Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Gwelwyd nifer o newidiadau polisi, a llacio dros dro ar ofynion, sydd wedi effeithio ar y gofynion adrodd mewn ysgolion. Mae’r wybodaeth isod yn amlinellu’r gofynion rheoliadol cyfredol ar gyfer adrodd am wybodaeth ysgolion a disgyblion. Lle mae unrhyw ofynion yn cael eu cyflwyno’n raddol dros amser yn unol â chyflwyno Cwricwlwm i Gymru, rydym wedi amlinellu’r amserlen gysylltiedig i ddynodi i ba grŵp/grwpiau blwyddyn y mae’r gofynion yn berthnasol.

Tarfu yn sgil y coronafeirws

Gwnaed addasiadau i rai o’r rheoliadau sy’n ymwneud ag adrodd ar wybodaeth ysgolion a’i chasglu yn sgil y tarfu a fu ar ysgolion o ganlyniad uniongyrchol i’r coronafeirws. Roedd Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad oedd yn bosibl bob amser i ysgolion ac awdurdodau lleol gydymffurfio â rhai gofynion statudol, a’r baich gweinyddol anghymesur yr oeddent efallai yn ei greu yn ystod y cyfnod heriol hwn. Daethpwyd â rheoliadau i rym i addasu neu ddatgymhwyso nifer o ofynion adrodd mewn ysgolion mewn perthynas â blynyddoedd ysgol 2019 i 20202020 i 2021 a 2021 i 2022. Roedd y newidiadau hyn yn cynnwys diddymu ‘Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011’ yn barhaol sy’n golygu nad yw’n ofynnol bellach i ysgolion bennu a chyhoeddi targedau. Roedd y gyfres ddiweddaraf o reoliadau diwygio, Rheoliadau Llacio’r Gofynion Adrodd mewn Ysgolion (Cymru) (Coronafeirws) 2022 yn golygu, ar gyfer blwyddyn ysgol 2021 i 2022:

  • nad oedd gofyn i awdurdodau lleol ac ysgolion gynnwys data ynghylch absenoldebau awdurdodedig ac anawdurdodedig ymhlith disgyblion yn eu prosbectws
  • nad oedd adroddiadau blynyddol cyrff llywodraethu yn cynnwys data perfformiad a phresenoldeb ar gyfer 2021 i 2022; y crynodeb diweddaraf o berfformiad ysgolion uwchradd; na nifer yr absenoldebau awdurdodedig ac anawdurdodedig yn ystod y flwyddyn ysgol. Roedd y llacio hwn yn berthnasol i bob disgybl a oedd wedi’u cofrestru mewn ysgol.

O flwyddyn ysgol 2022 i 2023, mae’r mesurau dros dro hyn wedi dod i ben, a’r gofynion perthnasol bellach yw’r rhai sydd wedi’u hamlinellu yn y ddogfen hon.

Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Gwybodaeth Asesiadau Athrawon) (Cymru) 2018

Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Gwybodaeth Asesiadau Athrawon) (Cymru) 2018

Roedd y Rheoliadau hyn yn ategu penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi’r gorau i gyhoeddi gwybodaeth gymharol am ddata asesiadau athrawon ar ddiwedd cyfnod neu gyfnod allweddol a data Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol ar lefel ysgolion, awdurdodau lleol neu gonsortia rhanbarthol.

Mae ysgolion, cyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol yn parhau i allu gweld eu data eu hunain, ochr yn ochr â data ar lefel genedlaethol, ac maent felly yn dal i allu ystyried eu deilliannau mewn cyd-destun cenedlaethol, a hynny’n sail i’w gwaith hunanwerthuso a’u cynlluniau gwella.

Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i gasglu data ar lefel disgyblion unigol er mwyn ei gwneud yn bosibl gwneud gwaith ymchwil a gwerthuso ynghylch ymyriadau polisi penodol, er enghraifft er mwyn deall effaith deilliannau dysgwyr ar raglenni datblygu ychwanegol ym mhob rhan o’r system addysg.

Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy'n Oedolion (Cymru) 2011

Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy'n Oedolion (Cymru) 2011

Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy'n Oedolion (Cymru) (Diwygio) 2014

Rheoliadau Addysg (Dirymu Trefniadau Asesu yn y Cwricwlwm Cenedlaethol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022

Dirymu graddol

Dim ond i ddysgwyr sydd eto i gael eu trosglwyddo i’r cwricwlwm newydd y mae Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011 yn berthnasol. Er hwylustod, caiff y Rheoliadau hyn eu datgymhwyso i ddisgyblion fel a ganlyn

O flwyddyn ysgol 2022 i 2023 ar gyfer:

  • plant sy’n cael addysg feithrin a gyllidir
  • disgyblion yn eu blwyddyn dderbyn
  • plant a disgyblion ym mlynyddoedd 1 i 6
  • plant a disgyblion ym mlwyddyn 7 yn yr ysgolion a’r lleoliadau eraill hynny lle mae’r cwricwlwm newydd wedi’i gyflwyno iddynt Troednodyn 1

O flwyddyn ysgol 2023 i 2024 ar gyfer plant a disgyblion ym mlynyddoedd 7 ac 8.

O flwyddyn ysgol 2024 i 2025 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 9.

O flwyddyn ysgol 2025 i 2026 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 10.

O flwyddyn ysgol 2026 i 2027 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 11.

O flwyddyn ysgol 2027 i 2028 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 12.

Caiff y Rheoliadau eu dirymu’n llawn ar 1 Medi 2028.

Gofynion

Mae’r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i benaethiaid ddarparu adroddiad ysgrifenedig ar gynnydd a chyflawniadau disgybl i rieni a disgyblion sy’n oedolion bob blwyddyn ysgol.

Mae hyn yn cynnwys canlyniadau unrhyw asesiad statudol a gynhaliwyd yn unol â'r trefniadau asesu a bennwyd gan Weinidogion Cymru yng Ngorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013.

