Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cynhyrchion Diogelu Planhigion (PPPs) yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi iechyd planhigion a chynhyrchu cnydau. Mae cyflenwi a defnyddio Cynhyrchion Diogelu Planhigion yn ddiogel yn amddiffyn ein cnydau a'n tirweddau naturiol rhag rhywogaethau brodorol ac estron goresgynnol, yn cefnogi cynhyrchu bwyd domestig, ac yn helpu i gynnal ein hardaloedd hamdden, trafnidiaeth ac amwynderau.

Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Cynhyrchion Diogelu Planhigion) 2020, neu Reoliadau 2020, ar waith i alluogi awdurdodau rheoleiddio i ategu gofynion cydymffurfio ac i orfodi gofynion cyfreithiol sy'n berthnasol i’r broses o osod Cynhyrchion Diogelu Planhigion ar y farchnad a'u defnyddio drwy’r gadwyn gyflenwi i gyd. Mae Rheoliadau 2020 yn ategu Rheoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion 2011Rheoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion (Defnydd Cynaliadwy) 2012. Mae gweithredu Rheoliadau 2020 yn dod â sawl budd i Brydain Fawr. Maent yn galluogi DEFRA, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban, gan weithio gyda'r awdurdodau rheoleiddio, i ddeall sut mae Cynhyrchion Diogelu Planhigion yn cael eu gwerthu a'u defnyddio ym Mhrydain Fawr, i gefnogi busnesau a sefydliadau i gydymffurfio â'u rhwymedigaethau cyfreithiol ac i sicrhau bod y cynhyrchion hyn yn cael eu defnyddio'n gynaliadwy ac yn unol â'r amodau defnyddio.

Mae Rheoliadau 2020 yn berthnasol i Gynhyrchion Diogelu Planhigion a'u cydrannau, a all gynnwys sylweddau gweithredol, diogelyddion, synergyddion neu gyd-fformwlantau a allai fod yn gydran o Gynhyrchion Diogelu Planhigion. Maent hefyd yn berthnasol i adjiwfantau. 

O dan Reoliadau 2020, yr awdurdodau cymwys yw Gweinidogion Cymru ar gyfer Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Lloegr, a Gweinidogion yr Alban ar gyfer yr Alban. Y prif awdurdod rheoleiddio ar gyfer yr awdurdodau cymwys ar hyn o bryd yw'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE).

Pwy sydd angen cydymffurfio â Rheoliadau 2020

Mae Rheoliadau 2020 yn ei gwneud yn ofynnol i rai busnesau a defnyddwyr Cynhyrchion Diogelu Planhigion gofrestru gyda'r awdurdod cymwys perthnasol:

  1. Mae busnesau sy'n cynhyrchu, gweithgynhyrchu, prosesu, mewnforio, storio, dosbarthu a gwerthu Cynhyrchion Diogelu Planhigion, eu cydrannau a'u hadjiwfantau i'w defnyddio gyda Chynhyrchion Diogelu Planhigion yn ddarostyngedig i Reoliadau 2020.
  2. Mae unrhyw berson neu fusnes sy'n defnyddio Cynhyrchion Diogelu Planhigion ac unrhyw adjiwfantau mewn rôl broffesiynol ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a'r Alban) hefyd yn ddarostyngedig i Reoliadau 2020, ac felly mae ganddynt rwymedigaeth gyfreithiol i gofrestru.
  3. Mae gwerthwyr Cynhyrchion Diogelu Planhigion amatur hefyd yn ddarostyngedig i Reoliadau 2020 ac mae angen iddynt gofrestru erbyn 22 Mehefin 2022. Nid yw Cynhyrchion Diogelu Planhigion amatur wedi'u bwriadu at ddefnydd proffesiynol ac nid oes angen ardystiad proffesiynol ar ddefnyddwyr amatur i'w gwasgaru.

Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn gweinyddu'r cofrestriadau hyn ar ran Llywodraeth Cymru. Mwy o wybodaeth am Reoliadau 2020, cliciwch ar Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Cynhyrchion Diogelu Planhigion) 2020: datganiad polisi - GOV.UK (www.gov.uk).

I gofrestru fel busnes sy'n cynhyrchu, gweithgynhyrchu, prosesu, mewnforio, storio, dosbarthu a gwerthu Cynhyrchion Diogelu Planhigion, eu cydrannau a'u hadjiwfantau ewch i Cynhyrchion diogelu planhigion proffesiynol (PPPs): cofrestru fel busnes sy'n eu gosod ar y farchnad - GOV.UK (www.gov.uk)

I gofrestru fel defnyddiwr proffesiynol Cynhyrchion Diogelu Planhigion neu unrhyw adjiwfantau, ewch i Cynhyrchion diogelu planhigion (PPPs): cofrestru fel defnyddiwr proffesiynol - GOV.UK (www.gov.uk) 

I gofrestru fel gwerthwr Cynhyrchion Diogelu Planhigion amatur, ewch i Cynhyrchion diogelu planhigion (PPPs) amatur: cofrestru fel gwerthwr - GOV.UK (www.gov.uk).

Cynhyrchion Diogelu Planhigion (PPP) a gynhyrchir ym Mhrydain Fawr i'w hallforio yn unig

Mae Erthygl 28 o Reoliad 1107/2009 yn datgan na ellir gosod PPP ar y farchnad na'u defnyddio ym Mhrydain Fawr oni bai eu bod wedi'u hawdurdodi gan yr awdurdod cymwys perthnasol (yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE)).

