Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Bydd teuluoedd â babanod sâl a chynamserol yng Nghymru yn cael gwell cymorth drwy raglen newydd ar gyfer gwella safonau gofal newyddenedigol ledled y wlad.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r elusen i fabanod, Bliss, wedi cael bron i £100,000 oddi wrth Lywodraeth Cymru i helpu i gefnogi teuluoedd, gwella hyfforddiant i staff, ac ymgymryd ag ymchwil i leihau anghydraddoldebau iechyd.

Bydd tua 2,800 o fabanod sâl a chynamserol, sy'n cael eu geni bob blwyddyn yng Nghymru, yn elwa ar safonau gofal gwell.

Fel rhan o'r rhaglen, bydd pob uned newyddenedigol yn gweithio tuag at gyflawni achrediad lefel Efydd o dan safonau Siarter Babanod Bliss. Mae'r safonau'n canolbwyntio ar wella canlyniadau i fabanod drwy sicrhau bod pob rhiant yn gallu chwarae rôl ystyrlon fel partner yn y gofal a ddarperir.

Mae'r Datganiad Ansawdd ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol yn argymell bod byrddau iechyd yn cadw at y safonau hyn.

Bydd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy, yn ymweld ag uned newyddenedigol Ysbyty Athrofaol Cymru heddiw (dydd Llun 29 Medi).

Dywedodd:

Mae'n bwysig iawn bod rhieni babanod sâl a chynamserol yn chwarae rhan lawn yng ngofal eu plant, ac yn cael y cyfle i aros mor agos i'w babanod â phosibl.

Mae Bliss yn gwneud gwaith gwych, a dw i'n falch o allu ariannu'r rhaglen hon i wella safonau gofal mewn unedau gofal newyddenedigol dwys ledled y wlad.

Dywedodd Caroline Lee-Davey, prif weithredwr Bliss:

Mae'n wych cael y cyllid pwysig hwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer sefydlu rhaglen gymorth bwrpasol newydd i wella canlyniadau i'r babanod mwyaf agored i niwed a'u teuluoedd.

Rydyn ni'n edrych ymlaen at gydweithio ar y rhaglen hon gyda Llywodraeth Cymru, ein cydweithwyr proffesiynol ym maes iechyd newyddenedigol, a'n partneriaid cymunedol. Rydyn ni'n gobeithio y bydd yn sicrhau newid gwirioneddol i fabanod sâl neu gynamserol.

O dan y rhaglen, bydd Bliss yn datblygu deunyddiau cymorth dwyieithog, ac yn gwella mynediad at gyfres gynhwysfawr o wybodaeth a chymorth Bliss i deuluoedd yng Nghymru. Bydd yr elusen yn canolbwyntio'n arbennig ar gyrraedd rhieni o gymunedau ethnig leiafrifol ac ardaloedd sy'n ddifreintiedig yn economaidd-gymdeithasol, sydd yn aml yn wynebu rhwystrau ychwanegol wrth geisio cael mynediad at ofal o safon.

Dywedodd Dr Ian Morris, cyfarwyddwr clinigol gwasanaethau newyddenedigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:

Rydyn ni'n falch o gefnogi lansiad rhaglen waith Bliss yng Nghymru. Mae ein timau newyddenedigol yn gweithio'n ddiflino ochr yn ochr â theuluoedd i ddarparu'r gofal gorau posibl ar gyfer babanod sâl a chynamserol, a bydd gweithio gyda Bliss yn ein helpu i sicrhau bod teuluoedd yn gwbl ganolog i'r daith honno.

Drwy weithio mewn partneriaeth â Bliss, Llywodraeth Cymru, a chydweithwyr ledled Cymru, gallwn sicrhau bod gofal sy'n canolbwyntio ar y teulu yn cael ei ddarparu mewn modd cyson ym mhob uned newyddenedigol.