Rhaid i'r adroddiad gynnwys y wybodaeth ganlynol, o leiaf:

  • manylion cryno am gyflawniadau a chynnydd y disgybl mewn perthynas â phob maes dysgu, pwnc neu weithgarwch, gan dynnu sylw at unrhyw gryfderau a gwendidau penodol
  • sgiliau a galluoedd y disgybl a'i gynnydd cyffredinol yn yr ysgol yn ystod y cyfnod y mae'r wybodaeth yn ymwneud ag ef
  • lle y caiff lefelau cyflawniad eu cynnwys, dylid cynnwys datganiad yn nodi pa un a yw'r lefelau hyn wedi'u pennu yn unol â'r asesiadau statudol ai peidio
  • manylion unrhyw bwnc y mae'r disgybl wedi'i eithrio ohono
  • manylion unrhyw gymhwyster neu ran o gymhwyster a enillwyd gan y disgybl yn ystod y cyfnod y mae'r wybodaeth yn ymwneud ag ef
  • crynodeb o bresenoldeb y disgybl yn ystod y cyfnod y mae'r wybodaeth yn ymwneud ag ef, gan gynnwys nifer yr absenoldebau awdurdodedig ac anawdurdodedig
  • manylion am ffyrdd y gall rhieni/gwarcheidwaid, neu ddisgyblion sy'n oedolion, drafod yr adroddiad ag athrawon
  • i ddisgyblion sy'n dilyn rhaglenni astudio Cyfnod Allweddol 4, dylai'r adroddiad gael ei gyflwyno ochr yn ochr â'r Crynodeb diweddaraf o Berfformiad Ysgol Uwchradd.

Yn ogystal, rhaid cynnwys y wybodaeth ganlynol ar gyfer disgyblion yn y cyfnodau allweddol canlynol (hyd nes y caiff y rheoliadau hyn eu datgymhwyso i’r grwpiau blwyddyn perthnasol):

Trydydd cyfnod allweddol

  • Canlyniadau unrhyw asesiad a gynhaliwyd yn unol â’r trefniadau asesu a bennwyd gan Weinidogion Cymru yng Ngorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013
  • Crynodeb byr o gynnydd y disgybl mewn perthynas â’r rhaglenni addysgol ychwanegol a’r rhaglenni astudio ychwanegol
  • Canlyniadau asesiadau athrawon o lefel cyrhaeddiad y disgybl mewn pwnc, a chanlyniadau asesiadau athrawon o lefel cyrhaeddiad y disgybl ym mhob targed cyrhaeddiad ym mlwyddyn olaf CA3 mewn:
  • Cymraeg iaith gyntaf a Saesneg neu Saesneg a Chymraeg ail iaith, yn ôl y cwricwlwm a gyflwynwyd i’r disgybl
    • mathemateg
    • gwyddoniaeth
    • y pynciau perthnasol
  • Datganiad byr ynghylch a yw’r disgybl wedi cyflawni’r dangosydd pynciau craidd
  • Cofnod byr o’r hyn y mae canlyniadau asesiadau’r athrawon yn ei ddynodi am gynnydd y disgybl yn y pynciau perthnasol, fel unigolyn ac mewn perthynas â phlant eraill yn yr un flwyddyn neu’r cyfnod allweddol, gan dynnu sylw at unrhyw gryfderau a gwendidau penodol sy’n nodweddu’r disgybl.

Pedwerydd cyfnod allweddol

  • Enw unrhyw bwnc y cofrestrwyd y disgybl ar ei gyfer i ennill cymhwyster perthnasol cymeradwy, a’r radd (os o gwbl) a enillwyd
  • Cyfartaledd nifer y pwyntiau a sgoriwyd gan y disgybl mewn arholiadau pynciau y cofrestrwyd y disgybl ar eu cyfer, yn unol â’r gofrestr.

Argymhellwn y dylai ysgolion wneud pob ymdrech i lunio adroddiadau diddorol, llawn gwybodaeth sy'n addas i rieni a gofalwyr. Argymhellion ychwanegol er mwyn llunio adroddiadau diddorol a llawn gwybodaeth:

  • dylai 'manylion cryno' fod ar ffurf sylwadau byr am y gweithgarwch pwnc dan sylw. Dylid tynnu sylw at gryfderau a chyflawniadau penodol ynghyd â gwendidau, nodau gwella ac awgrymiadau o ran sut y gellir annog y dysgwr i ddatblygu mewn maes penodol
  • gallai manylion am gynnydd cyffredinol gynnwys trosolwg o ymddygiad, cyfraniad at fywyd yr ysgol, cyflawniadau arbennig, a llesiant cyffredinol
  • gellid cynnwys gwybodaeth am resymau dros absenoldeb neu hwyrni a chrynodeb o wybodaeth am unrhyw waharddiadau sy'n berthnasol i'r cyfnod dan sylw
  • gallai'r trefniadau ar gyfer trafod yr adroddiad gynnwys manylion cyfarfodydd rhieni, Cyfarfod Blynyddol y Llywodraethwyr a digwyddiadau allweddol eraill yng nghalendr yr ysgol
  • gall cynnwys enwau athrawon perthnasol a gwybodaeth am ffyrdd gwahanol o gysylltu â'r ysgol ac athrawon helpu i gynyddu lefelau ymgysylltu
  • dylid tynnu sylw at bwysigrwydd rôl rhieni a'r cyfraniad y gall rhieni ei wneud at addysg eu plant a bywyd yr ysgol

Rheoliadau Darparu Gwybodaeth gan Benaethiaid i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2022

Rheoliadau Darparu Gwybodaeth gan Benaethiaid i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2022

Daeth y Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2022, ac maent yn cael eu cyflwyno’n raddol fesul grŵp blwyddyn, yn unol â’r cynllun i gyflwyno cwricwlwm newydd Cymru.

O flwyddyn ysgol 2022 i 2023 ar gyfer:

  • plant sy’n cael addysg feithrin a gyllidir
  • disgyblion yn eu blwyddyn dderbyn
  • plant a disgyblion ym mlynyddoedd 1 i 6
  • plant a disgyblion ym mlwyddyn 7 yn yr ysgolion a’r lleoliadau eraill hynny lle mae’r cwricwlwm newydd wedi’i gyflwyno iddyntTroednodyn 1

O flwyddyn ysgol 2023 i 2024 ar gyfer plant a disgyblion ym mlynyddoedd 7 ac 8.

O flwyddyn ysgol 2024i 2025 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 9.

O flwyddyn ysgol 2025 i 2026 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 10.

O flwyddyn ysgol 2026 i 2027 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 11.

O flwyddyn ysgol 2027 i 2028 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 12.

O flwyddyn ysgol 2028 i 2029 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 13.

Mae’r rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i benaethiaid ysgolion a gynhelir (neu athrawon sy’n gyfrifol am Uned Cyfeirio Disgyblion) ddarparu gwybodaeth i rieni bob tymor a bob blwyddyn ar gynnydd disgyblion cofrestredig ac i ddisgyblion sy’n oedolion, a darparu adroddiad i unrhyw ddisgybl sydd wedi pasio oedran ysgol gorfodol ac sy’n bwriadu gadael neu wedi gadael yr ysgol.

Diweddariadau cynnydd bob tymor 

Rhaid i ddiweddariadau cynnydd bob tymor gynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Sylwadau byr ar sefyllfa’r disgybl o ran lles
  • Sylwadau byr ar brif nodweddion cynnydd a llwybr dysgu’r disgybl
  • Crynodeb byr o brif anghenion cynnydd y disgybl a’r camau nesaf i gefnogi’r cynnydd hwnnw
  • Cyngor cryno ar sut gall y rhieni gefnogi cynnydd eu plentyn.

Rhaid darparu’r wybodaeth hon cyn diwedd pob tymor ysgol ar ffurf y mae’r pennaeth yn ei hystyried yn rhesymol briodol.

Diweddariadau cynnydd blynyddol 

Rhaid i ddiweddariadau cynnydd bob blwyddyn gynnwys y wybodaeth ganlynol:

I bob disgybl hyd at a chan gynnwys blwyddyn 11:

  • sylwadau byr ar ei gynnydd wrth ddysgu ar draws y cwricwlwm perthnasol
  • sylwadau byr ar ganlyniadau’r asesiadau a gynhaliwyd o dan Orchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013
  • crynodeb byr o brif anghenion cynnydd y disgybl a’r camau nesaf i gefnogi’r cynnydd hwnnw
  • cyngor cryno ar sut gall y rhieni gefnogi cynnydd eu plentyn
  • sylwadau byr ar sefyllfa’r disgybl o ran lles
  • crynodeb byr o’r cymwysterau a enillwyd
  • crynodeb o gofnod presenoldeb y disgybl yn ystod y cyfnod y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef, gan gynnwys nifer yr absenoldebau awdurdodedig ac anawdurdodedig (yn ystyr Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010) a nifer y dyddiau presenoldeb posibl
  • manylion y trefniadau i’r rhiant neu, os yw’n oedolyn, i’r disgybl drafod y wybodaeth a ddarperir gydag athrawon y disgybl

Yn ogystal, i ddisgyblion blynyddoedd 10 ac 11 (a disgyblion hyd at a chan gynnwys blwyddyn 9 lle cânt eu cofrestru ar gyfer cymhwyster perthnasol cymeradwy):

  • enw unrhyw bwnc y cofrestrwyd y disgybl ar ei gyfer i ennill cymhwyster perthnasol cymeradwy, a’r radd (os o gwbl) a enillwyd
  • manylion unrhyw gymhwyster perthnasol cymeradwy neu unrhyw uned neu gredyd tuag at gymwysterau o’r fath a enillwyd/gwblhawyd gan y disgybl yn ystod y cyfnod y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef, na chyfeirir ato mewn man arall.
  • manylion cryno ynghylch cyflawniadau’r disgybl mewn unrhyw faes dysgu, gan gynnwys Tystysgrif Graidd Cymhwyster Bagloriaeth Cymru, na chyfeirir atynt mewn man arall, a oedd yn rhan o gwricwlwm yr ysgol, ac ynghylch sgiliau a galluoedd y disgybl, ac ynghylch cynnydd cyffredinol y disgybl yn yr ysgol yn ystod y cyfnod y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef.

Adroddiadau disgyblion sy'n gadael yr ysgol

Rhaid i adroddiad disgybl sy’n gadael yr ysgol gynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • enw’r disgybl
  • ysgol y disgybl
  • manylion unrhyw gymhwyster perthnasol cymeradwy ac unrhyw uned neu gredyd tuag at gymwysterau o’r fath a ddyfarnwyd i’r disgybl
  • manylion cryno ynghylch cynnydd a chyflawniadau’r disgybl mewn pynciau (ac eithrio’r rhai y mae’r disgybl wedi ennill cymhwyster perthnasol cymeradwy ynddynt neu uned neu gredyd tuag at gymwysterau o’r fath)
  • manylion cryno cynnydd y disgybl mewn unrhyw weithgareddau a oedd yn rhan o gwricwlwm yr ysgol yn ystod y flwyddyn ysgol pan adawodd y disgybl yr ysgol, neu y gadawodd ar ei diwedd.

Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011

Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011

Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) (Diwygio) 2013

Mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir lunio adroddiad blynyddol i rieni, gan gynnwys y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i ddeall cynnydd ysgol eu plentyn, a bydd hyn yn parhau. Rhaid i adroddiad cryno gael ei ddosbarthu i bob rhiant, gan gynnwys y wybodaeth ofynnol a manylion am sut y gall rhieni ofyn am gopi o'r adroddiad llawn. Rhaid i ysgolion sicrhau bod yr adroddiad neu'r adroddiad cryno ar gael i rieni o leiaf bythefnos cyn dyddiad y cyfarfod blynyddol lle y caiff yr adroddiad ei ystyried.

Rhaid i'r adroddiad cryno gynnwys y wybodaeth ganlynol, o leiaf:

  • manylion am drefniadau'r cyfarfod rhieni blynyddol nesaf, gan gynnwys amser, lleoliad, diben ac agenda, ac adroddiad ar unrhyw ystyriaethau a wnaed mewn perthynas ag unrhyw benderfyniadau a gymeradwywyd yn y cyfarfod blynyddol blaenorol
  • gwybodaeth am drefniadau'r etholiad rhiant-lywodraethwyr nesaf, os oes gwybodaeth o'r fath ar gael
  • ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 yn unig, y crynodeb diweddaraf o Berfformiad Ysgol Uwchradd

Rhaid i adroddiadau llawn hefyd gynnwys:

  • dyddiadau'r tymhorau
  • datganiad ariannol
  • newidiadau i wybodaeth prosbectws yr ysgol
  • datganiad ar y defnydd o'r Gymraeg
  • darpariaeth cyfleusterau toiled a threfniadau glanhau
  • gweithgareddau allgyrsiol
  • crynodeb o gynllun datblygu’r ysgol a luniwyd gan y corff llywodraethu yn unol â Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014

Yn ogystal â'r gofynion sylfaenol, anogir llywodraethwyr i gynnwys deunydd ychwanegol er mwyn helpu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i rieni a sicrhau bod y ddogfen mor ddiddorol â phosibl.

Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011

Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011

Rheoliadau Addysg (Dirymu Trefniadau Asesu yn y Cwricwlwm Cenedlaethol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022

Mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gyhoeddi gwybodaeth gyffredinol yn y prosbectws cyfansawdd mewn perthynas â phob ysgol a gynhelir yn yr awdurdod. Rhaid i'r prosbectws fod ar gael i rieni/gwarcheidwaid, ysgolion, llyfrgelloedd cyhoeddus yn yr awdurdod lleol, ac ar wefan yr awdurdod lleol. Mae Rheoliadau Addysg (Dirymu Trefniadau Asesu yn y Cwricwlwm Cenedlaethol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022 wedi gwneud i ffwrdd â’r gofyniad ar awdurdodau lleol i ddosbarthu copïau o’r prosbectws cyfansawdd yn rhad ac am ddim i rieni a disgyblion sydd yn eu blwyddyn olaf yn yr ysgol ac a allai symud i ysgolion eraill o’r fath.

Mae Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir gyhoeddi gwybodaeth gyffredinol, mewn un ddogfen, a elwir yn brosbectws ysgol, i rieni/gwarcheidwaid, dysgwyr a phobl eraill â diddordeb.

Rhaid i brosbectws ysgol gynnwys y wybodaeth ofynnol ganlynol, o leiaf:

  • enw, cyfeiriad a rhif ffôn yr ysgol
  • enw'r pennaeth
  • enw cadeirydd presennol y llywodraethwyr
  • dosbarthiad yr ysgol:
    • ysgol gymunedol, ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a reolir, ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ysgol arbennig gymunedol neu arbennig sefydledig, ysgol gynradd, ysgol ganol neu ysgol arbennig
    • ysgol gyfun, ysgol ramadeg neu ysgol rannol ddetholus
    • ysgol gyd-addysgol neu un rhyw
    • ysgol ddydd, ysgol breswyl neu ysgol sy'n derbyn disgyblion dydd a disgyblion preswyl
  • iaith yr ysgol fel y'i dangosir yn ei chategori CYBLD
  • unrhyw gysylltiad sydd gan yr ysgol â chrefydd neu enwad crefyddol
  • manylion y polisi derbyn ar gyfer disgyblion o wahanol oedrannau, gan gynnwys y rheini sy'n hŷn neu'n iau na'r oedran ysgol gorfodol (nid yw hyn yn berthnasol i ysgolion arbennig) a'r trefniadau arbennig ar gyfer derbyn disgyblion anabl a sicrhau bod yr ysgol yn hygyrch iddynt
  • dylai ysgolion uwchradd (ond nid ysgolion arbennig) hefyd gynnwys manylion am nifer y lleoedd ar gyfer pob grŵp oedran perthnasol a oedd ar gael ar ddechrau'r flwyddyn flaenorol, nifer y ceisiadau neu gyfeiriadau ysgrifenedig, nifer yr apelau a wnaed a nifer yr apelau a fu'n llwyddiannus
  • manylion unrhyw drefniadau er mwyn i rieni ymweld â'r ysgol
  • datganiad am ethos a gwerthoedd yr ysgol
  • gwybodaeth am y cwricwlwm, trefn yr addysg a dulliau addysgu. Dylai hyn gynnwys manylion unrhyw drefniadau arbennig a wnaed ar gyfer grwpiau penodol o ddisgyblion, gan gynnwys y rheini ag anghenion addysgol arbennig
  • crynodeb o gynnwys a threfn addysg rhyw
  • manylion unrhyw addysg gyrfaoedd ac unrhyw drefniadau i ddisgyblion gael profiadau sy'n canolbwyntio ar waith
  • crynodeb o'r addysg grefyddol a ddarperir yn yr ysgol a manylion am hawl rhiant/gwarcheidwad, disgybl chweched dosbarth i ddewis peidio â chymryd rhan mewn addysg grefyddol, ac unrhyw ddarpariaeth amgen a wneir ar gyfer disgyblion o'r fath
  • crynodeb o bolisïau a threfniadau'r ysgol mewn perthynas â'r canlynol:
    • y ddarpariaeth ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig
    • cefnogi a hybu cyflawniad addysgol plant sy'n derbyn gofal
    • taliadau ar gyfer dewisiadau ychwanegol a manylion y polisïau mewn perthynas ag amgylchiadau lle y caiff y taliadau hyn eu hepgor
    • y polisi cyfle cyfartal
  • manylion yr aelod o'r staff a ddynodwyd yn gyfrifol am hybu cyflawniad addysgol plant sy'n derbyn gofal
  • gwybodaeth am unrhyw benderfyniadau a wnaed mewn perthynas â natur addoli ar y cyd yn yr ysgol
  • crynodeb o nodau'r ysgol ym maes chwaraeon a manylion y trefniadau er mwyn i ddisgyblion gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau chwaraeon allgyrsiol
  • dyddiadau'r tymhorau ac amseroedd sesiynau'r ysgol ar gyfer y flwyddyn y gwahoddir disgyblion i wneud cais am le
  • y trefniadau a wnaed i sicrhau diogelwch disgyblion, staff a safle'r ysgol
  • crynodeb o nodweddion allweddol y cytundeb rhwng yr ysgol a'r cartref
  • datganiad byr am y defnydd o'r Gymraeg yn yr ysgol, er mwyn sicrhau bod rhieni/gwarcheidwaid a darpar rieni yn deall natur ieithyddol yr ysgol yn llawn. Dylai hyn gynnwys:
    • y defnydd o'r Gymraeg fel iaith hyfforddi mewn cyfnodau allweddol gwahanol, pynciau gwahanol a, lle y bo'n briodol, argaeledd cyfarwyddyd amgen yn Saesneg
    • manylion am y defnydd o'r Gymraeg fel iaith cyfathrebu yn yr ysgol y tu hwnt i hyfforddiant ffurfiol
    • unrhyw gyfyngiadau o ran y gallu i ddewis yr iaith y rhoddir hyfforddiant ynddi
    • trefniadau'r ysgol ar gyfer hwyluso dilyniant i ddisgyblion a gaiff eu hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg tra'u bod wedi'u cofrestru yn yr ysgol neu wrth symud o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd
    • manylion unrhyw eithriad i'r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru ar yr amod nad yw'r wybodaeth hon yn enwi disgybl unigol yr effeithir arno
  • y Crynodeb diweddaraf o Berfformiad Ysgol Uwchradd – ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 yn unig
  • dylai ysgolion uwchradd gynnwys manylion am gyfran y disgyblion 15 neu 16 oed ar ddechrau'r flwyddyn academaidd flaenorol sydd wedi gwneud y canlynol:
    • parhau mewn addysg, hyfforddiant, neu ddysgu seiliedig ar waith llawn amser
    • symud ymlaen i gyflogaeth
    • heb barhau mewn addysg nac wedi symud ymlaen i gyflogaeth neu
    • nad yw eu llwybr yn hysbys
  • ffigurau presenoldeb ac absenoldeb blynyddol diweddaraf yr ysgol
  • datganiad am sut i wneud cwyn

Yn ogystal â'r wybodaeth ofynnol, dylai ysgolion wneud pob ymdrech i sicrhau bod prosbectws yr ysgol yn ddiddorol, yn llawn gwybodaeth ac yn addas i gynulleidfa eang.

Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011

Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011

Rheoliadau Addysg (Dirymu Trefniadau Asesu yn y Cwricwlwm Cenedlaethol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022

Mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â'r broses o gasglu gwybodaeth am berfformiad ysgolion. Maent yn gosod dyletswydd ar benaethiaid ysgolion a gynhelir i ddarparu gwybodaeth i gyrff llywodraethu er mwyn eu galluogi i gydymffurfio â'u rhwymedigaethau o dan y Rheoliadau hyn.

Ar hyn o bryd, mae’n ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir (ac eithrio ysgolion arbennig a gynhelir) ddarparu gwybodaeth i awdurdodau lleol am ganlyniadau asesiadau cyfnod allweddol tri. Mae'r gofynion fel a ganlyn:

  • Rhaid i'r awdurdod lleol ddarparu gwybodaeth i Lywodraeth Cymru am ganlyniadau asesiadau pob disgybl cofrestredig yng nghyfnod allweddol tri mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol.
  • Rhaid i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a pherchenogion ysgolion annibynnol ac ysgolion arbennig nas cynhelir sydd â disgyblion 15, 16, 17 a 18 oed ddarparu gwybodaeth benodol i Weinidogion Cymru am eu canlyniadau:

Ar gyfer disgyblion 15 oed

  • Nifer y disgyblion cofrestredig sy’n 15 oed
  • Ar gyfer pob un o’r disgyblion hyn a gofrestrwyd ar gyfer un neu fwy o gymwysterau perthnasol cymeradwy yn ystod neu hyd at y flwyddyn ysgol adrodd:
    • rhyw y disgybl
    • ei ddyddiad geni
    • ei gyfenw, ac yna ei enw cyntaf, ei enw(au) canol (os yw’n berthnasol), a
    • lle y’i darperir ar ffurf ddarllenadwy yn electronig neu ar beiriant, ei rif unigryw.
  • Ar gyfer pob un o’r disgyblion hyn a enillodd unrhyw gymhwyster perthnasol cymeradwy yn ystod neu hyd at y flwyddyn ysgol adrodd, y manylion canlynol ar gyfer pob cymhwyster o’r fath:
    • y corff dyfarnu
    • teitl y pwnc
    • y math a’r lefel
    • y canlyniad
    • y dyddiad dyfarnu
    • rhif y cymhwyster (os o gwbl)
    • y rhif cymeradwyo (os o gwbl)

Ar gyfer disgyblion 16, 17 neu 18 oed

  • Nifer y disgyblion cofrestredig sy’n 16, 17 neu 18 oed
  • Ar gyfer pob un o’r disgyblion hyn:
    • rhyw y disgybl
    • ei ddyddiad geni
    • ei gyfenw, ac yna ei enw cyntaf, ei enw(au) canol (os yw’n berthnasol), a, lle y’i darperir ar ffurf ddarllenadwy yn electronig neu ar beiriant, ei rif unigryw
  • Ar gyfer pob un o’r disgyblion hyn a enillodd unrhyw gymhwyster perthnasol cymeradwy yn ystod neu hyd at y flwyddyn ysgol adrodd, y manylion canlynol ar gyfer pob cymhwyster o’r fath:
    • y corff dyfarnu
    • teitl y pwnc
    • y math a’r lefel
    • y canlyniad
    • y dyddiad dyfarnu
    • rhif y cymhwyster (os o gwbl)
    • y rhif cymeradwyo (os o gwbl)

Rhaid i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a pherchenogion ysgolion annibynnol ac ysgolion arbennig nas cynhelir ddarparu gwybodaeth i'r awdurdod lleol am absenoldebau awdurdodedig ac anawdurdodedig, ac nid yw hyn wedi newid. Mae hyn yn cynnwys:

  • cyfanswm nifer y sesiynau ysgol yn ystod y flwyddyn ysgol adrodd pan oedd y disgybl wedi’i gofrestru yn yr ysgol
  • cyfanswm nifer y sesiynau o’r fath yn ystod y flwyddyn ysgol adrodd a fynychwyd gan y disgybl
  • cyfanswm nifer absenoldebau awdurdodedig ac anawdurdodedig y disgybl

Yn unol â'r Rheoliadau hyn, mae'n ofynnol i ysgolion rannu canlyniadau asesiadau statudol ag awdurdodau lleol (nid yw'r Rheoliadau yn ymestyn i gonsortia rhanbarthol). Fodd bynnag, y safbwynt polisi o hyd yw mai at ddefnydd ffurfiannol yn unig y mae asesiadau personol, er mwyn i athrawon ym mhob ysgol a gynhelir gael gwybodaeth am sgiliau darllen a rhifedd eu dysgwyr a dealltwriaeth gyffredin o gryfderau a meysydd i'w gwella o ran y sgiliau hyn. Dylid eu defnyddio o fewn ysgolion ac er mwyn adrodd i rieni, ac ni ddylid eu defnyddio at ddibenion perfformiad nac atebolrwydd yr ysgol. Ers 2018, mae asesiadau personol ar-lein wedi cael eu cyflwyno, ac maent bellach wedi disodli’r profion papur cenedlaethol.

O ganlyniad i’r tarfu yn sgil y coronafeirws a’r llacio ar y gofynion adrodd, fel yr esbonnir uchod, ni chasglwyd data asesiadau athrawon yn 2019 i 2020 a 2020 i 2021. Yn 2021 i 2022, dim ond data asesiadau sylfaenol y Cyfnod Sylfaen a data asesiadau CA3 a gasglwyd (ac eithrio mewn ysgolion arbennig), yn unol â Rheoliadau Addysg (Dirymu Trefniadau Asesu yn y Cwricwlwm Cenedlaethol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022.

O 2022 i 2023, bydd asesiadau cyfnodau allweddol (gan gynnwys asesiadau sylfaenol y Cyfnod Sylfaen ac asesiadau diwedd cyfnod) yn dod i ben i ddysgwyr sydd wedi dechrau’r cwricwlwm newydd. Yn ogystal, ni chaiff asesiadau CA3 eu casglu ar ddysgwyr ysgolion arbennig. Mae’r Rheoliad diwygio canlynol yn rhoi sylw i’r newid hwn:

Rheoliadau Addysg (Dirymu Trefniadau Asesu yn y Cwricwlwm Cenedlaethol a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2022

Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013

Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013

Mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau bod llywodraethwyr ysgolion yn cael hyfforddiant ar ddeall a defnyddio data ysgolion, a phennu cynnwys yr hyfforddiant hwnnw. Disgwylir i lywodraethwyr ysgolion gwblhau hyfforddiant ar y meysydd sy'n benodol i'w hysgol. Rhaid i awdurdodau lleol ac unrhyw un arall sy'n darparu hyfforddiant i lywodraethwyr ystyried cynnwys canllawiau Llywodraeth Cymru wrth lunio eu rhaglenni gorfodol ar ddeall data ysgolion. Nid yw'r hyfforddiant hwn yn berthnasol i unrhyw lywodraethwyr a gwblhaodd hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion fel y'i nodir yn nogfen 2014 (Dogfen ganllaw 140/2014) cyn i Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) (Diwygio) 2016 ddod i rym.

