Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 18 Mawrth 2022.

Cyfnod ymgynghori:
18 Rhagfyr 2021 i 18 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb o’r canlyniad

Mae’r crynodeb o ymatebion bellach ar gael ar Gov.UK

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym am eich barn am fesurau i roi diwedd ar fanwerthu mawn a chynnyrch sy’n cynnwys mawn mewn garddwriaeth yng Nghymru a Lloegr.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae Llywodraeth y DU eisiau clywed eich barn ynghylch y canlynol: 

  • mesurau i roi diwedd ar ddefnyddio mawn a chynnyrch sy’n cynnwys mawn mewn gwerthiant manwerthu garddwriaeth  
  • pob un o'r mesurau arfaethedig a sut y gallent weithredu
  • effeithiau dod â'r defnydd o fawn a chynhyrchion sy’n cynnwys mawn yn y sectorau garddwriaeth proffesiynol a'r sectorau ehangach i ben 

Mae mawndiroedd yn nodwedd eiconig o'n tirweddau ac yn storfeydd carbon mwyaf y DU. Mae echdynnu mawn yn rhyddhau carbon deuocsid, gan gyfrannu at newid hinsawdd. Caiff mawn ei echdynnu yn y DU at ddibenion garddwriaethol. Bydd dod â gwerthiant manwerthu mawn i ben yn amddiffyn mawndiroedd bregus ac yn helpu i atal newid hinsawdd. 

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar gov.uk