Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru
Gwybodaeth am Restr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru, gan Gomisiynydd y Gymraeg
Comisiynydd y Gymraeg sy’n gyfrifol am argymell ffurfiau safonol enwau lleoedd Cymru.
Am gyfnod, tra bu gwefan newydd Comisiynydd y Gymraeg yn cael ei chreu, bu Llywodraeth Cymru yn lletya’r Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol ar y dudalen hon ar wefan BydTermCymru.
Erbyn hyn mae gwefan Comisiynydd y Gymraeg yn weithredol, ac mae’r Rhestr bellach yn cael ei chynnal ar y wefan honno. Ni fydd y Rhestr yn cael ei chynnal ar BydTermCymru o hyn allan.
Ewch draw i wefan y Comisiynydd i gael gafael ar y fersiwn ddiweddaraf ar y Rhestr, a rhowch y dudalen honno yn eich ffefrynnau.