Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams wedi diolch rheolwyr busnes ysgolion ledled Cymru am eu rôl yn lleihau llwyth gwaith penaethiaid

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gan annerch cynhadledd Sefydliad Arweinyddiaeth Busnes mewn Ysgolion (ISBL) yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg:

“Mae angen i athrawon a phenaethiaid allu canolbwyntio ar y rôl y maen nhw wedi paratoi orau i’w chyflawni, y rôl y cawsant eu hyfforddi i’w chyflawni a’r rôl wnaeth eu hysgogi i fynd yn athrawon yn y lle cyntaf.

“Mae llawer o bethau yn gallu dod ar eu traws a bydd athrawon yn dweud wrtha i yn gyson am y pwysau sydd arnyn nhw oherwydd y llwyth gwaith.

“Ry’n ni wedi gwrando a dyna pam, y llynedd, y cyhoeddais y byddwn yn neilltuo swm o £642,000 ar gyfer y prosiect Rheolwyr Busnes Ysgolion.

“Ar y cyd ag arian cyfatebol gan Awdurdodau Lleol, mae hyn yn golygu bod dros £1.2 miliwn ar gael ar gyfer cynlluniau peilot mewn un ardal ar ddeg.

“Nod y prosiect yw helpu penaethiaid i reoli eu llwyth gwaith a chanolbwyntio ar godi safonau a gwella ysgolion.

“Mae’r cynlluniau peilot yn cefnogi dros 100 o ysgolion ar hyn o bryd gyda chymorth penodol ar gyfer penaethiaid ac athrawon.

“Ry’n ni eisoes yn gweld canlyniadau calonogol gyda’r rheolwyr busnes yn rhyddhau amser penaethiaid drwy weithio ar feysydd megis Adnoddau Dynol, Cyllid, Archwilio, Rheoli Cyfleusterau a materion yn ymwneud â Chaffael.”

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Addysg:

“Mae lleihau’r llwyth gweinyddol ar benaethiaid yn un o’r mesurau ry’n ni’n eu cyflwyno i gryfhau’r proffesiwn.

“Mae athrawon hefyd yn dweud wrtha i am broblemau sy’n eu hwynebu wrth addysg dosbarthiadau mawr. Yn ystod tymor y Cynulliad hwn felly, byddwn yn sicrhau bod £35 miliwn ar gael i leihau maint dosbarthiadau babanod.

“Mae safonau proffesiynol newydd ar gyfer athrawon ac arweinyddiaeth hefyd wedi’u datblygu gyda’r proffesiwn ac ar gyfer y proffesiwn ac mae Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol yn cael ei sefydlu i gefnogi’r holl arweinwyr ym maes addysg drwy gydol eu gyrfa.

“Mae’r mesurau hyn, ar y cyd â’n hymdrechion i leihau’r llwyth gwaith, yn rhan allweddol o’n cenhadaeth genedlaethol i godi safonau, lleihau’r bwlch mewn cyrhaeddiad a chyflwyno system addysg sy’n destun balchder cenedlaethol a hyder ymhlith y cyhoedd.”