Neidio i'r prif gynnwy

Prif Gynllunydd, Y Gyfarwyddiaeth Gynllunio

Ein cyf: MA-JJ-2175-21

Penaethiaid Cynllunio,
Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru

19 Gorffennaf 2021

Annwyl Gyfeillion,

Newidiadau i benderfynu ar geisiadau caniatâd adeilad rhestredig ar gyfer newid neu estyn adeiladau rehstredig

Rwy'n ysgrifennu i'ch hysbysu bod Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio) 2021 wedi'u gosod gerbron y Senedd, ac yn ddarostyngedig i benderfyniad y Senedd, mae disgwyl iddynt ddod i rym ar 16 Awst 2021.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliad 9 o Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012 trwy ddileu'r gofyniad i Awdurdodau Cynllunio Lleol (“ACLl”) gyflwyno eu ceisiadau eu hunain am Ganiatâd Adeilad Rhestredig (“LBC”) sy'n ymwneud â'r newid neu estyn adeilad rhestredig yn eu hardal eu hunain, i Weinidogion Cymru ei benderfynu. Rhaid i geisiadau o'r fath gan ACLl nawr gael eu gwneud i'r ACLl, a pheidio â chael eu penderfynu gan:

  1. pwyllgor neu is-bwyllgor o'r ACLl sy'n llwyr neu'n rhannol gyfrifol am reoli unrhyw adeilad y mae'r cais LBC yn ymwneud ag ef, neu
  2. gan swyddog yr ACLl os yw ei gyfrifoldebau'n cynnwys unrhyw agwedd ar reoli unrhyw adeilad y mae'r cais LBC yn ymwneud ag ef.

Sylwch y bydd yn ofynnol o hyd i geisiadau LBCs gan ACLl sy'n ymwneud â dymchwel (fel y'u diffinnir gan gyfraith achos) adeilad rhestredig, yn ogystal â cheisiadau Cydsyniad Ardal Gadwraeth gan ACLl gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru, a'u penderfynu arnynt.

Mewn amgylchiadau lle mae LBC yn bwriadu cael ei ganiatáu, bydd yn ofynnol o hyd i ACLl hysbysu Gweinidogion Cymru, trwy Cadw, o'u bwriad i wneud hynny, yn unol ag Adran 13 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 , yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddiadau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru neu awdurdod dirprwyedig a fyddai'n dad-gymhwyso'r gofyniad hwn.

Ni fydd Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio) 2021 yn berthnasol i unrhyw gais am LBC a dderbynnir gan Weinidogion Cymru cyn i'r rheoliadau ddod i rym ar 16 Awst 2021.

Yn gywir,

Neil Hemington

Prif Gynllunydd, Y Gyfarwyddiaeth Gynllunio

Rydym yn croesawu derbyn gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ateb gohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg yn Gymraeg ac ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Parc Cathays
Caerdydd 
CF10 3NQ
prifswyddogcynllunio@gov.wales
Gwefan : www.llyw.cymru