Neidio i'r prif gynnwy

Cylchlythyr rheoliadau adeiladu

Rhif y cylchlythyr:    WGC 002/2024

Dyddiad cyhoeddi:    26/02/2024

Statws:    Er gwybodaeth

Teitl:    Dynodi swyddogaethau cofrestru a goruchwylio'r proffesiwn Rheolaeth Adeiladu i'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu a'r cynllun Codi Tâl cysylltiedig

Cyhoeddwyd gan:  Kevin Davies, Swyddog Cymwyseddau a Safonau Rheolaeth Adeiladu

Ar gyfer:    

Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 
Cymdeithas yr Arolygwyr Cymeradwy Corfforaethol
 

I'w anfon ymlaen at:

Swyddogion Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol
Aelodau Senedd Cymru
Y Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu; LABC; CABE; RICS; ABCA, CIOB
 

Crynodeb:

Cylchlythyr yw hwn sy'n hysbysu bod swyddogaethau cofrestru a goruchwylio'r proffesiwn Rheolaeth Adeiladu wedi'u dynodi i'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu (BSR). Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y cynllun Codi Tâl mewn perthynas â'r uchod.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Y Tîm Rheoliadau Adeiladu
2il lawr
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Llinell uniongyrchol:        0300 060 4400

E-bost:    enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Gwefan:   Adeiladu a chynllunio

Cyflwyniad

  1. Rwyf wedi cael cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru i dynnu'ch sylw at y newidiadau a wneir gan y rheoliadau canlynol sy'n dod i rym ar 6 Ebrill 2024:

    Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) (Cymru) 2024

  2. Pwrpas y Cylchlythyr hwn yw tynnu sylw at yr is-ddeddfwriaeth newydd ac esbonio'r newidiadau y mae'n eu gwneud.

Cwmpas y Cylchlythyr hwn

  1. Mae'r Cylchlythyr hwn yn ymwneud ag adeiladau a gwaith adeiladu yng Nghymru, yn ogystal ag â gweithwyr rheolaeth adeiladu proffesiynol sy'n gweithredu yng Nghymru.  

Y prif negeseuon

  1. Mae Rheoliad 12 yn cyflwyno darpariaethau trosiannol i roi mwy o amser i ddilysu cymwyseddau arolygwyr adeiladu ar y lefel sy'n briodol i'r gwaith y maent yn bwriadu ei wneud. Cyn belled â bod yr arolygwyr adeiladu wedi'u cofrestru o leiaf fel Dosbarth 1 erbyn 6 Ebrill 2024, byddant yn gallu cynnal gweithgareddau a swyddogaethau cyfyngedig. 

    Hynny cyn belled â bod eu cymwyseddau yn cael neu wedi cael eu hasesu ar y lefel ofynnol. Os na fydd yr asesiad o'u cymwyseddau'n llwyddiannus, bydd yn rhaid i arolygydd cofrestredig adeiladu (RBI) weithio ar y lefel y mae wedi'i gofrestru arni. Bydd hyn yn berthnasol tan (ond heb gynnwys) 1 Hydref 2024. Ceir rhagor o fanylion yn mharagraff 20.
     
  2. Mae rheoliad 2(d)(i) yn cychwyn adran 40 o Ddeddf Diogelwch Adeiladu 2022. Mae'r adran hon yn mewnosod adran 112A newydd yn Neddf Adeiladu 1984 sy'n darparu, pan fydd corff corfforaethol yn cyflawni trosedd o dan y Ddeddf honno, yr ystyrir bod unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall sy'n perthyn i'r corff hwnnw hefyd o dan rai amgylchiadau wedi cyflawni'r drosedd honno. Yr amgylchiadau hynny yw pan fydd yr unigolyn wedi cydsynio i gyflawni'r drosedd neu wedi ymoddefu iddi gael ei chyflawni neu lle gellir priodoli'r drosedd i unrhyw esgeulustod ar ei ran.
     
  3. Mae nifer o ddarpariaethau trosiannol sy'n ymwneud â gwaith adeilad risg uwch. Mae rheoliad 11 (gweler paragraff 19) yn darparu y bydd pob gwaith adeilad risg uwch newydd o 6 Ebrill 2024 yn cael ei oruchwylio gan awdurdod lleol .

    Mae rheoliad 3 yn galluogi Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu ("RBCAs") i barhau i weithio ar brosiectau adeiladau risg uwch sy'n bodoli eisoes sy'n dod o dan drefniadau trosiannol. Gweler paragraff 13 am ragor o fanylion.