Nid oes angen awdurdodiad ar PPP sy'n cael eu cynhyrchu, eu storio neu eu symud ym Mhrydain Fawr ond y bwriedir eu defnyddio y tu allan i Brydain Fawr yn unig.

Mae Rheoliadau 2020 yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr gofrestru gyda'r awdurdod cymwys (Defra) a chynnwys system o reolaethau swyddogol sy'n seiliedig ar risg.

Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i fusnesau sy'n cynhyrchu, storio neu symud PPP ym Mhrydain Fawr i'w hallforio gofrestru i gydymffurfio â Rheoliadau 2020 a gallant gael eu harchwilio gan yr awdurdod perthnasol.

Hysbysiad preifatrwydd

Cefndir 

Mae'n ofynnol i'r awdurdodau cymwys ym Mhrydain Fawr (Gweinidogion Cymru ar gyfer Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Lloegr, a Gweinidogion yr Alban ar gyfer yr Alban) yn ôl Rheoliad (EU) 2017/625 a ddargedwir Senedd Ewrop a'r Cyngor lunio a chadw rhestr gyfoes o weithredwyr sydd naill ai'n gosod ar y farchnad neu'n defnyddio Cynhyrchion Diogelu Planhigion (PPPs) proffesiynol a chydrannau ym Mhrydain Fawr.

Mae adran 5 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Cynhyrchion Diogelu Planhigion) 2020 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr ym Mhrydain Fawr hysbysu'r awdurdodau cymwys am eu gweithgarwch busnes mewn perthynas â gosod Cynhyrchion Diogelu Planhigion proffesiynol a chydrannau ar y farchnad a'u defnyddio'n broffesiynol.

Mae adran 5(1) o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Cynhyrchion Diogelu Planhigion) 2020 yn ei gwneud yn ofynnol i bob gweithredwr hysbysu'r awdurdod cymwys (Llywodraeth Cymru) o'r canlynol:

  • enw'r gweithredwr (enw'r cwmni) 
  • gweithgareddau a gyflawnir gan y gweithredwr sy'n ymwneud â chynhyrchion diogelu planhigion (PPPs) a chydrannau sy'n cael eu gosod ar y farchnad a phlaleiddiaid yn cael eu defnyddio'n gynaliadwy
  • cyfeiriadau lle mae'r gweithgareddau hynny'n cael eu cyflawni

Gall manylion cyswllt y safle gynnwys manylion cyswllt gweithiwr neu asiant sydd wedi'i awdurdodi i weithredu ar ran pob gweithredwr, mewn perthynas â chynnwys y gweithredwr ar y rhestr.

Er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau cyfreithiol hyn, rhaid i weithredwyr ddarparu cyfeiriad e-bost a rhif ffôn fel rhan o'u cofrestriad. Mewn rhai achosion, gallai'r rhain fod yn ddata personol os ydynt yn fanylion cyswllt unigolyn neu weithiwr penodol yn y sefydliad.  Bydd rhywfaint o'r wybodaeth hon yn gyfystyr â data personol. Pan fo hynny’n digwydd, y rheolydd data fydd Llywodraeth Cymru, er yn ymarferol mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y DU (DEFRA) yn casglu'r wybodaeth gan weithredwyr ar ein rhan. 

Os ydych chi'n unig fasnachwr neu'n bartner mewn partneriaeth anghorfforedig, mae'n debygol y byddai eich data personol yn cynnwys:

  • enw busnes yr unig fasnachwr neu’r bartneriaeth
  • gwybodaeth arall am eich cwmni

Beth ydym ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth?

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu'r rhestr o weithredwyr i'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, a fydd yn ei defnyddio i ddewis busnesau ar gyfer rheolaethau swyddogol yn unol â Rheoliad (EU) 2017/625 a Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Cynhyrchion Diogelu Planhigion) 2020.

Gyda phwy y byddwn ni'n rhannu'r wybodaeth?

Bydd yn cael ei rhannu gyda'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) at ddibenion cymhwyso Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Cynhyrchion Diogelu Planhigion) 2020.

Bydd data gan weithredwyr sydd â safleoedd yng Nghymru yn cael ei rannu gyda DEFRA. Mae hyn, yn ymarferol, oherwydd bod DEFRA yn casglu'r data ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'r cyfnewid gwybodaeth hwn yn unol â Rheoliad 4 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Cynhyrchion Diogelu Planhigion) 2020.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth?

Byddwn yn cadw data a gyflwynir drwy'r ffurflenni cofrestru Cynhyrchion Diogelu Planhigion cyhyd ag y bydd angen i ni gynnal rhestr gyfoes o weithredwyr Cynhyrchion Diogelu Planhigion. Mae'n ofynnol i ni wneud hyn fel awdurdod cymwys, o dan Erthygl 10 o Reoliad (EU) 2017/625 a ddargedwir.

Byddwn ond yn dileu data sy'n ymwneud â gwefan neu fusnes ar ôl 2 flynedd os cawn wybod, neu os byddwn yn dod yn ymwybodol o’r canlynol:

  • bod safle wedi cau yn barhaol
  • bod y busnes wedi rhoi'r gorau i fasnachu am unrhyw reswm

Eich hawliau mewn perthynas â’ch gwybodaeth 

Mae gennych yr hawl:

  • i gael mynediad at y data personol yr ydym yn eu prosesu amdanoch chi;
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny;
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu i’r data gael eu prosesu;
  • i’ch data gael eu ‘dileu’;
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael gwybod rhagor am yr wybodaeth a gedwir gan Lywodraeth Cymru a’r defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays 
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost:  Swyddogdiogeludata@llyw.cymru

 

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113