Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Yn aml iawn bydd gofyn i ysgolion ddelio â rhieni plant. Gall hyn arwain at gymhlethdod ynghylch pwy yn union yw rhieni plentyn, ac fe gymhlethir pethau ymhellach pan fo anghydfod ymysg nifer o oedolion sy’n hawlio fod ganddynt hwy gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

Mae’r canllawiau hyn yn diffinio “rhiant”, “cyfrifoldeb rhiant” a “bod â gofal am blentyn” er dibenion Deddf Addysg 1996 ac yn cynghori ysgolion ar sut i’w weithredu. Hefyd, mae’n darparu amlinelliad o orchmynion llys perthnasol a chyngor ar bwy y dylai ysgolion gynnwys mewn materion sy’n trafod addysg disgybl a materion eraill yn yr ysgol.

Serch hynny, bwriad y cylchlythyr hwn yw bod yn ganllaw ac ni ddylid ei ystyried fel datganiad llwyr ac awdurdodol o’r gyfraith - mater i’r llysoedd yw hynny.

Pwy sydd yn “rhiant”?

Mae’r diffiniad o “rhiant” yn Adran 576 o Ddeddf Addysg 1996 yn cynnwys:

  • y rhieni naturiol, pa un a ydynt yn briod ai peidio
  • unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn neu berson ifanc, er nad yw’n rhiant naturiol
  • unrhyw berson, er nad yw’n rhiant naturiol nac yn berson â chyfrifoldeb rhiant, sydd â gofal am blentyn neu berson ifanc

Dylid dehongli unrhyw gyfeiriad at “rhiant” yn y Cylchlythyr hwn yn union fel y dehongliad uchod o “rhiant” o dan Ddeddf Addysg 1996.

Dylid nodi serch hynny, yng nghyd-destun etholiadau rhiant-lywodraethwr a chyfarfodydd blynyddol i’r rhieni, diffinnir “rhiant” yn y fath fodd fel na chynhwysir rhiant nad yw’n unigolyn er enghraifft, pan fo gan awdurdod lleol gyfrifoldeb rhiant dros blentyn, yn rhinwedd adran 33 o Ddeddf Plant 1989.

Beth a olygir wrth “cyfrifoldeb rhiant”?

Diffinnir “cyfrifoldeb rhiant” yn Neddf Plant 1989 a golyga’r holl hawliau, y dyletswyddau, y pwerau, y cyfrifoldebau a’r awdurdod sydd, yn unol â’r gyfraith, gan riant plentyn mewn perthynas â’r plentyn a’i eiddo. Nodir yn Neddf Plant 1989, os nad yw rhieni plentyn yn briod adeg genedigaeth y plentyn, mai’r fam fydd â chyfrifoldeb rhiant yn awtomatig. Serch hynny, gall y tad gael cyfrifoldeb rhiant drwy nifer o wahanol sianelau cyfreithiol. Yr achos bellach (yn dilyn deddfiad y Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002) yw y bydd tad sydd wedi ei enwi ar y dystysgrif geni a marwolaethau yn cael cyfrifoldeb rhiant yn awtomatig hefyd. Yn ogystal, gall ‘llys-rieni’ (sy’n cynnwys partneriaid sifil) gael cyfrifoldeb rhiant, er enghraifft drwy wneud cytundeb gyda rhiant â chyfrifoldeb rhiant.

Gall pobl ar wahân i rieni naturiol y plentyn gael cyfrifoldeb rhiant drwy:

  • gael gorchymyn preswylio
  • cael eu penodi’n warcheidwaid
  • cael eu henwi mewn gorchymyn diogelu brys (er yn yr achos hwn mae cyfrifoldeb rhiant wedi ei gyfyngu i gymryd camau rhesymol i ddiogelu neu hybu lles plentyn)
  • mabwysiadu plentyn

Gall awdurdod lleol, yn unol ag adran 33 Deddf Plant 1989, gael cyfrifoldeb rhiant os enwyd yr awdurdod mewn gorchymyn gofal ar gyfer plentyn, er yn yr achos hwn gall unrhyw berson sydd yn rhiant naturiol neu’n warcheidwad gadw cyfrifoldeb rhiant a’i arfer oni bai fod yr awdurdod wedi cyfyngu’r graddau y gallant wneud hynny. Gellir gosod cyfyngiadau o’r fath os oes angen er mwyn diogelu neu hyrwyddo lles plentyn, a gall ymwneud â chyswllt rhiant â’r plentyn neu ganiatâd i driniaeth feddygol y plentyn.

Serch hynny, nid oes gan awdurdod lleol gyfrifoldeb rhiant dros blentyn pan fo plentyn yn ‘lletya’ gyda’r awdurdod o dan gytundeb ar y cyd a wnaethpwyd rhwng yr awdurdod a rhieni naturiol y plentyn. Yn yr amgylchiadau hynny mae’r cyfrifoldeb rhiant yn aros gyda’r rhieni naturiol.

Nid yw gofalwr gwreiddiol plentyn yn colli eu cyfrifoldeb rhiant mewn unrhyw un o’r achosion a nodwyd eisoes oherwydd bod person arall wedi cael cyfrifoldeb rhiant. Felly, mae’n ddigon posibl, mewn rhai achosion ystyrir bod gan nifer o bobl “gyfrifoldeb rhiant” am blentyn.

A oes unrhyw orchmynion llys yn delio’n benodol â chyfrifoldeb rhiant?

Mae gorchmynion llys yn delio’n benodol â chyfrifoldeb rhiant o dan adran 8 o Ddeddf Plant 1989 ynghylch anghydfodau am fagwraeth plentyn, ac fe allant gyfyngu ar gyfrifoldeb rhiant. Mae yna ddau fath o orchymyn sy’n delio’n benodol â chyfrifoldeb rhiant sef:

  • gorchymyn camau a waherddir - mae’r gorchymyn hwn yn atal unigolyn yn benodol rhag arfer cyfrifoldeb rhiant ac fe olyga efallai y bydd angen caniatâd llys er mwyn cymryd rhai camau o fewn cwmpas arferol cyfrifoldeb rhiant cyn y gellir eu harfer
  • gorchymyn mater penodol - ymateb yw hwn a anelir yn bennaf at fater neu gwestiwn penodol sydd wedi codi ac y mae angen penderfyniad gan y llys er mwyn ei ddatrys

Yn ogystal mae dau fath arall o orchymyn cyffredinol:

  • gorchymyn preswylio - mae hwn yn nodi lle a gyda phwy y dylai plentyn breswylio ac, os na wnaethpwyd hynny eisoes, mae’n rhoi cyfrifoldeb rhiant i’r deiliad
  • gorchymyn cyswllt - mae hwn yn rhoi cyfarwyddyd i berson sydd â phlentyn yn byw gyda nhw ganiatáu i berson arall gysylltu â’r plentyn naill ai drwy ymweliadau, drwy lythyr neu dros y ffôn

Gall llys hefyd wneud gorchymyn gofal, gan roi cyfrifoldeb rhiant i’r awdurdod lleol os ydynt o’r farn y bydd o les i’r plentyn. Pan fydd gorchymyn o'r fath yn cael ei wneud, bydd y rhieni naturiol neu’r gwarcheidwaid yn cadw’u cyfrifoldeb rhiant am y plentyn, er y gall yr awdurdod lleol gyfyngu ar y graddau y gallant arfer eu cyfrifoldeb os oes angen gwneud hynny er mwyn diogelu neu hyrwyddo lles y plentyn.

Beth a olygir wrth fod â “gofal” am blentyn?

Mae gan berson “ofal” am blentyn os yw’r person hwnnw yn byw gyda'r plentyn ac yn gofalu amdano, ni waeth beth fo’r berthynas rhyngddynt a’r plentyn. Ystyrir y person hwnnw yn “rhiant” er dibenion Deddf Addysg 1996, er efallai nad oes gan y person hwnnw gyfrifoldeb rhiant am y plentyn.

Beth sydd angen i ysgolion ei wneud?

Y rheol gyffredinol yw, mae gan bawb sydd yn “rhiant” (fel y'i diffiniwyd yn yr adran uchod - Pwy sydd yn “rhiant”?) yr hawl i gyfrannu at benderfyniadau ynghylch addysg plentyn er efallai nad dyma’r person y bydd yr ysgol yn cysylltu ag ef o ddydd i ddydd. Dylai ysgolion ac awdurdodau addysg lleol drin pob rhiant yn gyfartaloni bai fod gorchymyn llys yn cyfyngu ar hawl yr unigolyn i arfer cyfrifioldeb rhiant.

Mae gan bawb sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn, neu sy’n gofalu am blentyn, yr un hawliau â rhieni naturiol mewn perthynas ag addysg plentyn, er enghraifft i wneud y canlynol:

  • mynegi’r hyn a ffefrir wrth ddewis ysgol neu wneud cais i newid ysgol y plentyn, a rhoi rhesymau dros hynny. Rhaid i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu gydymffurfio â’r dewis a ffefrir, yn ddarostyngedig i’r eithriadau a nodir yn adran 2.1 o’r cod derbyn i ysgolion
  • derbyn gwybodaeth oddi wrth yr ysgol megis copïau o adroddiadau disgyblion a threfniadau i’w trafod gydag athrawon, cofnodion presenoldeb ac adroddiad blynyddol y llywodraethwyr
  • cymryd rhan mewn gweithgareddau megis pleidleisio mewn etholiadau ar gyfer rhiant-lywodraethwyr
  • cael yr hawl i roi’r caniatâd sydd ei angen ar gyfer gweithgareddau allgyrsiol. Serch hynny, efallai na fydd hi’n bosibl i’r rhai hynny sydd â “gofal” am blentyn roi caniatâd ar gyfer rhai gweithgareddau, er enghraifft, plentyn yn mynd ar daith y tu allan i’r DU
  • cael yr hawl i roi caniatâd cyn i ysgol gymryd a phrosesu data biometrig y plentyn at ddibenion system adnabod biometreg awtomataidd
  • cael eu hysbysu am gyfarfodydd sy’n ymwneud â’r plentyn megis cyfarfod o’r llywodraethwyr mewn perthynas â gwahardd plentyn o’r ysgol

Beth am faterion gweinyddol?

Dylai penaethiaid ysgol ofyn am enw a chyfeiriad pob rhiant wrth iddynt gofrestru plentyn. Rhaid cynnwys y manylion hyn ar y Gofrestr Derbyn ac ar gofnodion y disgyblion, boed y rheini ar bapur neu ar gyfrifiadur, a sicrhau eu bod ar gael ar gyfer athrawon y disgybl.

Dylid nodi unrhyw wybodaeth am orchmynion llys ar gofnodion disgybl fel y gellir cyfeirio ati ar achlysuron megis: pan fo angen caniatâd rhiant; pan fo'r plentyn yn sâl; neu ar achlysuron eraill megis pan fydd rhiant yn casglu plentyn o’r ysgol pan na ddylai wneud hynny (er enghraifft, pan fo'r plentyn yng ngofal yr awdurdod lleol ac y dylai rhieni maeth ei gasglu).

Dylai ysgol fod yn ofalus iawn ynghylch newid eu cofnodion yn dilyn cais i newid cyfenw plentyn. Yn gyfreithiol ni ellir gwneud hyn heb ganiatâd pawb arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn. Dim ond ar achlysuron pan fo’r plentyn wedi bod yn achos gorchymyn preswylio neu orchymyn gofal y mae gwir angen caniatâd ysgrifenedig, er fe’i hanogir ym mhob achos.

Os nad yw ysgol yn ymwybodol o leoliad rhiant sy’n byw ar wahân i’r plentyn yna dylai sicrhau bod y rhiant sydd yn byw gyda’r plentyn yn ymwybodol o hawliau’r rhiant sydd yn byw ar wahân i’r plentyn i fod â rhan yn addysg y plentyn, ac i ofyn bod gwybodaeth yn cael ei rhoi iddynt. Os nad yw’r rhiant sydd yn byw gyda’r plentyn yn trosglwyddo’r wybodaeth nac yn darparu manylion y rhiant sydd yn byw ar wahân i’r plentyn fel bod modd i’r ysgol gysylltu â hwy pe bai angen, yna ni all yr ysgol wneud dim mwy. Serch hynny, os bydd rhiant sydd yn byw ar wahân i’r plentyn yn cysylltu gyda’r ysgol yn gofyn am wybodaeth, dylai’r ysgol ddarparu’r wybodaeth hon yn uniongyrchol, wedi iddynt sicrhau eu hunain fod y person yn rhiant i’r plentyn.

Beth am gael caniatâd y rhiant?

Efallai y bydd ysgolion yn ansicr i ba raddau y dylent ofyn am ganiatâd rhiant mewn perthynas â gweithgareddau y tu allan i'r ysgol, megis teithiau ysgolion a phethau cyffelyb. Mae egwyddor gyffredinol ym maes deddfwriaeth addysgol y dylai plant, cyn belled â phosib, gael eu haddysgu yn unol â dymuniadau eu rhieni. Bydd hyn yn ddilys er gwaetha'r rheolau ynghylch cyfrifoldeb rhiant. Yn ngoleuni'r egwyddor gyffredinol hon, dylai'r ysgol geisio cael caniatâd gan y ddau riant os ydynt wedi gwneud cais i'r ysgol ofyn am ganiatâd y ddau ohonynt. Efallai y bydd achosion eithriadol, fodd bynnag, lle y dylid cael caniatâd gan ddim ond un rhiant, er enghraifft lle y mae pryder difrifol y gallai gofyn caniatâd gan riant penodol achosi niwed i blentyn.

Mewn achos lle y mae dau riant sydd â chyfrifoldeb rhiant yn methu â chytuno ar fater o ganiatâd, neu gytuno ar sut y dylid mynd i'r afael ag ymarfer cyfrifoldeb rhiant ar y cyd, mae dull o ddatrys hynny yn y llysoedd o dan Ddeddf Plant 1989. Defnyddir yr hyn a elwir yn "orchymyn mater penodol" fel arfer i ddelio â hyn. Os nad oes gorchymyn llys o'r fath, mae caniatâd un rhiant yn parhau i fod yn foddhaol (ynghylch mater lle bo'n rhaid cael caniatâd yn ei gylch) a gallai'r ysgol weithredu ar hynny. Fodd bynnag, gallai problemau ymarferol godi lle y mae rhieni yn anghytuno ynghylch ymarfer cyfrifoldeb rhieni a lle nad oes gorchymyn llys yn rheoleiddio'r mater dan sylw. Y rheswm dros hyn yw nad yw cyfrifoldeb un rhiant yn fwy 'dilys' nag un arall. Er enghraifft, gallai un rhiant roi caniatâd i blentyn fynd ar daith ysgol, ac mae hynny'n rhoi'r hawl i'r ysgol fynd â'r plentyn ar y daith. Fodd bynnag, fe allai'r rhiant arall, pan fydd y daith wedi dechrau, ymarfer ei g/chyfrifoldeb fel rhiant i dynnu'r plentyn oddi ar y daith. Felly dylai ysgolion yn arferol geisio cael caniatâd y ddau riant (sydd wedi gofyn i'r ysgol ymgynghori â hwy ynghylch materion sy'n gysylltiedig ag ymarfer cyfrifoldeb rhiant). Os mai dim ond un rhiant sy'n ymateb, mae caniatâd y rhiant hwnnw yn ddilys a gall yr ysgol weithredu ar hynny. Os oes anghytundeb, efallai y bydd ysgolion am geisio cael cytuneb rhwng rhieni. Os nad oes modd cytuno, y penderfyniad mwyaf diogel fyddai cymryd nad yw caniatâd wedi ei roi. Mae hyn yn diogelu'r ysgol rhag unrhyw atebolrwydd sifil, er enghraifft petai'r plentyn yn cael ei niweidio. Gall y rhiant sydd wedi rhoi caniatâd herio'r penderfyniad hwn, ac o ganlyniad bydd rhaid i'r ysgol egluro, gan fod y rhiant arall wedi mynnu bod yr ysgol yn ymgynghori â hwy, ei bod yn angenrheidiol iddi roi'r un ystyriaeth i safbwyntiau'r ddau riant. Dylid egluro hefyd yr angen i ddiogelu'r ysgol rhag camau cyfreithiol posibl, ac fe ellir awgrymu bod y rhiant yn ceisio cyngor cyfreithiol annibynnol ynghylch cael gorchymyn llys sydd yn nodi pa benderfyniadau y bydd y naill riant a'r llall yn medru eu gwneud.

O dan amgylchiadau pan fo plentyn yn sâl neu wedi cael damwain ac arno angen triniaeth feddygol frys efallai, dylai ysgolion ddilyn y darpariaethau a nodir yn y Ddeddf Plant. Mae’r ddeddf yn cynghori bod y rhai hynny sydd heb gyfrifoldeb rhiant dros blentyn ond sy’n gofalu am blentyn yn “gwneud yr hyn sydd yn rhesymol ym mhob elfen o’r achos er mwyn diogelu neu hyrwyddo lles y plentyn”. Er enghraifft, gall yr ysgol fynd â phlentyn i’r ysbyty er mwyn rhoi pwyth mewn clwyf ond byddai angen iddynt gysylltu â’r rhieni cyn gynted â phosibl. Serch hynny, pe bai angen gwneud penderfyniad ynghylch triniaeth arall byddai angen i’r ysbyty drafod hynny gyda’r rhai sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn.

Beth os oes gwrthdaro rhwng gweithred rhiant a gallu’r ysgol i weithredu er lles y plentyn?

Os yw ysgol yn teimlo bod gweithred, neu weithred arfaethedig gan riant naturiol, person sydd â chyfrifoldeb rhiant, neu ofalwr yn debygol o wrthdaro â gallu ysgol i weithredu er lles y plentyn, dylai staff geisio datrys y mater gyda’r rhiant gan geisio osgoi bod yn rhan o unrhyw wrthdaro.