    Mae Rheoliad 4 yn datgan na chaiff Arolygwyr Cymeradwy nad ydynt yn dod yn RBCAs oruchwylio gwaith adeilad risg uwch o 6 Ebrill 2024. Gweler paragraff 14 am ragor o fanylion. 

Is-ddeddfwriaeth newydd

Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) (Cymru) 2024

  1. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i sicrhau bod y drefn rheolaeth adeiladu newydd yn dechrau ar 6 Ebrill 2024.  Mae'r Rheoliadau hefyd yn creu cyfnod trosiannol o 6 Ebrill 2024 tan 1 Hydref 2024.
     
  2. Mae rheoliad 2 yn peri bod darpariaethau canlynol Deddf Diogelwch Adeiladu 2022 ddod i rym ar 6 Ebrill 2024:

    a.    adran 32(3) (awdurdodau rheolaeth adeiladu) at yr holl ddibenion sy’n weddill, i’r graddau y mae’n ymwneud ag adran 91ZD o Ddeddf 1984.
    b.    adran 42 (rheoleiddio’r proffesiwn rheolaeth adeiladu), i’r graddau y mae’n ymwneud â mewnosod adran 58Z2 yn Neddf 1984.
    c.    paragraff 56 o Atodlen 5.
     
  3. Mae'n peri hefyd i'r darpariaethau canlynol ddod i rym mewn perthynas â Chymru yn unig ar yr un dyddiad:

    a.    adran 40 (atebolrwydd swyddogion corff corfforedig).
    b.    adran 42 (rheoleiddio’r proffesiwn rheolaeth adeiladu) at yr holl ddibenion sy’n weddill, ac eithrio i’r graddau y mae’n ymwneud ag adrannau 58Z7 a 58Z10 o Ddeddf 1984 a mewnosod adran 58Z2 yn Neddf 1984;
    c.    adran 43 (trosglwyddo swyddogaethau arolygwyr cymeradwy i gymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu).
    d.    adran 44 (swyddogaethau nad ydynt yn arferadwy ond drwy arolygwyr cofrestredig adeiladu, neu gyda eu cyngor),) at yr holl ddibenion sy’n weddill.
    e.    adran 46 (gwaith adeilad risg uwch: cymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu) at yr holl ddibenion sy’n weddill.
    f.    adran 50 (canslo hysbysiad cychwynnol) at yr holl ddibenion sy’n weddill.
    g.    adran 51 (hysbysiadau cychwynnol newydd) at yr holl ddibenion sy’n weddill.
    h.    adran 52 (casglu gwybodaeth) at yr holl ddibenion sy’n weddill.
    i.    adran 53(2) a (3)(a)(ii) a (iii) a (3)(b) (gwybodaeth).  
    j.    Atodlen 4.
    k.    Atodlen 5 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol mewn cysylltiad â Rhan 3 o Ddeddf 2022) ac eithrio’r paragraffau a restrir yn yr Atodlen ac yn ddarostyngedig i’r eithriadau yn adran 170(4)(b)(viii)(A) a (B).  
    l.    Atodlen 6 (apelau a phenderfyniadau eraill) at yr holl ddibenion sy’n weddill (yn ddarostyngedig i’r eithriadau yn adran 170(4)(b)(ix) o Ddeddf 2022).
     
  4. Bydd cychwyn y darpariaethau hyn yn caniatáu i'r drefn rheolaeth adeiladu newydd a system gofrestru RBIs ac RBCAs ddod yn weithredol yng Nghymru.
     
  5. O dan y drefn rheolaeth adeiladu newydd, ni chaniateir i RBCAs gyflawni swyddogaethau rheolaeth adeiladu sy'n ymwneud â gwaith adeilad risg uwch yng Nghymru, ond cytunwyd ar rai darpariaethau trosiannol er mwyn i'r diwydiant allu gweithredu'n esmwyth.
     
  6. Mae rheoliadau 3 i 7 yn ddarpariaethau trosiannol a fydd yn caniatáu, mewn amgylchiadau penodol, i Arolygydd Cymeradwy ("AI") barhau i oruchwylio'r gwaith adeiladu presennol unwaith y bydd y drefn RBCA newydd yn dechrau ar 6 Ebrill 2024 yng Nghymru.
     
  7. Mae rheoliad 3 yn amlinellu'r sefyllfa a'r goblygiadau lle daeth AI yn RBCA cyn 6 Ebrill 2024, a chyflwyno a derbyn hysbysiad cychwynnol sy'n ymwneud â gwaith adeiladu risg uwch. Yn y sefyllfa honno, cyn belled â bod y gwaith adeiladu wedi cychwyn cyn neu o fewn y cyfnod trosiannol, a bod gan yr RBCA gymwysterau addas a'i fod wedi'i gofrestru i gyflawni'r swyddogaethau hynny, gall barhau i gyflawni swyddogaethau rheolaeth adeiladu sy'n goruchwylio gwaith adeilad risg uwch trwy gydol y prosiect.
     
  8. Mae rheoliad 4 yn amlinellu'r sefyllfa lle nad yw AI yn dod yn RBCA. Os na fydd AI wedi dod yn RBCA ar neu cyn 6 Ebrill 2024, ni chaiff oruchwylio gwaith adeilad risg uwch ar neu ar ôl 6 Ebrill 2024. Yn yr achos hwnnw, bydd y cyfrifoldeb am unrhyw waith adeilad risg uwch yr oedd wedi bod yn ei oruchwylio yn mynd yn ôl i'r awdurdod lleol ar 6 Ebrill 2024. Bydd unrhyw hysbysiadau cychwynnol a gyflwynwyd gan yr AI mewn perthynas â'r gwaith hwn yn cael eu canslo. Mae'r rheoliad yn caniatáu i AI nad yw wedi dod yn RBCA barhau i oruchwylio gwaith nad yw'n waith adeilad risg uwch tan 1 Hydref 2024. Ar y dyddiad hwnnw, caiff unrhyw hysbysiadau cychwynnol eu canslo. Bydd unrhyw waith adeiladu sy'n dal i fynd rhagddo bryd hynny yn cael ei drosglwyddo i'r awdurdod lleol, os na fydd eisoes wedi'i drosglwyddo i RBCA gwahanol. Tan 1 Hydref 2024, caiff yr AI barhau i gyhoeddi tystysgrifau planiau, tystysgrifau terfynol a hysbysiadau diwygio mewn perthynas â phrosiectau y maent yn eu goruchwylio. Ond os cyhoeddir hysbysiad diwygio cyn y dyddiad hwnnw a fyddai'n newid natur y gwaith mewn hysbysiad cychwynnol fel ei fod yn dod yn waith adeilad risg uwch, rhaid trosglwyddo'r gwaith hwnnw i’r awdurdod lleol.
     
  9. Mae rheoliadau 5, 6 a 7 yn caniatáu i sawl rhan o Ddeddf Adeiladu 1984, fel y'u haddaswyd gan adrannau 46, rhai rhannau o Atodlen 4 a rhai rhannau o Atodlen 6 o Ddeddf Diogelwch Adeiladu 2022 gael eu darllen fel pe bai cyfeiriadau at RBCAs yn gyfeiriadau at AIs. Mae'r darpariaethau hyn mewn grym tan ond heb gynnwys 1 Hydref 2024.
     
  10. Mae rheoliad 8 yn nodi, lle cafodd hysbysiad cychwynnol ei dderbyn ar gyfer gwaith adeiladu risg uwch ond na ddechreuwyd ar y gwaith cyn 1 Hydref 2024, yna bydd yr hysbysiad cychwynnol ac unrhyw dystysgrifau planiau sy'n ymwneud â'r gwaith hwnnw yn darfod â bod mewn grym ar 1 Hydref 2024.
     
  11. Mae rheoliad 9 yn nodi gofyniad pan fydd gwaith adeiladu risg uwch wedi cychwyn ond bod yr hysbysiad cychwynnol wedyn cael ei ganslo, y bydd y cyfrifoldeb am y gwaith adeiladu risg uwch yn cael ei drosglwyddo i'r awdurdod lleol o ddyddiad canslo'r hysbysiad cychwynnol.
     
  12. Mae rheoliad 10 yn caniatáu i RBCA gwahanol gyflwyno hysbysiad cychwynnol ar gyfer gwaith nad yw'n waith adeilad risg uwch os bydd AI neu RBCA yn canslo'r hysbysiad cychwynnol gwreiddiol cyn 1 Hydref 2024.
     
  13. Mae Rheoliad 11 yn nodi'r gofyniad bod yn rhaid i'r awdurdod lleol oruchwylio'r holl waith adeilad risg uwch newydd o 6 Ebrill 2024. Mae'n gwahardd RBCAs neu AIs rhag cyflwyno hysbysiadau cychwynnol ar gyfer gwaith adeilad risg uwch i awdurdodau lleol o'r dyddiad hwn ymlaen. Nid yw'r rheoliad hwn yn effeithio ar waith adeilad risg uwch os oes hysbysiad cychwynnol eisoes wedi'i dderbyn, neu y bernir ei fod wedi'i dderbyn cyn y dyddiad hwn.
     
  14. Mae Rheoliad 12 yn nodi ein darpariaethau trosiannol ar gyfer caniatáu i arolygwyr adeiladu nad yw eu cymwyseddau wedi'u dilysu eto yn y dosbarth a ddymunir ganddynt, barhau i weithio ar brosiectau rhwng 6 Ebrill 2024 a 1 Hydref 2024. Mae hyn yn golygu y bydd arolygwyr adeiladu yn gallu parhau i weithio ar yr amod:

    a.    Eu bod wedi'u cofrestru fel o leiaf arolygydd Dosbarth 1 gyda'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu (BSR) erbyn 6 Ebrill 2024, a'u
    b.    Bod yn y broses o gael eu cymwyseddau wedi'u hasesu i'r lefel y maent yn bwriadu gweithio ynddi neu wedi cael eu hasesu ar y lefel ofynnol a'u bod yn aros i gael eu cofrestriad wedi'i gadarnhau, ac
    c.    Nid ydynt wedi methu yn eu hasesiad cymhwysedd ar y lefel sy'n briodol ar gyfer eu gwaith.

    I'r rhai sydd wedi methu yn eu hasesiad cymhwysedd, byddant yn cael gweithio o dan oruchwyliaeth (h.y. yn y dosbarth y maent wedi'u cofrestru ynddo) nes bod asesiad o'u cymwyseddau'n cael ei gynnal yn llwyddiannus ac yn newid eu cofrestriad gyda'r RBI. Mewn geiriau eraill, ni fyddai'r trefniadau trosiannol yn berthnasol iddynt mwyach. Byddai angen i'r oruchwyliaeth gael ei chynnal gan rywun sydd eisoes wedi cael ei ddilysu i'r dosbarth priodol ar gyfer y gwaith sy'n cael ei wneud neu sy'n bodloni meini prawf y trefniant trosiannol hwn.

    Os bydd person wedi methu ei asesiad ar y lefel y maent yn ei dymuno ond wedi llwyddo mewn dosbarth is, caniateir iddo barhau i weithio ar brosiectau adeiladu yn unol â'r dosbarth is hwnnw heb yr un gofyniad am oruchwyliaeth.

    Atgoffir arolygwyr eu bod yn rhydd i newid eu cofrestriad gyda'r BSR unwaith y bydd eu cymwyseddau wedi'u hasesu ar y lefel ofynnol. Bydd angen gwneud hyn erbyn 1 Hydref 2024. 

  15. Mae rheoliad 13 yn ddarpariaeth arbed sy'n caniatáu i adran 49 o Ddeddf Adeiladu 1984 (a hepgorir gan baragraff 5 o Atodlen 4 o Ddeddf Diogelwch Adeiladu 2022) fod yn gymwys os na ddaeth AI yn RBCA cyn 6 Ebrill 2024 ond ei fod yn cael parhau i oruchwylio gwaith nad yw'n waith adeiladu risg uwch yn rhinwedd rheoliad 4 (gweler paragraff 14).
     
  16. Mae rheoliad 14 yn ddarpariaeth arbed sy'n caniatáu i reoliadau a wneir o dan baragraffau 2 i 4B sydd wedi'u dileu, o Atodlen 1 i Ddeddf Adeiladu 1984 gael parhau mewn grym fel pe baent yn cael eu gwneud o dan baragraffau penodedig eraill Atodlen 1 o'r un Ddeddf. Effaith y rheoliad hwn yw sicrhau parhad a chynnal effaith gyfreithiol rheoliadau presennol eraill.

Ymholiadau

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau am y cylchlythyr hwn at:

Rheoliadau Adeiladu, 
2il lawr, 
Llywodraeth Cymru, 
Parc Cathays, 
Caerdydd CF10 3NQ

E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru

Yn gywir

Mark Tambini
Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu