Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar y Rheoliadau drafft i bennu safonau Cymraeg ar gyfer ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth ar gyfer Cymru gyfan neu unrhyw ran o Gymru. Bydd y Rheoliadau hyn yn galluogi Comisiynydd y Gymraeg i osod dyletswyddau mewn cysylltiad â’r Gymraeg ar gwmnïau sy'n darparu gwasanaethau dŵr i'r cyhoedd.

Rydym yn cynnal yr ymgynghoriad hwn er mwyn sicrhau bod gan bawb sydd â diddordeb gyfle i ddweud eu dweud am y safonau drafft.

Rhagair gan y Gweinidog

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu’r defnydd a wneir o’n hiaith, ac mae defnyddio safonau'r Gymraeg i gynyddu'r gwasanaethau Cymraeg a ddarperir yn gyfraniad pwysig i strategaeth Cymraeg 2050.

Mae'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn gwneud ymrwymiad clir i ddatblygu safonau ar gyfer mwy o sectorau a chyrff cyn diwedd tymor presennol y Senedd. Mae dros 130 o gyrff yn ddarostyngedig i safonau ar hyn o bryd. Y cam nesaf yw dod ag ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru o dan y safonau.

Fy mwriad ar gyfer y safonau hyn yw mynd i'r afael â'r gwahanol ffyrdd y mae ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth yn delio â'u cwsmeriaid yng Nghymru. Rydym wedi ceisio paratoi safonau i gwmpasu'r gwahanol ffyrdd y mae'r cyhoedd yn cyfathrebu â'r cwmnïau hyn.

Ers dod yn Weinidog y Gymraeg, rwyf wedi pwysleisio mai fy mlaenoriaeth yw gweld mwy o bobl yn defnyddio'r Gymraeg. Rwyf am i'r system safonau ein helpu i gyrraedd y nod hwnnw. Rwyf am i'r safonau hyn roi hyder i'r cyhoedd ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg sut bynnag y maent yn dewis cyfathrebu â'u cwmni dŵr, ac rwy'n disgwyl i'r safonau yrru'r cwmnïau ymlaen i gynnig gwasanaethau a fydd yn cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg.

Edrychaf ymlaen at gael eich barn ar y Rheoliadau drafft hyn, a byddaf yn ei hystyried cyn gosod y Rheoliadau terfynol gerbron y Senedd.

1. Cyflwyniad

1.1 Mae Llywodraeth Cymru yn paratoi cyfres o Reoliadau Safonau’r Gymraeg ('safonau') o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ("y Mesur”). Mae’r safonau'n rhoi hawliau, y gellir eu gorfodi, i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio'r Gymraeg wrth ymdrin â chyrff. Mae 7 set o reoliadau wedi'u gwneud hyd yma ac mae dros 130 o gyrff yn cydymffurfio â safonau ar hyn o bryd.

1.2 Mae'r Rheoliadau drafft yr ymgynghorir yn eu cylch wedi eu paratoi'n benodol ar gyfer ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth sy'n darparu gwasanaethau dŵr a/neu garthffosiaeth ar gyfer Cymru gyfan neu unrhyw ran o Gymru ("cwmnïau dŵr”). Er mwyn i'r Rheoliadau hyn fod yn berthnasol i gwmni dŵr, rhaid iddo berthyn i un neu ragor o'r grwpiau canlynol sydd wedi'u rhestru yn Atodlen 8 y Mesur:

  • cwmnïau sy'n ymgymerwyr dŵr ar gyfer Cymru gyfan neu unrhyw ran o Gymru
  • cwmnïau sy'n ymgymerwyr carthffosiaeth ar gyfer Cymru gyfan neu unrhyw ran o Gymru

1.3 Rhaid i Weinidogion Cymru greu'r safonau drwy eu nodi’n benodol mewn Rheoliadau. Pan fydd y Rheoliadau'n cael eu cymeradwyo gan y Senedd, gall Comisiynydd y Gymraeg ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gwmni dŵr gydymffurfio â'r safonau drwy roi hysbysiad cydymffurfio iddynt.

