Neidio i'r prif gynnwy

Mae cam cyntaf prosiect sydd werth £1.4 miliwn i drawsnewid Plas Weunydd yn westy ar safle Slate Mountain Llechwedd nawr wedi cael ei gwblhau gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, bu’r Arglwydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yn cwrdd ag Alastair Altham, Cadeirydd J W Greaves & Sons Ltd a Michael Bewick, y Rheolwr Gyfarwyddwr, i weld sut mae datblygiad y gwesty 4 seren sydd â 24 ystafell wely yn dod yn ei flaen. Mae’r cam cyntaf wedi ei gwblhau, a bydd y gwesty yn agor i’r cyhoedd yn ystod Gwanwyn 2020.

Plas Weunydd yw’r cam diweddaraf yn rhaglen adfywio hirdymor Slate Mountain (sydd wedi’i leoli yn Chwarel Llechwedd), sy’n defnyddio antur a thwristiaeth treftadaeth fel ffocws. Ar hyn o bryd, mae ymwelwyr wedi gorfod chwilio am lety y tu allan i'r ardal gyfagos.

Roedd yr adeilad yn gartref i deulu'r Greaves yn wreiddiol. Nhw agorodd y chwarel yn gynnar yn y 19eg ganrif. Yna, cafodd yr adeilad ei ddefnyddio fel swyddfeydd y chwarel, ac erbyn hyn, mae wedi bod yn wag ers rhai blynyddoedd.

Cafodd y prosiect £380,000 o gefnogaeth ariannol drwy'r Gronfa Busnesau Micro a Bychan drwy Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Mae Llechwedd wedi cael ei drawsnewid yn ddiweddar. Mae profiad beicio mynydd wedi cael ei greu gan Antur Stiniog, ac mae taith treftadaeth Pwll Dwfn newydd a thaith Archwilio’r Chwarel wedi cael eu creu hefyd. Maen nhw’n denu mwy na 225,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Mae Llechwedd wedi cael ei ail-frandio eleni yn Slate Mountain, er mwyn adlewyrchu'r ystod o brofiadau cyffrous sydd ar gael ar y safle.

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:

“Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu cefnogi'r datblygiad safon uchel hwn, a fydd yn ychwanegiad gwych i’r llety sy’n gwasanaethu’r ardal hon yng ngogledd Cymru.  Mae buddsoddi mewn llety o safon uchel yn un o flaenoriaethau ein strategaeth twristiaeth. Mae'r datblygiad hwn yn golygu y gall yr ardal gynnig pecyn o weithgareddau a llety o safon uchel - a sicrhau bod yr ymwelwyr sy’n dod i’r ardal hon am ein cynnyrch antur o'r radd flaenaf, yn aros am gyfnod hirach ac yn gwario mwy o arian yn lleol, a fydd yn rhoi hwb i'r economi.”

Dywedodd Alastair Altham, sy’n un o ddisgynyddion uniongyrchol teulu’r Greaves:

“Rydym ni mor falch ein bod ni wedi gallu adfywio pob peth yn y chwarel, gan gadw hen draddodiad yn fyw, a sicrhau ein bod ni’n cynhyrchu swyddi ac arian i’n cymuned. Y gwesty yw’r bennod ddiweddaraf yn y stori adfywio anhygoel hon, a fydd yn arwain at gyhoeddi rhagor o gynlluniau yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

“Ni fyddai hyn wedi gallu digwydd heb ein tîm anhygoel, a chefnogaeth gyson y gymuned ym Mlaenau Ffestiniog a’r ardal gyfagos.”

Mae datblygiad glampio eisoes wedi agor fel rhan o'r cynllun llety hwn, gan greu 6 pabell saffari moethus ar ochr y bryn, gyda golygfeydd panoramig ar draws Bro Ffestiniog, wedi ei leoli rhwng y llwybrau beicio, y gwifrau gwib a’r chwarel. Mae wedi ennill Gwobr Aur Croeso Cymru am lety – dim ond y pumed o’i fath i ennill y wobr.