Neidio i'r prif gynnwy

Cylchlythyr rheoliadau adeiladu

Rhif y cylchlythyr:    WGC 003/2024

Dyddiad cyhoeddi:    26/02/2024

Statws:    Er gwybodaeth

Teitl:    Dynodi swyddogaethau cofrestru a goruchwylio'r proffesiwn Rheolaeth Adeiladu i'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu a'r cynllun Codi Tâl cysylltiedig

Cyhoeddwyd gan:  Kevin Davies, Swyddog Cymwyseddau a Safonau Rheolaeth Adeiladu

Ar gyfer:    

Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 
Cymdeithas yr Arolygwyr Cymeradwy Corfforaethol
 

I'w anfon ymlaen at:

Swyddogion Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol
Aelodau Senedd Cymru
Y Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu;
 

Crynodeb:

Cylchlythyr yw hwn sy'n hysbysu'r sector Rheoli Adeiladu o'r bwriad i weithredu rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 ar gyfer Cymru mewn perthynas â Gweithgareddau a swyddogaethau cyfyngedig a diwygiadau i Reoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc. ) 2010 sy'n addasu ffurflenni presennol, yn hepgor rhai ffurflenni ac yn cyflwyno ffurflenni newydd. 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Y Tîm Rheoliadau Adeiladu
2il lawr
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Llinell uniongyrchol:        0300 060 4400

E-bost:    enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Gwefan:   Adeiladu a chynllunio

Cyflwyniad

  1. Mae Gweinidogion Cymru wedi gofyn imi dynnu eich sylw at y newidiadau a gyflwynir gan y Rheoliadau canlynol a ddaw i rym ar 6 Ebrill 2024:
  • Rheoliadau Adeiladu (Gweithgareddau a Swyddogaethau Cyfyngedig) (Cymru) 2024
  • Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) (Diwygio) (Cymru) 2024

Diben y Cylchlythyr hwn yw tynnu eich sylw at yr is-ddeddfwriaeth newydd ac esbonio'r newidiadau a gyflwynir ganddi.

Cwmpas y Cylchlythyr hwn

  1. Mae'r Cylchlythyr hwn yn gymwys i adeiladau a gwaith adeiladu yng Nghymru, yn ogystal â gweithwyr rheoli adeiladu proffesiynol sy'n gweithredu yng Nghymru. 

Is-ddeddfwriaeth newydd

Rheoliadau Adeiladu (Gweithgareddau a Swyddogaethau Cyfyngedig) (Cymru) 2024

  1. Cyflwynwyd y Rheoliadau hyn er mwyn ategu Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 ac maent yn rhagnodi gweithgareddau a swyddogaethau penodol y cyfyngir arnynt. 
     
  2. Mae Rheoliad 3 yn rhestru'r gweithgareddau a'r swyddogaethau cyfyngedig sy'n gymwys i awdurdodau rheoli adeiladu. Yng Nghymru, mae awdurdodau rheoli adeiladu yn awdurdodau lleol. 
     
  3. Mae Rheoliad 3 yn darparu dau weithgaredd sy'n gyfyngedig i awdurdodau lleol o dan adran 46A o Ddeddf Adeiladu 1984 (“Deddf 1984”), sef:
  • edrych ar gynlluniau a gyflwynir i awdurdod lleol er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu.
  • archwilio gwaith adeiladu gan awdurdodau lleol. 
  1. Mae Rheoliad 3 hefyd yn rhestru nifer o swyddogaethau sydd wedi'u cyfyngu i awdurdodau lleol (fel awdurdodau rheoli adeiladu), gan gynnwys:
     