1.4 Drwy'r ymgynghoriad hwn, rydym eisiau clywed gan unrhyw un sydd â diddordeb yn y safonau drafft, ac yn y defnydd y mae cwmnïau dŵr yn ei wneud o’r Gymraeg. Bydd yr ymgynghoriad hwn ar agor tan 5 Ebrill i sicrhau bod aelodau'r cyhoedd, y cwmnïau a fydd yn ddarostyngedig i'r safonau hyn, a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb yn cael cyfle i ddweud eu dweud. Gan mai hwn yw'r ail ymgynghoriad ar safonau drafft ar gyfer ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth, rydym yn ymgynghori am gyfnod byrrach o 7 wythnos. Mae croeso i ymatebwyr gysylltu â ni os ydynt yn dymuno trafod y dyddiad cau ar gyfer derbyn ymatebion.

1.5 Mae croeso i ymatebwyr wneud sylwadau ar unrhyw agwedd ar y Rheoliadau drafft. Rydym wedi tynnu sylw at rai materion y bydd gennym ddiddordeb arbennig yn eich barn amdanynt ym mharagraffau 2.12 i 2.16 isod.

2. Cefndir

Yr ymgynghoriad ar safonau drafft yn 2017

2.1 Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos ar reoliadau drafft i bennu safonau ar gyfer cwmnïau dŵr rhwng 25 Tachwedd 2016 ac 17 Chwefror 2017[1]. Derbyniwyd cyfanswm o 260 o ymatebion ysgrifenedig i'r ymgynghoriad (roedd 250 wedi cyflwyno’r un llythyr yn union â’i gilydd).

2.2 Mae'r gwaith o ddatblygu rheoliadau safonau wedi ailgychwyn yn ystod y chweched tymor hwn o’r Senedd. Mae'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru y cytunwyd arno yn Nhachwedd 2021 yn gwneud ymrwymiad i ddatblygu safonau ar gyfer mwy o sectorau a chyrff. Gwnaed safonau ar gyfer rheoleiddwyr yn y maes iechyd ym mis Gorffennaf 2022, a’r Rheoliadau drafft hyn ar gyfer cwmnïau dŵr yw'r ail set o Reoliadau i gael eu datblygu o dan y Cytundeb Cydweithio.

2.3 Mae’r Rheoliadau drafft y cynhelir yr ail ymgynghoriad hwn yn eu cylch wedi eu paratoi gan ystyried y sylwadau a wnaed yn ymarfer ymgynghori 2017, ac adolygiad o'r safonau a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i argymhellion un o bwyllgorau'r Senedd yn 2019. Oherwydd treigl amser ers yr ymgynghoriad cyntaf, rydym wedi penderfynu ail ymgynghori ar y rheoliadau hyn a ddiweddarwyd.

Y broses: sut fydd y safonau'n gweithio?

2.4 Caiff pob set o Reoliadau sy’n ymwneud â’r Safonau ei pharatoi i adlewyrchu’r ffordd y mae’r sector perthnasol yn darparu gwasanaethau ac yn ymgymryd â gweithgareddau. Mae’r Rheoliadau drafft hyn yn cynnwys safonau ac amodau penodol er mwyn adlewyrchu’r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu i’r cyhoedd gan gwmnïau dŵr.

2.5 Cyn bod yn rhaid i gorff gydymffurfio â safon, mae’n rhaid i’r amodau canlynol gael eu bodloni:

  • rhaid i'r corff berthyn i gategori yn Atodlenni 7 ac 8 y Mesur
  • rhaid bod y safon wedi'i llunio i fod yn benodol gymwys i'r corff. Golyga hyn fod Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wedi awdurdodi'r Comisiynydd i roi hysbysiad cydymffurfio i'r corff, yn ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â'r safon
  • mae'r Comisiynydd wedi cyflwyno hysbysiad cydymffurfio i'r corff sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â'r safon, ac mae’r hysbysiad cydymffurfio hwnnw mewn grym

2.6 Mae'r Rheoliadau drafft yn pennu'r safonau y bwriadwn eu gwneud yn benodol gymwys i gwmnïau dŵr. Gellir gosod y categorïau canlynol o safonau ar y cwmnïau dŵr:

  • safonau cyflenwi gwasanaethau
  • safonau cadw cofnodion
  • safonau atodol

Safonau cyflenwi gwasanaethau

2.7 Mae safonau cyflenwi gwasanaethau yn ymwneud â chyflenwi gwasanaethau i aelodau'r cyhoedd yng Nghymru. Fe’u bwriedir i hyrwyddo neu hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg, neu i sicrhau na chaiff ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. Gan fod y cwmnïau dŵr a charthffosiaeth yn dod o dan Atodlen 8 y Mesur, dim ond i’r graddau y mae safon cyflenwi gwasanaethau yn ymwneud â’r gwasanaethau y mae’r cwmni dŵr yn eu darparu i’r cyhoedd wrth arfer ei swyddogaethau fel ymgymerwr dŵr a/neu garthffosiaeth y gall fod yn berthnasol.

2.8 Mae'r Rheoliadau drafft yn cynnwys safonau sy'n ymwneud â gweithgareddau a restrir isod. Nid yw'r ddogfen ymgynghori hon yn trafod pob safon neu gategori gweithgaredd unigol, ond mae paragraffau 2.9-2.13 isod yn tynnu sylw at rai materion a allai fod o ddiddordeb arbennig i'r ymatebwyr, a materion yr ydym yn arbennig o awyddus i gael barn amdanynt yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwn.

Categorïau gweithgaredd

  • Gohebiaeth.
  • Cyfryngau cymdeithasol.
  • Galwadau ffôn.
  • Peiriannau hunanwasanaeth.
  • Cyfarfodydd.
  • Arwyddion.
  • Digwyddiadau cyhoeddus.
  • Derbyn ymwelwyr yn ei adeiladau.
  • Cyhoeddusrwydd a hysbysebu.
  • Hysbysiadau.
  • Arddangos deunydd yn gyhoeddus. 
  • Dyfarnu grantiau.
  • Llunio dogfennau.
  • Codi ymwybyddiaeth am wasanaethau Cymraeg.
  • Llunio a chyhoeddi ffurflenni.
  • Hunaniaeth gorfforaethol.
  • Gwefannau a gwasanaethau ar-lein.
  • Cyrsiau.

Egwyddorion cyffredinol

2.9 Byddai'n ddiddorol clywed p’un a yw'r categorïau uchod o weithgaredd yn cwmpasu'r holl wasanaethau y mae'r cyhoedd yn eu derbyn gan gwmnïau dŵr wrth arfer eu swyddogaethau fel ymgymerwyr dŵr a/neu garthffosiaeth, neu p’un a ddarperir gweithgareddau eraill nad ydynt yn dod o dan safonau’r rheoliadau drafft.

2.10 Fel y nodwyd ym mharagraff 2.7 uchod, dim ond i'r graddau y mae safon cyflenwi gwasanaethau yn ymwneud â'r gwasanaethau y mae'r cwmnïau'n eu darparu i'r cyhoedd wrth arfer eu swyddogaethau fel ymgymerwyr dŵr a/neu garthffosiaeth y gall fod yn berthnasol. Byddai'n ddiddorol clywed p’un a oes unrhyw achosion lle mae cwmnïau dŵr yn darparu gwasanaethau i'r cyhoedd sy'n dod o dan y categorïau uchod o weithgaredd, ond lle mae'r holl wasanaethau hynny y tu hwnt i swyddogaethau'r cwmni fel ymgymerwr dŵr a/neu garthffosiaeth. Gall hyn fod yn arbennig o berthnasol i wasanaethau na fydd pobl fel arfer yn eu cysylltu â’u derbyn gan eu cwmni dŵr, megis grantiau, cyrsiau, neu beiriannau hunanwasanaeth.

2.11 Mae paragraff 27 yn Rhan 3 Atodlen 1 y rheoliadau drafft yn nodi sefyllfaoedd o argyfwng lle na fyddai'n rhaid i gwmnïau gydymffurfio â'r safonau. Byddai'n ddiddorol clywed p’un a yw'r sefyllfaoedd a ddrafftiwyd yn cwmpasu’n effeithiol yr argyfyngau a wynebir gan gwmnïau dŵr ac aelodau'r cyhoedd mewn perthynas â gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth.

