Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 21 Chwefror 2014.

Cyfnod ymgynghori:
4 Rhagfyr 2013 i 21 Chwefror 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 162 KB

PDF
162 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio eich barn ar gynigion ar gyfer rheoliadau ar y broses ymgynghori i'w dilyn cyn defnyddio pwerau cyfeirio Gweinidogion Cymru ar ddyddiadau tymhorau ysgol.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r anawsterau a wynebir gan lawer o deuluoedd sy'n gweithio'n galed ledled Cymru o ganlyniad i wahaniaethau mewn dyddiadau tymhorau ysgol ac felly wyliau ysgol.

Er mwyn ymdrin â'r mater hwn mae newidiadau deddfwriaethol i'r broses o bennu dyddiadau tymhorau ysgol wedi'u cynnwys yn y Bil Addysg (Cymru) a gyflwynwyd gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 1 Gorffennaf 2013. Mae'r Cynulliad wrthi'n craffu ar y Bil ac mae'n ddarostyngedig i fodloni'r fath ofynion craffu a derbyn Cydsyniad Brenhinol.

Mae'r newidiadau arfaethedig i bennu dyddiadau tymhorau ysgol yn cynnwys rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig ar y dyddiadau tymor a bennir ganddynt. Gwneir hyn er mwyn sicrhau undod o ran dyddiadau tymhorau ysgol os nad yw awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig wedi gallu cytuno ar ddyddiadau tymhorau neu os oes angen i'r dyddiadau tymhorau y cytunwyd arnynt gael eu newid.

Mae'r ddogfen ymgynghori isod yn ceisio eich barn ar y cynigion ar gyfer rheoliadau a fydd yn darparu ar gyfer y broses ymgynghori i'w dilyn cyn i Weinidogion Cymru ddefnyddio eu pwerau cyfarwyddo ar ddyddiadau tymhorau ysgol.

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 93 KB

PDF
93 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.