Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

O heddiw [dydd Llun, 2 Chwefror] ymlaen, bydd 'bwndeli babi' - rhodd yn cynnwys eitemau hanfodol - yn dechrau cael eu dosbarthu i deuluoedd sy'n disgwyl babi yn ardaloedd Dechrau'n Deg Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mollie Young, darpar fam o Gasnewydd, fydd y cyntaf i gael bwndel. Caiff ei ddanfon fore heddiw [dydd Llun, 2 Chwefror] gan Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol.

Mae'r bwndeli babi, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys eitemau hanfodol i gefnogi rhieni newydd a'u babanod. Mae'r eitemau hyn yn cynnwys:

  • dillad 0 i 6 mis
  • blancedi
  • bibs
  • llieiniau mwslin
  • thermomedr
  • llyfr dwyieithog
  • mat chwarae

Mae'r pecynnau hefyd yn cynnwys gwybodaeth a chyngor defnyddiol ynghylch rhaglenni cymorth a magu plant.

Dywedodd Ms Young:

Cefais fy synnu pan ddywedodd fy mydwraig wrthyf y gallwn gael parsel gyda dillad babi ac eitemau eraill cyn i'r babi gyrraedd. Mae'n syniad gwych ac yn help ymarferol go iawn.

Dywedodd Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol:

Mae bwndeli babi yn gymorth gwirioneddol ac ystyrlon i deuluoedd ar adeg bwysig - ond drud yn aml - yn eu bywydau.

Dewiswyd y cynnwys ar sail yr hyn a ddywedodd rhieni wrthym yn ystod y cynllun peilot cychwynnol o ran pa eitemau fyddai'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf iddynt. Felly, rwy'n siŵr y bydd Mollie, a'r miloedd o rieni eraill a fydd yn cael bwndeli babi, wrth eu bodd â nhw.

Rwy'n hynod falch bod y gwaith sydd wedi mynd i gynhyrchu, pacio a gwireddu'r bwndeli hefyd yn cefnogi swyddi a busnesau yma yng Nghymru.

Mae teuluoedd cymwys yn cofrestru ar gyfer bwndel drwy eu bydwraig a chaiff y bwndeli eu danfon rhwng 32 a 34 wythnos o feichiogrwydd. Gall bydwragedd hefyd gofrestru nifer cyfyngedig o deuluoedd sy’n byw y tu allan i ardaloedd Dechrau’n Deg os oes angen cymorth arbennig arnynt.

Yn ogystal â chefnogi teuluoedd mewn cymunedau Dechrau'n Deg, mae'r rhaglen yn helpu i greu a chynnal swyddi a phrentisiaethau drwy ddefnyddio cyflenwyr a mentrau cymdeithasol yng Nghymru i gynhyrchu a hel ynghyd y pecynnau a’u cynnwys.

Mae bibs, hetiau, tywelion babanod a phadiau bwydo y gellir eu hailddefnyddio yn cael eu cynhyrchu gan Elite Clothing, menter gymdeithasol yng Nglynebwy, a'r pecynnau yn cael eu hel ynghyd gan Sefydliad y Deillion Merthyr Tudful. Case-UK, gwasanaeth arall o Ferthyr, sy'n ymdrin â chymorth i gwsmeriaid ac mae wedi gallu creu 5 swydd newydd (gan gynnwys dau gyfle am brentisiaeth) diolch i'r cynllun.

Dywedodd Petra Kennedy, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol, Sefydliad y Deillion Merthyr Tudful:

Mae ein sefydliad yn hynod falch o fod yn rhan o brosiect cyffrous Bwndeli Babi Cymru. Fel elusen hirsefydlog yng Nghymru, yn ogystal â helpu i ddarparu cynaliadwyedd i'n sefydliad, bydd y prosiect hwn yn cynnig cyflogaeth barhaus i'n gweithlu anabl a chyfleoedd i fwy o bobl anabl a difreintiedig ennill sgiliau a chyflogaeth.

Dywedodd Beverley Walsh, Pennaeth Gwasanaethau Busnes yn APS Group, Asiant Rheoli'r Contract Bwndeli Babi:

Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gydag elusennau lleol a phartneriaid cyflenwi i gyflwyno rhaglen Bwndeli Babi Cymru i rieni cymwys, gan greu cyfleoedd gwaith cynaliadwy a chefnogi'r economi leol yng Nghymru.