Safonau ynghylch galwadau ffôn i gorff (safonau 7 i 15)

2.12 Wrth gysylltu â chwmnïau dŵr dros y ffôn, mae cwsmeriaid yn tueddu i ffonio rhifau ffôn sy'n cael eu hysbysebu'n eang ar gyhoeddiadau, biliau, a gwefannau. Ar wahân i amgylchiadau eithriadol, ni fyddem yn disgwyl i gwsmer gysylltu â'i gwmni dŵr drwy ddefnyddio rhif arall (er enghraifft, drwy ffonio aelod penodol o’r staff ar linell uniongyrchol). Rydym wedi paratoi safonau, felly, sy'n ymwneud yn benodol â 'rhifau llinell gymorth ymholiadau cyfrifon' a 'rhifau llinell gymorth gwasanaeth'. Byddem yn disgwyl i 'rifau llinell gymorth ymholiadau cyfrifon' gynnwys rhifau ffôn sydd wedi’u neilltuo i drafod materion fel ymholiadau am filiau, ymholiadau talu, newid cyfeiriad, a materion yn ymwneud ag argaeledd neu ddarlleniadau mesuryddion dŵr. Rydym o’r farn bod 'rhifau llinell gymorth gwasanaeth' yn cwmpasu rhifau sy'n delio â materion gweithredol fel problemau gyda chyflenwad dŵr, ansawdd dŵr, neu ddŵr yn gollwng. Hoffem glywed gan ymatebwyr p’un a ydynt yn credu bod yr uchod yn cwmpasu’r gwasanaethau a ddarperir gan y llinellau cymorth hynny, a ph’un a ydynt yn glir i aelodau'r cyhoedd a'r cwmnïau eu hunain.

Safonau ynghylch "Cyfleuster sgwrsio ar-lein" (safonau 40/40A)

2.13 Dyma'r set gyntaf o reoliadau lle mae gennym safonau sy’n ymwneud yn benodol â chyfleuster sgwrsio ar-lein. Mae hon yn ymgais i adlewyrchu'r ffaith bod y ffyrdd y mae’r cyhoedd yn dewis delio â'r cwmnïau hyn yn newid. Rydym yn awyddus i sicrhau bod cwsmeriaid yn gallu defnyddio'u Cymraeg pa bynnag ffordd y maent yn penderfynu cysylltu â'u cwmni dŵr, a bod y safonau'n rhoi sylw priodol i'r dechnoleg ddiweddaraf. Hoffem glywed gan gwmnïau a chwsmeriaid fel ei gilydd, i weld p’un a yw'r safonau hyn yn adlewyrchu'r disgwyliadau sydd gan gwsmeriaid wrth ddefnyddio cyfleuster sgwrsio ar-lein i gyfathrebu.

Safonau cadw cofnodion

2.14 Mae’r safonau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r cwmni gadw cofnodion ynglŷn â rhai o’r safonau eraill, ac am unrhyw gwynion a gyflwynir i’r cwmni. Bydd y cofnodion hyn yn helpu’r Comisiynydd i fonitro i ba raddau y mae’r cwmni yn cydymffurfio â’r safonau.

Safonau atodol

2.15 Mae’r safonau hyn yn ymdrin ag amrywiol faterion, gan gynnwys llunio adroddiad blynyddol, trefniadau monitro a darparu gwybodaeth i’r Comisiynydd.

Hysbysiadau cydymffurfio

2.16 Mae'r Rheoliadau drafft yn nodi'r ystod o safonau y gellid eu gorfodi ar gwmni dŵr. Nid oes rhaid i'r Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i bob cwmni gydymffurfio â phob safon.

2.17 Mae gan y Comisiynydd hyblygrwydd wrth ddewis pa safonau y mae’n rhaid i gwmni gydymffurfio â nhw ac i ba raddau. Gall y Comisiynydd hefyd bennu erbyn pa ddyddiad y gofynnir i’r cwmni gydymffurfio â safon. Bydd y Comisiynydd yn nodi’r wybodaeth honno mewn hysbysiad cydymffurfio a roddir i’r cwmni.

2.18 Bydd gan y Comisiynydd felly sawl opsiwn o ran gorfodi safonau ar gwmni. Efallai y bydd yn rhaid i gwmni gydymffurfio â safon dan rai amgylchiadau yn unig ac nid dan amgylchiadau eraill - gan ddibynnu ar beth sy’n rhesymol iddyn nhw. Mae’r dull gweithredu hwn yn caniatáu i’r Comisiynydd hwyluso’r ffordd i gwmnïau wella eu darpariaeth Gymraeg yn raddol.

2.19 Bydd modd i gwmni herio’r gofyniad sydd arno i gydymffurfio â safon benodol ar sail p’un a yw’n rhesymol ac yn gymesur gwneud hynny.

