Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i Awdurdodau Lleol roi trwyddedau ar gyfer rhai gweithgareddau sy'n ymwneud ag anifeiliaid, gyda'r nod o sicrhau safonau uchel o ran lles anifeiliaid. Er mwyn helpu i gyflawni hyn mae angen systemau trwyddedu ar gyfer siopau anifeiliaid anwes.

Cafodd Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) eu trafod a'u cymeradwyo yn y Senedd ar 23 Mawrth 2021 a byddant yn dod i rym ar 10 Medi 2021.

Er mwyn cefnogi'r rheoliadau hyn, mae canllawiau statudol wedi cael eu datblygu ar gyfer Awdurdodau Lleol i'w cynorthwyo gyda'r gyfundrefn drwyddedu a gwerthiannau anifeiliaid anwes.
Hoffem glywed eich barn a'ch sylwadau ar y canllawiau sydd ynghlwm.

Sut i ymateb

Ymatebwch drwy ddefnyddio'r holiadur ar ddiwedd y ddogfen hon. Gallwch gyflwyno eich ymatebion yn electronig neu drwy'r post. Fel arall, mae copi ar-lein o’r ffurflen hon ar wefan Llywodraeth Cymru yn: https://ymgynghoriadau.llyw.cymru/

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Mae fersiwn print mawr, fersiwn Braille a fersiynau mewn ieithoedd eraill o’r ddogfen hon ar gael ar gais.

Manylion Cysylltu

I gael rhagor o wybodaeth:
Cangen y Fframwaith Iechyd a Llesiant Anifeiliaid
Llywodraeth Cymru Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
e-bost: companionanimalwelfare@llyw.cymru

Mae'r dogfen hefyd ar gael yn Saesneg

Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hwn, a bydd y rhain yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut byddant yn arfer eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llwyr gan y staff hynny yn Llywodraeth Cymru a fydd yn delio â’r materion sy’n berthnasol i’r ymgynghoriad hwn, neu a fydd yn cynllunio ymgynghoriadau yn y dyfodol. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i ddadansoddi ymhellach ymatebion i’r ymgynghoriad, yna efallai y bydd y gwaith hwn yn cael ei roi i drydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghorol). Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion llym ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, caiff enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad sydd wedi anfon ymateb eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion cyn cyhoeddi eich ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Fel arall ni fydd gweddill eich data a gedwir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:

  • cael gwybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'i weld
  • gofyn inni gywiro gwallau yn y data hwnnw
  • (o dan rai amgylchiadau) gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) gofyn i’ch data gael ei ‘ddileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) gofyn inni drosglwyddo’ch data i gorff arall
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y ffordd mae’n cael ei defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
Ebost: Data.ProtectionOfficer@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: https://ico.org.uk/

Cyflwyniad

Mae'r rheoliadau hyn, ochr yn ochr â'r canllawiau statudol, wedi disodli Adran 1 o Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951, a byddant yn cynorthwyo awdurdodau lleol wrth roi trwyddedau yn amodol ar gydymffurfio â set o safonau. Byddant yn galluogi awdurdodau lleol i archwilio safle, yn caniatáu proses ar gyfer apelio i'r llysoedd os yw’r amodau’n cael eu gwrthod neu’n cael eu hystyried yn rhy feichus, yn gwneud gweithredu heb drwydded yn drosedd ac yn amlinellu nifer o anghymhwysiadau mae’n berthnasol i'r awdurdod lleol eu hystyried wrth asesu ceisiadau am drwydded (megis euogfarn am greulondeb i anifeiliaid).

Maent hefyd yn caniatáu i awdurdod lleol adennill costau archwiliadau, prosesu a gorfodi drwy ffi'r drwydded.

Cafodd Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 eu trafod a'u pasio yn y Senedd ar 23 Mawrth 2021, a byddant yn dod i rym ar 10 Medi 2021.

Ymgynghoriad

Hoffem wybod a ydych yn credu bod y drafft presennol yn rhoi digon o wybodaeth i Swyddogion Awdurdodau Lleol wrth iddynt asesu ceisiadau a chynnal archwiliadau, ac i ddeiliaid trwyddedau er mwyn iddyn nhw fodloni'r safonau gofynnol.

Un newid hollbwysig i’r amodau trwydded blaenorol yn Neddf Anifeiliaid Anwes 1951 yw eu bod yn gwahardd trydydd partïon rhag gwerthu cŵn a chathod bach.

Hoffem glywed eich barn a'ch sylwadau ar y ddogfen, yn enwedig drwy eich ymatebion i'r cwestiynau isod, gydag unrhyw dystiolaeth ategol os yw ar gael.

Cwestiynau

1. A ydych yn credu, fel y mae wedi’i ddrafftio, fod y prawf busnes yn rhoi digon o gyngor i swyddogion Awdurdodau Lleol? Os nad ydych, a allwch gynnig geiriad gwahanol?

2. A ydych credu, fel y mae wedi’i ddrafftio, y bydd y diffiniad o Ganolfan Ailgartrefu (y Canllaw ar Werthu Anifeiliaid Anwes, tudalen ...) yn sicrhau y bydd y safleoedd hyn yn gallu parhau i ailgartrefu cŵn a chathod bach nad ydynt wedi cael eu bridio ar y safle? Os nad ydych, a allwch gynnig geiriad gwahanol?

3. A ydych yn credu bod yr amodau yn y canllawiau sy'n benodol i rywogaethau yn ddigon cynhwysfawr i sicrhau lles yr anifeiliaid hyn?

4. A oes gennych unrhyw sylwadau pellach neu awgrymiadau ar gyfer diwygiadau?

Gwybodaeth ychwanegol

Rhif: WG43188