Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y rheoliadau hyn yn gwahardd cyflenwi, neu gynnig cyflenwi, weips gwlyb sy'n cynnwys plastig yng Nghymru o 18 Rhagfyr 2026 ymlaen.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Nod y gyfraith yw atal y difrod a achosir i'r amgylchedd drwy waredu'r cynhyrchion hyn yn y ffordd anghywir.

Amserlen

Bydd y gwaharddiad ar gyflenwi weips gwlyb sy'n cynnwys plastig yn dechrau yng Nghymru ar 18 Rhagfyr 2026. Bydd hyn yn rhoi amser i weithgynhyrchwyr newid eu prosesau cynhyrchu os ydynt am barhau i gyflenwi'r farchnad yng Nghymru.

Mae holl wledydd y DU yn cyflwyno'r gwaharddiad hwn ond gyda dyddiadau cychwyn gwahanol. Mae gwaharddiad Lloegr yn dechrau ar 19 Mai 2027.

Trosolwg

Mae Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Weips Gwlyb) (Cymru) 2025 [LEGISLATION.GOV.UK], yn ei gwneud yn drosedd cyflenwi neu gynnig cyflenwi (gan gynnwys am ddim) weips gwlyb sy'n cynnwys plastig i ddefnyddwyr yng Nghymru.

Mae hyn yn cynnwys:

  • weips babanod
  • weips wyneb a thynnu colur
  • masg wyneb cosmetig
  • hancesi toiled llaith
  • weips diheintio dwylo
  • weips hylendid personol a diarogli
  • weips glanhau cartref, gan gynnwys weips neu badiau mop gwlyb 

Mae'r gwaharddiad yn berthnasol i werthiannau ar-lein a wyneb yn wyneb.

Eithriadau

Mae eithriad wedi'i gynnwys ar gyfer y cyflenwad parhaus o weips gwlyb sy'n cynnwys plastig ac sydd 'wedi'u dylunio neu eu gweithgynhyrchu i'w defnyddio mewn cysylltiad â gofal neu driniaeth feddygol'.

Mae hyn yn golygu y gall manwerthwyr, cyfanwerthwyr a gweithgynhyrchwyr barhau i werthu a chyflenwi weips gwlyb sy'n cynnwys plastig os yw'n gysylltiedig â gofal  neu driniaeth feddygol.

Ni fydd y gwaharddiad yn effeithio ar weips gwlyb nad ydynt yn blastig a gellir eu cyflenwi o hyd – chwiliwch am y term 'di-blastig'.

Nid yw weips gwlyb y gellir eu hailddefnyddio'n ddiogel sawl gwaith, wedi'u cynnwys yn y gwaharddiad.

Gorfodi

Bydd awdurdodau lleol yn cynnal arolygiadau i wneud yn siŵr bod y rheolau'n cael eu dilyn. Mae pwerau'r arolygwyr yn cynnwys:

  • ymweld â siop
  • gwneud pryniannau prawf
  • siarad â staff; a
  • gofyn am weld cofnodion.

Os byddwch chi'n torri'r gyfraith, gallech gael eich dirwyo a'ch gorchymyn i dalu cost yr ymchwiliad.

Cael cymorth

Os oes gennych gwestiynau am sut mae'r rheolau newydd yn effeithio ar eich busnes, cysylltwch â CynhyrchionPlastigUntro@llyw.cymru