Bydd y gofyniad i sicrhau bod llywodraethwyr ysgolion yn parhau i gael yr hyfforddiant angenrheidiol er mwyn defnyddio data i ddwyn ysgolion i gyfrif yn parhau.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru i lywodraethwyr ysgolion ar ddeall data perfformiad wedi'u diwygio er mwyn dileu'r cyfeiriad at ddata profion ac asesiadau athrawon, mewn perthynas â 'phecynnau data' ac Adroddiadau Ysgolion Cymharol.

Mae'r canllawiau ar hyfforddiant ar ddata ar gael.

Yn unol â'r cynnwys gorfodol ar gyfer ysgolion a gynhelir (ar wahân i ysgolion arbennig), dylai Llywodraethwyr ddeall y canlynol:

  • y gwahaniaeth rhwng 'cyflawniad' a 'chyrhaeddiad; cyflawniad: pa mor dda y mae disgyblion yn perfformio mewn perthynas â'u hoedran a'u gallu a aseswyd; cyrhaeddiad: pa mor dda y mae disgyblion yn perfformio, ar sail prawf safonedig
  • 'dibynadwyedd' a 'dilysrwydd' – ystyr gwybodaeth ddibynadwy yw gwybodaeth y gellir ymddiried ynddi ac ystyr gwybodaeth ddilys yw gwybodaeth resymegol sydd yn y cyd-destun cywir
  • pa grwpiau o ddisgyblion, yn ystadegol, sy'n wynebu risg o dangyflawni

Cynnwys gorfodol ar gyfer ysgolion arbennig:

Mae'n ofynnol i ysgolion arbennig gofnodi a dadansoddi i ba raddau y mae disgyblion yn cyflawni eu nodau dysgu unigol, a dylai llywodraethwyr ddisgwyl i'r ysgol ddarparu gwerthusiad o hyn. Ar sail anghenion mwy penodol unigolion, bydd yr ysgol hefyd yn cofnodi i ba raddau y mae disgyblion yn gwneud y canlynol:

  • datblygu ymddygiad aeddfed a phriodol
  • dysgu sut i ddefnyddio dyfeisiau a systemau cyfathrebu i oresgyn rhwystrau i ddysgu
  • meithrin sgiliau bywyd pwysig
  • meithrin sgiliau llythrennedd a rhifedd
  • mynychu'r ysgol
  • mynychu lleoliadau mwy cynhwysol ac sy'n briodol o ran oedran
  • datblygu annibyniaeth
  • ennill cymwysterau achrededig (sy'n addas i'w hanghenion)
  • rhaid i'r rhaglen hyfforddi ar gyfer llywodraethwyr ysgolion arbennig gynnwys y meysydd canlynol:
    • cymwysterau achrededig lle y bo'n briodol. Defnyddir amrywiaeth eang o gyrsiau ar draws ysgolion arbennig yng Nghymru. Ymhlith yr enghreifftiau mae ASDAN (cynradd ac uwchradd), Edexcel (cynradd ac uwchradd), TGAU Lefel Mynediad, Lefel 1 City and Guilds, Lefel 1 B Tech

Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014

Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014

Mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu lunio cynlluniau datblygu ysgolion er mwyn arfer eu cyfrifoldeb am gynnal ysgol a gynhelir gyda'r nod o hyrwyddo safonau uchel o gyflawniad addysgol, a bydd hyn yn parhau. Mae'r cynllun datblygu ysgol yn weithredol dros gyfnod o dair blynedd. Mae'n ofynnol i gyrff llywodraethu ddiwygio'r cynllun bob blwyddyn, ac yn dilyn arolygiad gan Estyn.

Mae mwy o ganllawiau ar gynlluniau datblygu ysgolion ar gael.

Rhaid i’r corff llywodraethu lunio crynodeb o gynllun datblygu’r ysgol, i gwmpasu’r meysydd isod.

Strategaethau gwella

  • Blaenoriaethau gwella'r ysgol ar gyfer y flwyddyn ysgol gyfredol a'r. blaenoriaethau ar gyfer y ddwy flwyddyn ysgol yn dilyn y flwyddyn ysgol gyfredol
  • Rhaid i'r corff llywodraethu hefyd ystyried y blaenoriaethau cenedlaethol.

Targedau gwella, canlyniadau disgwyliedig a strategaeth yr ysgol

  • Datganiad byr yn nodi targedau gwella a chanlyniadau disgwyliedig yr ysgol, ynghyd â strategaeth y corff llywodraethu i gyrraedd y targedau hynny.

Strategaeth (dysgu) proffesiynol

  • Manylion strategaeth y corff llywodraethu ar gyfer y flwyddyn ysgol gyfredol o ran sut y bydd yn datblygu dysgu (proffesiynol) staff yr ysgol ymhellach er mwyn cyrraedd targedau gwella'r ysgol.

Gweithio gyda'r gymuned

  • Manylion am y ffordd y bydd y corff llywodraethu yn ceisio cyrraedd targedau gwella'r ysgol ar gyfer y flwyddyn ysgol gyfredol drwy weithio gyda:

    (a) disgyblion yn yr ysgol a'u teuluoedd
    (b) pobl sy'n byw ac yn gweithio yn ardal yr ysgol.

Staff ac adnoddau'r ysgol

  • Manylion am y ffordd y bydd y corff llywodraethu yn gwneud y defnydd gorau posibl o staff ac adnoddau'r ysgol (gan gynnwys ei hadnoddau ariannol) er mwyn cyrraedd targedau gwella'r ysgol ar gyfer y flwyddyn ysgol gyfredol.

Targedau blaenorol

  • Datganiad byr yn nodi i ba raddau y llwyddwyd i gyrraedd targedau gwella'r ysgol yn ystod y flwyddyn ysgol flaenorol a lle na lwyddwyd i'w cyrraedd, esboniad byr o'r rhesymau dros y methiant hwnnw.

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2011

Mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion a gynhelir ddarparu gwybodaeth i awdurdodau lleol am ddisgyblion unigol, fel y'i pennir gan Weinidogion Cymru. Mae'r rheoliadau'n cefnogi'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD), sy'n orfodol i bob sector ysgol.

Rheoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion (Cymru) 2011

Rheoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion (Cymru) 2011

Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu gofynion mewn perthynas â chynnal cofnodion cwricwlaidd ac addysgol ac yn darparu ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth yn ddiogel drwy'r System Drosglwyddo Gyffredin pan fydd disgyblion yn newid ysgolion.

Defnyddir y System Drosglwyddo Gyffredin i drosglwyddo cofnod disgybl yn electronig pan fydd yn symud o un ysgol i'r llall. Mae defnyddio'r system hon yn lleihau baich gweinyddol casglu data ac yn cynyddu cywirdeb a dilyniant cofnodion. Mae hefyd yn helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu rhwymedigaethau i nodi ac atal disgyblion rhag mynd ar goll o addysg drwy hwyluso'r broses o dynnu sylw at gofnodion pan fydd disgyblion yn gadael un ysgol ac nad ydynt yn cofrestru mewn ysgol arall yn ôl pob golwg.

Rhaid i'r Ffeil Drosglwyddo Gyffredin gynnwys y wybodaeth ofynnol ganlynol am y disgybl(ion) unigol, o leiaf:

  • Rhif Unigryw'r Disgybl
  • gan gynnwys unrhyw Rif Unigryw a/neu Rif Unigryw blaenorol
  • Rhif Unigryw'r Dysgwr os yw ar gael
  • cyfenw
  • enw(au) cyntaf
  • dyddiad geni
  • rhyw
  • ethnigrwydd a manylion y sawl a ddarparodd y wybodaeth am grŵp ethnig y disgybl
  • hunaniaeth genedlaethol (mae gwybodaeth am ethnigrwydd a hunaniaeth genedlaethol yn ofynnol i bob dysgwr dros 5 oed)
  • iaith gyntaf
  • lefel rhuglder yn y Gymraeg
  • p'un a yw'n siarad Cymraeg gartref ai peidio
  • manylion y sawl a ddarparodd y wybodaeth am ruglder y disgybl yn y Gymraeg a'i ddefnydd o'r Gymraeg gartref
  • cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim
  • os yw disgybl yn dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol, manylion am lefel y broses caffael iaith
  • os oes gan blentyn anghenion addysgol arbennig ac, os felly
  • cadarnhad o'r prif angen a nodwyd ac unrhyw anghenion eilaidd a nodwyd
  • y math o ddarpariaeth AAA sy'n rhan o'r ymagwedd raddedig a fabwysiadwyd yn unol â “Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru”
  • dangosydd o ran a yw disgybl yn derbyn gofal gan awdurdod lleol ac, os felly, enw'r awdurdod lleol
  • cyfeiriad preswylfa arferol y disgybl
  • cyfenw o leiaf un enw cyswllt ar gyfer y disgybl a manylion ei gydberthynas â'r disgybl
  • dangosydd o ran lle mae gwybodaeth feddygol yn bodoli a all fod yn berthnasol i ysgol newydd y disgybl
  • cyfanswm nifer:
    • sesiynau’r flwyddyn ysgol hyd y pwynt pan nad yw’r disgybl wedi’i gofrestru mwyach yn yr hen ysgol
    • sesiynau o’r fath yn ystod y flwyddyn ysgol a fynychwyd gan y disgybl
    • absenoldebau awdurdodedig ac anawdurdodedig y disgybl (yn ystyr Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010) yn ystod y flwyddyn ysgol
  • rhif yr ALl a rhif yr ysgol (yr hen a’r newydd)

Gofynion yn ymwneud â chofnodion addysgol a chwricwlaidd

Mae'r cofnod cwricwlaidd yn gofnod ffurfiol o gyflawniadau academaidd, sgiliau, galluoedd a chynnydd disgybl. Rhaid iddo gael ei ddiweddaru o leiaf unwaith y flwyddyn. Mae'r cofnod addysgol yn gofnod o unrhyw wybodaeth, gan gynnwys y cofnod cwricwlaidd, sy'n ymwneud â'r disgybl, ar wahân i wybodaeth a broseswyd gan athrawon unigol at eu diben nhw eu hunain yn unig.

Pryd bynnag yr ystyrir derbyn disgybl newydd i ysgol (gan gynnwys i ysgol annibynnol), neu i goleg addysg bellach neu unrhyw leoliad addysg neu hyfforddiant arall, rhaid i’r pennaeth drosglwyddo cofnod addysgol y disgybl, yn rhad ac am ddim o fewn pymtheg diwrnod ysgol ar ôl derbyn y cais. Ni chaiff y cofnod gynnwys canlyniadau unrhyw asesiad o gyflawniadau’r disgybl.

Pan fydd disgybl yn symud i ysgol arall, bydd yn ofynnol i’r pennaeth:

  • drosglwyddo'r cofnod addysgol cyflawn i'r ysgol newydd. Gellir trosglwyddo'r wybodaeth yn electronig, ar bapur, neu mewn cyfuniad o fformatau
  • darparu copi o gofnod addysgol disgybl i riant y disgybl o fewn 15 diwrnod ar ôl cael cais ysgrifenedig amdano. Gellir codi tâl am ddarparu'r copi heb fod yn fwy na chost ei gyflenwi
  • darparu copi o'r cofnod addysgol (ac eithrio gwybodaeth am ganlyniadau unrhyw asesiad o gyflawniadau'r disgybl) i ysgol, coleg AB neu leoliad addysg neu hyfforddiant arall sy'n ystyried derbyn y disgybl, o fewn 15 diwrnod ysgol

Mae mwy o ganllawiau ar drosglwyddo a chadw cofnodion disgyblion ar gael.

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant sy’n cael eu Haddysg drwy Ddarpariaeth Amgen) (Cymru) 2009

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant sy’n cael eu Haddysg drwy Ddarpariaeth Amgen) (Cymru) 2009

Mae’r Rheoliadau hyn yn ymwneud â darparu gwybodaeth am blant sy’n cael addysg a gyllidir gan awdurdod lleol y tu allan i ysgolion prif-ffrwd, y cyfeirir atynt fel rheol fel ‘darpariaeth amgen’. Mae hyn yn cynnwys addysg heblaw yn yr ysgol, addysg mewn ysgol annibynnol neu mewn uned cyfeirio disgyblion.

Mae’r rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i’r sawl sy’n cynnig darpariaeth amgen roi gwybodaeth benodol i Weinidogion Cymru a’r awdurdod lleol sy’n cyllido’r addysg, pan ofynnir iddynt wneud hynny.

Gofyniad i ddarparu gwybodaeth ar lefel unigol i Weinidogion Cymru

Mae’r rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i’r sawl sy’n cynnig darpariaeth amgen roi gwybodaeth ar lefel unigol i Weinidogion Cymru, fel a ganlyn.

Y wybodaeth ganlynol am y plentyn:

  • rhif unigryw cyfredol y disgybl (os yw’n berthnasol)
  • ei gyfenw
  • ei enw cyntaf, neu os oes ganddo fwy nag un, bob enw cyntaf
  • ei enw canol, neu os oes ganddo fwy nag un, bob enw canol
  • ei ryw
  • ei ddyddiad geni
  • ei grŵp ethnig a ffynhonnell y wybodaeth hon
  • ei hunaniaeth genedlaethol a ffynhonnell y wybodaeth hon
  • ym mha grŵp blwyddyn o fewn y cwricwlwm cenedlaethol y byddai’r plentyn yn cael ei addysgu pe bai wedi’i gofrestru mewn ysgol a gynhelir
  • cod post y cartref lle mae’r plentyn yn byw fel rheol
  • p’un a yw’r plentyn wedi gwneud cais am brydau ysgol am ddim, a ph’un a bennwyd ei fod yn gymwys
  • p’un a oes gan y plentyn anghenion addysgol arbennig ac, os felly, cadarnhad o:
    • y prif angen ac unrhyw angen eilaidd a nodwyd
    • y lefel a’r math o ddarpariaeth ar gyfer anghenion addysgol arbennig sy’n rhan o ddull graddol “Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru”, a gyhoeddwyd o dan adran 313 o Ddeddf 1996, ac a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2002, sy’n cael ei chynnig i’r plentyn.
  • p’un a yw’r plentyn yn cael gofal gan yr awdurdod lleol perthnasol
  • Y math o ddarpariaeth a gyllidir y mae’n ei mynychu, hynny yw:
    • uned cyfeirio disgyblion
    • ysgol annibynnol
    • ysbyty (heb gynnwys ysgol a sefydlwyd mewn ysbyty)
    • lleoliad gwahanol i’r uchod, ac os felly, disgrifiad byr o’r math o ddarpariaeth
  • y math o ddarpariaeth a gyllidir a fynychwyd gan y plentyn, a nifer yr oriau o ddarpariaeth a gyllidir a gafodd y plentyn yn ystod yr wythnos cyn cais Gweinidogion Cymru.

Gofyniad i ddarparu gwybodaeth ar lefel unigol i’r awdurdod lleol perthnasol

Mae’r rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol, o fewn 14 diwrnod i gael cais ysgrifenedig gan yr awdurdod lleol perthnasol, i’r sawl sy’n cynnig darpariaeth amgen roi’r wybodaeth isod iddynt:

Y wybodaeth ganlynol am y plentyn:

  • rhif unigryw cyfredol y disgybl (os yw’n berthnasol)
  • ei gyfenw
  • ei enw cyntaf, neu os oes ganddo fwy nag un, bob enw cyntaf
  • ei enw canol, neu os oes ganddo fwy nag un, bob enw canol
  • ei ryw
  • ei ddyddiad geni
  • ei grŵp ethnig a ffynhonnell y wybodaeth hon
  • ei hunaniaeth genedlaethol a ffynhonnell y wybodaeth hon
  • ym mha grŵp blwyddyn o fewn y cwricwlwm cenedlaethol y byddai’r plentyn yn cael ei addysgu pe bai wedi’i gofrestru mewn ysgol a gynhelir.
  • cod post y cartref lle mae’r plentyn yn byw fel rheol
  • o’un a yw’r plentyn wedi gwneud cais am brydau ysgol am ddim, a ph’un a bennwyd ei fod yn gymwys
  • p’un a oes gan y plentyn anghenion addysgol arbennig ac, os felly, cadarnhad o:
    • y prif angen ac unrhyw angen eilaidd a nodwyd
    • y lefel a’r math o ddarpariaeth ar gyfer anghenion addysgol arbennig sy’n rhan o ddull graddol “Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru”, a gyhoeddwyd o dan adran 313 o Ddeddf 1996, ac a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2002, sy’n cael ei chynnig i’r plentyn.
  • p’un a yw’r plentyn yn cael gofal gan yr awdurdod lleol perthnasol
  • y math o ddarpariaeth a gyllidir y mae’n ei mynychu, hynny yw:
    • uned cyfeirio disgyblion
    • ysgol annibynnol
    • ysbyty (heb gynnwys ysgol a sefydlwyd mewn ysbyty)
    • lleoliad gwahanol i’r uchod, ac os felly, disgrifiad byr o’r math o ddarpariaeth.

Adroddiad i rieni

Mae’r rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol, bob blwyddyn ysgol, i’r athro sy’n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion a pherchennog ysgol annibynnol ddarparu adroddiad ysgrifenedig i riant pob plentyn o oedran ysgol gorfodol y mae’n cynnig darpariaeth a gyllidir iddynt, yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

  • Manylion cryno cyflawniadau ym mhob pwnc a gweithgaredd a oedd yn rhan o’r cwricwlwm
  • Sylwadau am gynnydd cyffredinol y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol
  • Manylion trefniadau trafod yr adroddiad ag athrawon y plentyn
  • Crynodeb o gofnod presenoldeb y plentyn yn ystod y cyfnod y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef, gan gynnwys nifer yr absenoldebau awdurdodedig ac anawdurdodedig (yn ystyr Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010) a nifer y dyddiau presenoldeb posibl
  • Canlyniadau unrhyw asesiad gan athro
  • Enw unrhyw bwnc y cofrestrwyd y plentyn ar ei gyfer i ennill cymhwyster allanol cymeradwy, a’r radd (os o gwbl) a enillwyd
  • Cyfartaledd nifer y pwyntiau a sgoriwyd gan y plentyn mewn arholiadau pynciau o’r fath y cofrestrwyd y disgybl ar eu cyfer
  • Manylion unrhyw uned neu gredyd tuag at gymwysterau o’r fath a enillwyd/gwblhawyd gan y plentyn yn ystod y cyfnod y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef.

Gellir darparu’r wybodaeth hon mewn mwy nag un adroddiad cyn belled â’i bod yn cael ei hanfon bob blwyddyn ysgol drwy’r post neu drwy ddull arall cyn diwedd tymor yr haf.

Troednodyn

[1] Lle mae cwricwlwm wedi’i fabwysiadu neu wedi’i ddarparu yn unol â Deddf Cwrciwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.