Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiad yn rhoi tystiolaeth ynglŷn ag i ba raddau y mae rhieni ag anabledd dysgu yn ymwneud â’r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol plant neu’n cael eu gor-gynrychioli o fewn y gwasanaethau hynny.

I ba raddau mae rhieni ag anabledd dysgu yng Nghymru yn ymwneud â Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Plant neu’n cael eu gor-gynrychioli o fewn y Gwasanaethau hynny?

  • Does dim digon o wybodaeth am nifer y plant sydd â rhieni ag anabledd dysgu sy’n ymwneud â’r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Plant i seilio barn.
  • Un o’r prif resymau dros hyn ydy diffyg diffiniad a chanllawiau cenedlaethol digon clir i Wasanaethau Gofal Cymdeithasol Plant.

Beth ydy’r ffactorau sy’n gyrru patrymau ymglymiad rhieni ag anabledd dysgu gyda Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Plant?

  • Prin mai anabledd dysgu ydy’r unig bryder a’r unig reswm dros gyfeirio rhieni at Wasanaethau Gofal Cymdeithasol Plant ac i blant dderbyn gofal.
  • Mae’n anodd i nodi prif ffactor mewn achosion sydd fel arfer yn gymharol gymhleth. Ymhlith ffactorau cyffredin eraill mae nodweddion rhieni neu deuluol a allai hefyd beri risgiau.
  • Mae’n glir bod systemau sy’n annog rhoi rhieni newydd ar y 'llwybr cyflym' i mewn i Wasanaethau Gofal Cymdeithasol Plant yn gosod rhai rhieni dan anfantais.

Pa dystiolaeth sydd yn bodoli o arferion da ar hyd taith ymyriad Gwasanaethau Plant a chymorth ehangach i rieni ag anabledd dysgu?

  • Er y ceir pocedi o arferion da, mae llawer o le i wella.
  • Mae canfyddiadau’r astudiaeth yn awgrymu y gellid gwneud mwy i wella dealltwriaeth genedlaethol o brofiad rhieni yn y maes hwn yn ogystal â’r gwasanaethau cymorth ar draws Cymru.

Adroddiadau

Ymchwil i’r nifer o blant yng Nghymru a roddwyd mewn gofal oddi ar rieni ag anabledd dysgu a rhesymau dros eu symud , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymchwil i’r nifer o blant yng Nghymru a roddwyd mewn gofal oddi ar rieni ag anabledd dysgu a rhesymau dros eu symud: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 611 KB

PDF
611 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Janine Hale

Rhif ffôn: 0300 025 6539

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.