    1. penderfynu ar gais am gyfarwyddyd o dan adran 8 o Ddeddf 1984 (llacio rheoliadau adeiladu).
    2. caniatáu neu wrthod cynlluniau o dan adran 16 o Ddeddf 1984 (caniatáu neu wrthod cynlluniau) gan gynnwys arfer, mewn perthynas â chynlluniau o'r fath, bŵer yn–
      1. adran 19(1) o Ddeddf 1984 (defnyddio deunyddiau byrhoedlog),
      2. adran 21(4) o Ddeddf 1984 (darparu systemau draenio), neu
      3. adran 25(1) o Ddeddf 1984 (darparu cyflenwad dŵr).
    3. pennu cyfnod y mae'n rhaid symud adeilad neu waith pan ddaw i ben, ymestyn cyfnod o'r fath, gosod amodau mewn perthynas ag adeilad neu amrywio amodau o'r fath, o dan adran 19(2) neu (3) o Ddeddf 1984 (defnyddio deunyddiau byrhoedlog).
    4. ei gwneud yn ofynnol i adeilad gael ei ddraenio ar y cyd ag adran 22 o Ddeddf 1984 (draenio adeiladau ar y cyd).
    5. rhoi caniatâd o dan adran 23 o Ddeddf 1984 (darparu cyfleusterau ar gyfer sbwriel).
    6. rhoi hysbysiad neu dystysgrif o dan adran 25(3) o Ddeddf 1984 (darparu cyflenwad dŵr).
    7. arfer unrhyw bŵer o dan adran 33 o Ddeddf 1984 (profion ar gyfer cydymffurfiaeth â rheoliadau adeiladu).
    8. penderfynu, at ddibenion adran 35 o Ddeddf 1984 (cosb am dorri rheoliadau adeiladu), a dorrwyd darpariaeth a geir yn y rheoliadau adeiladu.
    9. rhoi hysbysiad adran 36 neu benderfynu dymchwel neu symud gwaith neu wneud addasiadau ynddo yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol o dan adran 36(3) o Ddeddf 1984 (symud neu addasu gwaith tramgwyddus).
    10. penderfynu a ddylid tynnu hysbysiad adran 36 yn ôl ar ôl i adroddiad ysgrifenedig o dan 37(1)(a) o Ddeddf 1984 (cael adroddiad lle y rhoddwyd hysbysiad adran 36) gael ei roi;
    11. rhoi hysbysiad canslo o dan adran 52A(4) o Ddeddf 1984 (canslo hysbysiad cychwynnol pan ddaw gwaith yn waith adeiladu risg uwch).
    12. rhoi tystysgrif o dan reoliad 17 o Reoliadau Adeiladu 2010 (“Rheoliadau 2010”) (tystysgrifau cwblhau). 
    13. rhoi tystysgrif o dan reoliad 17A o Reoliadau 2010 (tystysgrif ar gyfer adeilad a feddiennir cyn i waith gael ei gwblhau).
    14. penderfynu, lle y bo rheoliad 18 o Reoliadau 2010 (gwaith adeiladu anawdurdodedig) yn gymwys–
      1. a ellir rhoi tystysgrif unioni o dan reoliad 18 o Reoliadau 2010.
      2. a oes angen cymryd unrhyw gamau rhesymol o dan reoliad 18(3) o Reoliadau 2010.
    15. penderfynu, lle y bo rheoliad 19(1) o'r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy (gwaith a gwblhawyd yn rhannol) yn gymwys–
      1. a yw cynlluniau a roddwyd o dan reoliad 19(2) o'r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy yn ddigonol i ddangos na fyddai'r gwaith arfaethedig yn torri unrhyw un o ofynion Rheoliadau 2010.
      2. a ddylai fod yn ofynnol i berchennog dorri i mewn i'r gwaith, ei ddatguddio neu ei ddymchwel o dan reoliad 19(2)(b) o'r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy.
         
  2. Am fod y cyfyngiadau hyn wedi'u gwneud o dan Adran 46A o Ddeddf 1984, mae hynny'n golygu mai dim ond Arolygydd Cofrestredig Adeiladu sy'n gweithredu ar ran yr awdurdod lleol a all gyflawni'r gweithgareddau a'r swyddogaethau cyfyngedig a ddisgrifiwyd uchod, a dim ond pan fo'r Arolygydd Cofrestredig Adeiladu yn gweithredu o fewn ei gymhwysedd fel y'i disgrifir yn ei gofrestriad. 
     
  3. Mae rheoliad 4 yn rhestru'r gweithgareddau a'r swyddogaethau cyfyngedig sy'n gymwys i Gymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu.
     
  4. Mae rheoliad 4 yn darparu dau weithgaredd sydd wedi'u cyfyngu i gymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu o dan Adran 54B o Ddeddf Adeiladu 1984, sef:
     
    1. os bwriedir rhoi hysbysiad cychwynnol, hysbysiad diwygio neu dystysgrif planiau mewn perthynas ag unrhyw waith adeiladu, edrych ar y cynlluniau y mae a wnelo'r hysbysiad neu'r dystysgrif â nhw er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad yn y rheoliadau adeiladu sy'n gymwys i'r gwaith;
    2. os bwriedir i waith adeiladu gael ei archwilio gan y cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad cymwys yn y rheoliadau adeiladu sy'n gymwys i'r gwaith, cynnal yr archwiliad hwnnw (gan gynnwys rhestru'r camau neu'r adegau pan gaiff y gwaith adeiladu ei archwilio).
       
  5. Mae rheoliad 4 hefyd yn disgrifio chwe gweithgaredd sydd wedi'u cyfyngu i gymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu o dan Adran 54B o Ddeddf 1984, sef:
     
    1. rhoi hysbysiad cychwynnol i awdurdod lleol o dan adran 47 o Ddeddf 1984 (hysbysiadau cychwynnol) gan gynnwys hysbysiad cychwynnol ar y cyd â thystysgrifau planiau neu hysbysiad cychwynnol newydd o dan adran 53(7) o Ddeddf 1984 (hysbysiadau cychwynnol newydd).
    2. rhoi tystysgrif planiau i awdurdod lleol o dan adran 50 o Ddeddf 1984 (tystysgrifau planiau).
    3. rhoi tystysgrif derfynol i awdurdod lleol o dan adran 51 o Ddeddf 1984 (tystysgrifau terfynol).
    4. rhoi hysbysiad diwygio i awdurdod lleol o dan adran 51A o Ddeddf 1984 (amrywio gwaith y mae a wnelo hysbysiad cychwynnol ag ef).
    5. rhoi hysbysiad i awdurdod lleol o dan adran 52(1)(c) neu 52A(1) o Ddeddf 1984 (canslo hysbysiad cychwynnol).
    6. rhoi tystysgrif drosglwyddo neu adroddiad trosglwyddo i awdurdod lleol o dan adran 53B(3) o Ddeddf 1984 (hysbysiad cychwynnol newydd: newid cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu).
       
  6. Am fod y cyfyngiadau hyn wedi'u gwneud o dan Adran 54B o Ddeddf Adeiladu 1984, mae hynny'n golygu mai dim ond arolygydd cofrestredig adeiladu sy'n gweithredu ar ran cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu a all gyflawni'r gweithgareddau a'r swyddogaethau cyfyngedig a ddisgrifiwyd uchod, a dim ond pan fo'r arolygydd cofrestredig adeiladu yn gweithredu o fewn ei gymhwysedd fel y'i disgrifir yn ei gofrestriad. 

Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) (Diwygio) (Cymru) 2024

  1. Mae'r rheoliadau hyn yn diffinio ac yn rhagnodi'r ffurflenni a ddefnyddir fel rhan o'r gyfundrefn rheoli adeiladu o 6 Ebrill 2024 ymlaen. Maent wedi'u mewnosod fel diwygiadau i Reoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010 (y cyfeirir atynt o hyn ymlaen fel “Rheoliadau 2010”) ar gyfer Cymru.
     
  2. Yn fras, mae'r rheoliadau hyn yn gwahaniaethu rhwng ffurflenni ar gyfer Cymru a'r rhai sydd i'w defnyddio yn Lloegr; yn nodi'r ffurflenni sydd i'w defnyddio; yn cyflwyno ffurflenni newydd; yn diwygio ffurflenni presennol ac yn cynnwys darpariaethau trosiannol er mwyn ymdrin â sefyllfaoedd lle y caiff ffurflenni eu cyflwyno cyn 6 Ebrill 2024 ond eu prosesu ar ôl y dyddiad hwnnw.
     
  3. Mae rheoliad 3 o'r rheoliadau hyn yn diweddaru enwau ffurflenni presennol ac yn atodi “(W)” i deitl pob ffurflen yn Rheoliadau 2010 er eglurder. Mae rhai ffurflenni wedi'u hailrifo er mwyn sicrhau cysondeb rhwng ffurflenni Cymreig a ffurflenni Seisnig lle mae ffurflenni newydd wedi'u llunio. Rydym hefyd wedi llunio system rifo newydd ar gyfer Ffurflenni Cyrff Cyhoeddus o PB1(W) i PB4(W) gan na fydd ffurflen gymaradwy yn y system rifo gyffredin a ddefnyddir yn Lloegr ar 6 Ebrill 2024.
     
  4. Mae rheoliad 5 o'r rheoliadau hyn yn cyflwyno rheoliad 16A newydd i Reoliadau 2010 sy'n ymdrin â'r mathau o ffurflenni sydd i'w defnyddio pan fydd awdurdod lleol yn gwrthod hysbysiad cychwynnol, hysbysiad diwygio, tystysgrif planiau neu dystysgrif derfynol.
     
  5. Mae rheoliad 6 o'r rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 18 o Reoliadau 2010, gan gyflwyno ffurflenni newydd. Bydd rheoliad 18, fel y'i diwygiwyd, bellach yn darparu dulliau er mwyn:
    1. I gymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu ganslo hysbysiad cychwynnol gan ddefnyddio ffurflen 9(W)
    2. I'r sawl sy'n gwneud gwaith ganslo hysbysiad cychwynnol gan ddefnyddio ffurflen 10(W)
    3. I'r awdurdod lleol ganslo hysbysiad cychwynnol gan ddefnyddio ffurflen 11(W)
    4. I'r awdurdod lleol hysbysu cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu o fwriad yr awdurdod lleol i ganslo hysbysiad cychwynnol gan ddefnyddio ffurflen 12(W)
    5. I gymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu ganslo hysbysiad cychwynnol pan fydd gwaith wedi dod yn waith adeiladu risg uwch gan ddefnyddio ffurflen 13(W)
    6. I'r sawl sy'n gwneud y gwaith ganslo hysbysiad cychwynnol pan fydd gwaith wedi dod yn waith adeiladu risg uwch gan ddefnyddio ffurflen 14(W)
    7. I'r awdurdod lleol ganslo hysbysiad cychwynnol pan fydd gwaith wedi dod yn waith adeiladu risg uwch gan ddefnyddio ffurflen 15(W)
    8. I'r awdurdod lleol ganslo hysbysiad cychwynnol os gwrthodir tystysgrif drosglwyddo, neu os na chyflwynwyd tystysgrif drosglwyddo nac adroddiad trosglwyddo gan ddefnyddio ffurflen 16(W)
    9. I'r sawl sy'n gwneud y gwaith ganslo hysbysiad cychwynnol os bydd y cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu wedi newid gan ddefnyddio ffurflen 17(W)
       
  6. Mae rheoliad 7 o'r rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad 18A newydd yn Rheoliadau 2010 sy'n nodi'r broses i gymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu hysbysu'r sawl sy'n gwneud y gwaith fod rheoliadau adeiladu wedi'u torri ac yn rhagnodi cyfnod o dri mis i unioni unrhyw ddiffygion, yna bydd y cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu yn canslo'r hysbysiad cychwynnol os na fydd y tramgwydd wedi'i unioni.
     
  7. Mae rheoliad 8 o'r rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad 19A newydd yn Rheoliadau 2010. Mae a wnelo rhan o'r rheoliad hwn â sefyllfaoedd lle mae awdurdod lleol yn gofyn am wybodaeth ychwanegol ar gyfer hysbysiadau cychwynnol. Mae cyfnod o 21 diwrnod (y gellir ei ymestyn drwy gytundeb rhwng y cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu a'r awdurdod lleol) wedi'i ragnodi i'r cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu ddarparu unrhyw wybodaeth sydd ei hangen. Os bydd yn rhaid i'r cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu roi gwybodaeth i'r sawl sy'n gwneud gwaith, mae cyfnod rhagnodedig o 21 diwrnod bellach ar gael er mwyn iddo ddarparu'r wybodaeth hon. Ni chaniateir ymestyn y cyfnod hwn.
     
