyddiaeth strategol.

Mae cael archwilydd meddygol i adolygu achos marwolaeth yn darparu mesurau diogelu ychwanegol i gynrychiolwyr yr ymadawedig ac yn rhoi cyfle iddynt ofyn cwestiynau am y farwolaeth ac i godi pryderon. Fel rhan o’u gwaith craffu, bydd archwilydd meddygol yn siarad â'r ymarferydd a fu’n gweini sy'n cwblhau'r dystysgrif feddygol achos marwolaeth ac yn adolygu cofnod y claf. Cofnodir y tair elfen graffu hyn yn nodiadau craffu'r archwilydd meddygol. Mae hyn yn galluogi archwilydd meddygol i ddeall a oes unrhyw ffactorau, mewn perthynas ag achos y farwolaeth, y dylid eu bwydo'n ôl i'r sefydliad/sefydliadau a roddodd ofal i'r ymadawedig. Mae hyfforddiant ar gael (a ddarperir gan Goleg Brenhinol y Patholegwyr) ar gyfer pob agwedd ar rôl archwilydd meddygol ac i gefnogi archwilwyr meddygol i drafod achos y farwolaeth gyda chynrychiolwyr yr ymadawedig.

Atal

Daeth trydydd adroddiad Ymchwiliad Shipman (2003) i'r casgliad nad oedd bellach yn addas cael prosesau ardystio gwahanol ar gyfer amlosgi a chladdu, ac y dylai pob tystysgrif feddygol achos marwolaeth fod yn destun craffu meddygol annibynnol.

Bydd archwilwyr meddygol yn ymarferwyr meddygol sydd wedi’u cofrestru’n llawn gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) ers pum mlynedd o leiaf ac sydd â thrwydded i ymarfer, a byddant wedi derbyn hyfforddiant arbennig yn y rôl. Disgwylir i benodiadau fod yn rhan-amser gan eu galluogi i barhau â rhywfaint o ymarfer clinigol. Bydd gan archwilwyr meddygol swyddogaethau ychwanegol gan gynnwys adrodd am bryderon o natur llywodraethu clinigol trwy ddilyn gweithdrefnau adrodd lleol.

Bydd pob archwilydd meddygol yn cael cymorth yn ei swydd gan swyddogion archwilio meddygol a fydd yn gyfrifol am gasglu gwybodaeth o wahanol ffynonellau a pharatoi achosion ar gyfer craffu. Mae'r fanyleb fanwl ar gyfer y rôl hon wedi'i datblygu a'i threialu ochr yn ochr â’r fanyleb ar gyfer archwilwyr meddygol.

Bydd cyfrifoldebau'r archwilwyr meddygol yn cynnwys:

  • craffu annibynnol ar dystysgrifau meddygol achos marwolaeth ar gyfer amlosgiadau a chladdedigaethau ac ystyried gwybodaeth gysylltiedig a ddarparwyd gan y rhai sydd mewn profedigaeth a'r meddyg ardystio
  • ardystio marwolaethau a gyfeirir gan y crwner lle nad oes ymarferydd a fu’n gweini ar gael o fewn cyfnod rhesymol
  • cadarnhau achos y farwolaeth a nodwyd gan y meddyg ardystio mewn modd amserol i gofrestru'r farwolaeth a sicrhau y gellir cynnal amlosgiadau a chladdedigaethau brys
  • sicrhau bod gwybodaeth sy'n ymwneud â mewnblaniadau peryglus neu ddyfeisiau meddygol neu os oedd y person a fu farw yn dioddef o haint trosglwyddadwy, yn cael ei chofnodi
  • hysbysu crwner o farwolaeth o dan reoliadau adran 18 o Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009 pan fo'r ddyletswydd yn codi yn ystod gwaith craffu archwilydd meddygol; neu gyfeirio marwolaeth lle nad yw'r archwilydd meddygol yn gallu cadarnhau achos y farwolaeth a nodwyd gan y meddyg
  • rhoi gwybod am unrhyw bryderon o natur llywodraethu clinigol, neu o fudd cadw golwg ar iechyd y cyhoedd
  • nodi anghenion hyfforddi meddygon wrth gwblhau tystysgrifau meddygol achos marwolaeth a rhoi adborth ar gywirdeb ardystio yn lleol

