Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr aelodau yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud darpariaeth yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 i sicrhau bod yn rhaid i deithwyr sy'n cyrraedd Cymru o wledydd a thiriogaethau tramor ynysu am 14 diwrnod (lleihawyd yn ddiweddarach i 10 diwrnod) a darparu gwybodaeth bersonol, er mwyn atal y coronafeirws rhag lledaenu ymhellach. Daeth y cyfyngiadau hyn i rym ar 8 Mehefin 2020.

Ar 10 Gorffennaf, diwygiodd Llywodraeth Cymru y Rheoliadau hyn er mwyn cyflwyno eithriadau i'r gofyniad ynysu ar gyfer rhestr o wledydd a thiriogaethau, ac amrywiaeth gyfyngedig o bobl mewn sectorau a swyddi arbenigol a all fod wedi'u heithrio o'r gofyniad neu wedi'u heithrio o ddarpariaethau penodol y gofynion i ddarparu gwybodaeth bersonol. 

Ers hynny, mae'r rheoliadau wedi'u hadolygu'n barhaus ac mae nifer o newidiadau wedi'u gwneud i'r rhestr o wledydd a thiriogaethau eithriedig. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth wrthyf y bore yma fod amrywiolyn newydd o COVID-19 wedi'i ganfod yn Ne Affrica. Mae'r amrywiolyn hwn yn wahanol i amrywiolyn y DU yr hysbyswyd Sefydliad Iechyd y Byd amdano ar 10 Rhagfyr (SARS-CoV-2 VUI 202012/01), ond gall rannu nodweddion tebyg o ran natur drosglwyddadwy uwch. Mae'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cofnodi dau achos o amrywiolyn De Affrica o COVID-19 yn Lloegr. 

Mae nifer cynyddol o wledydd, gan gynnwys yr Almaen a'r Iseldiroedd, wedi gosod cyfyngiadau teithio ar Dde Affrica, ac rydym yn disgwyl i eraill wneud yr un peth. Gwnaed penderfyniad gan Lywodraeth y DU y bore yma i osod cyfyngiadau teithio pellach ar deithwyr o Dde Affrica. Mae'r rhan fwyaf o hediadau o Dde Affrica yn teithio i feysydd awyr yn Lloegr. 

Cyfarfu'r pedwar Prif Swyddog Meddygol y bore yma i drafod y datblygiad hwn, ac yn sgil hynny penderfynwyd y byddai camau'n cael eu cymryd i ddileu'r eithriadau sectoraidd i deithwyr sy'n cyrraedd o Dde Affrica. Bydd yn ofynnol i bawb sy'n cyrraedd Cymru sydd wedi bod yn Ne Affrica yn ystod y 10 diwrnod blaenorol ynysu am 10 diwrnod a dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn y bydd hawl ganddynt i adael eu cartrefi. Bydd yr un gofynion ynysu yn gymwys i bob aelod o'u haelwyd hefyd. Bydd y gofynion ynysu ychwanegol hyn hefyd yn gymwys i unigolion sydd eisoes yng Nghymru a fu yn Ne Affrica yn ystod y 10 diwrnod diwethaf, yn ogystal ag aelodau o'u haelwyd. 

Gwneir diwygiad pellach fel na all awyrennau na llongau teithwyr sy'n teithio yn uniongyrchol o Dde Affrica, yn ogystal â hediadau cysylltiedig, lanio na docio mewn meysydd awyr na phorthladdoedd yng Nghymru mwyach.  

Daw'r Rheoliadau i rym am 9:00am ddydd Iau 24 Rhagfyr, a chânt eu gosod ddydd Mawrth 29 Rhagfyr. 

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau.