Neidio i'r prif gynnwy

Mae Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi dweud y bydd yn rhoi lleisiau preswylwyr wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau wrth iddi amlinellu'r camau nesaf i sicrhau bod pobl yn teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Daw ei haddewid wrth i waith ddechrau i ddarparu rhaglen gwerth £375m i fynd i'r afael â materion diogelwch adeiladau fel rhan o ddull adeilad cyfan, sy'n mynd y tu hwnt i osod cladin newydd yn unig.

Mae'r Gweinidog hefyd wedi datgelu manylion cyntaf Cynllun Cymorth Lesddeiliaid newydd, i helpu'r bobl hynny sy'n cael trafferthion ariannol ac sy'n methu â gwerthu eu heiddo oherwydd costau cynyddol sy'n gysylltiedig â materion diogelwch tân. Bydd ceisiadau am gymorth yn agor ym mis Mehefin. Bydd y cynllun yn rhoi opsiwn i lesddeiliaid cymwys werthu eu heiddo a, lle bo'n briodol, naill ai symud ymlaen neu rentu'r eiddo yn ôl.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda phartneriaid ac arbenigwyr yn y sector tai i nodi llwybr priodol ar gyfer prisio eiddo, gyda meini prawf cymhwystra clir i greu proses gynhwysfawr o brynu eiddo ar gyfer lesddeiliaid. Mae gwaith yn mynd rhagddo i gwblhau'r manylion, cwblhau'r gwiriadau cyfreithiol a sefydlu cytundebau cyn i'r cynllun gael ei lansio.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd:

Rydym wedi bod yn gweithio'n galed ar ddull adeilad cyfan o ymdrin â diogelwch adeiladau – i ddiwygio safonau ac atgyweirio diffygion - mewn adeiladau dros 11m.

Mae hyn yn rhoi diogelwch pobl yn gyntaf ac mae'n fwy cymhleth a chynhwysfawr na dull sy'n delio â chladin yn unig. Mae hyn hefyd yn ei gwneud yn ddrutach.

Credwn y dylai datblygwyr gyfrannu tuag at y gost o ddatrys y problemau hyn. Ni ddylai lesddeiliaid a phreswylwyr orfod talu’r bil.

Rydym wedi dyrannu £375m dros y tair blynedd nesaf i fuddsoddi mewn gwaith diogelwch adeiladau, ac wrth i ni symud ymlaen gyda'r gwaith hwn byddwn yn parhau i wrando ar breswylwyr a lesddeiliaid ac yn rhoi eu lleisiau wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.

Rwyf am sicrhau bod ein diwygiadau o ran diogelwch adeiladau yn ymarferol ac yn hygyrch. Mae'n bwysig bod pobl yn gallu gweld a deall manteision y diwygiadau y byddwn yn eu cyflawni yng Nghymru.

Mae Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru, sy’n talu am arolygon diogelwch tân, wedi nodi mwy na 100 o adeiladau o'r 248 cais cyntaf lle mae angen arolygon mwy helaeth ac ymwthiol. Bydd yr arolygon, sydd eisoes ar y gweill, yn arwain at adroddiad manwl sy'n nodi'r gwaith sydd angen ei wneud i fynd i'r afael â diffygion diogelwch tân – carreg filltir bwysig yn y broses o adfer y materion a nodwyd.

Mewn cam pellach i wella diogelwch adeiladau, bydd gan y Tîm Arolygu ar y Cyd – grŵp amlddisgyblaethol a fydd yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ac awdurdodau tân ac achub i godi safonau – arweinydd strategol erbyn yr haf. Mae'r gwaith hwn, ynghyd â’r diwygiadau sylfaenol i ddiwylliant a deddfwriaeth diogelwch adeiladau, yn greiddiol i gynlluniau Llywodraeth Cymru i gyflwyno cyfundrefn diogelwch adeiladau newydd yng Nghymru. Mae diwygio’r ddeddfwriaeth yn ymwneud â diogelwch adeiladau a chyflwyno ail gam Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru yn ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio.