Neidio i'r prif gynnwy

Mae rhieni sy’n gweithio mewn ardaloedd yng Ngwynedd ac Ynys Môn yn cael eu hannog i fanteisio ar y cynnig gofal plant arloesol sydd ar gael yn rhad ac am ddim gan y Gweinidog Plant.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd y Gweinidog yn ymweld â’r Ganolfan Gymunedol Tŷ Cegin ym Maesgeirchen, Bangor yn gynharach heddiw lle cafodd gyfle i gwrdd â staff yn gweithio ar gynnig gofal plant Llywodraeth Cymru, yn ogystal â Phlant yn Gyntaf, Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf –  y cyfan yn cefnogi ac yn bodloni anghenion plant a’u teuluoedd yn lleol.

Mae’r cynnig gofal plant gan Lywodraeth Cymru yn rhoi i rieni sy’n gweithio ac sydd â phlant 3 a 4 oed y cyfle i gael 30 awr o addysg gynnar a gofal plant di-dâl am 48 wythnos y flwyddyn.

Ym mis Medi 2017, dechreuodd Llywodraeth Cymru beilota’r cynllun mewn ardaloedd ledled Cymru, gan gynnwys ardaloedd ar Ynys Môn ac yng Ngwynedd, yn barod ar gyfer ei gyflwyno ar draws Cymru erbyn mis Medi 2020.

Dywedodd Huw Irranca-Davies:

“Mae darparu gofal plant yn rhad ac am ddim yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru i bobl Cymru.

“Rydyn ni nawr yn y broses o gyflwyno ein cynnig gofal plant arloesol ac uchelgeisiol i ardaloedd ledled Cymru - ac rydw i’n falch iawn bod ardaloedd yng Ngwynedd ac Ynys Môn ymhlith y cyntaf i fanteisio ar y cynnig.

“Mae rhieni sy’n gweithio ar draws Cymru eisoes yn dweud wrthym ei fod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w bywydau, yn lleihau’r straen ar incwm y teulu ac yn helpu i sicrhau nad yw gofal plant yn rhwystr iddynt dderbyn swydd neu gynyddu eu horiau.

“Rwyf felly am annog mwy o rieni ar draws Gwynedd ac Ynys Môn i fanteisio ar y cynnig. Rwyf hefyd am ddiolch i ddarparwyr gofal plant am eu brwdfrydedd a’u hymrwymiad i’n helpu i gyflwyno ein cynnig uchelgeisiol.”