Neidio i'r prif gynnwy

Rhannu’r rhodd eithaf.

Rhoddwyr byw: Christian Amodeo

Mae Christian Amodeo (39) o Gaerdydd, y brêns tu ôl i ‘I loves the ‘Diff’, yn gwybod yn well na neb sut y gall trawsblannu organau drawsnewid ansawdd bywyd. Mae ei wraig Helena (38) wedi dioddef o broblemau ffwythiant arennau etifeddol ers iddo gyrraedd ei 20au hwyr. Ddwy flynedd yn ôl, gwaethygodd ei chyflwr, gan beri fod angen dybryd arni i gael trawsblaniad aren.

Dyma Christian i esbonio:

“Pan ddechreuodd iechyd Helena ddirywio’n sydyn iawn, gan garlamu’n anorfod at fethiant arennol llwyr, roedd hi’n ras wyllt i geisio dod o hyd i roddwr byw addas i roi aren newydd iddi hi. Fi oedd y cyntaf yn y ciw i gael fy mhrofi, ond yn anffodus doeddwn i ddim yn cydweddu’n ddigon agos i Helena.

Yna fe wnaethon ni ddarganfod y Cynllun Rhannu Arennau Rhoddwr Byw Cenedlaethol – ble rhennir arennau a roddwyd yn ddienw rhwng pobl sy’n cydweddu â’i gilydd ledled y DU. Roedden ni’n eithriadol o lwcus i ddarganfod dau gymar addas ac fe gafodd Helena’r trawsblaniad aren roedd ei angen arni mor ddybryd ym mis Tachwedd 2015. Er nad oedd fy aren i’n addas ar gyfer fy ngwraig, fe wnes i fwrw iddi o hyd i gael llawdriniaeth er mwyn rhoi un o fy arennau i rywun arall oedd yn yr un sefyllfa Helena yn rhywle arall yn y DU.

“Dim ond am ychydig o ddyddiau yr oedd y ddau ohonom yn yr ysbyty, ac fel rhoddwr aren roeddwn i wedi ailddechrau seiclo a rhedeg o fewn deufis ar ôl fy llawdriniaeth i. Mae adferiad Helena’n mynd yn dda hefyd ac mae hi’n edrych ymlaen yn fawr at ailgydio yn ei bywyd eto.

Mae dod yn rhoddwr byw yn gwneud cymaint o wahaniaeth i bobl sydd angen trawsblaniad aren, mae fy ngwraig yn dyst i hynny a baswn i’n annog eraill i feddwl yn ddwys amdano a dysgu rhagor am y broses gyda’r Uned Drawsblannu leol.”

Rhoddwyr byw - oes diddordeb gennych chi?

Dysgwch am sut i ddod yn rhoddwr byw a rhoi'r rhodd orau bosib.