Neidio i'r prif gynnwy

Data cryno ar gleifion byw ar y rhestr o Gleifion a Warchodir yng Nghymru ar 1 Mehefin 2020.

Ystadegau’r cleifion byw ar y rhestr o’r cleifion a warchodir gan gynnwys:

  • nifer y bobl a warchodir yn ôl awdurdod lleol ac grŵp oedran
  • nifer y bobl a warchodir yn ôl bwrdd iechyd lleol a grŵp oedran

Mae’r data cryno dienw wedi’u cyhoeddi i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y boblogaeth a warchodir yng Nghymru a byddant yn cael eu diweddaru pan fydd newidiadau o bwys i’r Rhestr o Gleifion a Warchodir. Bydd pob rhestr yn seiliedig ar fersiwn ddiweddaraf y Rhestr o Gleifion a Warchodir fel y’i diffiniwyd gan fethodoleg Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru.

Mae’r set ddata yn cynnwys data rhanbarthol a lleol i ganiatáu ar gyfer dadansoddi, modelu a chynllunio i gynorthwyo gyda'r ymateb i’r pandemig coronafeirws.

Daw'r data o wybodaeth reoli ac mae'n agored i'w newid. Nid ydynt wedi cael yr un prosesau dilysu ag a ddefnyddiwyd wrth ryddhau ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, fe'u darperir i gefnogi tryloywder a dealltwriaeth o faint y rhestr o Gleifion a Warchodir yng Nghymru.

Am wybodaeth am warchod, yn cynnwys cyngor os credwch y dylech gael eich ychwanegu at y rhestr, cyfeiriwch at: Canllawiau ar ddiogelu pobl a ddiffinnir ar sail feddygol fel rhai eithriadol o agored i niwed yn glinigol yn sgil y coronafeirws (COVID-19) – y cynllun ‘gwarchod’ gynt. Ar gyfer ymholiadau sy'n ymwneud â gwarchod (nad ydynt yn ystadegol) cysylltwch â gwarchod@llyw.cymru.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Rhestr o Gleifion a Warchodir yng Nghymru yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19): ar 1 Mehefin 2020 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 18 KB

ODS
18 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.