Neidio i'r prif gynnwy

Mae Deddf Hawliau Rhentwyr 2025 (“RRA”), a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 27 Hydref 2025, yn cynnwys darpariaethau sy’n atal landlord rhag gwahaniaethu yn erbyn deiliad contract. Unwaith y bydd y darpariaethau hyn yn cael eu cychwyn ar 1 Mehefin 2026, ychwanegir dwy ddarpariaeth sylfaenol newydd at Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (“DRhC”) fel adrannau 54A a 54B. Effaith y darpariaethau sylfaenol newydd hyn fydd atal landlord rhag gwahaniaethu yn erbyn deiliad contract sydd â phlant neu sy’n derbyn budd-daliadau lles. Bydd y darpariaethau sylfaenol hyn yn delerau sylfaenol newydd i’r mwyafrif o gontractau meddiannaeth diogel, safonol cyfnod penodol a safonol cyfnodol.

Yr hawl i blant fyw mewn annedd neu ymweld â hi

Mae adran newydd 54A o’r DRhC (Yr hawl i blant fyw mewn annedd neu ymweld â hi) yn darparu’r teler sylfaenol newydd a ganlyn i’w gynnwys yn y mwyafrif o gontractau meddiannaeth diogel, safonol cyfnod penodol a safonol cyfnodol: 

1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) o’r teler hwn, cewch ganiatáu i berson nad yw wedi cyrraedd 18 oed fyw yn yr annedd neu ymweld â hi.

2) Ni chaiff y landlord ymyrryd ag arfer na chyfyngu ar arfer eich hawl o dan baragraff (1) o’r teler hwn, oni bai bod yr ymyrraeth neu’r cyfyngiad yn ddull cymesur o gyflawni nod dilys.”

Mae’r teler sylfaenol newydd hwn yn gwahardd landlordiaid rhag gwneud gwaharddiadau a chyfyngiadau gwahaniaethol mewn perthynas â phlant sy’n byw mewn annedd neu’n ymweld ag annedd sy’n ddarostyngedig i gontract meddiannaeth.

Rhaid i landlord beidio ag ymyrryd â defnydd na chyfyngu ar ddefnydd deiliad y contract o’r annedd yn y ffordd hon oni bai bod ymyrraeth neu waharddiad o’r fath yn ddull cymesur o gyflawni nod dilys. Mater i’r landlord, ac i lys yn y pen draw, fydd penderfynu a oes nod dilys o’r fath yn bodoli. Gallai nod dilys o’r fath gynnwys y byddai’r annedd yn gorlenwi pe bai’n cael ei meddiannu gan un neu fwy o blant, gan ddibynnu ar oedran y plant. 

Bydd y teler sylfaenol hwn yn gymwys i gontractau diogel, safonol cyfnod penodol a safonol cyfnodol (ac eithrio contractau meddiannaeth safonol â chymorth) ac eithrio pan fo’r landlord neu uwchlandlord wedi’i yswirio o dan gontract yswiriant presennol nad yw adran 8H o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd, Gwahaniaethu etc.) (Cymru) 2019 yn gymwys iddo ac sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r landlord wneud y canlynol: 

a) gwahardd deiliad contract rhag cael plentyn i fyw gydag ef neu i ymweld ag ef yn yr annedd, neu 

b) cyfyngu ar yr amgylchiadau pan all deiliad contract gael plentyn yn byw gydag ef neu’n ymweld ag ef yn yr annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract meddiannaeth. 

Mae’r eithriad hwn yn cydnabod y gall contract yswiriant presennol fod ar waith ar yr adeg y daw’r ddarpariaeth sylfaenol newydd hon a’r teler sylfaenol newydd hwn i rym, ac y gall y contract yswiriant presennol hwnnw gynnwys cyfyngiadau mewn perthynas â phlant yn byw yn yr annedd dan sylw neu’n ymweld â hi. Mae’r eithriad ar gael i’r landlord drwy gydol cyfnod y contract yswiriant cyfyngol presennol hwnnw. 

Pan ddaw cyfnod y contract yswiriant cyfyngol presennol i ben, ni fydd yr eithriad yn gymwys mwyach. Pe byddai’r contract yswiriant dilynol yn cynnwys cyfyngiadau mewn perthynas â phlant yn byw yn yr annedd dan sylw neu’n ymweld â hi, yna bydd adran 8H o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd, Gwahaniaethu etc.) (Cymru) 2019 yn gymwys, sy’n golygu na fydd unrhyw deler o’r fath mewn polisi yswiriant yn cael unrhyw effaith ar ddeiliad y contract. 

* Ni fydd yn ofynnol i landlordiaid o dan gontract meddiannaeth safonol â chymorth ymgorffori’r ddarpariaeth sylfaenol newydd hon fel teler sylfaenol. Mae llety o’r fath yn annhebygol o fod yn addas i blant a byddai’n cyflwyno baich gweinyddol diangen ar landlordiaid o’r fath o ran gorfod cyfiawnhau nodau dilys y feddiannaeth. Fodd bynnag, nid yw dileu hyn fel teler awtomatig yn atal landlordiaid rhag caniatáu i blant barhau i feddiannu unrhyw lety â chymorth y gallant fod yn ei wneud ar hyn o bryd, na rhag caniatáu meddiannaeth mewn lleoliadau priodol yn y dyfodol.

Yr hawl i hawlio budd-daliadau

Mae adran newydd 54B (Yr hawl i hawlio budd-daliadau) yn darparu’r teler sylfaenol newydd canlynol i’w gynnwys mewn contractau meddiannaeth diogel, safonol cyfnod penodol a safonol cyfnodol: 

Ni chaiff y landlord eich gwahardd rhag bod yn hawlydd budd-daliadau o fewn yr ystyr a roddir gan adran 8J o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd, Gwahaniaethu etc.) (Cymru) 2019.

Mae’r teler sylfaenol newydd hwn yn gwahardd landlordiaid rhag gwneud gwaharddiadau a chyfyngiadau gwahaniaethol mewn perthynas â hawliad deiliad contract o fudd-dal lles. 

Bydd y teler sylfaenol hwn yn gymwys i bob contract meddiannaeth ac eithrio pan fo’r landlord neu uwchlandlord wedi’i yswirio o dan gontract yswiriant presennol nad yw adran 8H o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd, Gwahaniaethu etc.) (Cymru) 2019 yn gymwys iddo ac sy’n cynnwys teler sy’n gwneud darpariaeth (sut bynnag y’i mynegir) sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r sawl a yswiriwyd wahardd deiliad y contract rhag hawlio taliadau o’r fath. 

Mae’r eithriad hwn yn cydnabod y gall contract yswiriant presennol fod ar waith ar yr adeg y daw’r ddarpariaeth sylfaenol newydd hon a’r teler sylfaenol newydd hwn i rym, ac y gall y contract yswiriant presennol hwnnw gynnwys cyfyngiadau mewn perthynas â deiliad contract yn hawlio budd-dal lles. Mae’r eithriad ar gael i’r landlord drwy gydol cyfnod y contract yswiriant cyfyngol presennol hwnnw. Pan ddaw cyfnod y contract yswiriant cyfyngol presennol i ben, ni fydd yr eithriad yn gymwys mwyach. Pe byddai’r contract yswiriant dilynol yn cynnwys cyfyngiadau mewn perthynas â deiliad contract yn hawlio budd-dal lles yna bydd adran 8H o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd, Gwahaniaethu etc.) (Cymru) 2019 yn gymwys, sy’n golygu na fydd unrhyw deler o’r fath mewn polisi yswiriant yn cael unrhyw effaith ar ddeiliad y contract. 

Gofynion ar landlordiaid

Pan fo’r telerau sylfaenol newydd yn gymwys i gontract meddiannaeth presennol, rhaid i’r landlord roi’r naill neu’r llall o’r canlynol i’w ddeiliad contract:

  • datganiad ysgrifenedig o’r teler neu’r telerau sy’n cael ei amrywio neu eu hamrywio, neu
  • datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth fel y’i hamrywiwyd,

cyn y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau ar ddyddiad yr amrywiad.

Felly, gall landlord ddewis diweddaru’r datganiad ysgrifenedig presennol o’r contract meddiannaeth i ymgorffori’r telerau sylfaenol newydd a rhoi hwn i ddeiliad y contract, neu gall landlord ddewis rhoi datganiad ysgrifenedig o’r telerau newydd hyn i’w ddeiliad contract (gan ei gwneud yn glir ble fydd y telerau newydd hyn yn eistedd yn y datganiad ysgrifenedig presennol). Pa bynnag opsiwn y bydd landlord yn ei ddewis, rhaid rhoi datganiad ysgrifenedig i ddeiliad y contract erbyn 14 Mehefin 2026 fan bellaf. Darperir esiampl o ddatganiad ysgrifenedig o amrywiad (yn seiliedig ar ddefnydd y landlord o’r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol) yn Atodiad A. 

Gall y landlordiaid hynny sy’n dibynnu ar y Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol ar gyfer contractau meddiannaeth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru weld y fersiynau wedi’u diweddaru, sy’n cynnwys y telerau sylfaenol newydd hyn, yma: Rhentu cartrefi: datganiadau ysgrifenedig enghreifftiol 

Atgoffir landlordiaid na fydd unrhyw deler atodol neu deler ychwanegol o gontract meddiannaeth yn cael effaith os yw’n anghydnaws â’r telerau sylfaenol newydd hyn. Er enghraifft: pan fo teler 10 o’r contract safonol cyfnodol enghreifftiol wedi’i amrywio i eithrio plant neu’r rhai sy’n derbyn budd-daliadau, oni bai bod amrywiad o’r fath yn adlewyrchu nod dilys neu’n adlewyrchu telerau cyfredol contract yswiriant perthnasol (fel y’i diffinnir uchod), ni fydd yn cael unrhyw effaith ar ddeiliad y contract. 

Hysbysiad o amrywiad i Gontract Meddiannaeth.

Contract meddiannaeth yn ymwneud â: 

Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 wedi’i diwygio i gynnwys dwy ddarpariaeth sylfaenol newydd yn adrannau 54A a 54B. Mae’r darpariaethau sylfaenol newydd hyn yn ffurfio dau deler sylfaenol newydd yn ein contract meddiannaeth safonol cyfnodol gydag effaith o 1 Mehefin 2026. Mae hyn yn golygu bod rhaid darllen Datganiad Ysgrifenedig y contract y cyfeirir ato uchod ar y cyd â’r datganiad ysgrifenedig hwn, i’r perwyl bod y telerau sylfaenol newydd a ganlyn wedi eu mewnosod ar ôl teler 14: 

Gwahardd gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd â phlant a hawlwyr budd-daliadau 

Yr hawl i blant fyw mewn annedd neu ymweld â hi (F+) 

14A. (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) o’r teler hwn, cewch ganiatáu i berson nad yw wedi cyrraedd 18 oed fyw yn yr annedd neu ymweld â hi. 

(2) Ni chaiff y landlord ymyrryd ag arfer na chyfyngu ar arfer eich hawl o dan baragraff (1) o’r teler hwn, oni bai bod yr ymyrraeth neu’r cyfyngiad yn ddull cymesur o gyflawni nod dilys. 

Yr hawl i hawlio budd-daliadau (F+) 

14B Ni chaiff y landlord eich gwahardd rhag bod yn hawlydd budd-daliadau o fewn yr ystyr a roddir gan adran 8J o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd, Gwahaniaethu etc.) (Cymru) 2019.