Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 23 Mai 2013.

Cyfnod ymgynghori:
14 Ebrill 2013 i 23 Mai 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 61 KB

PDF
61 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Mae'r Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2013 arfaethedig yn gwneud nifer o newidiadau i adroddiadau blynyddol llywodraethwyr ysgolion.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

O ganlyniad i adran 94 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a ddaw i rym ar 4 Mai 2013 ni fydd yn ofynnol bellach i gorff llywodraethu ysgol gynnal cyfarfod rhieni blynyddol. Bydd gan rieni yn hytrach yr hawl i ofyn am gyfarfod â chorff llywodraethu i drafod materion sy'n peri pryder iddynt. Gellir defnyddio'r hawl hon hyd at dair gwaith mewn blwyddyn ysgol.

Mae'r Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2013 arfaethedig ("Rheoliadau 2013”) yn gwneud nifer o newidiadau i'r wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys yn adroddiadau blynyddol llywodraethwyr ysgolion a'r gofynion o ran darparu copïau i rieni. Mae angen y newidiadau hyn i adlewyrchu'r trefniadau deddfwriaethol newydd sy'n galluogi rhieni i ofyn am gyfarfod a'r dileu ar y gofyn am i gyrff llywodraethu gynnal cyfarfodydd blynyddol â rhieni.

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 48 KB

PDF
48 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) (Diwygio) 2013 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 27 KB

PDF
27 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.