Rhoi organau: Lewis Evans
Dyfodol hapusach i Lewis a’i deulu.
Symudodd Lewis Evans o Geredigion i Gaerdydd yn 2015 ond dechreuodd ddioddef yn ofnadwy a theimlo’n sâl ddeufis yn ddiweddarach. Yn fuan wedyn, cafodd fraw o ddeall fod ganddo glefyd cronig ar yr arennau, cyn dechrau cael dialysis dair gwaith yr wythnos am bron i ddwy flynedd. Dyma fe i esbonio sut y mae’i fywyd wedi newid yn llwyr ers hynny:
“Ro’n i’n ffit ac yn iach reit at gael y diagnosis i bob pwrpas, felly roedd yn sioc enfawr i fi ac i’r teulu pan ges i wybod fod fy arennau wedi stopio gweithio a bod angen trawsblaniad aren arna i. Fe ges i fy rhoi ar ddialysis yn syth, am bedair awr y dydd, yna fe aeth hynny i lawr i dair gwaith yr wythnos. Fe wnes i ddal ati i weithio achos doeddwn i ddim eisiau i’r salwch gymryd fy mywyd drosodd yn llwyr, ac roeddwn i’n teimlo fy mod i’n dal i reoli’r tostrwydd, ond roedd hi’n anodd ofnadwy. Roedd yn rhaid i bopeth ro’n i’n ei wneud ffitio o gwmpas fy nhriniaeth, roedd hynny’n anodd iawn, ac fe effeithiodd ar bopeth ro’n i eisiau gwneud.
“Cafodd fy nheulu eu profi i weld a oedd un ohonyn nhw’n addas i fod yn rhoddwr byw, ac ro’n i’n lwcus iawn i weld fod fy mam a fy chwaer yn addas. Penderfynodd fy mam roi’i haren achos roedd hi’n teimlo taw ei chyfrifoldeb hi oedd hyn, a doedd hi ddim eisiau i’r ddau blentyn oedd ganddi fod yn cael llawdriniaeth yr un amser. Fe ges i’r trawsblaniad ym mis Ionawr 2017 ac aeth y llawdriniaeth yn dda iawn, iawn. O fewn ychydig fisoedd roeddwn i’n ôl ar fy nhraed ac rwy’n gweithio’n llawn amser eto. Mae hi’n anhygoel gweld y gwahaniaeth mae hyn wedi gwneud i fy iechyd, ac rydw i mor ddiolchgar i Mam am y rhodd mae hi wedi’i rhoi i mi.
“Brin chwe mis ar ôl fy llawdriniaeth, fe wnes i gymryd rhan yng Ngemau Trawsblaniad 2017. Faswn i byth wedi meddwl y byddai hynny’n bosib. Roedd y Gemau’n gyfle gwych i adfer fy ffitrwydd, ac fe wnes i hyd yn oed lwyddo i gipio medal aur a dwy arian! Roedd yn achlysur llawn balchder i fi a Mam, i gael gweld cymaint ro’n i wedi gwella, ac i ddathlu rhodd bywyd.
“Nawr rwy’n sylweddoli fod methiant organau’n gallu digwydd i unrhyw un, ar unrhyw adeg – does dim ots beth yw eich oedran. Does neb yn disgwyl y bydd e’n digwydd iddyn nhw, ond mae’n gallu digwydd, a phan fyddwch chi wedi bod yn ddigon ffodus i gael trawsblaniad llwyddiannus, fel y ces i, yna mae wir yn gallu newid eich bywyd er gwell. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cael y sgwrs yna gyda’ch anwyliaid, dywedwch wrthyn nhw beth rydych chi eisiau gwneud, achos bydd yn help enfawr iddyn nhw. Os byth byddwch chi mewn sefyllfa i fod yn rhoddwr, byddan nhw’n gwybod beth oedd eich penderfyniad chi.”
A ydych chi eisiau dysgu mwy am roi organau?
Mae ein canllawiau yn cynnwys popeth sydd angen gwybod arnoch am roi organau.