  8. Mae rheoliad 9 o'r rheoliadau hyn yn mewnosod Rhan 3A newydd yn Rheoliadau 2010 ac yn ychwanegu rheoliadau 19B, 19C, 19D, 19E a 19F. Ar y cyfan, mae'r rhain yn ymdrin â throsglwyddo prosiectau o un cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu i'r llall. Mae'r rheoliadau penodol yn gwneud y canlynol:
    1. mae 19B yn rhagnodi bod y ffaith na all cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu gwblhau ei swyddogaethau mwyach, yn rheswm pam y gellir cyflwyno hysbysiad cychwynnol newydd.
    2. mae 19C yn rhagnodi'r wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys mewn tystysgrif drosglwyddo. 
    3. mae 19D yn rhagnodi cyfnod o 28 diwrnod i awdurdod lleol ystyried a chymeradwyo neu wrthod tystysgrif drosglwyddo ac adroddiad trosglwyddo.
    4. mae 19E yn rhagnodi ar ba sail y caiff awdurdod lleol wrthod tystysgrif drosglwyddo ac adroddiad trosglwyddo, drwy gyfeirio at Atodlen 2 i'r rheoliadau hyn, a gaiff eu mewnosod fel Atodlen 3A newydd i Reoliadau 2010.
    5. mae 19F yn rhagnodi achosion lle y gellir rhoi hysbysiad cychwynnol pellach ar ôl i hysbysiad cychwynnol presennol gael ei ganslo.
       
  9. Mae rheoliad 10 o'r rheoliadau hyn yn diwygio ffurflenni yn Atodlen 1 i Reoliadau 2010. Mae'n gwneud hyn drwy ychwanegu datganiad sy'n cadarnhau nad yw'r hysbysiad y mae'r gwaith yn ymwneud ag ef yn cynnwys gwaith adeiladu risg uwch. Mae'r diwygiad hwn yn gymwys i ffurflenni 1(W)-5(W). Mae rheoliad 10 hefyd yn dileu ffurflenni 6, 7 ac 8 gan eu bod wedi cael eu disodli gan ffurflenni 9(W), 10(W) ac 11(W). Yn olaf, mae rheoliad 10 yn mewnosod yn Atodlen 1 i Reoliadau 2010, y ffurflenni newydd (gan gynnwys y rhai a ddisgrifir yn rheoliad 6) o Atodlen 1 i'r rheoliadau hyn.
     
  10. Nid oes unrhyw Ffurflen 6(W) ar hyn o bryd. Yn offeryn statudol Lloegr sy'n dwyn y teitl Rheoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Lloegr) 2024, mae ffurflen 6 wedi'i rhestru er mwyn tynnu sylw cymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu at gyflwyniadau annilys. Yng Nghymru, ar hyn o bryd, ymdrinnir â'r sefyllfa hon yn anffurfiol drwy lythyr gan yr awdurdod lleol. Er ein bod yn bwriadu adolygu'r broses hon yn y dyfodol, nid ydym yn rhagnodi proses na ffurflen sy'n ffurfioli'r system ar hyn o bryd. 
     
  11. Mae rheoliad 11 o'r rheoliadau hyn yn mewnosod Atodlen 3A yn Rheoliadau 2010. Daw o Atodlen 2 i'r rheoliadau hyn ac mae'n cynnwys y rhestr fanwl o resymau pam y caiff awdurdod lleol wrthod tystysgrif trosglwyddo ac adroddiad trosglwyddo.
     
  12. Mae rheoliad 12 yn gwneud darpariaethau trosiannol. Mae'n darparu y caiff ffurflenni a fyddai wedi bod yn ddilys pan gawsant eu cyflwyno cyn 6 Ebrill 2024 eu prosesu er i'r gyfundrefn newid ar 6 Ebrill 2024. Mae rheoliad 12 hefyd yn darparu nad yw'r diwygiadau a wnaed i ffurflenni 2, 3 a 5 gan y rheoliadau hyn, yn gymwys i hysbysiadau a thystysgrifau penodol a roddir ar 6 Ebrill 2024 neu ar ôl hynny, os rhoddwyd yr hysbysiad cychwynnol cyn 6 Ebrill 2024.

Ymholiadau

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau am y cylchlythyr hwn at:

Rheoliadau Adeiladu, 
2il lawr, 
Llywodraeth Cymru, 
Parc Cathays, 
Caerdydd CF10 3NQ

E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru

Yn gywir

Mark Tambini
Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu