Rheoliadau Etholaethau Senedd Cymru 2025: asesiad effaith integredig
Asesiad ar effaith y rheoliadau sy'n rhoi effaith i'r etholaethau newydd yn y Senedd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Adran 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried eu cymryd a pham?
Mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd statudol i roi effaith gyfreithiol i argymhellion terfynol Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (Y Comisiwn) er mwyn i ffiniau etholaethau'r Senedd gael effaith yn Etholiadau Cyffredinol y Senedd 2026.
Nid oes gan Weinidogion Cymru unrhyw ddisgresiwn o ran a ydynt yn mynd i gyflawni'r rhwymedigaeth hon a sut - mae Atodlen 2 i Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn nodi:
9 (1) Rhaid i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau yn rhoi effaith i’r penderfyniadau yn adroddiad terfynol y Comisiwn—
- cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl gosod yr adroddiad gerbron y Senedd, a
- sut bynnag, oni bai bod amgylchiadau eithriadol, cyn diwedd y cyfnod o 14 o wythnosau sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir yr adroddiad terfynol gerbron y Senedd.
Mae hwn yn ddull bwriadol, i sicrhau annibyniaeth - gwirioneddol neu ganfyddedig - y broses a ddefnyddir i benderfynu ar etholaethau'r Senedd.
O gofio'r diffyg disgresiwn sydd ar gael i Weinidogion Cymru, ni roddwyd ystyriaeth fanwl i'r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Adran 8. Casgliad
8.1 Sut y mae pobl y mae’r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi eu cynnwys yn y gwaith o’i ddatblygu?
Cynhaliwyd dau gylch ymgynghori gan y Comisiwn cyn cyhoeddi ei adroddiad terfynol – y naill yn dilyn cyhoeddi ei gynigion cychwynnol ar 3 Medi 2024, a'r llall yn dilyn cyhoeddi ei gynigion diwygiedig ar 17 Rhagfyr 2024. Daeth 3,741 o sylwadau i law yn ystod y cylch ymgynghori cyntaf, ac fe ddaeth 365 o sylwadau i law yn ystod yr ail gylch ymgynghori.
Ni chynhaliwyd unrhyw ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru, o gofio annibyniaeth y broses a gynhaliwyd gan y Comisiwn.
8.2 Beth yw’r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?
Bydd gwneud y rheoliadau fel y'u drafftiwyd yn cyflawni dyletswydd statudol Gweinidogion Cymru i roi penderfyniad y Comisiwn ar waith.
Mae penderfyniadau'r Comisiwn yn darparu'r 16 o Etholaethau'r Senedd sy'n hanfodol ar gyfer gweithrediad priodol etholiad cyffredinol y Senedd yn 2026.
8.3 Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:
- yn cyfrannu gymaint â phosibl at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant, a/neu
- yn osgoi, yn lleihau, neu’n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Nid yw'r Asesiad Effaith Integredig (IIA) fel y'i cwblhawyd uchod wedi nodi unrhyw effeithiau negyddol wedi i Weinidogion Cymru gyflawni eu rhwymedigaeth gyfreithiol i roi effaith i benderfyniadau'r Comisiwn annibynnol.
8.4 Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a’i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo a phan ddaw i ben?
Mae'n ofynnol i'r Comisiwn gynnal adolygiad dilynol o ffiniau Etholaethau'r Senedd cyn etholiad cyffredinol y Senedd yn 2030. Bydd Gweinidogion Cymru unwaith eto yn ddarostyngedig i'r rhwymedigaeth gyfreithiol i roi effaith i benderfyniadau'r Comisiwn - ac i'r penderfyniadau hynny yn unig.
