Neidio i'r prif gynnwy

O 24 Chwefror, bydd Deddf Caffael 2023 a Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024 yn dod i rym.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel rhan o'r rheoliadau newydd hyn, rydyn ni’n diweddaru ein Nodiadau Polisi Caffael Cymru (WPPNs) i adlewyrchu'r newidiadau hyn.

Mae'r diweddariad yn cynnwys:

  • Terminoleg wedi'i diweddaru
  • System gyfeirio newydd

Sylwer, nid yw'r diweddariadau yn gyfystyr â newid mewn polisi. Bydd Nodiadau Polisi Caffael Cymru presennol yn parhau i fod yn berthnasol i'r holl gaffaeliadau a ddechreuwyd cyn 24 Chwefror. Bydd y Nodiadau Polisi Caffael Cymru hyn yn cael eu galw'n Nodiadau Polisi Caffael Cymru 'etifeddol'.

Cyn y dyddiad mynd yn fyw, rydyn ni’n lansio tudalen we Nodiadau Polisi Caffael Cymru newydd ar LLYW. CYMRU a fydd yn lletya’r Nodiadau Polisi Caffael Cymru a'r Nodiadau Polisi Caffael wedi'u diweddaru. Ni fydd rhai Nodiadau Polisi Caffael Cymru, er enghraifft ‘ ‘Nodiadau Polisi Caffael Cymru 03/20: Caffael Cyhoeddus Ar ôl Cyfnod Pontio’r UE gan gynnwys y Gwasanaeth Canfod Tendr (FTS)’, yn ymddangos ar y dudalen we newydd gan eu bod wedi eu tynnu yn ôl neu wedi’u disodli gan y rheoliadau caffael newydd. Ar gyfer caffaeliadau a ddechreuwyd o dan yr hen reoliadau, bydd angen i ddefnyddwyr fynd i’r dudalen we ar gyfer nodiadau polisi etifeddol. Bydd diweddariad yn dilyn unwaith y bydd y rheoliadau newydd yn dod i rym.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, e-bostiwch: PolisiMasnachol@llyw.cymru