2.20 Yn y lle cyntaf, gall cwmni gyflwyno her i’r Comisiynydd, yn gofyn i’r Comisiynydd benderfynu p’un a yw’r gofyniad sydd arno i gydymffurfio â safon benodol yn yr hysbysiad cydymffurfio yn rhesymol ac yn gymesur. Os na allant ddatrys yr anghydfod, mae modd apelio i Dribiwnlys y Gymraeg, ac wedi hynny i’r Uchel Lys (ar fater cyfreithiol).

[1] Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Ymgymerwyr Dŵr a Charthffosiaeth) | LLYW. CYMRU

3. Asesiad Effaith Rheoleiddiol

Fel rhan o'r ymgynghoriad blaenorol ar safonau drafft ar gyfer cwmnïau dŵr yn 2017, gofynnwyd i gwmnïau a fyddai'n ddarostyngedig i’r Rheoliadau drafft hyn gyflwyno gwybodaeth er mwyn caniatáu i Lywodraeth Cymru baratoi Asesiad Effaith Rheoleiddiol i gyd-fynd â'r Rheoliadau wrth eu gosod yn y Senedd.

Rydym yn gofyn i gwmnïau ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf inni yng ngoleuni'r Rheoliadau drafft sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, fel y gallwn baratoi Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi'i ddiweddaru sydd mor gywir â phosibl. Pwrpas Asesiad Effaith Rheoleiddiol yw helpu Gweinidogion Cymru i ystyried effaith rheoliadau arfaethedig ac ystyried costau a manteision yr holl opsiynau sydd ar gael iddynt cyn gweithredu polisi. Mae hefyd yn fodd o gyflwyno tystiolaeth ar effeithiau cadarnhaol a negyddol polisi i graffu arni.

Gofynnir i gwmnïau a fydd yn ddarostyngedig i’r rheoliadau drafft, neu a allai fod yn ddarostyngedig iddynt, lenwi'r cwestiynau yn ffurflen yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, a gyhoeddir ar y wefan. Dylid dychwelyd y ffurflen i Cymraeg2050@llyw.cymru erbyn 5 Ebrill. Cofiwch mai dim ond i gwmnïau dŵr sy'n ddarostyngedig i'r Rheoliadau y mae ffurflen yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn berthnasol.

4. Cwestiynau ymgynghori

Defnyddiwch y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad a gyhoeddir ar y wefan i ymateb i'r cwestiynau hyn.

  1. A oes gennych unrhyw sylwadau am y safonau cyflenwi gwasanaethau a gynigir yn y rheoliadau? Mae croeso ichi gyfeirio at y materion a godir ym mharagraffau 2.9 i 2.13 y ddogfen ymgynghori, neu at unrhyw fater arall.
     
  2. Mae Rhan 3 Atodlen 1 y Rheoliadau yn cynnwys dehongliadau mewn perthynas â rhai o'r safonau cyflenwi gwasanaethau. A oes gennych unrhyw sylwadau ar y ffordd y dehonglir y safonau yn Rhan 3?
     
  3. A oes gennych unrhyw sylwadau ar y safonau cadw cofnodion a'r safonau sy'n ymdrin â materion atodol a gynigir yn y rheoliadau?
     
  4. Hoffem wybod eich barn am yr effeithiau y byddai Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Ymgymerwyr Dŵr a Charthffosiaeth) yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. Pa effeithiau y byddent yn eu cael, yn eich barn chi? Sut y gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?
     
  5. Esboniwch hefyd sut rydych yn credu y gellid llunio neu addasu’r rheoliadau arfaethedig er mwyn cael effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, a pheidio â chael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn ac a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y byddant yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau at y dyfodol. Os bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud rhagor o waith dadansoddi ar yr ymatebion i ymgynghoriad, mae’n bosibl y bydd trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwnnw ar ei rhan. Dim ond o dan gontract y bydd unrhyw waith o’r fath yn cael ei wneud. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn pennu gofynion llym ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw neu'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth hefyd.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi yn yr ymateb i'r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hynny’n cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd unrhyw ddata a gedwir mewn ffyrdd eraill gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl i wneud y canlynol:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  •  (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu'r data
  •  (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ebost: dataprotectionofficer@llyw.cymru

Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn: 0303 123 1113

Gwefan: Information Commissioner's Office