Mae'r gwasanaeth anstatudol Cymru gyfan sydd eisoes wedi’i ddatblygu yn darparu lefel ychwanegol o annibyniaeth y tu hwnt i'r hyn a nodir yn y rheoliadau. Yng Nghymru, ni fydd archwilwyr meddygol yn craffu ar farwolaethau yn sefydliad y GIG lle maent yn gweithio fel meddygon. Bydd marwolaethau yn cael eu dyrannu ar draws y swyddfeydd rhanbarthol yng Nghymru.

Bydd Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU yn cyflwyno ardystiad archwilwyr meddygol ar gyfer yr amgylchiadau eithriadol lle nad oes ymarferydd a fu’n gweini, neu le nad oes ymarferydd a fu’n gweini ar gael o fewn amser rhesymol i gwblhau'r dystysgrif feddygol achos marwolaeth. Bydd cyflwyno tystysgrif feddygol achos marwolaeth gan yr archwilydd meddygol yn lleihau’n fawr nifer y marwolaethau heb eu hardystio.

Integreiddio

Mae'r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi'u cymhwyso i'r camau gweithredu arfaethedig a byddant yn cael eu defnyddio drwy gydol y cylch polisi a chyflawni.

Mae'r amcanion llesiant yn Rhaglen Lywodraethu 2021 i 2026 wedi cael eu hystyried. Mae'r cynnig yn cwrdd â'r amcan o 'ddarparu gofal iechyd effeithiol, o ansawdd uchel a chynaliadwy'.

Mae'r cynnig yn cyd-fynd â nod llesiant 'Cymru iachach' drwy wella ansawdd ystadegau marwolaethau a'r defnydd o'r data hwn wrth gynllunio, dyrannu adnoddau ac astudiaethau epidemiolegol. Bydd archwilwyr meddygol hefyd yn cyfrannu at brosesau dysgu a gwella o fewn gwasanaethau iechyd.

Cydweithio a chynnwys

Mae partneriaid allweddol o adrannau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu yn ystod yr holl waith o ddatblygu'r cynnig drwy fwrdd rhaglen a hwyluswyd gan lywodraeth y DU ynghyd ag amrywiol weithgorau yn canolbwyntio ar ddatblygu cynigion polisi, systemau digidol, cyllid, cyfathrebu, deddfwriaeth a chanllawiau dros nifer o flynyddoedd. Mae'r grwpiau hyn mewn cydweithrediad wedi datblygu cynigion polisi y gellir eu cyflawni'n ymarferol.

Yng Nghymru, mae partneriaid wedi cymryd rhan mewn byrddau rhaglen, byrddau gweithredu, gweithgorau a grwpiau cynghori. Mae archwilydd meddygol a swyddog archwilio meddygol arweiniol Cymru wedi ymgysylltu â chofrestryddion, crwneriaid, trefnwyr angladdau, cymdeithasau ymarferwyr meddygol a gwasanaethau profedigaeth i ddatblygu a chytuno ar drefniadau gweithio lleol.

Effaith

Cynhaliodd Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol llywodraeth y DU asesiad effaith cost/budd llawn o'r opsiynau oedd ar gael ar gyfer Cymru a Lloegr yn 2018 yn dilyn cynlluniau peilot o'r gwasanaeth yng Nghymru a Lloegr.

Bydd y rheoliadau'n gwella diogelwch y broses ardystio marwolaethau ar gyfer y rhai sydd mewn profedigaeth ac yn arwain at well data marwolaethau i'w defnyddio at ddibenion ymchwil a chynllunio iechyd ac atgyfeiriadau priodol i'r crwner.

Mae gan y rheoliadau y potensial i effeithio ar aelodau cymunedau ffydd sydd angen i gorff gael ei ryddhau’n gynnar i'w gladdu neu amlosgi. Mae Llywodraethau'r DU a Chymru, ac yn fwy diweddar, Archwilydd Meddygol a Swyddog Archwilio Meddygol Arweiniol Cymru, wedi ymgysylltu’n barhaus â chymunedau ffydd. Mae trefniant ar alwad y tu allan i oriau ar waith i hwyluso'r gwaith o graffu ar unwaith ar farwolaethau lle mae angen rhyddhau'r corff yn gynnar.

