Mae pobl hŷn ledled Cymru yn cael cymorth hanfodol i gynyddu eu hincwm a hawlio’r budd-daliadau sy’n ddyledus iddynt, diolch i wasanaethau cynghori a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r gefnogaeth yn cynnwys cymorth i hawlio budd-daliadau, rheoli biliau, a chael gafael ar wasanaethau, a darperir sesiynau un-i-un a sesiynau galw-i-mewn cymunedol i gyrraedd pobl a allai fod ar eu colled fel arall.
Ddoe, ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru â Cynon Linc, hyb cymunedol a weithredir gan Age Connects Morgannwg, lle mae pobl hŷn yn cael cymorth a chyngor ar hawlio budd-daliadau, cynyddu eu hincwm ac osgoi sgamiau.
Dyfarnwyd £321,000 i Age Connects Morgannwg dros dair blynedd drwy Gronfa Gynghori Sengl Llywodraeth Cymru. Drwy ymweliadau cartref, sesiynau pop-up, a Chaffis Digidol, mae’r elusen yn cyrraedd pobl a allai fod ar eu colled fel arall. Arweiniodd ymgyrch Credyd Pensiwn hefyd a wnaeth helpu bron i 1,900 o bobl hŷn yng Nghwm Taf Morgannwg i hawlio dros £1.6 miliwn mewn incwm ychwanegol yr oedd ganddynt hawl iddo, ond nad oeddent wedi’i dderbyn.
Mae Ceriann August wedi bod yn gwirfoddoli gyda Cynon Linc, ar ôl profi manteision ei wasanaethau drosti ei hun. Dywedodd:
“Roedd fy mam yn byw gyda demensia, a fi a fy nhad oedd ei gofalwyr. Roedd yn gyfnod anodd iawn, ac fe gawson ni gymorth yma. Fe ddaethon ni dri diwrnod yr wythnos am frecwast a chefnogaeth. Fe roeson nhw gyngor inni ar hawlio Credyd Pensiwn fy nhad i helpu gyda chostau sbectol a gofal deintyddol, ac fe ddywedon nhw wrthon ni am y Lwfans i Ofalwyr y gallem ei hawlio. Mae’r staff fan hyn fel teulu inni nawr – maen nhw wedi bod yn anhygoel.”
Dywedodd Daisy Cole, Prif Weithredwr Age Connects Morgannwg:
“Mae gormod o bobl hŷn yn mynd heb arian y mae ganddynt hawl iddo, heb sylweddoli hynny yn aml. Mae cymorth y Gronfa Gynghori Sengl gan Lywodraeth Cymru yn caniatáu inni gwrdd â phobl lle y maen nhw, yn eu cartrefi, eu hardaloedd cymunedol ac yn Cynon Linc, a’u helpu i hawlio’r hyn sy’n ddyledus iddynt gydag urddas. Ar gyfer y bobl hŷn rydyn ni’n eu cefnogi, mae’n fater o roi tawelwch meddwl iddynt: peidio gorfod dewis rhwng gwres a bwyd, a theimlo’n fwy diogel mewn bywyd bob dydd. Cymorth ataliol yw hwn sy’n helpu pobl hŷn i fyw’n dda a mwynhau ansawdd bywyd gwell, ac mae ein tîm ymroddedig o staff, sy’n gwarchod lles pobl hŷn bob dydd, yn gwneud hyn yn bosibl.”
Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Mae hybiau cymunedol fel Cynon Linc yn darparu gwasanaethau a chymorth hollbwysig i bobl hŷn, gan ganolbwyntio’n gryf ar anghenion lleol, a chwarae rôl bwysig o ran galluogi pobl i fyw a heneiddio’n dda.
“Roedd yn dda gweld y gwahaniaeth y mae gwaith caled Age Connects Morgannwg yn ei wneud yn ystod fy ymweliad ochr yn ochr ag Ysgrifennydd y Cabinet, a chlywed yn uniongyrchol gan bobl hŷn am yr effaith gadarnhaol y mae’r hyb yn ei gwneud i’w bywydau.
“Mae gwasanaethau a chymorth fel hyn yn elfen allweddol o gymunedau sy’n gyfeillgar i bobl oedrannus, a dyna pam mae buddsoddi ymhellach mor bwysig, i adeiladu ar arferion da a chyflawni ein huchelgais gyffredin o wneud Cymru yn wlad sy’n gyfeillgar i bobl oedrannus.”
Mae’r Gronfa Gynghori Sengl yn fuddsoddiad gwerth £36 miliwn gan Lywodraeth Cymru, sy’n darparu gwasanaethau cynghori ledled Cymru o fis Ebrill 2025 i fis Mawrth 2028, ac mae pobl hŷn yn grŵp allweddol y mae’r gronfa yn ei gefnogi. Ers 2020, mae’r gwasanaethau a gyllidir drwy’r cynllun wedi helpu pobl ledled Cymru i sicrhau mwy na £290 miliwn mewn incwm ychwanegol.
Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol:
"Siaredais â phobl am sut mae’r cyngor hwn yn eu helpu, o ran deall eu budd-daliadau, cael help gyda biliau, neu gael rhywun i siarad am bethau gyda nhw. Mae’r gefnogaeth hon yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a allai fod ar eu colled fel arall. Dw i’n teimlo balchder yn y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwasanaethau fel hyn i gyrraedd pobl sydd eu hangen fwyaf, a sicrhau bod pobl hŷn ledled Cymru yn hawlio’r hyn sy’n ddyledus iddyn nhw.”
