Neidio i'r prif gynnwy

Daeth Rheoliadau ar gyfer Systemau Draenio Cynaliadwy, neu SDCau, ar gyfer datblygiadau eiddo newydd yng Nghymru i rym heddiw (7 Ionawr).

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y rheoliadau gorfodol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn helpu i leihau y risg o lifogydd ac yn gwella ansawdd dŵr. 

Bydd y rheoliadau hefyd yn helpu i sicrhau bod safonau amgylcheddol yn cael eu cynnal a'u gwella wedi Brexit, gyda phroblemau llifogydd yn cael eu datrys mewn ffordd ecogyfeillgar drwy ddulliau cynaliadwy.

Bydd manteision pellach y rheoliadau yn cynnwys gwella y bywyd gwyllt a bioamrywiaeth a helpu i leihau llygredd ar ddatblygiadau tai newydd drwy ddefnyddio SDCau sydd wedi'u cynllunio a'u hadeiladu yn effeithiol.

Mae SDCau yn defnyddio'r dirwedd a llystyfiant naturiol i reoli llif dŵr wyneb ac i leihau'r risg o lifogydd. Gall y cynlluniau gynnwys pyllau dŵr, palmentydd hydraidd a phantau sy'n arafu llif dŵr wyneb yn fwy na phibellau draenio confensiynol. 

Gall dŵr wyneb ffo hefyd achosi llygredd arwyddocaol yn uniongyrchol a thrwy garthffosydd yn gorlifo i afonydd. Mae SDCau wedi'u dylunio nid yn unig i wella ansawdd dŵr ond hefyd i fod yn gryfach ac i bara'n hirach na systemau draenio confensiynol.

Mae oddeutu 163,000 o adeiladau yng Nghymru mewn perygl o lifogydd dŵr wyneb ac amcangyfrifir bod systemau draenio cynaliadwy yn lleihau y difrod o lifogydd hyd at 30%.  

Meddai Lesley Griffiths, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: 

"Gall llifogydd gael effaith ddinistriol ar berchnogion tai ac mae'n bwysig fod pob ymdrech yn cael ei wneud i amddiffyn tai ac i gyfyngu ar y difrod sy'n cael ei wneud o ganlyniad i lifogydd dŵr.

"Y llynedd gwelwyd sawl achos o lifogydd drwg yng Nghymru gan dynnu sylw at bwysigrwydd cyflwyno mesurau i fynd i'r afael â'r heriau sy'n cael eu hwynebu o ganlyniad i'r newid yn yr hinsawdd.

"Rydym yn gobeithio y bydd y rheoliadau hyn yn cael effaith bositif ar genedlaethau'r dyfodol ac yn helpu i sicrhau bod Cymru yn cynnal ei safonau amgylcheddol uchel wedi Brexit." 

Manylion ar draenio cynaliadwy.