Costau ac arbedion

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ariannu'r gwasanaeth archwilwyr meddygol yng Nghymru a Lloegr yn amodol ar yr adolygiad blynyddol safonol o gyllidebau a chynnal y penderfyniad i beidio â chyflwyno ffi gyhoeddus newydd yn Lloegr.

Cost ddiweddaraf y system statudol yng Nghymru ar gyfer 2024 i 2025, yn seiliedig ar gostau diweddaraf darparu'r gwasanaeth ar gyfer 2023 i 2024, yw £4.3 miliwn.

Nid oes unrhyw gynigion ar gyfer arbedion wedi'u nodi.

Mecanwaith

Cynigir deddfwriaeth ac mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i gwblhau.

Adran 8. Casgliad

8.1 Sut mae'r bobl sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y cynnig wedi bod yn rhan o’r gwaith o’i ddatblygu?

Datblygwyd y cynigion gyda rhanddeiliaid allweddol megis ymarferwyr meddygol a fu’n gweini, archwilwyr meddygol, swyddogion archwilwyr meddygol, cofrestryddion, crwneriaid a threfnwyr angladdau a gwasanaethau profedigaeth yn ystod cynlluniau peilot, ymgynghoriadau ac ym Mwrdd Rhaglen Strategol llywodraeth y DU, digwyddiadau rhanddeiliaid Coleg Brenhinol y Patholegwyr, byrddau gweithredu Llywodraeth Cymru, gweithgorau ac yn ddiweddarach Bwrdd Rhaglen a Grŵp Cynghori Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.

Mae'r system archwilwyr meddygol wedi cael ei threialu mewn nifer o leoliadau gwahanol yng Nghymru a Lloegr. Sefydlwyd peilot braenaru cychwynnol ym mis Mawrth 2008 yn Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Ysbytai Addysgu Sheffield mewn cydweithrediad â Chrwner Ei Fawrhydi ar gyfer De Swydd Efrog (Gorllewin) i brofi a gwerthuso rôl arfaethedig yr archwilydd meddygol wrth graffu ar dystysgrifau meddygol achos marwolaeth mewn ysbytai. Dewiswyd cynlluniau peilot pellach i gynrychioli croestoriad go iawn o gymdeithas gan gynrychioli pob crefydd a chred gan gynnwys ym Mhowys ar gyfer gofal sylfaenol. Dangosodd y cynlluniau peilot y gallai'r system archwilwyr meddygol weithio mewn amrywiaeth o leoliadau, yn yr ysbyty ac yn y gymuned, mewn ardaloedd trefol ac mewn ardaloedd gwledig.

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn 2016 i 2017 ac mae'r ymatebion a gyflwynwyd wedi siapio datblygiad y gwasanaeth yng Nghymru. Mae'r ymateb i'r ymgynghoriad yn dangos bod cefnogaeth eang i nodau'r diwygiadau ac ar gyfer cyflwyno archwilwyr meddygol.

Mae'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriadau cyhoeddus a gynhaliwyd gan Lywodraethau'r DU a Chymru yn 2016 i 2017 wedi siapio datblygiad y diwygiadau. Fe wnaethant ddangos cefnogaeth eang i nodau'r diwygiadau ac ar gyfer cyflwyno archwilwyr meddygol. Er enghraifft, roedd ymatebion i'r ymgynghoriad yng Nghymru yn pwysleisio’r dymuniad i gael gwasanaeth Cymru gyfan, yn pwysleisio pwysigrwydd annibyniaeth archwilwyr meddygol ac i'r gwasanaeth fod yn ystyriol o'r Gymraeg.

Ar 14 Rhagfyr 2023, cyhoeddwyd rheoliadau drafft Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gyda chyfle i randdeiliaid wneud sylwadau. Fodd bynnag, nid oedd angen gwneud unrhyw newidiadau i'r rheoliadau o ganlyniad i’r sylwadau a ddaeth i law.

8.2 Beth yw'r effeithiau mwyaf arwyddocaol - cadarnhaol a negyddol?

Er bod y ddeddfwriaeth ar gyfer diwygio ardystio marwolaethau yn ehangach yn fater a gedwir yn ôl, mae ei heffaith yng Nghymru wedi cael ei hystyried yn yr asesiad effaith integredig hwn lle bo hynny'n briodol.

Bydd y system yn caniatáu craffu ar bob marwolaeth nad yw'n cael ei chyfeirio at grwner.

Bydd y system archwilwyr meddygol ehangach yn cynnig manteision ac effaith gadarnhaol o ran system iechyd Cymru drwy roi sicrwydd i’r broses ardystio marwolaethau a gwella diogelwch cyffredinol i bobl Cymru sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd. Bydd y gwasanaeth Archwilwyr Meddygol hefyd yn hyrwyddo dysgu a gwella yn y system iechyd drwy rannu gwybodaeth am bryderon a nodir gan archwilwyr meddygol yn eu gwaith craffu gyda darparwyr gofal iechyd a thrwy nodi unrhyw batrymau neu dueddiadau mewn achosion marwolaethau.

Bydd y diwygiadau'n cael effaith gadarnhaol ar lawer o Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal 2023 fel rhan o'r ddyletswydd ansawdd. Er enghraifft, bydd yr effaith gadarnhaol ar y safon 'gwybodaeth' yn bwydo gwybodaeth werthfawr i systemau dysgu ac yn cael effaith gadarnhaol ar y safon 'gwella, dysgu ac ymchwil'.

Bydd cyflwyno Rheoliadau Archwilwyr Meddygol (Cymru) 2024 fel rhan o'r diwygiadau ehangach i ardystio marwolaethau yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar bobl a gwasanaethau iechyd Cymru. Manteision disgwyliedig y gwasanaeth archwilwyr meddygol fel y darperir ar ei gyfer yn Rheoliadau Archwilwyr Meddygol (Cymru) 2024 yw:

  • atal trosedd a chamymarfer gan y bydd achos y farwolaeth a nodir ar dystysgrifau meddygol achos marwolaeth gan feddygon yn cael ei graffu gan archwilwyr meddygol a phatrymau a thueddiadau’n cael eu nodi sy'n arwain at ganfod gweithgarwch troseddol ac ymarfer gwael yn gynharach
  • mae tystysgrifau meddygol achos marwolaeth yn darparu gwybodaeth fwy cywir am achosion marwolaeth sy'n arwain at gynllunio gwasanaethau iechyd yn well
  • gwell gwybodaeth ar gyfer llywodraethu clinigol a monitro iechyd i gefnogi dysgu a gwella, gan wneud gwasanaethau iechyd yn fwy diogel i gleifion
  • proses ardystio marwolaeth sy'n haws i deuluoedd mewn profedigaeth ei deall, ac sy’n agored ac yn dryloyw, gyda'r cyfle i godi unrhyw bryderon gydag unigolyn annibynnol am safon y gofal cyn marwolaeth a rhoi sicrwydd bod achos y farwolaeth wedi'i sefydlu'n gywir gan y meddyg
  • atgyfeiriadau priodol at wasanaeth y crwner

Disgwylir i broses graffu archwilwyr meddygol fod yn fwy tryloyw a dealladwy i'r rhai sydd wedi cael profedigaeth, gan roi sicrwydd hefyd bod yr holl broses ddyladwy wedi'i dilyn. Bydd yr archwilwyr meddygol a'r swyddogion archwilio meddygol hefyd yn rhoi cyfle i drafod yr achos gyda'r rhai sydd wedi cael profedigaeth. Mae potensial hefyd i archwilwyr meddygol nodi tueddiadau mewn achosion marwolaeth annisgwyl.

Ar gyfer achosion claddu, dylai'r ffaith y bydd tystysgrifau meddygol achos marwolaeth yn destun craffu arwain at gynnydd mewn sicrwydd a hyder mewn ardystio marwolaeth ymhlith y rhai sydd wedi cael profedigaeth. Efallai na fydd hyn yn cael ei deimlo’n uniongyrchol gan y rhai sydd wedi cael profedigaeth mewn achosion amlosgi gan fod y marwolaethau hyn eisoes yn gofyn am ardystiad meddygol eilaidd ac annibynnol cyn y gall amlosgiad fynd yn ei flaen.

Mae cyllid canolog ar gyfer yr holl farwolaethau sy’n cael eu hardystio gan archwilydd meddygol yn sicrhau bod pob marwolaeth yn cael ei thrin yn gyfartal a bod y craffu’n gyson.

Roedd pryderon am rai agweddau ar y cynigion. Mae rhai grwpiau crefyddol angen gwaredu'r corff yn gyflym ac roedd pryderon y gallai cyflwyno rôl archwilwyr meddygol achosi oedi. Mae'r mater hwn o bryder arbennig i gymunedau Iddewig, Mwslimaidd, Hindŵaidd a Chatholig y mae eu hymarfer crefyddol yn ffafrio claddu neu amlosgi cyn gynted â phosibl ar ôl marwolaeth. Mae'r pryderon hyn wedi cael eu lliniaru drwy ymgysylltu â chymunedau ffydd yn lleol a chenedlaethol a thrwy gael gwasanaeth ar alwad y tu allan i oriau yn rhan o’r gwasanaeth Archwilwyr Meddygol yng Nghymru.

Y themâu sydd wedi dod i'r amlwg o gynnwys pobl yng Nghymru yw'r dymuniad am wasanaeth Cymru Gyfan, y dylid cadw annibyniaeth archwilwyr meddygol ac y dylid ystyried gofynion safonau'r Gymraeg wrth ddatblygu'r gwasanaeth archwilwyr meddygol.

8.3 Yng ngoleuni'r effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig yn:

  • sicrhau'r cyfraniad gorau posibl i'n hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant?
  • osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Bydd Rheoliadau Archwilwyr Meddygol (Cymru) 2024 yn cefnogi'r nod 'Cymru iachach' fel y’i nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Maent hefyd yn cefnogi'r amcan llesiant cyntaf yn y Rhaglen Lywodraethu (2021 i 2026), sef 'darparu gofal iechyd effeithiol, cynaliadwy ac o ansawdd uchel'.

Cafodd ansawdd gwael ardystio ei nodi gan Ymchwiliad Shipman. Dangosodd archwiliadau blaenorol ac astudiaethau mwy diweddar o Dystysgrifau Meddygol Achos Marwolaeth mai dim ond 55 y cant o dystysgrifau a gwblhawyd i’r safon ofynnol isaf. Methodd llawer o'r rhain â darparu gwybodaeth berthnasol i ganiatáu codio digonol o achos marwolaeth i safon 10fed diwygiad y Dosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau (ICD-10). Cwblhawyd bron i 10 y cant i safon wael, gan fod yn afresymegol neu wedi’u cwblhau'n amhriodol.

Bydd archwilwyr meddygol yn ymarferwyr meddygol cofrestredig a phrofiadol sy'n gallu sicrhau bod achos y farwolaeth a nodir gan y meddyg ardystiedig yn gywir ac yn cyfateb i'r cofnodion meddygol. Lle nad yw achos y farwolaeth yn hysbys neu ei fod yn aneglur ar ôl adolygu'r cofnodion meddygol, bydd archwilwyr meddygol yn sicrhau bod y farwolaeth yn cael ei chyfeirio at y crwner er mwyn ymchwilio iddi.

Mewn egwyddor, byddai disgwyl i hyfforddiant arbenigol a gwblheir gan archwilwyr meddygol arwain at dystysgrifau meddygol achos marwolaeth llawer mwy cywir. Dangosodd y safleoedd peilot fod craffu gan archwilwyr meddygol wedi arwain at y gallu i godio nifer fwy o farwolaethau yn ddigonol. Newidiwyd y bennod ICD-10 a nodwyd gan y meddyg ardystio gwreiddiol gan yr archwilydd meddygol mewn 12% o farwolaethau. Trwy gael mwy o gywirdeb a chodio gwell mae yna botensial ar gyfer dyrannu adnoddau'r GIG yn fwy effeithlon, cynllunio iechyd cyhoeddus, a bydd unrhyw astudiaethau epidemiolegol sy'n defnyddio data marwolaethau yn fwy cywir. Dros amser dylai effeithio ar iechyd y cyhoedd yn gadarnhaol.

Bydd y system archwilwyr meddygol ehangach yn cael effaith gadarnhaol a manteision mewn perthynas â system iechyd Cymru drwy roi sicrwydd ynghylch y broses ardystio marwolaethau a gwella diogelwch cyffredinol i bobl Cymru sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd. Bydd y gwasanaeth archwilwyr meddygol hefyd yn hyrwyddo dysgu a gwella yn y system iechyd drwy rannu gwybodaeth am bryderon a nodwyd gan archwilwyr meddygol yn ystod eu gwaith craffu gyda darparwyr gofal iechyd a thrwy nodi unrhyw batrymau neu dueddiadau mewn achosion marwolaethau.

Bydd y diwygiadau i ardystio marwolaethau yn effeithio ar y data ar gofrestru marwolaethau a gesglir gan Swyddfa Gofrestru Gyffredinol Cymru a Lloegr, a fydd yn golygu newidiadau hanfodol i'r system Cofrestru Ar-lein (RON). Yn yr un modd, bydd angen i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ddiweddaru system Parhad Digwyddiadau Bywyd (LEC) (sy'n gweithredu fel y rhyngwyneb rhwng systemau RON a Digwyddiadau Bywyd yr ONS), systemau a phrosesau M204, a'r systemau SAS ac Iaith Ymholiadau Strwythuredig (SQL) sy'n cynhyrchu ystadegau marwolaethau i ganiatáu prosesu'r data a dderbynnir gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol.

Mae rhai grwpiau crefyddol angen gwaredu'r corff yn brydlon ac roedd pryderon y gallai cyflwyno rôl archwilwyr meddygol achosi oedi. Mae'r mater hwn yn peri pryder arbennig i gymunedau Iddewig, Mwslimaidd, Hindŵaidd a Chatholig y mae eu hymarfer crefyddol yn ffafrio claddu neu amlosgi cyn gynted â phosibl ar ôl marwolaeth. Mae'r pryderon hyn wedi cael eu lliniaru drwy ymgysylltu â chymunedau ffydd yn lleol a chenedlaethol a thrwy sicrhau bod gwasanaeth archwilwyr meddygol yng Nghymru yn cynnwys gwasanaeth ar alwad y tu allan i oriau.

Bydd ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys grwpiau ffydd, yn parhau i liniaru unrhyw effeithiau negyddol.

Mae Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 7) eisoes yn gymwys i ymwneud yr archwilydd meddygol a'r swyddog archwilio meddygol â'r sawl sydd mewn profedigaeth dros y ffôn ac mewn gohebiaeth ysgrifenedig, fel wrth ddarparu adroddiad cryno o'r sgwrs gyda'r archwilydd meddygol. Mae'r rheoliadau hefyd yn berthnasol i dudalennau gwe yr archwilydd meddygol a gwasanaethau ar-lein ar dudalennau gwe Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, a bydd y faith bod gwasanaethau Cymraeg ar gael yn cael ei hyrwyddo. Felly, bydd Rheoliadau Archwilwyr Meddygol (Cymru) 2024 pan gânt eu gosod yn cael effaith gadarnhaol ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg wrth i'r rhain ddod yn wasanaeth statudol newydd.

8.4 Sut y bydd effaith y cynnig yn cael ei fonitro a'i werthuso wrth iddo fynd rhagddo a phryd y bydd yn dod i ben?

Mae Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU wedi nodi y bydd effaith y rheoliadau hyn a'r diwygiadau ehangach i ardystio marwolaethau ar grwneriaid yn cael ei hadolygu 18 mis ar ôl eu gweithredu.

Bydd yn ofynnol i'r Archwilydd Meddygol Cenedlaethol drwy reoliadau ddarparu adroddiad i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gweinidogion Cymru ar weithrediad y system archwilwyr meddygol.